Therapi Ymddygiad Gwybyddol – Rhaglenni Sgiliau
Rhaglenni strwythuredig yn defnyddio technegau ymddygiad gwybyddol i ddysgu sgiliau ymarferol er mwyn rheoli emosiynau, datrys problemau ac ymateb yn ddiogel i wrthdaro.
Beth ydyw?
Math o therapi siarad ydy Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) a ddefnyddiwyd i helpu Mae rhaglen sgiliau Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) yn dysgu plant a phobl ifanc i ddeall sut y gall meddyliau a chredoau effeithio ar eu teimladau a’u hymddygiad gan ddysgu sgiliau ymarferol iddynt ar gyfer sut i ymateb yn fwy diogel i sefyllfaoedd anodd. Rydyn ni wedi crynhoi’r dystiolaeth o CBT clinigol wedi’i ddarparu gan therapyddion neu seicolegwyr hyfforddedig, yma.
Gellir darparu rhaglenni sgiliau CBT fel cymorth wedi’i dargedu, neu raglen gyffredinol. Mae rhaglenni a dargedir yn aml wedi eu dylunio ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dangos anawsterau ymddygiad neu emosiynol, sy’n profi trafferthion iechyd meddwl, yn troseddu, neu mewn perygl o gael eu hallgau neu o fod ar lyfrau’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae rhaglenni cyffredinol fel arfer yn cael eu darparu mewn ysgolion, er enghraifft i ddosbarth neu grŵp blwyddyn.
Mae rhaglenni sgiliau CBT fel arfer yn cael eu darparu mewn ysgolion. Gall amrediad o staff hyfforddedig eu darparu, gan gynnwys seicolegwyr addysg, cwnselwyr, athrawon, gweithwyr ieuenctid, ymarferwyr iechyd meddwl, neu ddarparwyr allanol. Gellir hefyd darparu’r rhaglenni mewn lleoliadau cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol ac yn y gymuned. Yn llai cyffredin, maen nhw’n cael eu darparu ar-lein neu drwy gymysgedd o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae’r rhaglenni fel arfer yn dilyn cwricwlwm ffurfiol neu lawlyfr ac yn dymor byr gan amlaf, gyda’r rhan fwyaf yn para rhwng 1 – 3 mis.
Mae’r sgiliau sy’n cael eu dysgu’n aml yn cynnwys:
- rheoli dicter ac emosiynau cryf eraill
- datrys problemau a meddwl drwy ganlyniadau gwahanol weithredoedd
- adeiladu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu
- defnyddio strategaethau ymdopi fel ymarferion anadlu neu hunan-lonyddu
- gosod amcanion personol a gweithio tuag atynt
- gweld sefyllfaoedd o safbwynt pobl eraill a chodi llais mewn ffordd bendant
Mae plant yn ymarfer y sgiliau drwy weithgareddau fel chwarae rôl, gemau, trafodaeth grŵp, straeon, clipiau fideo, taflenni gwaith a thasgau ymarfer. Mae rhai rhaglenni hefyd yn cynnwys rhieni, gofalwyr neu staff yr ysgol, fydd efallai’n derbyn gwybodaeth am ba blant sy’n dysgu ac yn cael eu hannog i gefnogi ymarfer rhwng sesiynau.
A yw’n effeithiol?
Mae’r ymchwil yn awgrymu, ar gyfartaledd, bod effaith rhaglenni sgiliau Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar atal trais yn debygol o fod yn uchel.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall rhaglenni sgiliau CBT leihau trais o 72%.
Mae’r ymchwil hefyd yn amcangyfrif, ar gyfartaledd, y gall rhaglenni sgiliau CBT leihau troseddau a throseddu o 71%.
Cafwyd bod rhaglenni sgiliau CBT hefyd yn cael effaith uchel ar leihau anawsterau ymddygiad, rheoleiddio emosiynau, gwella iechyd meddwl a hunan-werth, cynyddu cyfranogiad yn yr ysgol, a lleihau fictimeiddio.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?
Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcan o effaith rhaglenni sgiliau CBT ar drais.
Rhoesom y sgôr yma oherwydd er bod yr amcan yn seiliedig ar 22 o astudiaethau, roedd y rhan fwyaf o ansawdd cymedrol a dim ond 3 o ansawdd uchel. Cynhaliwyd dwy astudiaeth yn y DU a 20 yn rhyngwladol, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau, Twrci, Nigeria, Gwlad yr Iâ, Sbaen, Pacistan a’r Iseldiroedd.
