Teledu cylch cyfyng
Defnyddio teledu cylch cyfyng (CCTV) i atal trais.
Defnyddio teledu cylch cyfyng (CCTV) i atal trais.
Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yw’r camerâu gwyliadwriaeth a ddefnyddir er mwyn recordio fideo mewn mannau cyhoeddus.
Mae dau ddull gwahanol o fonitro teledu cylch cyfyng. Un dull yw sicrhau bod pobl yn monitro ffrwd fyw y camerâu gwyliadwriaeth yn weithredol. Dydy’r dull arall ddim yn cynnwys monitro gweithredol – mae’r camerâu yn recordio ac yn storio fideo y gellir ei wylio yn nes ymlaen os oes angen. Yn aml, gweithredir teledu cylch cyfyng ochr yn ochr â mathau eraill o weithgarwch megis arwyddion sy’n nodi bod teledu cylch cyfyng ar waith, goleuo gwell, gweithrediadau’r heddlu, swyddogion diogelwch, rheoli mynediad ac allgymorth cymunedol.
Mae ymchwilwyr wedi awgrymu gwahanol resymau pam y gallai teledu cylch cyfyng atal trais. Gallai bod yn ymwybodol o bresenoldeb teledu cylch cyfyng yn yr ardal atal pobl rhag ymddwyn yn dreisgar. Gallai’r heddlu ddefnyddio teledu cylch cyfyng i adnabod a dal troseddwyr. Gallai hefyd gefnogi ymchwiliadau’r heddlu trwy ddarparu tystiolaeth weledol.
Ar gyfartaledd, mae teledu cylch cyfyng yn debygol o gael effaith isel ar droseddu treisgar.
Mae ymchwil ryngwladol yn awgrymu bod teledu cylch cyfyng, ar gyfartaledd, wedi lleihau trais 4% yn unig, a lleihau troseddau yn gyffredinol 10%.
Mae ymchwil yn y DU wedi darganfod bod teledu cylch cyfyng yn cael effaith gymedrol ar droseddau yn gyffredinol, sy’n cyfateb i ostyngiad o 18%mewn trosedd.
Mae ymchwilwyr hefyd wedi darganfod bod camerâu teledu cylch cyfyng yn fwy effeithiol pan oeddent:
Nid ydym yn hyderus iawn yn ein hamcan o’r effaith ar droseddu treisgar ar gyfartaledd. Mae’r amcan hwn yn seiliedig ar adolygiad o 29 astudiaeth. Nid ydym wedi dyfarnu sgôr uwch oherwydd ansawdd isel yr ymchwil, yr amrywiad yn yr effeithiau a ganfuwyd, a’r ffaith bod yr ymchwil yn cynnwys plant ac oedolion ac felly ddim yn mynd i’r afael â’r effaith ar blant ar wahân.
Mae’r ymchwil ar deledu cylch cyfyng yn y Deyrnas Unedig yn anarferol o gynhwysfawr. Canfuom 34 astudiaethau sydd yn archwilio effaith teledu cylch cyfyng ar droseddu yn gyffredinol yn y DU.
Roedd gwerthusiad o 13 o fentrau teledu cylch cyfyng ledled Lloegr yn nodi’r blaenoriaethau hyn er mwyn gweithredu’n effeithiol:
Defnyddio data ac ymgysylltu â’r heddlu lleol er mwyn nodi’r lleoliadau gorau i ddefnyddio camerâu. Gosod amcanion clir, pennu’r mathau o droseddau sydd yn rhaid eu datrys a chytuno ar oriau monitro gweithredol. Dylai’r wybodaeth hon hefyd lywio penderfyniadau am gamerâu llonydd neu symudol a’r angen am gamerâu sydd â pherfformiad dydd neu nos arbenigol.
Ystyriwch ddwysedd, cwmpas a safle’r camerâu
Awgrymodd yr ymchwil rai ystyriaethau allweddol er mwyn pennu safle’r camerâu:
Gweithrediad yr ystafell reoli
Gall ystafelloedd rheoli sy’n gallu cyfathrebu’n uniongyrchol â’r heddlu fod yn fwy effeithiol. Gall hyn olygu bod swyddog yr heddlu yn bresennol yn yr ystafell reoli, neu fod llinell adrodd uniongyrchol y gellir ei defnyddio. Yn aml, nid yw ystafelloedd rheoli yn gysylltiedig â’r heddlu a’r cwbl y mae modd ei wneud yw gwylio trosedd yn digwydd a ffonio 999, heb unrhyw flaenoriaeth dros alwadau am wasanaeth.
Mae cost cynlluniau teledu cylch cyfyng yn debygol o fod yn uchel.
Awgrymodd adolygiad o 14 o gynlluniau teledu cylch cyfyng yn 2015 ei bod yn costio £23,132 ar gyfartaledd i osod camera yn y DU. Yn ogystal â hynny, mae’n costio £3,911 y flwyddyn i redeg camera ar gyfartaledd. Mae’r defnydd mwyaf effeithiol o deledu cylch cyfyng yn cynnwys monitro gwyliadwriaeth fideo yn weithredol mewn ystafell reoli, sy’n golygu talu staff diogelwch neu neilltuo amser swyddogion heddlu, a allai gostio £20,000 i £45,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar y rôl a’r oriau monitro gweithredol.
Crynodeb y Coleg Plismona ar effaith teledu cylch cyfyng ar droseddu
Mae’r crynodeb hwn o dystiolaeth yn ystyried pob math o ddulliau atal troseddu yn ehangach.
Canllawiau’r Swyddfa Gartref ar ddefnyddio teledu cylch cyfyng
Gwybodaeth ar gyfer gosod a defnyddio camerâu teledu cylch cyfyng.
Canllawiau’r Comisiynydd Gwybodaeth ar ddefnyddio gwyliadwriaeth fideo
Mae’r canllawiau hyn yn rhannu gwybodaeth am brosesu a diogelu data.