Skip to content

Rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl y ddalfa 

Rhaglenni sy’n ceisio rhoi sylw i anghenion plant a’u helpu i ddod yn rhan o’r gymuned unwaith eto.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

CYMEDROL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Trydyddol

Lleoliad

  • Gymuned
  • Y ddalfa

Sectorau

Beth yw hyn? 

Nod rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl bod yn y ddalfa yw helpu plant i ddod yn rhan o’r gymuned unwaith eto ar ôl bod yn y ddalfa. Mae hyn fel arfer yn cynnwys gweithiwr achos sy’n rhoi cefnogaeth ddwys i’r plentyn cyn, yn ystod ac ar ôl ei ddedfryd o garchar. Mae hyn yn cynnwys asesu anghenion a risgiau’r plant, rhoi cefnogaeth, a chydlynu gwasanaethau eraill.

Yn aml, mae gan blant sydd wedi cael dedfryd o garchar nifer o anghenion cymhleth, a bydd y rhan fwyaf o blant yn derbyn nifer o wasanaethau ac ymyriadau. Gallai’r gwasanaethau hyn gynnwys:

  • Gwasanaethau iechyd corfforol, iechyd seicolegol, iechyd rhyw, perthnasoedd iach, gan gynnwys therapïau ac ymyriadau trawma. 
  • Cefnogaeth emosiynol, gymdeithasol a gydag ymddygiad, megis Therapi Gwybyddol Ymddygiadol a chyrsiau rheoli dicter.
  • Cefnogaeth i gael tŷ a lle i fyw, gan gynnwys cydlynu lleoliadau gofal maeth.
  • Cyfleoedd i gael addysg, hyfforddiant a gwaith, gan gynnwys dychwelyd i addysg, rhoi sylw i Anghenion Addysgol Arbennig, cyfle i wneud hyfforddiant galwedigaethol neu i gael lleoliadau gwaith. 
  • Cefnogaeth gyda lles ac i deuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau cefnogi i aelodau’r teulu o adeg arestio’r plentyn a gydol ei ddedfryd. Gallai’r rhain gynnwys therapi teulu a help i gael cymorth ariannol.
  • Sesiynau mentora a gweithgareddau cadarnhaol fel chwaraeon neu raglenni antur a bywyd gwyllt sy’n canolbwyntio ar ddatblygiad personol a gwella cyfleoedd bywyd. 

Ar gyfartaledd, y llynedd roedd tua 440 o blant yn y ddalfa yng Nghymru neu Loegr ar unrhyw un adeg yn ystod y flwyddyn. Er mai nifer cymharol isel o blant yw hwn, mae’r gyfradd aildroseddu ar gyfer plant sy’n cael eu rhyddhau o’r ddalfa yn oddeutu 60%. Mae’r gyfradd hon bron yn ddwbl y gyfradd aildroseddu arferol ar gyfer pob plentyn yn y system gyfiawnder, ar 32%.

Mae’n debygol bod yr amser a dreulir yn y ddalfa yn torri cysylltiadau plant â’u cymuned, gan greu ansefydlogrwydd o ran y lle maen nhw’n byw, eu haddysg, eu perthynas â theulu a ffrindiau, eu gwaith neu weithgareddau eraill. Gall fod yn anodd addasu i fywyd ar ôl bod yn y ddalfa, ac mae rhaglenni ailsefydlu yn paratoi plant ar gyfer y newid hwn. Mae rhaglenni ailsefydlu, yn ogystal ag yn diwallu anghenion sy’n ymwneud ag iechyd, tai ac addysg, hefyd yn ceisio cynyddu agweddau ac ymddygiad cymdeithasol, annog perthynas gadarnhaol â theulu a ffrindiau, a gwella hunan-barch a chymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chyfleoedd cadarnhaol. Gall datblygu hunaniaeth gymdeithasol arwain at leihau agweddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fel ymddygiad ymosodol neu gamddefnyddio sylweddau ac fe all olygu eu bod yn ymwneud llai â thrais a throseddu.ity may lead to reductions in antisocial attitudes and behaviours such as aggression or substance misuse and may reduce involvement in violence and offending.

A yw’n effeithiol? 

Ar gyfartaledd, mae rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl bod yn y ddalfa  yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddau treisgar.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl bod yn y ddalfa yn lleihau euogfarnau 14%.

Fodd bynnag, mae’r ymchwil yn dangos canfyddiadau cymysg yn ymwneud â chanlyniadau cyfiawnder troseddol eraill. Er enghraifft, canfu’r adolygiad hefyd fod rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl y ddalfa yn lleihau nifer yr arestiadau 3%, ac yn cynyddu’r nifer sy’n cael eu rhoi yn y ddalfa 11%. Efallai mai gwendidau yn yr astudiaethau sydd i gyfrif am y gwahaniaethau hyn yn y canlyniadau. Nifer fechan o blant a gynhwyswyd yn y rhan fwyaf o’r astudiaethau ac adroddasant am heriau yn cyflwyno’r rhaglen gefnogi lawn. Yn ogystal, fe wnaeth un astudiaeth werthuso cartref gofal i blant, lle’r oedd llai na hanner y plant a oedd yn rhan o’r astudiaeth wedi cyflawni trosedd difrifol, ac roedd llawer heb gyflawni dim troseddau ond eu bod wedi cael eu dychwelyd i ofal diogel oherwydd anghenion ymddygiad ac iechyd meddwl cymhleth.

