Stopio a chwilio
Pwerau’r Heddlu i stopio a chwilio unigolyn i weld a yw’n cario eitem anghyfreithlon.
Pwerau’r Heddlu i stopio a chwilio unigolyn i weld a yw’n cario eitem anghyfreithlon.
Beth yw hyn?
Mae pwerau stopio a chwilio yn caniatáu i’r heddlu chwilio pobl os ydyn nhw’n amau eu bod mewn meddiant o eitemau anghyfreithlon, fel cyffuriau anghyfreithlon, arfau, neu eiddo wedi’i ddwyn. Mae nifer o fathau o bwerau stopio a chwilio, ond y ddau isod yw’r rhai mwyaf perthnasol i blant a phobl ifanc, ac i atal trais:
Mae modd cychwyn proses stopio a chwilio mewn tair ffordd:
Mae stopio a chwilio yn ddull atal trydyddol. Ei nod yw atal troseddu pellach drwy dynnu cyffuriau neu arfau anghyfreithlon oddi ar bobl, neu ddod o hyd i dystiolaeth o drosedd flaenorol. Yn dilyn proses stopio a chwilio, mae swyddogion heddlu’n gallu cadw pobl sydd wedi troseddu yn gaeth, ac fe allai hyn atal troseddu pellach yn y cyfnod maen nhw yn y ddalfa. Mae gweld neu glywed am y defnydd o stopio a chwilio mewn lleoliadau penodol neu ar adegau penodol yn gallu atal pobl rhag troseddu.
Yn ystod proses stopio a chwilio, rhaid i’r swyddog esbonio’r rheswm dros stopio a chwilio. Pan fydd pobl yn meddwl bod proses stopio a chwilio yn annheg, efallai oherwydd y ffordd mae’n cael ei chynnal neu sawl gwaith mae rhywun wedi cael ei stopio, mae’n gallu lleihau’r ymddiriedaeth yn yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol. Fe allai hyn gynyddu troseddu ymysg y rhai sy’n destun prosesau stopio a chwilio.
Nifer yr achosion o stopio a chwilio yng Nghymru a Lloegr
Y llynedd, cafodd 547,002 o brosesau stopio a chwilio eu cynnal gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Roedd 542,722 ohonynt wedi’u cynnal o dan Adran 1 o PACE.
Mae’r rhan fwyaf o brosesau stopio a chwilio PACE yn chwilio am gyffuriau, yn hytrach nag arfau: mae tua 15% dan amheuaeth o gario arfau, a thua 60% dan amheuaeth o gario cyffuriau.
Ychydig iawn o brosesau stopio a chwilio sy’n dod o hyd i arfau – dim ond 3%. Mae hyn yn codi i 11% pan fydd gan swyddogion ddarn o wybodaeth neu wybodaeth wedi’i chasglu at ei gilydd bod person yn cario arf o bosib.
Dydy’r rhan fwyaf o brosesau stopio a chwilio ddim yn arwain at arestio neu roi rhybuddiad. Mae 14% yn arwain at arestio ac 8% yn arwain at ddatrysiad cymunedol. Mae’r gyfradd arestio’n gostwng i 10% ymysg plant.
Mae 1 o bob 5 (21%) proses stopio a chwilio yn cael ei chynnal ar blant a phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed. Mae tua traean o’r rhain yn chwilio am arfau.
Bechgyn yw’r rhan fwyaf o blant sy’n cael eu stopio (90%). Ychydig iawn o blant dan 10 sy’n cael eu stopio – dim ond 64 o weithiau y llynedd.
Pan fydd prosesau stopio a chwilio yn cael eu cynnal o dan Adran 60, mae arestio’n llai cyffredin. Roedd 5% o brosesau stopio a chwilio o dan Adran 60 wedi arwain at arestio, o’i gymharu â 14% o dan PACE. Y llynedd, cafodd 4,280 o brosesau stopio a chwilio eu cynnal o dan Adran 60.
A yw’n effeithiol?
Ar gyfartaledd, ar sail ymchwil rhyngwladol, mae stopio a chwilio yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddu treisgar. Mae ymchwil wedi’i gynnal yn y Deyrnas Unedig yn awgrymu bod stopio a chwilio yn debygol o gael effaith isel ar droseddu treisgar.
Mae adolygiad o astudiaethau rhyngwladol yn awgrymu bod stopio a chwilio wedi lleihau troseddu 13% ar gyfartaledd. Roedd saith o’r naw astudiaeth a oedd wedi cynhyrchu’r amcangyfrif hwn wedi cael eu cynnal yn Unol Daleithiau America. Cafodd dau ohonynt eu cynnal yn y Deyrnas Unedig, ac roedden nhw’n amcangyfrif bod stopio a chwilio wedi lleihau troseddu 5%.
