Yr Heddlu mewn Ysgolion
Plismon yn gweithio mewn ysgolion i atal troseddu a thrais
Plismon yn gweithio mewn ysgolion i atal troseddu a thrais
Mae’r crynodeb hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o weithgareddau gwahanol a wneir gan swyddogion yr heddlu sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn ysgolion.
ABGI a chefnogaeth fugeiliol
Gallai swyddogion yr heddlu arwain agweddau ar addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd (ABGI). Er enghraifft, gallai swyddogion ddarparu gwersi neu gynulliadau ar bynciau fel beth i’w wneud mewn argyfwng, cyffuriau neu ddiogelwch personol. Gallai swyddogion hefyd ddarparu cymorth bugeiliol i fyfyrwyr unigol i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac ymddygiad pro-gymdeithasol. Er enghraifft, roedd un rhaglen yn yr Unol Daleithiau yn cynnwys swyddogion yr heddlu yn nodi ac yn mentora plant a oedd yn ymwneud â gangiau a oedd yn cystadlu â’i gilydd.
Gallai ABGI a gweithgareddau bugeiliol ddarparu sgiliau a gwybodaeth sy’n cefnogi datblygiad cadarnhaol ac yn amddiffyn plant rhag cael eu cynnwys mewn troseddu a thrais.
Gorfodaeth a diogelwch
Gallai swyddogion yr heddlu sicrhau bod ysgolion yn llefydd diogel ac nad yw plant yn cael eu targedu gan grwpiau troseddu. Gallai swyddogion gynnal patrolau yn yr ysgol ac o’i chwmpas neu ymchwiliadau cychwynnol i droseddau posibl. Gallai’r gweithgaredd hwn ganolbwyntio ar atal recriwtio gan grwpiau troseddol, delio cyffuriau, neu fwlio.
Fodd bynnag, mae’r beirniaid wedi dadlau y gallai’r math hwn o weithgaredd gael effeithiau niweidiol. Maent yn awgrymu y gallai achosi i bobl ifanc gael eu hystyried yn droseddwyr am ymddygiad a fyddai fel arall wedi cael ei drin gan ddefnyddio cosbau ysgol nad ydynt yn rhai troseddol. Neu gallai atgyfnerthu stereoteipiau negyddol am ysgolion a disgyblion.
Rhannu gwybodaeth, cydweithio, a dilysrwydd
Gallai gweithio gydag ysgolion alluogi’r heddlu i rannu gwybodaeth a chanfod pobl ifanc sydd angen mwy o gefnogaeth neu sydd mewn perygl o ddioddef ecsbloetio troseddol. Gallai hefyd ganiatáu i swyddogion ddatblygu perthynas gadarnhaol gyda’r gymuned, ennyn ymddiriedaeth plant a datblygu dilysrwydd.
Yng Nghymru a Lloegr, mae presenoldeb yr heddlu mewn ysgolion yn aml yn cael ei drefnu drwy’r model Partneriaeth Ysgolion Mwy Diogel. Gall plismon weithio gyda sawl ysgol, dim ond un ysgol ar y tro, neu weithio gydag ysgolion ar sail ad hoc i roi sylw i anghenion penodol. Gellir lleoli swyddogion ar dir yr ysgol neu yn eu gorsaf arferol.
Ychydig iawn o ymchwil sydd i effaith y dull hwn, ac nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo amcangyfrif effaith cyffredinol.
Roedd map tystiolaeth a bylchau YEF yn nodi pum astudiaeth sy’n bodoli’n barod sy’n gwerthuso effaith rhaglenni perthnasol. Mae’r canfyddiadau’n gymysg ac yn gyffredinol nid ydynt yn cefnogi’r honiad bod y dull gweithredu’n cael effeithiau dymunol. Gall dehongli’r canfyddiadau hyn fod yn heriol oherwydd gallai cael swyddogion yr heddlu’n gweithio’n agos gyda phlant mewn ysgolion arwain at fwy o ddigwyddiadau yn cael eu cofnodi drwy arsylwi agosach. Mae angen rhagor o ymchwil cyn y gall y Pecyn adnoddau ddarparu amcangyfrif o’r prif effaith.
Mae dwy astudiaeth arbennig o berthnasol o Gymru a Lloegr.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2005 adroddwyd ar ganfyddiadau gwerthusiad cenedlaethol o’r rhaglen Partneriaeth Ysgolion Mwy Diogel. Roedd yn cymharu 15 o ysgolion a fu’n gweithio gydag aelod o’r heddlu drwy’r rhaglen gydag ysgolion nad oeddent yn cymryd rhan yn y rhaglen. Awgrymodd yr astudiaeth fod y rhaglen wedi lleihau absenoldebau ond ni chanfu unrhyw dystiolaeth i awgrymu lleihad mewn gwaharddiadau neu droseddu.