Pa mor gadarn yw’r dystiolaeth?  

Mae gennym gryn hyder yn ein hamcangyfrif o’r effaith arferol ar droseddu treisgar.

Ni roesem y sgôr cadernid tystiolaeth uchaf i’r amcangyfrif o’r effaith ar euogfarnau. Er ei fod yn seiliedig ar 13 astudiaeth, dim ond pedwar o’r rhain oedd yn astudiaethau o ansawdd uchel.  

Mae’r sgôr cadernid tystiolaeth yn uchel iawn ar gyfer yr effaith ar arestiadau oherwydd ei bod yn seiliedig ar 14 o astudiaethau, ac roedd yn cyrraedd y trothwy ar gyfer o leiaf pum astudiaeth o ansawdd uchel.

Hyder cymedrol sydd gennym yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar gyfraddau cadw gan ei fod yn seiliedig ar wyth astudiaeth, gyda phedair o’r rheini yn rhai ansawdd uchel.

Dwy astudiaeth yn unig a gynhaliwyd yn y DU. Roedd y ddwy yn gwerthuso rhaglen ailsefydlu uwch, a ddarparai wasanaethau a chefnogaeth y tu hwnt i ddarpariaeth sylfaenol y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid. Dangosodd un gwerthusiad yng ngogledd orllewin Lloegr ostyngiad mewn ail-euogfarnau, tra dangosodd ail werthusiad yn ne-orllewin Lloegr gynnydd mewn arestiadau.

O’r Unol Daleithiau y daeth y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn yr adolygiad, ac roedd dros hanner yr astudiaethau yn cynnwys bechgyn yn unig.

Rhaglenni a oedd yn cynnwys darparwyr gwasanaethau yn y gymuned, a rhai nad oeddent yn cynnwys swyddog prawf, a ddangosai’r effaith fwyaf ar leihau canlyniadau cyfiawnder.

Sut mae modd ei ddefnyddio’n effeithiol?  


Creu a chynnal proses rannu gwybodaeth gadarn ar draws asiantaethau

Gall prosesau cyfathrebu, cydlynu a rhannu gwybodaeth clir rhwng gweithwyr achosion a’r amrywiol asiantaethau sy’n ymwneud â darparu cymorth leihau bylchau yn y gwasanaeth yn ystod y cyfnod pontio i’r gymuned. Mae arweinydd strategol ymroddedig yn ofynnol i ddwyn cynrychiolwyr

asiantaethau allweddol ynghyd i roi sylw i unrhyw broblemau ailsefydlu. Dylid mabwysiadu arferion gweinyddol effeithlon hefyd er mwyn osgoi llenwi ffurflenni a chadw cofnodion yn ailadroddus a sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl yn cael ei rhannu ar draws asiantaethau.

Mae meithrin perthynas dda gyda sefydliadau cymunedol a chytuno ar wasanaethau cymorth sydd wedi’u dewis ymlaen llaw yn gallu ei gwneud yn haws i blant gael gafael ar wasanaethau. Mae cynnwys rhieni a gofalwyr yn y broses hefyd yn gallu helpu plant i ymrwymo i’r gwasanaethau a ddarperir iddynt.

Sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cydlynu ochr yn ochr â chynlluniau sy’n bodoli eisoes

Gall rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu elwa o gynlluniau sy’n helpu plant i feithrin cysylltiadau â’r gymuned cyn eu rhyddhau. Er enghraifft, gall Rhyddhau ar Drwydded Dros Dro (ROTL) hwyluso cyfleoedd i fynychu dyddiau rhagflas addysg, i fynd i weld llety, neu i ymweld â sefydliadau cymunedol a allai ddarparu cefnogaeth barhaus ar ôl eu rhyddhau.

Recriwtio a chynnal staff ymroddedig a gofalgar

Mae’r lefelau trosiant staff yn aml yn uchel mewn rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl y ddalfa. Sicrhewch fod yr arweinyddiaeth yn dangos eu cefnogaeth, bod staff yn cael eu cefnogi’n effeithiol, a bod llwythi achosion yn cael eu monitro er mwyn lleihau’r pwysau ar staff. Dylai’r berthynas rhwng plant a gweithwyr achos fod yn gyson heb fawr o newid ymysg aelodau’r tîm lle bo hynny’n bosibl. Dylai perthnasoedd gael eu meithrin ar ymddiriedaeth ac empathi a dylid eu datblygu ar ddechrau’r ddedfryd a’u cynnal tan yr adeg pan fydd y plant yn cael eu rhyddhau ac yn ailsefydlu yn y gymuned. 

