Skip to content

Rhaglenni magu plant

Rhaglenni sy’n helpu rhieni a’u plant i ddatblygu perthnasoedd ac ymddygiad cadarnhaol.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

ISEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd

Lleoliad

  • Cartref
  • Gymuned

Themâu

  • Cymorth i’r teulu

Deilliannau Eraill

Ansawdd y dystiolaeth

  • Gostyngiad MAWR mewn Anawsterau ymddygiad
    1 2 3 4 5

Beth ydyw?

Mae rhaglenni magu plant yn cefnogi rhieni i gryfhau eu perthynas gyda’u plant a hyrwyddo datblygiad cadarnhaol. Eu nod yw helpu rhieni i wneud y canlynol:

  • Datblygu perthynas ofalgar ac ymatebol gyda’u plentyn.
  • Datblygu ymwybyddiaeth o ymddygiad eu plentyn ac ymateb mewn ffordd gadarnhaol, gyson a di-drais.
  • Cefnogi’r plentyn i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.

Gallai’r dulliau hyn o fagu plant helpu plant i reoli eu hemosiynau a chefnogi ymddygiad cadarnhaol. Mae ymchwil yn dangos fod plant sy’n datblygu anawsterau ymddygiad yn fwy tebygol o ymwneud â throseddu a thrais.

Mae rhaglenni magu plant yn aml yn gweithio gyda rhieni plant ifanc sy’n ymddwyn mewn ffordd heriol. Mae oedran y plant yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen, ond cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r gwerthusiadau gyda rhieni plant 3 – 8 oed.

Gall rhaglenni weithio gyda rhieni unigol ond fe’u cyflwynir yn aml i grŵp o rieni mewn sawl sesiwn dros sawl wythnos. Cyflwynir y rhan fwyaf gan hwyluswyr hyfforddedig mewn lleoliad cymunedol. Fodd bynnag, mae rhai rhaglenni ar-lein hefyd sy’n defnyddio arddangosiadau a gweithgareddau sydd wedi’u recordio ymlaen llaw.

Mae gweithgareddau cyffredin yn cynnwys:

  • Trafodaethau grŵp i rieni rannu’r heriau a’r llwyddiannau maent yn eu profi yn eu perthynas â’u plant.
  • Enghreifftiau o ryngweithio cadarnhaol gyda phlant. Er enghraifft, efallai y bydd rhieni’n gwylio fideo o ryngweithio rhwng rhiant a phlentyn ac yna’n trafod ac yn pwyso a mesur ymddygiad y plentyn ac ymateb y rhiant.
  • Ymarferion chwarae rôl. Er enghraifft, efallai y bydd rhai rhieni yn y grŵp yn chwarae rôl plentyn sy’n gwrthod rhannu tegan â phlentyn arall. Mae hyn yn rhoi cyfle i rieni eraill ymarfer gwahanol strategaethau a chael adborth gan hwylusydd y rhaglen a gweddill y grŵp.
  • Gwaith cartref ymarferol i rieni ei wneud rhwng sesiynau. Er enghraifft, efallai y bydd hwylusydd y rhaglen yn gofyn i rieni ymarfer strategaethau gartref gyda’u plentyn a rhannu eu profiadau yn y sesiwn nesaf.
  • Fforymau ar-lein neu drafodaethau wyneb yn wyneb sy’n annog rhieni i rannu strategaethau y maent wedi bod yn eu defnyddio.
  • Mae’n bosib y bydd yr hwyluswyr yn ymweld â rhai rhieni gartref i ddarparu hyfforddiant un-i-un.

A yw’n effeithiol?

Mae tystiolaeth gref y gall rhaglenni magu plant fod yn effeithiol o ran lleihau anawsterau ymddygiad, sy’n gysylltiedig ag ymwneud â thrais yn ddiweddarach. Fodd bynnag, mae diffyg ymchwil sy’n mesur effaith rhaglenni magu plant yn uniongyrchol ar droseddu a thrais. Ar sail y dystiolaeth bresennol, ein hamcangyfrif gorau yw y gallai rhaglenni magu plant arwain at ostyngiad bychan mewn troseddau treisgar.

Mae’r rhan fwyaf o’r gwerthusiadau wedi dangos effeithiau cadarnhaol sy’n awgrymu bod risg isel y bydd rhaglenni’n cael effaith niweidiol. Mae tystiolaeth hefyd y gellir cynnal yr effaith: mae astudiaethau tymor hir wedi canfod effaith ar ymddygiad hyd at dair blynedd ar ôl i’r rhaglenni ddod i ben.

Ar sail y dystiolaeth bresennol, ein hamcangyfrif gorau yw y gallai rhaglenni magu plant arwain at ostyngiad bychan mewn troseddau treisgar.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae ein hyder yn yr amcangyfrif o’r effaith ar droseddau treisgar yn isel.