Mae ein hyder yn yr amcan o effaith gyfartalog rhaglenni sgiliau CBT ar droseddau a throseddu’n isel iawn oherwydd ei fod yn seiliedig ond ar bedair astudiaeth. O’r rhain roedd un o ansawdd cymedrol, 2 o ansawdd isel ac un o ansawdd isel iawn. Cynhaliwyd pob un yn yr Unol Daleithiau.
Roedd yr astudiaethau a gynhyrchodd y sgoriau effaith ar y canlyniadau hyn wedi asesu pa mor effeithiol oedd y dull hwn i 4,154 o blant a phobl ifanc.
I bwy mae’n gweithio?
Nid oes llawer o dystiolaeth o sut y gall effaith sgiliau rhaglenni CBT fod yn wahanol i wahanol grwpiau o blant a phobl ifanc. Edrychodd dair astudiaeth o ansawdd cymedrol yn Nigeria a’r UD ar ganlyniadau yn ôl rhywedd a tharddiad ethnig. Ni edrychodd yr un astudiaeth ansawdd uchel neu gymedrol ar sut oedd yr effaith yn wahanol yn ôl oed, statws economaidd-gymdeithasol, anghenion addysgol arbennig neu anableddau, niwro-amrywiaeth, neu brofiad gofal.
Rhywedd
Ni farnodd dwy astudiaeth fod unrhyw wahaniaeth effaith clir yn ôl rhywedd. Barnodd un astudiaeth fod mwy o effaith i enethod gyda rhai canlyniadau, gan gynnwys iaith ymosodol a meddyliau am orbryder cymdeithasol, ond dim gwahaniaeth rhwng y rhywiau o ran iselder neu hunanwerth.
Tarddiad ethnig
Mae’r adolygiad yn awgrymu nad yw effaith rhaglenni sgiliau CBT yn wahanol ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig, ond mae’r dystiolaeth ar hyn yn wan.
Sut mae modd ei weithredu’n dda?
Daeth yr adolygiad o hyd i 13 astudiaeth yn dangos tystiolaeth o weithredu, gan gynnwys 2 o’r DU ac 11 o’r Iseldiroedd, Sbaen a’r Unol Daleithiau.
Darparu llawlyfrau, hyfforddiant strwythuredig, a monitro’r darparu
Darparu llawlyfrau, adnoddau, hyfforddiant strwythuredig a goruchwyliaeth reolaidd i hwyluswyr i’w helpu i ddarparu gyda chysondeb. Defnyddio cynlluniau sesiwn wedi eu sgriptio i dywys sesiynau, a rhestri gwirio ôl-sesiwn, recordiadau neu arsylwadau uniongyrchol i wirio ydy’r rhaglen yn cael ei darparu fel y dylai.
Ffitio’r rhaglen o gwmpas ymrwymiadau eraill
Os nad yw’r rhaglen yn rhan o gwricwlwm yr ysgol, efallai y bydd angen i blant a phobl ifanc gyfranogi yn y rhaglen o gwmpas trefn arferol eu diwrnod ysgol, apwyntiadau a’u hamgylchiadau teuluol. Dylai rhaglenni fod yn strwythuredig a pharhaus ond yn realistig o ran y darparu a mynychu. Gall fod yn anodd parhau gyda sesiynau a gynhelir yn aml iawn felly dylid aros yn hyblyg er mwyn cefnogi mynychu. Dylid ond trefnu sesiynau dwys ar benwythnos os yw’r plant a’u teuluoedd yn amlwg yn awyddus.
Cynyddu cyfranogiad drwy amrywiol weithgareddau
Defnyddio gweithgareddau ymarferol fel gemâu, chwarae rôl neu dasgau ymarfer i helpu plant i roi sgiliau CBT ar waith mewn sefyllfaoedd cyfarwydd. Os defnyddir gwobrwyo neu gymhellion, dylid eu cadw’n gymesur a’u cysylltu i gyfranogi, ymdrech neu ymarfer sgiliau.
Ystyried darparu hybrid i gynnwys sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein
Ystyried darparu rhaglen hybrid yn cyfuno sesiynau wyneb yn wyneb a mynediad at weithgareddau ac adnoddau ar-lein i gynorthwyo hygyrchedd ac ymgysylltu. Monitro cyfranogiad, diogelu, a mynediad. Cyd-greu rheolau gyda’r plant a’r bobl ifanc fel bo’r sesiynau ar-lein yn teimlo’n ddiogel, parchus o bawb a dan reolaeth.
Cysoni dyluniad y rhaglen gyda datblygiad y plant
Teilwrio gweithgareddau i ddatblygiad gwybyddol a chymdeithasol y plant ac unrhyw anghenion dysgu neu niwro-ddatblygol. Efallai y bydd angen deunyddiau mwy strwythuredig, pendant a rhyngweithiol ar blant iau, gan gynnwys celf, senarios a gemâu.
