Ymyriadau gwyliedyddion i atal ymosodiadau rhywiol
Rhaglenni sy’n helpu pobl ifanc i adnabod ac i ymyrryd mewn ymosodiadau rhywiol posibl
Rhaglenni sy’n helpu pobl ifanc i adnabod ac i ymyrryd mewn ymosodiadau rhywiol posibl
Mae ymyriadau gan wyliedyddion i atal ymosodiadau rhywiol yn anelu at rymuso a helpu plant a phobl ifanc i ymyrryd pan fo’n bosibl bod ymosodiadau rhywiol yn digwydd. Maen nhw’n dysgu cyfranogwyr i adnabod arwyddion rhybudd cynnar ac ymyrryd yn ddiogel i atal ymosodiadau rhywiol rhag digwydd. Er enghraifft, gallent addysgu cyfranogwyr i ddeall a sylwi ar ymddygiad rheolaethol neu sarhaus, neu sefyllfaoedd lle mae rhywun yn cael ei ecsbloetio. Maen nhw’n annog cyfranogwyr i deimlo ymdeimlad o ddyletswydd yn y sefyllfaoedd hyn a rhoi enghreifftiau pendant iddyn nhw o bethau y gallant eu gwneud neu eu dweud i ymyrryd yn ddiogel. Er enghraifft, dechrau sgwrs gyda’r dioddefwr neu’r drwgweithredwr posibl, neu ymyrryd yn gorfforol i atal dioddefwr posibl rhag cael ei harwain i ffwrdd i le ynysig. Mae rhaglenni’n archwilio agweddau a rhagdybiaethau am drais rhywiol, caniatâd rhywiol, empathi i ddioddefwyr o drais rhywiol, a mythau am rôl ymddygiad dioddefwyr mewn trais rhywiol.
Fel arfer mae’r rhaglenni hyn yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 14 oed ac yn hŷn mewn ysgolion uwchradd, sefydliadau addysg bellach, neu brifysgolion. Gallai gweithgareddau gynnwys sesiynau addysgol a ddarperir gan hwylusydd hyfforddedig, ymarferion chwarae rôl neu drafod, fideos addysgol ar-lein, ac ymgyrchoedd trwy gyfryngau mewn ysgolion neu brifysgolion, fel posteri a thaflenni.
Mae sawl damcaniaeth bosibl ar gyfer pam y gallai’r rhaglenni hyn atal trais rhywiol. Os yw rhaglenni’n llwyddo i gefnogi pobl ifanc i ymyrryd yna gallai hyn atal ymosodiadau rhywiol a gyflawnir gan gyfoedion pobl ifanc a chan y cyhoedd ehangach. Esboniad amgen yw y gall y rhaglenni hyn leihau’r tebygolrwydd y bydd cyfranogwyr eu hunain yn cyflawni ymosodiad rhywiol. Gallai’r cyfranogwyr fod yn llai amddiffynnol ac yn fwy parod i dderbyn gwybodaeth os ydyn nhw’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r ateb posibl yn hytrach nag fel drwgweithredwyr posibl.
Defnyddir hyfforddiant ar ymyrraeth gan wyliedyddion hefyd wrth atal mathau eraill ar drais. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni lle mae’r rhai sy’n ‘torri ar draws trais’ yn ymyrryd i atal gwaethygu gwrthdaro treisgar rhwng grwpiau. Fodd bynnag, mae’r crynodeb Pecyn Cymorth hwn yn canolbwyntio’n benodol ar ymyriadau i atal ymosodiadau rhywiol. Mae’r YEF yn bwriadu cynnwys mathau eraill ar ymyrraeth gan wyliedyddion yn y Pecyn Cymorth yn y dyfodol.
Mae’r ymchwil ar effaith y rhaglenni hyn yn gymhleth. Nod y rhaglenni hyn yw cefnogi pobl i ymyrryd yn ddiogel i atal ymosodiadau rhywiol posibl y gallen nhw ddod ar eu traws yn gyhoeddus neu ymysg eu grwpiau cymheiriaid. Mae ymchwil yn awgrymu y gall rhaglenni fod yn effeithiol wrth gefnogi pobl i wneud y math hwn o ymyrraeth. Fodd bynnag, nid yw ymchwil wedi llwyddo i fesur yr effaith ar achosion pan fydd y cyhoedd ehangach yn ymosod yn rhywiol. Mae’n ymddangos y gall yr hyfforddiant hwn gefnogi plant a phobl ifanc i weithredu ond nid ydym yn gwybod a yw’r gweithredoedd hyn yn arwain at lai o achosion o drais rhywiol gan bobl eraill.
Mae’r ymchwil yn gryfach ar effaith yr hyfforddiant hwn ar debygolrwydd y bydd y cyfranogwyr eu hunain yn cyflawni ymosodiad rhywiol. Mae’n awgrymu bod ymyriadau gan wyliedyddion yn debygol o gael effaith gymedrol ar leihau rhan y cyfranogwyr eu hunain mewn ymosodiadau rhywiol.
Mae gennym hyder isel yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar drais rhywiol.