Roedd yr adolygiad hefyd wedi canfod bod stopio a chwilio wedi lleihau troseddu 7% mewn ardaloedd cyfagos ar gyfartaledd.
Serch hynny, mae’n bwysig nodi’r niwed posib sy’n gysylltiedig â stopio a chwilio. Mae pobl sydd wedi bod yn destun proses stopio a chwilio yn fwy tebygol o fabwysiadu agwedd negyddol at yr heddlu, ac o gael iechyd meddwl a chorfforol gwaeth. Mae’r ymchwil yn dangos cyfraddau uwch o iselder, gorbryder, anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD), meddyliau hunanladdol a phroblemau cysgu ymysg pobl sydd wedi cael eu stopio a’u chwilio, o’i gymharu â phobl sydd heb gael eu stopio a’u chwilio. Dydy’r ymchwil ddim yn ddigon cadarn i gadarnhau a gafodd yr agweddau negyddol hyn, a’r cyflyrau iechyd meddyliol neu gorfforol, eu hachosi neu eu gwaethygu gan y profiad o stopio a chwilio, neu gan ddigwyddiadau a phrofiadau eraill.
Roedd un astudiaeth yn yr Unol Daleithiau a oedd yn cynnwys plant a phobl ifanc rhwng 9 a 15 oed wedi casglu data dros gyfnod o bedair blynedd, ac wedi canfod bod profiad o stopio a chwilio wedi arwain at gynnydd mewn cyfranogiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu.
Anghymesuredd hiliol yn y defnydd o stopio a chwilio
Yng Nghymru a Lloegr, mae trigolion Du, Asiaidd ac ethnigrwydd cymysg yn fwy tebygol o lawer o gael eu stopio a’u chwilio.
Yn 2022/23, roedd pobl Ddu bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl wyn. Roedd pobl Asiaidd 1.4 gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl wyn, a phobl ethnigrwydd cymysg 1.7 gwaith yn fwy tebygol. O dan Adran 60, defnyddio stopio a chwilio heb amheuaeth, roedd pobl Ddu saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl wyn. Roedd adroddiad diweddar gan y Comisiynydd Plant (2024) wedi canfod bod plant Du yng Nghymru a Lloegr dros bedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu noeth-chwilio o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol, ac roedd plant gwyn tua dwywaith yn llai tebygol o gael eu noeth-chwilio.
Mae trigolion Du ac ethnig leiafrifol yng Nghymru a Lloegr hefyd yn anghymesur fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr troseddu, ac o gael eu harestio, eu cyhuddo, a’u herlyn am drosedd.
Roedd Swyddfa’r Maer ar gyfer yr Heddlu a Throseddu (MOPAC) wedi arolygu 11,874 o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yn Llundain. Wrth reoli ar gyfer cysylltiadau â thrais sy’n ymwneud â gangiau ac arfau, ac ar gyfer bod yn ddioddefwyr troseddu (a oedd yn golygu bod pobl ifanc yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio), roedd y tebygolrwydd o bobl ifanc Du yn Llundain yn cael eu chwilio yn dal yn uwch na phobl ifanc gwyn yn Llundain.
Roedd 14% o’r prosesau stopio a chwilio a gafodd eu cynnal ar blant a phobl ifanc Du ac ethnig leiafrifol rhwng 10 a 17 oed wedi arwain at arestio, o’i gymharu ag 8% o blant a phobl ifanc gwyn.
Mae rhai astudiaethau’n tynnu sylw at ‘drin plant fel oedolion’ (adultification) fel un o achosion nifer anghymesur y prosesau stopio a chwilio ar bobl Ddu o dan 17 oed. Mae hyn yn digwydd pan fydd oedolion neu bobl mewn swyddi o rym yn trin plant fel unigolion llai diniwed, llai agored i niwed a mwy emosiynol gydnerth nac ydyn nhw. Mae trin plant fel oedolion yn cael ei sbarduno gan wahaniaethu a rhagfarn am nodweddion personol plentyn neu ei brofiadau bywyd. Mae’n debygol bod plant Du yn cael eu trin fel oedolion, a’u hamau o fod yn cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, yn amlach.
Pa mor gadarn yw’r dystiolaeth?
Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o effaith gyfartalog stopio a chwilio ar droseddu treisgar.
