Skip to content

Rhaglenni chwaraeon

Rhaglenni atal eilaidd neu drydyddol sy’n ennyn diddordeb plant mewn chwaraeon neu weithgareddau corfforol sy’n rheolaidd ac wedi’u trefnu.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

UCHEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

?

Prevention Type

  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Caethiwed
  • Gymuned
  • Ysgolion a cholegau

Sectorau

Beth ydyw?

Mae’r crynodeb hwn yn ymwneud â rhaglenni sy’n ennyn diddordeb plant mewn chwaraeon neu weithgareddau corfforol sy’n rheolaidd ac wedi’u trefnu. Dyw ond yn cynnwys rhaglenni ‘eilaidd’ sy’n gweithio gyda phlant yr ystyrir eu bod mewn peryg o ymwneud â thrais a gyda rhaglenni ‘trydyddol’ ar gyfer plant sydd eisoes wedi ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol. Gall y rhaglenni gael eu cyflwyno gan elusen, clwb chwaraeon, gweithiwr ieuenctid neu yn y ddalfa ieuenctid. Gallent gynnwys campau tîm, fel pêl-droed neu bêl-fasged, neu chwaraeon a gweithgareddau corfforol unigol, fel bocsio neu ddawns. Yn aml, bydd rhaglenni’n defnyddio chwaraeon fel ‘sbardun’ i ysgogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill, fel mentora neu gwnsela.

Mae sawl ffordd y gallai’r rhaglenni hyn amddiffyn plant rhag troi at drosedd a thrais:

  • Gallai chwaraeon gefnogi datblygiad cadarnhaol. Gall gynnig dylanwad cadarnhaol i grwpiau o blant , eu cefnogi i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, a gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Gallai helpu plant i ddatblygu cymhelliant a hunanreolaeth trwy ymarfer ymroddedig a pherthynas gyda modelau rôl cadarnhaol fel hyfforddwyr chwaraeon.
  • Gallai chwaraeon chwarae rôl mewn atal uniongyrchol. Gallai cymryd rhan mewn chwaraeon leihau’r amser y mae plant yn agored i ddylanwadau negyddol a chaniatáu i blant fentro mewn amgylchedd diogel.
  • Gallai chwaraeon fod yn llwyfan i gynnwys plant mewn ymyriadau defnyddiol eraill. Mae llawer o raglenni’n defnyddio chwaraeon i gysylltu plant â gwasanaethau a gweithgareddau eraill fel addysg, cwnsela, a chefnogaeth ar gyfer problemau cyffuriau ac alcohol. Yn y rhaglenni hyn, mae chwaraeon yn cael eu defnyddio fel ‘sbardun’ i ennyn diddordeb plant, ond credir mai’r gweithgareddau eraill sy’n sbarduno datblygiad cadarnhaol.

A yw’n effeithiol?

Gallai rhaglenni chwaraeon gael effaith uchel ar droseddu a thrais. Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar un adolygiad o chwe astudiaeth. Canfu’r adolygiad hefyd effeithiau positif ar leihau ymddygiad ymosodol, hybu iechyd meddwl ac ymateb i anawsterau ymddygiad arall.

Mae ymchwilwyr wedi ceisio deall a yw gwahanol fathau o raglenni chwaraeon yn cael effeithiau mwy na’i gilydd a sut mae’r effaith yn amrywio ar draws gwahanol gyd-destunau. Mae’r dystiolaeth yn wan iawn, yn seiliedig ar nifer fach o astudiaethau, ond mae’n awgrymu bod rhaglenni wedi cael effeithiau mwy pan gawsant eu gweithredu dros gyfnod hirach, eu cynnal gyda grwpiau o’r un rhyw, a’u mynychu gan blant o gefndir lleiafrifoedd ethnig. Ni allai’r adolygiad nodi a yw cyfuno chwaraeon â gweithgareddau eraill fel cwnsela yn arwain at effeithiau mwy na chwaraeon yn unig. Ni ddaeth o hyd i gysylltiad rhwng oedran y plant dan sylw ac effaith y rhaglen.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder isel yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar droseddu a thrais.

Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar un adolygiad systematig diweddar o ansawdd uchel. Mae ein hyder yn isel oherwydd bod yr amcangyfrif hwn yn seiliedig ar chwe astudiaeth o ansawdd isel i gymedrol yn unig. Mae yna lawer o amrywiad hefyd yn yr amcangyfrifon a ddarperir gan yr astudiaethau hyn.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae’r adran hon yn seiliedig ar adolygiad o 38 astudiaeth ar weithredu rhaglenni chwaraeon, gan gynnwys 12 o’r DU. Mae’r astudiaethau hyn yn awgrymu’r ystyriaethau canlynol ar gyfer gweithredu.

Datblygu perthynas gref gyda’r plant ac ennill eu hymddiriedaeth

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod y berthynas rhwng yr oedolion sy’n cynnal y sesiynau a’r plant dan sylw yn debygol o fod yn bwysig o ran effeithiolrwydd. Yn ddelfrydol, gall yr oedolyn fod yn fentor, model rôl, a pherson dibynadwy y gall y plant droi ato i gael cyngor. Mae sawl astudiaeth yn nodi bod prinder staff neu ddiffyg staff hirdymor yn rwystr. Mae angen sgiliau meddal priodol ar hyfforddwyr chwaraeon i ddatblygu’r perthnasoedd hyn.

Dewis lleoliad ac amser hygyrch a diogel

Bydd angen yr offer a’r cyfleusterau priodol ar y lleoliad, ond bydd angen iddo hefyd fod yn rhywle y mae plant yn teimlo’n ddiogel ac sy’n leoliad hawdd iddynt ei gyrraedd. Mae gwaith diweddar wedi tynnu sylw at Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) fel lleoliadau lle gall plant ymgysylltu’n effeithiol ond gallan nhw hefyd greu math o ‘diriogaeth’ ar gyfer grwpiau penodol.

Mae’r ymchwil yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i’r syniad bod rhaglenni chwaraeon yn cadw plant yn ddiogel trwy leihau’r amser y maent yn agored i ddylanwadau negyddol. Mae hyn yn awgrymu y gallai amseru’r sesiynau yn briodol a’u cynnal pan fyddai plant fel arall o bosibl yn wynebu risg uwch yn cael mwy o effaith.

Cynllunio i gysylltu plant â gweithgareddau eraill

Mae’r ymchwil yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i’r syniad y gellir defnyddio chwaraeon fel ‘sbardun’ i ennyn diddordeb plant mewn gweithgareddau eraill. Gallai hyn gynnwys cymryd rhan parhaus mewn chwaraeon, ynghyd ag ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol, addysg neu gyflogaeth. Mae hwn yn ganolbwynt penodol i rai rhaglenni, ond gallai oedolion sy’n arwain rhaglen gynllunio i wneud y cysylltiadau hyn hyd yn oed pan nad yw’n rhan ffurfiol o’r ymyrraeth.

Byddwch yn ymwybodol o’r rhesymau pam bod pobl ifanc yn gadael rhaglenni a chefnogwch ymgysylltiad parhaus

Yn gyffredinol, mae rhaglenni yn y gymuned wedi gweld y cyfraddau uchaf o blant yn gadael tra bod rhaglenni yn yr ysgol ac mewn lleoliadau gwarchodol wedi gweld cyfraddau is o blant yn gadael. Mae ymchwil ar raglenni chwaraeon yn darparu rhai ystyriaethau defnyddiol ar gyfer cefnogi plant i barhau i gymryd rhan.