Nid yw’r adolygiadau sydd ar gael wedi mesur yn uniongyrchol effaith rhaglenni ar droseddu neu drais. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar effaith rhaglenni ar anawsterau ymddygiad ac mae ein hamcangyfrif yn dibynnu ar fodelu’r berthynas rhwng anawsterau ymddygiad ac ymwneud â thrais yn nes ymlaen.

Mae nifer o raglenni magu plant wedi cael eu gwerthuso yn y DU ac maent wedi gweld effeithiau cadarnhaol ar ymddygiad.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Annog rhieni i gymryd rhan yn y rhaglen  

Gall recriwtio rhieni i gymryd rhan yn y rhaglen fod yn heriol. Wrth ofyn i rieni gymryd rhan mewn rhaglenni sudd wedi’u targedu, allwch chi osgoi stigma ac annog cymhelliant cadarnhaol? Mae ymchwil ar brofiad rhieni o raglenni’n awgrymu bod y ffordd yr ydych yn dechrau’r rhaglen yn bwysig.

  • Roedd rhieni a gafodd gyfarwyddyd i fynychu rhaglen yn aml yn adrodd stigma am fod yn ‘rhiant drwg’. Fodd bynnag, dywedodd rhieni a wahoddwyd i fynychu fod y gwahoddiad yn teimlo fel cydnabyddiaeth o’u hanawsterau.
  • Gallai cymryd amser i archwilio a rhoi sylw i unrhyw bryderon cyn i’r rhaglen ddechrau helpu rhieni i ymgysylltu a chwblhau’r rhaglen.
  • Gallai fod o gymorth i bwysleisio cryfderau rhieni wrth ofyn iddynt gymryd rhan. Er enghraifft, gallech bwysleisio bod ganddynt lawer i’w gynnig i rieni eraill, gan gynnwys eu llwyddiannau eu hunain, yn ogystal â gallu dysgu gan eraill.
  • Roedd rhieni’n aml yn dweud fod ymrwymiad i fod yn rhiant gwell yn gymhelliad allweddol dros fynychu’r rhaglen. Gallai hyn fod yn sail ar gyfer agwedd gadarnhaol ac anfeirniadol tuag at ymgysylltu â rhieni.

Cefnogi rhieni yn ystod y rhaglen

Gall geisio sicrhau bod rhieni’n cadw at y rhaglen fod yn her allweddol o ran gweithredu. Mae gwerthusiadau’n nodi nad yw llawer o rieni’n cwblhau’r rhaglen gyfan. Yn ddiweddar, mae ymchwil wedi ceisio deall beth sy’n ei gwneud yn haws ac yn anoddach i rieni ddal ati.

Soniodd y rhieni bod y canlynol wedi eu rhwystro rhag cymryd rhan.

  • Ofn cael eu barnu mewn sefyllfaoedd grŵp, ac nad oedden nhw eisiau i rywun ‘ddweud wrthyn nhw sut mae magu’.
  • Roedd rhaglenni’n teimlo’n llethol, yn defnyddio gormod o iaith dechnegol, neu ddim yn berthnasol nac yn bleserus.
  • Gofynion cystadleuol, fel ymrwymiadau gwaith, materion ariannol neu ofal plant.
  • Rhaglenni nad ydynt yn briodol yn ddiwylliannol.
  • Diffyg cefnogaeth gan gyd-rieni neu deulu estynedig.
  • Diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau.

Soniodd y rhieni fod y canlynol wedi eu helpu i gymryd rhan.

  • Hwyluswyr grŵp nad ydynt yn barnu sy’n dangos technegau, yn ennyn gobaith, ac yn gallu rheoli deinameg y grŵp.
  • Rhaglenni grŵp sy’n creu amgylcheddau cadarnhaol ac ymddiriedus ar gyfer rhannu profiadau.
  • Hyblygrwydd wrth ymateb i anghenion rhieni yng nghynnwys a darpariaeth y rhaglen. Er enghraifft, darparu gofal plant ac ystyried yn ofalus amseru’r ddarpariaeth ar gyfer rhieni sy’n gweithio.
  • Cyfleoedd i ymarfer sgiliau newydd yn ystod ymarferion chwarae rôl.
  • Dathlu llwyddiant a thynnu sylw at yr adegau pan fydd rhieni’n gwneud cynnydd.

Gorffen y rhaglen

Mae rhai rhieni wedi dweud bod rhaglenni wedi dod i ben yn rhy fuan, ac y byddent yn elwa o gefnogaeth barhaus. Weithiau, rhoddwyd sylw i hyn drwy gynnal perthynas â chyfranogwyr eraill neu barhau i ddefnyddio deunyddiau o’r rhaglen. Mae gan raglenni eraill gamau ychwanegol i blant symud ymlaen iddynt wrth iddynt fynd yn hŷn.