Rydyn ni wedi lleihau ein hyder yn yr amcangyfrif hwn o uchel i gymedrol oherwydd ei fod yn seiliedig ar naw astudiaeth, a’u bod yn cyfuno’r effeithiau ar blant a phobl ifanc ac ar oedolion.
Isel iawn yw ein hyder yn ein hamcangyfrif o’r effaith yn y Deyrnas Unedig, gan ei fod yn seiliedig ar ddwy astudiaeth yn unig.
Beth yw barn plant a phobl ifanc am stopio a chwilio?
Mae’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cefnogi’r defnydd o stopio a chwilio yn gyffredinol. Yn yr arolwg MOPAC o 11,874 o blant a phobl ifanc yn Llundain, roedd 53% yn credu y bydd stopio a chwilio yn helpu i atal pobl rhag cario cyllyll; roedd 14% yn anghytuno; a 34% yn niwtral neu ddim yn gwybod. Mae plant Du ac ethnigrwydd cymysg yn llai tebygol o gredu y dylai’r heddlu ddefnyddio stopio a chwilio, ac yn llai tebygol o gredu bod stopio a chwilio yn cael ei ddefnyddio’n deg. Ond ar draws pob ethnigrwydd yn Llundain, mae mwy o blant o blaid stopio a chwilio i ryw raddau na’i ddileu’n gyfan gwbl. Roedd plant â phrofiad o stopio a chwilio wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r broses yn cael ei chynnal. Roedd arolwg cenedlaethol o 101 o blant â phrofiad o stopio a chwilio wedi canfod bod hanner yn dweud, o ganlyniad i’r profiad, eu bod yn ymddiried llai yn yr heddlu, eu bod wedi teimlo’n llawn cywilydd, a bod y profiad yn drawmatig.
Sut mae modd ei ddefnyddio’n dda?
Wedi’i dargedu ac ar sail gwybodaeth wedi’i chasglu at ei gilydd
Roedd yr adolygiad wedi canfod bod stopio a chwilio sy’n cael ei dargedu mewn lleoliadau llai, fel strydoedd neu barc penodol, yn debygol o fod yn fwy effeithiol yn lleihau troseddu na thactegau stopio a chwilio sy’n cael eu defnyddio ar lefel cymdogaeth, rhanbarth neu dref.
Mae stopio a chwilio hefyd yn fwy effeithiol yn dod o hyd i eitemau anghyfreithlon pan fydd sail gryfach dros ei ddefnyddio, o’i gymharu â sail wan neu afresymol. Roedd adolygiad yn 2021 wedi canfod bod 63% o brosesau stopio a chwilio wedi cael eu cynnal ar sail gref neu gymedrol, a bod 31% ohonynt wedi dod o hyd i eitem anghyfreithlon. O’i gymharu â hynny, roedd 36% o brosesau stopio a chwilio wedi cael eu cynnal ar sail wan neu afresymol, a bod 16% ohonynt wedi dod o hyd i eitem anghyfreithlon.
Plismona mannau problemus a dulliau datrys problemau Mae plismona mannau problemus yn nodi lleoliadau â’r lefelau uchaf o droseddu ac yn canolbwyntio adnoddau a gweithgareddau plismona arnynt. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod plismona mannau problemus wedi lleihau trais 14% a throseddau cyffuriau 30%, ar gyfartaledd. Mae hyn yn gallu golygu presenoldeb heddlu uwch, neu blismona sy’n canolbwyntio ar broblemau, a allai leihau troseddu ymhellach. Ei nod yw deall achosion sylfaenol troseddu mewn mannau problemus ac mae’n cynnwys dylunio a gweithredu ymyriadau wedi’u teilwra i leihau troseddu. Mae’r dulliau hyn yn debygol o gael effaith fwy ar drais ac fe allan nhw wella’r berthynas ag aelodau o’r gymuned.
Hyfforddiant a monitro rheolaidd ar gyfer ymarfer stopio a chwilio
Mae nifer o swyddogion yn cael hyfforddiant stopio a chwilio yn ystod eu hyfforddiant cychwynnol yn unig. Mae hyn yn golygu bod ymarfer stopio a chwilio yn cael ei ddatblygu’n bennaf ar sail gwylio ymddygiad swyddogion eraill. Fe ddylai heddluoedd ddarparu rhaglen strwythuredig sy’n gwneud yn siŵr bod swyddogion yn cael hyfforddiant gloywi, gan gynnwys canllawiau am wneud penderfyniadau teg, rhyngweithio’n broffesiynol a chyfathrebu’n glir, a chofnodi prosesau unigol yn gywir.
