Skip to content

Therapi Teuluol Swyddogaethol (FFT)

Therapi i deuluoedd sy’n helpu hyrwyddo cyfathrebu positif rhwng rhieni a phlant.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

CYMEDROL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Cartref
  • Gymuned

Sectorau

Beth yw e?

Therapi i deuluoedd yw Therapi Teuluol Swyddogaethol (FFT) ar gyfer plant rhwng 10 ac 17 oed a’u teuluoedd. Mae ar gyfer teuluoedd lle mae gwrthdaro rhwng unigolion yn y teulu. Y nod yw ceisio gwella cyfathrebu a pherthnasoedd rhwng aelodau’r teulu.  

Rhaglen weithredol yw FFT dan arweiniad therapyddion cymwys. Mae modd ei defnyddio gyda phlant mewn perygl o ddod ynghlwm wrth drais, troseddau neu gam-drin sylweddau, neu sydd eisoes ynghlwm wrthynt. Fel arfer, mae’r rhaglenni’n darparu sesiynau wythnosol dros gyfnod o 12 wythnos, sydd fel arfer yn cynnwys 12 i 14 sesiwn therapi. Gall hyn amrywio, yn dibynnu ar anghenion y teulu. Fel arfer, mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal gartref neu mewn ystafell therapi. Yn aml, mae therapyddion yn darparu cymorth ‘allan i oriau’ ac yn ateb galwadau ffôn gan aelodau’r teulu i roi cyngor neu gefnogaeth.

Fel arfer, mae FFT yn cynnwys pum cam:

  1. Ymgysylltu â’r plentyn ac aelodau’r teulu a hyrwyddo safbwynt positif, hynny yw, y bydd cymryd rhan yn y rhaglen yn helpu creu deilliannau positif.
  2. Helpu aelodau’r teulu i addasu emosiynau negyddol, megis teimlo’n anobeithiol neu weld bai, a gwella cymhelliant i newid ymddygiad.
  3. Asesu’r cryfderau a’r problemau ynghlwm wrth y ffordd mae’r teulu’n gweithio ar hyn o bryd.
  4. Darparu hyfforddiant pwrpasol i’r plentyn ac aelodau’r teulu, ar sail eu hanghenion penodol. Er enghraifft, sgiliau gwrando, rheoli dicter a goruchwylio fel rhiant.
  5. Cyffredinoli sgiliau ac ymddygiad newydd i helpu cynnal newidiadau dros amser. Mae hyn yn cynnwys ymarfer defnyddio sgiliau newydd i berthnasoedd y tu allan i’r cartref, megis gydag ysgolion, sefydliadau cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill.

Mae’r dull yn canolbwyntio ar helpu teuluoedd ddeall yr achosion cyffredinol, sbardunau a chanlyniadau eu hymddygiad, ac yn eu helpu i roi newidiadau positif ar waith. Mae FFT yn awgrymu y dylai gwelliannau wrth gyfathrebu, mewn ymddygiad a chymorth rhwng aelodau’r teulu arwain at leihad o ran anawsterau ymddygiadol a chyfranogiad mewn trosedd neu drais.

Yw e’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae’n debygol y bydd Therapi Teuluol Swyddogaethol (FFT) yn cael effaith gymedrol ar droseddau treisgar. Fodd bynnag, prin iawn yw’r ymchwil ar FFT ac mae llawer o amrywiaeth o ran deilliannau.

Roedd rhai astudiaethau’n awgrymu bod yr effaith yn uwch, ac eraill yn awgrymu fel arall. Roedd rhai astudiaethau’n dangos mwy o effaith 6 mis i flwyddyn wedi’r rhaglen, ac eraill yn dangos llai o effeithiau deunaw mis wedi’r rhaglen. Mae dwy astudiaeth yn dangos effaith gymedrol ar droseddu wedi dwy flynedd.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos canlyniadau cymysg o ran effaith ar ymddygiad. Mae rhai astudiaethau’n dangos effaith fechan ar anawsterau ymddygiadol 6 mis i flwyddyn wedi’r rhaglen, ac eraill yn dangos effaith gymedrol ar ôl deunaw mis. Mae rhai astudiaethau’n dangos cynnydd bach mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol rhwng chwe a deunaw mis wedi diwedd y rhaglen.

Roedd un astudiaeth yn cynnwys plant a phobl ifanc ynghlwm wrth y system gyfiawnder droseddl yn y DU wedi canfod effaith gymedrol ar leihau troseddu.

Pa mor gadarn yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder isel o ran ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar droseddau treisgar.

Mae ein hyder yn isel gan fod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar chwe astudiaeth, ac mae llawer o amrywiaeth yng nghanfyddiadau’r astudiaethau hynny.