Rôl hwyluswyr y rhaglen

Mae’r ymchwil yn pwysleisio bod rhieni’n credu bod sgiliau hwyluswyr rhaglenni yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen. Dywedodd rhieni eu bod yn elwa ar hwyluswyr gyda dull cefnogol ac anfeirniadol sydd â’r gallu i feithrin gobaith, modelu technegau, rheoli perthnasoedd o fewn y grŵp, ac addasu’r rhaglen i anghenion rhieni gan gadw ei chydrannau craidd yr un pryd. Mae hyfforddiant o ansawdd uchel a goruchwyliaeth barhaus yn debygol o fod yn bwysig i sicrhau bod hwyluswyr yn datblygu ac yn cynnal y priodoleddau hyn.

Pa raglenni sydd ar gael?

Isod mae rhestr o raglenni a geir yn Arweinlyfr y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF). Mae’r Arweinlyfr yn crynhoi’r ymchwil ar raglenni sy’n anelu at wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost rhaglenni magu plant yn debygol o fod yn gymedrol.

Daw’r amcangyfrif hwn o ddwy raglen a werthuswyd; Blynyddoedd Rhyfeddol a Grymuso Rhieni, Grymuso Cymunedau, a adroddodd am gostau o oddeutu £2,500 i weithredu eu rhaglenni gyda grwpiau o rieni.

Mae ffynonellau eraill yn dangos bod cost rhaglenni magu plant yn gallu amrywio’n sylweddol, a’r brif gost yw cyflogi athro cymunedol arbenigol neu athro cyswllt cartref/ysgol. Felly, gellir lleihau costau drwy beidio â chyflogi athro penodol ar gyfer y rôl hon. Mae cynnal gweithdai magu plant ar ei ben ei hun yn gymharol rad, ac mae rhaglenni cymorth mwy dwys yn ddrytach.

Crynodeb o bwncz

Mae tystiolaeth gref bod rhaglenni magu plant, ar gyfartaledd, wedi lleihau anawsterau ymddygiad. Mae rheswm da dros gredu y dylai hyn arwain at ostyngiad mewn troseddu a thrais. Fodd bynnag, mae diffyg ymchwil sy’n mesur yr effaith hon yn uniongyrchol, felly mae ein hamcangyfrif gorau ar hyn o bryd yw ei fod yn cael effaith isel ar drais. Mae angen dilyniant tymor hir i fesur yr effaith ar drais yn uniongyrchol.

Roedd rhaglenni anfeirniadol ar ffurf grŵp a oedd yn cynnwys ymarferion chwarae rôl ymarferol ac a oedd yn cael eu cyflwyno gyda hyblygrwydd (er enghraifft, cadw trefniadau gofal plant rhieni mewn cof) yn fwy tebygol o gynnal ymgysylltiad rhieni.

Mae rhieni’n elwa o gefnogaeth barhaus, yn enwedig drwy gyswllt â rhieni eraill, ar ôl i’r rhaglen ddod i ben.

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Ariannodd YEF arfarniadau o dri rhaglen rianta. Roedd gan raglenni nodau amrywiol, gan gynnwys cryfhau amgylchedd y cartref, paratoi plant ar gyfer y cyfnod pontio rhwng yr ysgol uwchradd a chynradd a gwella ymddygiad.

Roedd yr arfarniadau’n cynnwys:

  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot o’r prosiect pontio a gwydnwch gan Family Support, lle roedd pobl ifanc rhwng 10 ac 14 oed yn cael eu cyfeirio gan ysgolion i dderbyn 6 mis o gefnogaeth wedi’i theilwra am oddeutu awr yr wythnos.
  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot o Level Up, dan arweiniad meddygon yn Ymddiriedolaeth Sefydliad y GIG Tavistock a Portman. Darparodd y rhaglen bedair sesiwn ar-lein gyda phlant rhwng Blwyddyn 5 a 6 a’u rhieni/gofalwyr.  
  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot o Child to Parent Violence (CPV) dan arweiniad RISE Mutual, a wnaeth roi cyngor ar dechnegau Atal Di-drais (NVR) i blant rhwng 10 ac 14 oed.

Dolenni allanol

Adnoddau EIF
Mae’r EIF wedi cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau perthnasol, gan gynnwys adolygiad o ymchwil i gynnwys rhieni mewn rhaglenni.

Working with Parents to Support Children’s Learning – Adroddiad cyfarwyddyd EEF 
Canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion ar weithio’n effeithiol gyda rhieni. 

Dadlwythiadau