Cynnwys rhieni, gofalwyr neu oedolion ymddiriedol
Cynnwys rhieni, gofalwyr neu oedolion ymddiriedol eraill yn system gymorth y plentyn. Gallai hyn gynnwys staff ysgol, gweithwyr ieuenctid a chymdeithasol, ac ymarferwyr eraill a allai helpu plant i ymarfer sgiliau rhwng sesiynau. Dylai eu rôl gefnogi’r plentyn i ymgysylltu a defnyddio’r sgiliau CBT ond nid bod yn rhwystr i fynediad os nad yw cynnwys y teulu’n ddiogel, yn bosib na’n briodol.
Beth yw’r gost?
Ar gyfartaledd mae cost rhaglenni sgiliau CBT yn debygol o fod yn uchel.
Mae amcangost rhaglenni sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd yn awgrymu cost gyfartalog o tua £4,000 y plentyn.
Mae’r costau fel arfer yn cynnwys staff hyfforddedig i ddarparu’r rhaglen, deunyddiau, hyfforddiant, goruchwyliaeth a rheoli’r rhaglen.
Bydd y gost yn amrywio gan ddibynnu ar ba mor aml a hir fydd y sesiynau, pwy fydd yn darparu, lefel yr oruchwyliaeth fydd ei angen a fformat y darparu.
Crynodeb o’r Pwnc
- Mae rhaglenni sgiliau CBT yn dysgu sgiliau ymarferol i blant a phobl ifanc i adnabod a rheoli meddyliau, teimladau ac ymddygiad mewn sefyllfaoedd anodd. Maen nhw’n aml yn cynnwys rheoleiddio emosiynau, rheoli dicter, datrys problemau, ystyried persbectif a sgiliau cyfathrebu.
- Credir bod rhaglenni sgiliau CBT yn cael effaith uchel ar leihau trais, tua 72% yn llai yn ôl amcangyfrifon. Mae gennym hyder cymedrol yn yr amcan hwn o effaith CBT. Amcangyfrifir hefyd bod y rhaglenni’n cael effaith uchel ar leihau troseddu, ond mae’r dystiolaeth ar hyn yn wan.
- Mae’r dystiolaeth yn defnyddio rhaglenni sgiliau CBT cyffredinol ac wedi eu targedu. Ni wnaeth yr adolygiad eu cymharu’n uniongyrchol ond barnodd fod y manteision mwyaf cyson i’w gweld i blant sy’n methu rheoleiddio eu hymddygiad a rhaglenni mewn ysgolion.
- Mae’r rhaglenni fel arfer yn cael eu darparu mewn ysgolion. Mae’r gweithredu’n debygol o fod yn well os defnyddir llawlyfrau, hyfforddiant strwythuredig i ymarferwyr a gweithgareddau amrywiol i gyd-fynd ag anghenion datblygu’r plant.
- Gellir darparu rhaglen yn fwy effeithiol drwy gynnwys rhieni / gofalwyr neu oedolion eraill yn system gymorth y plentyn neu’r person ifanc.
- Ar gyfartaledd mae cost rhaglenni sgiliau CBT yn debygol o fod yn uchel.
Negeseuon allweddol
- Cyflwyno rhaglenni sgiliau Therapi Ymddygiad Gwybyddol i blant a phobl ifanc sy’n dangos anawsterau ymddygiad, anghenion iechyd meddwl neu anawsterau emosiynol, a rhai mewn perygl o gymryd rhan mewn trais. Ystyried darparu yn yr ysgol os yw’n cyd-fynd ag anghenion lleol a llwybrau cymorth lleol.
- Comisiynu darparwyr sydd â’r capasiti i ddarparu rhaglenni sgiliau CBT yn gyson ac yn gallu addasu i anghenion a datblygiad y plant, yn yr ysgol, y gymuned neu yn y ddalfa.
- Monitro pwy sy’n cymryd rhan ac ydy plant gydag AAAA, profiad gofal, niwro-amrywiol neu ag anghenion cymorth eraill yn gallu cael mynediad at, ymgysylltu gyda, ac elwa o’r rhaglen.
Dolenni allanol
BABCP — Achrediad Seicotherapydd Ymddygiad Gwybyddol
Esboniad clir o safonau ymarfer cydnabyddedig ar gyfer CBT.
DfE — Hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl a lles mewn ysgolion a cholegau
Darparu mewn ysgolion a dulliau iechyd meddwl ysgol gyfan.
Anna Freud — Pecyn iechyd meddwl ar gyfer ysgolion
Pecyn cynllunio darpariaeth iechyd meddwl ar gyfer ysgolion a cholegau.