Skip to content

Therapi Ymddygiad Gwybyddol Clinigol

Triniaeth therapiwtig wedi’i darparu gan therapyddion hyfforddedig i helpu plant i adnabod a rheoli meddyliau, teimladau ac ymddygiad negyddol.

Cost

Ansawdd tystiolaeth

1 2 3 4 5

Effaith

UCHEL

Prevention Type

  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Y ddalfa
  • Yn y gymuned

Sectorau

Deilliannau Eraill

  • Reduction UCHEL mewn Droseddau cyffuriau
  • gostyngiad ISEL mewn

Beth ydyw?

Math o therapi siarad ydy Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) a ddefnyddiwyd i helpu gwahanol anghenion iechyd meddwl. Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar CBT clinigol i blant a phobl ifanc a gafodd ddiagnosis o gyflyrau iechyd meddwl yn gysylltiedig ag ymddygiad ymosodol ac anawsterau ymddygiad, a rhai mewn perygl o drais neu droseddu. Rydyn ni wedi crynhoi’r dystiolaeth o ba raglenni datblygu sgiliau CBT y gellir eu defnyddio gyda phlant yn y fan hyn.

Mae CBT Clinigol fel arfer yn cael ei ddarparu gan ymarferwyr hyfforddedig fel seicolegwyr clinigol, therapyddion CBT, ymarferwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), neu ymarferwyr iechyd meddwl hyfforddedig eraill. Fel arfer fe’i cyflwynir mewn lleoliadau iechyd meddwl cleifion allanol, ysbytai, cyfiawnder ieuenctid neu unedau diogel.

Mae’r ymyriadau fel arfer yn seiliedig ar gynllun triniaeth neu lawlyfr ond wedi eu teilwrio i anghenion datblygu, ymddygiad ac iechyd y plentyn neu’r person ifanc a hefyd yn ôl lefel eu risg a’u hamgylchiadau ehangach.

Mae’r sesiynau fel arfer yn rhai wyneb yn wyneb, naill ai un-i-un gyda’r plentyn neu berson ifanc, ar y cyd gyda rhieni neu ofalwyr, neu mewn grwpiau bach. Maen nhw’n aml yn wythnosol gyda llawer o’r rhaglenni’n para rhwng un a chwe mis er bod rhai’n mynd ymlaen am hirach.

Un o brif nodweddion CBT clinigol ydy ailstrwythuro gwybyddol.  Mae hyn yn golygu helpu plant a phobl ifanc i adnabod a newid patrymau meddwl caled fel meddwl y gwaethaf o bobl, sydd yna’n gallu troi’n wrthdaro neu’n ymosodol. Gall y sesiynau hefyd gynnwys:

Mae plant yn ymarfer y sgiliau hyn drwy weithgareddau fel chwarae rôl, gemau, trafodaethau grŵp, taflenni gwaith a thasgau ymarfer.

Nod CBT Clinigol ydy lleihau trais a throseddu drwy helpu plant a phobl ifanc i ymateb i wrthdaro a sefyllfaoedd anodd yn fwy diogel. Dros amser, dylai’r dull helpu i wella hunanreolaeth, lleihau ymatebion byrbwyll neu ymosodol a helpu plant i reoli gwrthdaro heb droi at ymddwyn mewn ffordd niweidiol.

A yw’n effeithiol?

Mae’r ymchwil yn awgrymu, ar gyfartaledd, bod effaith dulliau Therapi Ymddygiad Gwybyddol clinigol ar atal trais yn debygol o fod yn uchel.  

Mae’r ymchwil yn awgrymu y gallai CBT dan arweiniad arbenigwyr leihau trais o 69%.

Mae’r ymchwil hefyd yn amcangyfrif, ar gyfartaledd, y gall CBT clinigol leihau troseddau a throseddu o 88%.

Cafwyd bod dulliau CBT clinigol hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar wella iechyd meddwl, rheoleiddio a rheoli emosiynau, defnyddio llai o gyffuriau ac alcohol, a gallu datrys anghydfod.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcan o effaith gyfartalog CBT clinigol ar drais.

Rydyn ni wedi rhoi’r sgôr hwn oherwydd bod ein hamcan yn seiliedig ar 9 astudiaeth. O’r rhain, roedd un o ansawdd uchel, 7 o ansawdd cymedrol ac un o ansawdd isel. Cynhaliwyd un astudiaeth yn y DU, tair yn yr Unol Daleithiau, 3 yn yr Iseldiroedd, un yng Nghanada ac un yn Iran.

Mae gennym hyder isel yn ein hamcan o effaith gyfartalog CBT clinigol ar droseddau a throseddu. We gave this rating because our estimate is based on 6 studies. Of these, 2 were high quality, 3 were moderate quality and one was low quality.

Roedd yr astudiaethau a gynhyrchodd y sgoriau effaith ar gyfer trais, troseddau a throseddu wedi asesu pa mor effeithiol oedd y dulliau hyn ar gyfer 1,042 o blant a phobl ifanc.

I bwy mae’n gweithio?

Nid oes llawer o dystiolaeth o sut y gall effaith Therapi Ymddygiad Gwybyddol clinigol fod yn wahanol i wahanol grwpiau o blant.