Dim ond un o’r chwe astudiaeth a oedd yn rhan o’r sgôr effaith gafodd ei chynnal yn y DU.

Sut gallwch chi ei roi ar waith mewn ffordd effeithiol?

Creu perthynas hygyrch a dibynadwy rhwng y therapydd a’r teulu.  

Mae Therapi Teuluol Swyddogaethol yn dibynnu ar berthynas dda rhwng y teulu a’r therapydd. Mae teuluoedd yn fwy tebygol o ymgysylltu â’r rhaglen pan fo therapyddion yn gweithio mewn ffordd gydweithredol â rhieni, pan maen nhw’n hygyrch i aelodau’r teulu, a phan maen nhw’n gweithio gyda’r un therapydd ar gyfer y rhaglen gyfan.

Paratoi rhanddeiliaid allweddol ar gyfer systemau a phrosesau ychwanegol.

Mae’n bosibl y bydd cynnal rhaglen FFT yn golygu system rheol achosion ychwanegol. Dylid sicrhau amser gyda thimau awdurdodau lleol perthnasol i ddylunio a gweithredu proses sy’n lleihau baich gwaith gweinyddol ychwanegol.

Adnabod a rheoli galw uchel ar wasanaethau gan deuluoedd.

Mae llawer o’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd sy’n gymwys ar gyfer FFT o bosibl ynghlwm wrth wasanaethau a gweithgareddau eraill, a gallai hyn leihau eu parodrwydd i gymryd rhan. Dylid sicrhau bod cyfathrebu amserol ac effeithiol rhwng teuluoedd, therapyddion, awdurdodau lleol a thimau cyfiawnder ieuenctid, fel bod modd cynlluniau sesiynau sy’n gyfleus i bawb.  

Pa raglenni sydd ar gael?

Faint mae’n gostio?

Ar gyfartaledd, mae’n debygol bod Therapi Teuluol Swyddogaethol yn ddrud.  

Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar raglenni sy’n cynnal 12 i 14 sesiwn, dros gyfnod o dri i chwe mis. Gall y pris amrywio’n sylweddol ar sail anghenion y teulu, lle bydd rhai angen cyn lleied ag wyth awr, ac eraill angen cymaint â 30 awr. Y brif gost ynghlwm wrth y rhaglen yw’r therapydd cymwys, a mân gostau ychwanegol ynghylch deunyddiau wedi’u hargraffu a sesiynau cymorth. Adroddodd y rhaglen Step Change yn Llundain gost gyfartalog o £3,465 y plentyn.   

Prosiectau ac arfarniadau YEF 

Ariannodd YEF astudiaeth beilot o Gangiau Therapi Teuluol Swyddogaethol (FFT-G) dan arweiniad Family Psychology Mutual. Darparwyd cefnogaeth ddwys yn y cartref dros dri i bum mis i bobl ifanc rhwng 10 ac 17 oed oedd mewn perygl o ddod ynghlwm wrth rwydweithiau cyffuriau ffiniau sirol neu gamfanteisio’n droseddol ar blant. Nod y rhaglen oedd gwella diogelwch, lles a sefydlogrwydd teuluoedd a phlant, a lleihau troseddu. Gallwch ddarllen yr arfarniad yma.

Crynodeb o’r Pwnc

  • Mae Therapi Teuluol Swyddogaethol (FFT) yn therapi i deuluoedd ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 10 ac 17, a’u teuluoedd. Nod y dull hwn yw lleihau anawsterau ymddygiadol drwy wella cyfathrebu a pherthnasoedd rhwng aelodau’r teulu.
  • Ar gyfartaledd, mae Therapi Teuluol Swyddogaethol (FFT) yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddau treisgar. Fodd bynnag, mae gennym hyder isel yn yr amcangyfrif hwn gan fod y dystiolaeth ar FFT yn wan, ac mae’r astudiaethau’n dangos canlyniadau cymysg.
  • Mae’n bosibl y bydd y plant a’r teuluoedd y mae FFT wedi’i ddylunio ar eu cyfer eisoes ynghlwm wrth wasanaethau a gweithgareddau eraill gydag awdurdodau lleol a gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae parodrwydd i ymgysylltu mewn FFT yn hanfodol i’w lwyddiant, a gellid hwyluso hyn drwy gydlynu apwyntiadau a sicrhau bod therapyddion yn meithrin perthnasoedd da gyda theuluoedd.
  • Mae FFT yn ddull drud sy’n cynnwys darpariaeth ddwys dan arweiniad therapydd cymwys.

Dolenni Allanol

Functional Family Therapy Logic Model

Model Rhesymeg wedi’i greu gan Ganolfan Gymorth Atal ar sail Tystiolaeth ac Ymyrryaeth (EPISCenter) ym Mhrifysgol Talaith Penn.

Dadlwythiadau