Skip to content

Rhaglenni celfyddydol

Rhaglenni sy’n ennyn diddordeb plant mewn gweithgareddau celfyddydol a chreadigol.

Dim digon o dystiolaeth o'r effaith

?

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Gymuned
  • Y ddalfa
  • Ysgolion a cholegau

Sectorau

Beth yw rhaglenni celfyddydol?

Mae rhaglenni celfyddydol yn cynnwys gweithgareddau fel paentio, cerflunio, cerddoriaeth, drama a dawns. Gellir eu cyflwyno fel un sesiwn, neu gyfres o sesiynau sydd fel arfer yn rhedeg am rhwng pedair a 12 wythnos. Cyflwynir y sesiynau’n aml mewn grwpiau bach o chwech i 12 o blant, ond gallant hefyd gynnwys sesiynau un-i-un. Gellir cyflwyno rhaglenni celfyddydol fel gweithgaredd unigol neu eu cyfuno ag ymyriadau eraill fel mentora neu addysg. Gellir defnyddio ymyriadau celfyddydol cyfun i gynyddu ymgysylltiad yn yr ysgol. Gall rhaglenni celfyddydol hefyd ddefnyddio celf a cherddoriaeth fel therapi i ddelio â thrafferthion emosiynol.

Mae lleoliadau darparu yn amrywio a gallent gynnwys lleoliadau addysg, canolfannau cymunedol a sefydliadau dalfa ieuenctid. Gall gweithgareddau gael eu darparu gan amrywiaeth o hyfforddwyr, gan gynnwys artistiaid a cherddorion proffesiynol, athrawon celf a cherddoriaeth, gwirfoddolwyr a phobl ifanc.

Gall rhaglenni celfyddydol gynnwys y canlynol: 

  • Creu cerddoriaeth, gwrando ar gerddoriaeth a’i thrafod
  • Crefftau, fel gwneud gemwaith
  • Dawns
  • Theatr a Drama 
  • Gwneud ffilmiau neu bodlediadau
  • Ysgrifennu creadigol a barddoniaeth 
  • Ffotograffiaeth 
  • Paentio 
  • Cerfluniau a chrochenwaith
  • Y celfyddydau digidol

Nod rhaglenni celfyddydol yw darparu profiadau cadarnhaol a chyfleoedd ar gyfer hunanddatblygiad, a allai hybu emosiynau cadarnhaol. Gall hyn arwain at ddatblygu ymdeimlad cryfach o’r hunan, a gwella’r berthynas â chyfoedion, aelodau o’r teulu, staff yr ysgol, a phobl yn eu cymuned leol. Gall y cynnydd hwn mewn emosiynau cadarnhaol a gwelliannau mewn perthnasoedd arwain at ostyngiad mewn anawsterau ymddygiad a thrais.

A yw’n effeithiol?

Nid oes llawer o ymchwil ar raglenni celfyddydol. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith ar gyfer rhaglenni celfyddydol ar leihau trais.

Mae’r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o 43 astudiaeth. Nid oedd yr un o’r astudiaethau hyn yn mesur effaith rhaglenni celfyddydol ar leihau trais.

Pa mor gadarn yw’r dystiolaeth?                     

Roedd yr astudiaethau’n fach ar y cyfan, fel arfer yn cynnwys tua 30 o gyfranogwyr. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r astudiaethau mewn lleoliadau diogel, ac roedd lleoliadau eraill yn cynnwys gwasanaethau ieuenctid cymunedol, lleoliadau addysg a gwersylloedd gweithgareddau. Cynhaliwyd 19 o’r astudiaethau yn y DU.

O’r 43 astudiaeth, edrychodd 38 ar sut cafodd y rhaglenni eu rhoi ar waith a chasglu adborth gan gyfranogwyr. Canfuwyd bod rhai cyfranogwyr yn dweud eu bod yn teimlo emosiynau cadarnhaol sy’n gysylltiedig â phrofi’r rhaglen gelfyddydol. Roedd y rhain yn cynnwys teimladau o obaith, hunanhyder, dewrder, balchder a diolchgarwch. Disgrifiodd rhai cyfranogwyr berthynas well gyda’u teulu a’u ffrindiau, ac agwedd fwy cadarnhaol tuag at ddysgu a datblygu sgiliau. 

Sut mae modd ei roi ar waith yn dda? 

Artistiaid proffesiynol a pherthnasol

Dylai hwyluswyr fod yn artistiaid medrus y mae plant yn teimlo y gallant uniaethu â nhw. Dylent allu gweithio gyda phlant i gynhyrchu celf a cherddoriaeth gyda’i gilydd a gallu herio a chefnogi plant i gynhyrchu eu gwaith eu hunain.