Fe ddylai heddluoedd gael panel craffu cymunedol neu grŵp monitro i adolygu’r defnydd o stopio a chwilio. Mae’r grwpiau hyn yn dod ag aelodau o’r cyhoedd ynghyd ac yn cael eu cadeirio gan berson annibynnol fel arfer. Maen nhw’n adolygu prosesau stopio a chwilio wedi’u dewis ar hap, yn trafod a wnaeth y swyddogion ymddwyn yn briodol, ac yn rhoi adborth i’r heddlu.
Diogelu
Wrth gynnal proses stopio a chwilio, rhaid i’r heddlu gadw at y mesurau diogelu llym sy’n gwarchod urddas a lles yr unigolyn sy’n cael ei stopio a’i chwilio. Mae’r mesurau diogelu hyn yn cynnwys codau ymarfer a defnyddio camerâu corff i atal gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon.
Beth yw’r gost?
Ar gyfartaledd, mae cost stopio a chwilio yn debygol o fod yn isel.
Mae dwy astudiaeth yn awgrymu bod stopio a chwilio yn cymryd tua 15 munud ar gyfartaledd. Mae modd i un neu ddau swyddog gynnal proses stopio a chwilio. Y gost gyfartalog ar draws y ddwy astudiaeth yw £20 – £30 fesul proses stopio a chwilio sy’n cynnwys dau swyddog. Rydyn ni’n amcangyfrif bod tua £10 – 16 miliwn wedi cael ei wario ar stopio a chwilio yng Nghymru a Lloegr y llynedd.
Crynodeb o’r pwnc
Negeseuon allweddol
Dolenni allanol
Adroddiad Sefydliad yr Heddlu: How Stop and Search is used
Mae’r papur hwn yn edrych ar y data sydd ar gael am ddefnyddio stopio a chwilio yng Nghymru a Lloegr hyd at fis Mawrth 2023.
Canllawiau Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar Stopio a Chwilio
Daw’r dudalen hon o APP, ffynhonnell swyddogol ymarfer plismona proffesiynol. Mae’n darparu diffiniad o broses stopio a chwilio deg ac effeithiol, ac yn esbonio sut a pham y dylai prosesau stopio a chwilio fod yn deg, yn gyfreithlon, yn broffesiynol ac yn dryloyw.
Y Swyddfa Gartref – Pwerau a gweithdrefnau’r heddlu: Stopio a chwilio ac arestio, Cymru a Lloegr
Ystadegau stopio a chwilio yn cynnwys gwybodaeth o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
HMICFRS – Adroddiad ar ddefnyddio pwerau’r heddlu yn anghymesur
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar ddata cyhoeddedig ar lefel genedlaethol a fesul heddlu ynghylch stopio a chwilio a defnyddio grym yn 2019/20; canfyddiadau Asesiadau PEEL Integredig HMICFRS yn 2018/19 ynghylch effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu; a chanlyniadau adolygiad o’r seiliau a gofnodwyd dros stopio a chwilio.
Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu – adolygiad o stopio a chwilio (2022)
Mae’r adroddiad hwn yn casglu ynghyd tystiolaeth o adolygiad o 37 ymchwiliad, apêl ac adolygiad annibynnol gan yr IOPC rhwng 2018 a 2021, ochr yn ochr â safbwyntiau cymunedau a rhanddeiliaid, a data cenedlaethol.
Crest Advisory: Crime, policing and stop and search: Black perspectives in context (2022)
Mae Crest Advisory wedi cynhyrchu dau bapur ymchwil yn edrych ar safbwyntiau a phrofiadau o stopio a chwilio yng Nghymru a Lloegr. Maen nhw’n cynnwys argymhellion ar gyfer newid hefyd.
Adroddiad HMIC ar y Defnydd Gorau o’r Cynllun Stopio a Chwilio (BUSS) (2016)
Adroddiad arolygu HMIC ar weithredu’r cynllun BUSS ar draws heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.
Canllawiau Cenedlaethol ar gyfer Paneli Craffu Cymunedol
Cynhaliodd y Swyddfa Gartref ymgynghoriad (rhwng mis Awst a mis Hydref 2023) ar fframwaith craffu cymunedol drafft, a sut gellir gwella prosesau craffu lleol i helpu heddluoedd i wasanaethu cymunedau yn fwy effeithiol.
Y Coleg Plismona – Troseddau cyllyll: Canllaw datrys problemau
Mae tudalennau 57-60 y papur hwn yn edrych ar ddefnyddio stopio a chwilio i atal troseddau cyllyll, ac yn darparu damcaniaeth newid un dudalen.