Mae ein hyder yn isel gan mai dim ond pedair astudiaeth sydd, sy’n edrych ar effaith yr ymyriadau hyn ar drais rhywiol. Cynhaliwyd y pedair astudiaeth gyda bechgyn a dynion ifanc. Nid oedd yr un o’r astudiaethau hyn yn dod o’r DU. Roedd tri yn dod o’r Unol Daleithiau ac un o India.
Mae tair astudiaeth berthnasol o’r DU, ond ni wnaethon nhw fesur yr effaith ar drais rhywiol na throseddu. Canfu’r astudiaethau effeithiau cadarnhaol ar wybodaeth ac ymwybyddiaeth cyfranogwyr o drais rhywiol a hyder i ymyrryd mewn digwyddiadau posibl. Mae’r rhain yn cynnwys gwerthusiadau o:
Hwyluswyr sydd wedi cael eu hyfforddi’n dda
Mae’r ymchwil yn awgrymu bod rhaglenni’n cyflawni mwy o ymgysylltu gan blant a phobl ifanc pan fydd yr hwyluswyr wedi cael eu hyfforddi’n dda a’u bod yn hyderus wrth siarad am ryw, am berthnasoedd iach, ac am drais rhywiol. Yn gyffredinol, mae’r sesiynau’n fwy atyniadol a gallan nhw arwain at ganlyniadau dysgu gwell pan fyddan nhw yn cynnwys ymarferion rhyngweithiol ac yn hyrwyddo trafodaethau rhwng plant a phobl ifanc.
Cynnwys sy’n briodol i oedran
Dylai cynnwys y rhaglenni hyn fod yn briodol i oedran y plant dan sylw. Bydd plant o grwpiau oedran gwahanol yn debygol o ddod ar draws sefyllfaoedd cymdeithasol gwahanol a dylai’r cynnwys adlewyrchu hyn.
Mwy nag un sesiwn
Mae rhai darnau o ymchwil yn awgrymu y gallai rhaglenni sy’n cynnwys mwy nag un sesiwn gael mwy o effaith ar newid agweddau tuag at drais rhywiol. Yn ddelfrydol, cyflwynir dwy sesiwn neu fwy ychydig wythnosau ar wahân, er mwyn rhoi amser i fyfyrio a thrafodaethau anffurfiol gyda chyfoedion.
Adborth gan gyfranogwyr
Gall ymyriadau sy’n herio agweddau a chredoau sy’n gysylltiedig â stereoteipiau rhyw a rôl ymddygiad dioddefwyr mewn perthynas â thrais rhywiol achosi gelyniaeth, dicter neu wthio yn ôl mewn nifer fach o bobl. Gelwir hyn yn ‘effaith adlach’, pan fydd pobl sydd â chredoau cryf iawn yn ymateb yn negyddol i gael eu cyflwyno i ffyrdd newydd o feddwl. Mae’n bwysig cipio adborth yn rheolaidd gan gyfranogwyr, yn ffurfiol neu’n anffurfiol, i nodi unrhyw unigolion a allai amharu ar y broses o greu agweddau a rennir a normau newydd gan gyfoedion ynghylch atal trais rhywiol.
Ar gyfartaledd, mae cost ymyriadau gan wyliedyddion i atal rhaglenni ymosodiadau rhywiol yn debygol o fod yn isel.
Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar raglenni sy’n cynnwys un ymyrraeth hyd at raglen sy’n darparu hyd at dair sesiwn sy’n para tua dwy awr. Fel arfer, byddai’r sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno gan hwyluswyr allanol neu gan athrawon hyfforddedig. Mae’r costau yn aml yn cynnwys amser yr hwylusydd neu’r staff, costau teithio, deunyddiau sesiwn a chyfryngau cysylltiedig fel posteri a thaflenni. Byddai’n debygol y byddai’r gost fesul cyfranogwr tua £250 – £500, gan gymryd y bydd o leiaf 20 o gyfranogwyr.
The Scottish Intervention Initiative Toolkit
Pecyn Cymorth i hyrwyddo newidiadau yn yr amgylchedd cymdeithasol i helpu i atal treisio ac ymosod yn rhywiol a thrais domestig mewn lleoliadau Prifysgolion ac Addysg Bellach.
Public Health England Guidance on Bystander Interventions
Cynhaliodd Public Health England adolygiad o dystiolaeth gyflym a oedd yn cynnwys ymyriadau gwyliedyddion i atal trais rhywiol, ac mae’r canllawiau hyn yn rhannu enghreifftiau o ymyriadau.
Adroddiad Ymchwil Menter Gwyliedyddion Cymorth i Ferched Cymru
Adroddiad ymchwil yn gwerthuso’r Fenter Gwyliedyddion mewn pedair prifysgol yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn galw am ddarparu hyfforddiant ymyrraeth gwyliedyddion i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed.
Sesiwn Briffio’r Coleg Plismona ar Raglenni Ymyrraeth Gwyliedyddion
Dyma sesiwn friffio 20 tudalen sy’n crynhoi’r dystiolaeth ar effeithiolrwydd rhaglenni gwyliedyddion i atal ymosodiad rhywiol ymhlith pobl ifanc.