Defnyddiodd astudiaeth fwy diweddar gynllun hap-dreial wedi’i reoli’n gadarn i amcangyfrif effaith y rhaglen ‘Yr Heddlu mewn Dosbarthiadau’ mewn 81 o ysgolion ledled Cymru a Lloegr. Nod y rhaglen oedd gwella canfyddiadau o’r heddlu ac ymddiriedaeth ynddynt ac roedd yn cynnwys swyddogion yr heddlu yn cynnal gwersi ar gyffuriau a’r gyfraith. Canfu’r treial effeithiau cadarnhaol ar ganfyddiad plant o’r heddlu ond nid oedd yn mesur yr effaith ar droseddu na thrais.
Mae’r ymchwil ar effaith yr heddlu mewn ysgolion yn wan iawn. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo amcangyfrif o’r prif effaith.
Er bod ymchwil i effaith yr heddlu mewn ysgolion yn gyfyngedig, mae mwy o ymchwil ar brofiad ysgolion o weithredu’r dull hwn.
Soniodd rhai ysgolion am heriau a phryderon ynghylch canfyddiadau lleol o gael plismon yn yr ysgol. Roedd staff ysgolion yn poeni y gallai’r gymuned leol feddwl bod presenoldeb yr plismon yn awgrymu bod yr ysgol yn anniogel neu’n aneffeithiol. Un ffordd o oresgyn hyn ac annog ymrwymiad ac ymddiriedaeth ysgolion yn y gwaith fyddai ymgysylltu â’r gymuned leol drwy weithgareddau estyn allan a herio’r canfyddiad hwn.
Mewn rhai astudiaethau, roedd yn ymddangos bod dryswch ac ansicrwydd ymysg swyddogion yr heddlu ac ysgolion ynghylch rôl y plismon. Dywed swyddogion sy’n gweithio mewn ysgolion fod y rôl yn wahanol iawn i waith arferol yr heddlu ac yn galw am ‘lawer iawn o ddysgu’. Gall fod yn anodd i swyddogion ganfod y cydbwysedd cywir rhwng gweithredu fel plismon, bod yn ymwybodol o anghenion ysgolion a myfyrwyr a pheidio â gwneud myfyrwyr yn droseddwyr. Gellid osgoi’r dryswch hwn drwy roi ddiffiniad clir o rôl swyddogion yr heddlu.
Mae argaeledd a chysondeb swyddogion yn debygol o fod yn ystyriaeth bwysig ar gyfer llwyddiant gweithredu. Gellir tynnu swyddogion yr heddlu o ysgolion i gyflawni dyletswyddau eraill yr heddlu a gallai ysgolion ganfod bod hyn yn peri rhwystredigaeth ac aflonyddwch. Gallai hyn effeithio ar unrhyw effaith a gaiff swyddogion yr heddlu mewn ysgolion
Mae diffyg data costau ac nid ydym wedi gallu dyrannu sgôr cost. Mae’r prif gostau’n debygol o gynnwys cyflog swyddogion yr heddlu, rheoli a gweinyddu prosiectau, ac unrhyw staff cefnogi ychwanegol. Gall costau amrywio yn ôl nifer yr oriau y mae plismon yn eu treulio mewn ysgol, nifer y swyddogion, faint o weithwyr prosiect ychwanegol sydd eu hangen ac unrhyw adnoddau ychwanegol.
Ychydig iawn o ymchwil sydd i rôl ac effaith yr heddlu mewn ysgolion. Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o ymchwil i roi sylwadau ar effaith rhaglenni cysylltiedig.
Mae llawer o amser, ymdrech ac arian yn cael eu buddsoddi yn y dull hwn ar hyn o bryd mewn ysgolion yng Nghymru ac yn Lloegr. Dylai gwaith yn y dyfodol flaenoriaethu gwerthuso trylwyr fel ein bod yn deall yn well y mathau o weithgarwch sy’n arwain at effeithiau cadarnhaol. Dylai’r gwerthusiadau gynnwys mesur troseddau sy’n cael eu hunan-gofnodi yn ogystal â throseddau a gofnodwyd, i gyfrif am bresenoldeb cynyddol yr heddlu yn arwain at gynnydd yn y nifer sy’n cael eu canfod.
Negeseuon tecawê
Astudiaeth yr Heddlu yn y Dosbarth
Adroddiad o hap-dreial wedi’i reoli diweddar o raglen heddlu mewn ysgolion.
Pennod 19 y podlediad Lleihau Troseddu – cyfweliad gyda Lorraine Mazerolle.
Mae Lorraine Mazerolle, Athro mewn Troseddeg ym Mhrifysgol Queensland, yn disgrifio ei hymchwil i raglenni yr heddlu mewn ysgolion.