Amgylchedd diogel ac anfeirniadol

Dylai hwyluswyr sy’n darparu rhaglenni celfyddydol greu amgylchedd diogel ac anfeirniadol lle mae plant yn teimlo eu bod yn gallu mynegi eu hunain. Gall fod yn beryglus i rai plant roi cynnig ar bethau newydd a chreu celf neu gerddoriaeth. Mae’n bwysig bod hwyluswyr yn rheoli ymddygiad ac adborth rhwng cyfranogwyr, er mwyn diogelu, annog teimladau o berthyn yn y celfyddydau, a pherchnogaeth o’r gwaith celf a wnânt. 

Lleoliadau darparu hygyrch a hyblyg

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod plant yn gwerthfawrogi’r cyfle i fod yn greadigol, dysgu, cyflawni a rhyngweithio ag eraill mewn ffyrdd cadarnhaol ac eithaf anffurfiol. Mae hyn yn rhoi dewis arall yn lle’r cyfyngiadau maen nhw’n eu profi mewn lleoliadau diogel neu addysgol.

Perthnasol i ddiddordebau plant

Er mwyn cynyddu cyfranogiad plant yn y rhaglen, dylai gweithgareddau fod yn ddiwylliannol berthnasol, er enghraifft gan adlewyrchu hil, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, rhyw, oedran a diddordebau’r plant. Lle bo’n bosibl, dylai plant gael dewisiadau am y gweithgareddau neu’r dulliau maen nhw’n eu defnyddio, er enghraifft, darparu amrywiaeth o ffyrdd o gymryd rhan mewn creu cerddoriaeth, gan gynnwys ysgrifennu geiriau caneuon, cyfansoddi cerddoriaeth, DJs, perfformio a recordio, a gwrando ar gerddoriaeth a geiriau a’u trafod.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae costau rhaglenni celfyddydol yn debygol o fod yn isel.

Mae’r costau’n debygol o gynnwys staffio, a allai fod yn artistiaid proffesiynol neu’n wirfoddolwyr a allai fod angen hyfforddiant, llogi lleoliad, a chostau deunyddiau ac offer. Bydd y costau’n amrywio yn dibynnu ar y math o raglen a gyflwynir, anghenion y bobl ifanc, nifer y sesiynau dan sylw, a hyd y rhaglen.

Crynodeb o’r pwnc

  • Mae rhaglenni celfyddydol yn cynnwys gweithgareddau fel paentio, cerflunio, cerddoriaeth, drama a dawns.
  • Mae lleoliadau darparu yn amrywio a gallent gynnwys lleoliadau addysg, canolfannau cymunedol a sefydliadau dalfa ieuenctid.
  • Er bod sawl astudiaeth yn archwilio profiadau o raglenni celfyddydol, nid oes astudiaethau sy’n mesur effaith ar drais.
  • Mae rhai plant yn disgrifio effaith gadarnhaol ymyriadau celfyddydol ar eu hemosiynau, eu hunan-barch a’u perthynas ag eraill.
  • Mae rhaglenni’n fwy llwyddiannus pan gânt eu cyflwyno mewn lleoliad diogel ac anfeirniadol sy’n berthnasol i ddiddordebau plant, er enghraifft, gan adlewyrchu hil, ethnigrwydd, oedran, rhyw a diddordebau’r plant sy’n cymryd rhan.

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Fe wnaeth YEF ariannu gwerthusiad dichonoldeb o’r rhaglen Building and Understanding of Self (B.U.S) a ddarparwyd gan United Borders. Mae’r rhaglen B.U.S yn ymyrraeth 10-wythnos lle mae pobl ifanc 10-17 oed sydd mewn perygl o fod yn gysylltiedig â thrais yn gwneud cerddoriaeth mewn bws sydd wedi’i addasu’n arbennig ar gyfer y rhaglen ac sy’n cynnwys stiwdio recordio. Roedd pobl ifanc yn ymuno am ddwy awr o sesiynau cynhyrchu cerddoriaeth wythnosol, lle cawsant gefnogaeth fentora hefyd. Nod y rhaglen oedd gostwng nifer y troseddau a lleihau’r trais difrifol sy’n effeithio ar bobl ifanc. Mae’r gwerthusiad yn mynd rhagddo.

Dolenni allanol

Y Sefydliad Gwaddol Addysgol

Crynodeb o’r dystiolaeth sy’n archwilio effaith rhaglenni celfyddydol ar ddeilliannau addysgol.

Pecyn Cymorth y Coleg Plismona ar Ostwng Troseddu

Crynodeb o’r dystiolaeth sy’n archwilio effaith creu cerddoriaeth ar droseddu.

Y Gynghrair Genedlaethol ar gyfer Celfyddydau Cyfiawnder Troseddol

Adnoddau ar gyfer sefydliadau celfyddydol sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a phobl yn y system cyfiawnder troseddol.

Dadlwythiadau