Rhoi cefnogaeth barhaus

Mae’r dedfrydau’n fyr yn aml, felly ychydig iawn o amser a geir i gynllunio ar gyfer y trawsnewid, i wneud gweithgareddau paratoi, ac i drefnu cefnogaeth ar ôl rhyddhau. Dylai rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl y ddalfa roi cefnogaeth i blant ar unwaith pan fyddant yn dychwelyd i’r gymuned. Dylai pob gweithiwr achos gysylltu â’r plentyn yn gynnar ac yn gyson er mwyn meithrin ymddiriedaeth, deall a diweddaru’r asesiadau o angen a chynllunio a theilwra’r gefnogaeth barhaus.

Gall y pontio oddi wrth wasanaethau ieuenctid i wasanaethau oedolion fod yn anodd. Ni ddylai gwasanaethau ddefnyddio terfynau oedran llym a dylai gwasanaethau ieuenctid ac oedolion gydweithio i roi cefnogaeth barhaus yn ystod y cyfnod pontio.

Beth yw’r gost?  

Ar gyfartaledd, mae cost rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl y ddalfa yn debygol o fod yn uchel.

Mae’r costau’n debygol o amrywio oherwydd bod y rhaglenni yn aml yn defnyddio nifer o wasanaethau ac ymyriadau i fodloni anghenion amrywiol y plant a gafodd ddedfryd o garchar. Y prif gostau yw staffio, gan gynnwys cydlynwyr, gweithwyr achos, gweithwyr cefnogi sy’n gysylltiedig ag ymyriadau, a gweinyddwyr.

Gwnaed gwerthusiad o dri chonsortiwm ailsefydlu a oedd yn cynnig arlwy lefel uwch o’u cymharu â’r ddarpariaeth statudol, a gwelwyd eu bod yn costio rhwng £2,800 a £4,500 am bob plentyn sy’n cael ei gefnogi am flwyddyn tra mae yn y ddalfa ac ar ôl ei ryddhau.

Crynodeb o’r pwnc 

  • Mae rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl y ddalfa yn cynnig amrywiol fathau o  wasanaethau cefnogi i roi sylw i anghenion plant sy’n cael eu dedfrydu i’r ddalfa i helpu i’w hailintegreiddio i’r gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
  • Mae’r rhaglenni’n cynnwys rheolaeth achosion ddwys a gallant ddarparu amrywiol wasanaethau cefnogi i roi sylw i anghenion sy’n ymwneud ag iechyd corfforol a meddyliol, camddefnyddio sylweddau, tai, addysg, lles a pherthnasoedd teuluol.
  • Ar gyfartaledd, mae rhaglenni ôl-ofal ac ailsefydlu ar ôl y ddalfa  yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddau treisgar. Cymysg oedd canlyniadau’r ymchwil fodd bynnag. Mae’r astudiaeth yn dangos, ar gyfartaledd, effaith gadarnhaol ond bychan ar leihau arestiadau, a dengys chwe astudiaeth gynnydd mewn canlyniadau caethiwo.
  • Er mwyn gweithredu’n llwyddiannus, dylai gweithwyr achos yn y ddalfa ac yn y gymuned fod yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd, dylid cael staff ymroddedig a gofalgar, a rhoi cefnogaeth barhaus i blant ar ôl iddynt gael eu rhyddhau’n ôl i’r gymuned.

Negeseuon allweddol

  • Cynigiwch raglenni ôl-ofal ac ailsefydlu i blant sy’n cael dedfryd gaethiwo.
  • Sicrhewch fod yr holl asiantaethau’n cydweithio’n dda â’i gilydd a bod y staff cyflwyno’n cael eu cefnogi i ddarparu gwasanaeth cyson i blant cyn ac ar ôl eu rhyddhau o’r ddalfa.

Dolenni allanol 

Adsefydlu adeiladol

Adnoddau a fwriedir i helpu i weithredu Adsefydlu Adeiladol yn ymarferol.

Canllaw rheoli achosion y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid

Sut i weithio gyda phlant yn y ddalfa a chynllunio ar gyfer eu dyfodol. Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am sut i wneud y broses ailsefydlu yn un adeiladol a sut i gyflawni hynny’n ymarferol.

Canllaw Supporting Children on their Journey: Constructive Resettlement Guidance Document 

Mae Consortiwm Adsefydlu De a Gorllewin Swydd Gaerefrog wedi datblygu a rhannu dogfen ganllaw gyda thempledi ac adnoddau cysylltiedig i gefnogi plant ar eu siwrnai ailsefydlu o’r adeg cyn ac ar ôl eu hamser yn y ddalfa.

Dadlwythiadau