Roedd y plant yn yr astudiaethau fel arfer yn cyflwyno gydag anhwylderau ymddygiad aflonyddgar, problemau ymddygiad neu ymddygiad ymosodol, a nifer lai gyda diagnosis o awtistiaeth neu gamddefnyddio sylweddau. Roedd un astudiaeth yn cynnwys plant ag anhwylder diffyg rheoli hwyliau aflonyddgar, ac un arall yn cynnwys plant oedd yn cynnau tân yn fwriadol.

Yn ôl un astudiaeth o’r Iseldiroedd, roedd CBT yn effeithiol ar draws gwahanol grwpiau ethnig, grwpiau oed ac i blant gyda a heb fân anableddau dysgu.

Ni ddaeth yr adolygiad o hyd i dystiolaeth ddibynadwy’n ystyried rôl rhywedd, niwro-amrywiaeth, statws economaidd-gymdeithasol, anabledd neu brofiad gofal, wrth asesu pa mor effeithiol oedd CBT clinigol.

Sut mae modd ei weithredu’n dda?

Daeth yr adolygiad o hyd i 10 astudiaeth yn dangos tystiolaeth o weithredu, gan gynnwys 7 o’r Unol Daleithiau, 2 o’r Iseldiroedd ac un o Iran.

Cynyddu cyfranogiad drwy weithgareddau amrywiol

Defnyddio gweithgareddau difyr fel gemau fideo a systemau gwobrwyo i annog plant i gymryd rhan yn y therapi. Fodd bynnag, ni ddylai’r fformatau hyn symud yr ymyriad yn ormodol o weithio wyneb yn wyneb.  

Cynnwys rhieni neu ofalwyr yn weithredol

Mae cynnwys rhieni neu ofalwyr yn gwneud beth y mae CBT yn ei olygu’n fwy tryloyw, a helpu i barhau’r cyfranogiad. Mae sgyrsiau anffurfiol rheolaidd a rhannu gweithgareddau fel y gall plant ddangos sgiliau a ddysgwyd, a chyfathrebu nodau’r driniaeth yn glir yn gwella cydweithredu a helpu rhieni i atgyfnerthu’r sgiliau hyn yn y cartref.

Teilwrio ymyriadau i gwrdd ag anghenion penodol

Teilwrio’r driniaeth i nodweddion datblygu, cymhlethdod clinigol a chyd-destun amgylcheddol y plentyn. Defnyddio fformatau modiwlaidd neu hyblyg, fel bo’r therapydd yn gallu addasu’r cynnwys, y cyflymdra a’r pwyslais i anghenion y person ond cadw’r dulliau therapiwtig craidd fel ailstrwythuro gwybyddol, cysylltiad, sgiliau ymdopi ac ymarfer eu hymddygiad.

Ystyried cyd-destun ehangach plant

Darparu CBT mewn ffordd sy’n ystyried trawma, allgau, gwahaniaethu a hiliaeth a’u dylanwad posib ar ymddygiad, ymgysylltu ac ymddiried mewn gwasanaethau. Dylai ailstrwythuro gwybyddol ganolbwyntio ar ddehongliadau anghywir neu ddi-fudd sy’n cyfrannu at niwed yn unig, nid os ydy plant yn ymateb i brofiadau gwirioneddol o hiliaeth neu wahaniaethu.  Defnyddio ymarfer, goruchwyliaeth a data tarddiad ethnig sy’n ymateb i ddiwylliant, i ystyried rhagfarn a chywiro diffyg tegwch.

Beth yw’r gost?

Mae cost Therapi Ymddygiad Gwybyddol wedi’i ddarparu gan arbenigwyr dan oruchwyliaeth a dderbyniodd hyfforddiant clinigol yn debygol o fod yn uchel.

Bydd nifer a pha mor ddwys fydd y sesiynau’n amrywio yn ôl anghenion y plentyn, ond yn debygol o gostio rhwng £2,000 a £6,000 y plentyn.

Bydd y gost yn amrywio gan ddibynnu ar gymhlethdod anghenion y plentyn, pa mor aml a hir fydd y sesiynau, pwy ydy’r darparwr, lefel arbenigedd yr ymarferydd a faint o oruchwyliaeth fydd ei angen, a fformat y darparu.

Crynodeb o’r Pwnc

Negeseuon allweddol

Dolenni allanol

Canllaw NICE: Ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac anhwylderau ymddygiad mewn plant a phobl ifanc

Canllaw clinigol ar gyfer gwasanaethau’n defnyddio ymyriadau seico-gymdeithasol i adnabod a rheoli ymddygiad gwrth-gymdeithasol ac anhwylderau ymddygiad mewn plant a phobl ifanc dan 19 oed.

The British Association of Behavioural and Cognitive Psychotherapists  (BABCP): Cognitive Behavioural Psychotherapist Accreditation

Esboniad clir o safonau ymarfer cydnabyddedig ar gyfer CBT.

Y GIG: Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Trosolwg gan y GIG yn egluro beth ydy CBT, sut mae o’n gweithio, beth ydy cynnwys y sesiynau a sut i’w dderbyn drwy wasanaethau’r GIG.

Dadlwythiadau

Strand metadata

Prevention Type

  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Y ddalfa
  • Yn y gymuned

Sectorau

Deilliannau Eraill

  • Reduction UCHEL mewn Droseddau cyffuriau
  • gostyngiad ISEL mewn