  • Darganfyddwch beth fyddai’r plant yn ei fwynhau a sicrhewch bod y sesiynau’n rhai hwyliog. Mae plant sy’n parhau i fynychu rhaglenni yn aml yn nodi mai’r rheswm eu bod yn parhau i gymryd rhan yw am eu bod yn mwynhau’r gweithgaredd. Fodd bynnag, nid yw chwaraeon yn apelio at bob plentyn, ac mae gwahanol chwaraeon yn apelio at wahanol blant.
  • Darparu cymhellion. Mae rhai rhaglenni’n darparu prydau bwyd iach, yn talu am gyrsiau hyfforddi, mynediad i ganolfannau ffitrwydd, a rhaglenni hyfforddi gyda cymwysterau. Fodd bynnag, gall y math o gymhellion fod yn bwysig. Nododd un gwerthusiad y gallai talu cymhellion ariannol uniongyrchol fod yn fath anghywir o gymhelliant.
  • Cynnig ystod eang o weithgareddau. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod y mathau o weithgaredd yn bwysig, gan y bydd gwahanol weithgareddau’n apelio at wahanol bobl. Nododd un rhaglen ostyngiad sylweddol yn nifer y cyfranogwyr, o 70% i 49% o’r grŵp targed, pan welwyd gostyngiad yn nifer y gwahanol weithgareddau a oedd yn cael eu cynnig.

Beth yw’r gost?

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i ddarparu prif sgôr cost. Mae’r costau’n debygol o gynnwys cyfleusterau, llogi staff prosiect a hyfforddwyr cymwys i gynnal sesiynau chwaraeon, hyfforddiant i wirfoddolwyr, offer chwaraeon ac yswiriant. Bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar hyd ac amlder y rhaglen, y gweithgareddau a gynigir, maint y gefnogaeth gan staff gwirfoddol a’r defnydd o leoliadau rhad ac am ddim fel parciau.

Crynodeb o bwnc

  • Mae’r ymchwil yn awgrymu y gallai rhaglenni chwaraeon gael effaith gymharol fawr ar gadw plant yn ddiogel rhag troi at drosedd a thrais. Fodd bynnag, mae gennym hyder isel yn yr amcangyfrif hwn. Mae’n seiliedig ar nifer fach o astudiaethau o ansawdd isel i gymedrol.
  • Mae’r ymchwil yn pwysleisio’r berthynas rhwng yr hyfforddwr a’r plant dan sylw fel sbardun pwysig i effeithiolrwydd y rhaglenni hyn.
  • Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar raglenni eilaidd a thrydyddol ac nid yw’n ystyried y dystiolaeth ar raglenni atal sylfaenol (cyffredinol).

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Ariannodd YEF arfarniadau dichonoldeb a pheilot o ddwy o raglenni chwaraeon i blant rhwng 10 ac 14 oed.

Roedd Empire Fighting Chance, a oedd yn cyfuno sesiynau gweithgarwch corfforol â chymorth mentora grŵp, yn canolbwyntio ar bwyntiau datblygiad personol i bobl ifanc. Roedd yr ymyriadau’n amrywio rhwng 12 a 20 wythnos. Nod y rhaglen oedd lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol ymysg pobl ifanc mewn perygl. 

Cynhaliodd y Gynghrair Rygbi Pêl-droed yr Educate Mentoring Programme, yn yr ysgol dros 12 wythnos i bobl ifanc ag ymddygiad a phresenoldeb gwael, oedd hefyd â diddordeb mewn chwaraeon. Nod y rhaglen oedd gwella lles, gwydnwch, perthnasoedd cymdeithasol a hyder y plant, ac arwain at leihad hirdymor mewn troseddu.  

Dolenni allanol

Llyfrgell Adnoddau gan Alliance of Sport in Criminal Justice
Hwb Mewnwelediad sy’n cynnwys offer, adnoddau ac ymchwil.

Theori newid Street Games
Mae Street Games yn rhwydwaith o sefydliadau sy’n darparu rhaglenni chwaraeon ledled y DU. Cafodd theori newid Street Games ei chomisiynu gan YEF, ac mae’n egluro pam y gallai cymryd rhan mewn chwaraeon arwain at ganlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.

Theori Newid ar gyfer rôl chwaraeon mewn atal ac ymatal rhag troseddu
Theori Newid a ddatblygwyd gan National Alliance of Sport and New Philanthropy Capital.

Cewyll Chwaraeon: Mannau diogel, lleoedd y gellir achosi niwed, lleoedd gyda photensial
Adroddiad gyda fframwaith a syniadau o gamau gweithredu ar gyfer asesu a chynyddu diogelwch cewyll chwaraeon.

Dadlwythiadau