Skip to content

Mentora

Mentoriaid yn darparu arweiniad a chefnogaeth i blant a phobl ifanc.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

CYMEDROL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd

Lleoliad

  • Gymuned

Sectorau

Beth ydyw?

Mae rhaglenni mentora yn paru plentyn â mentor ac yn eu hannog i gwrdd yn rheolaidd. Nod y rhaglenni hyn yw helpu’r plentyn i ffurfio perthynas dda gyda model rôl cadarnhaol. Gallai’r berthynas hon helpu’r plentyn i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, ffurfio perthynas adeiladol gydag eraill, neu ddatblygu ymddygiadau a dyheadau cadarnhaol.

Mae mentoriaid yn aml yn oedolion, ond gallant hefyd fod yn gyfoedion hŷn i’r rhai sy’n cael eu mentora. Mae mentoriaid yn aml yn wirfoddolwyr ond weithiau maen nhw’n cael eu talu. Mae sesiynau mentora fel arfer yn cael eu cynnal bob wythnos dros gyfnod o 6 i 24 mis, ond gall y rhaglenni fod yn fyrrach neu’n hirach. Mewn rhai rhaglenni, mae sesiynau yn dilyn agenda benodol ac yn cynnwys gweithgareddau penodol. Mae rhaglenni eraill yn llai strwythuredig a disgwylir i’r berthynas fentora esblygu’n naturiol. Yn aml, gall mentora ddigwydd ochr yn ochr â gweithgareddau eraill, er enghraifft fel rhan o raglen chwaraeon neu grŵp cerddoriaeth.

Mae sawl ffordd y gallai’r mentor gefnogi’r sawl sy’n cael ei fentora.

  • Bod yn fodel rôl cadarnhaol a gosod esiampl dda i’r sawl sy’n cael ei fentora. 
  • Datblygu perthynas llawn ymddiriedaeth a darparu cefnogaeth emosiynol.
  • Helpu’r sawl sy’n cael ei fentora i ddatblygu sgiliau bywyd, sgiliau cymdeithasol neu sgiliau cyfathrebu.
  • Helpu’r sawl sy’n cael ei fentora gyda dysgu a datblygiad academaidd.
  • Gwrando’n ofalus a gofyn cwestiynau i helpu’r sawl sy’n cael ei fentora i gael syniad o’i ffordd ei hun o feddwl.
  • Darparu cymorth ymarferol gyda cheisiadau am swyddi neu fynediad at wasanaethau.
  • Rhannu eu rhwydweithiau a chyflwyno’r rhai sy’n cael eu mentora i bobl a chyfleoedd newydd. 

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae rhaglenni mentora’n debygol o gael effaith gymedrol ar droseddu treisgar.

Mae mentora yn effeithiol o ran lleihau troseddu a’r ymddygiad sy’n gysylltiedig â throseddu a thrais. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod mentora, ar gyfartaledd, yn lleihau trais 21%, yr holl droseddu 14%, ac aildroseddu 19%.

Mae mentora’n debygol o gael effaith ddymunol ar gamddefnyddio sylweddau, anawsterau ymddygiad, canlyniadau addysgol a hunan-barch.

Mae rhaglenni mentora wedi tueddu i gael mwy o effaith pan fyddan nhw’n:

  • Gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â risg uwch o gymryd rhan mewn troseddu 
  • Cael eu darparu gan gwnselwyr yn hytrach na swyddogion heddlu neu athrawon.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar droseddu treisgar.

Mae ein hyder yn gymedrol oherwydd bod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar wyth astudiaeth ac roedd rhywfaint o amrywiaeth yng nghanlyniadau’r astudiaethau. Mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod yr effaith yn uwch ac eraill yn awgrymu ei bod yn is.

Mae gennym hyder uchel yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar aildroseddu.

Mae ein hyder yn uchel oherwydd bod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar 23 astudiaeth. Gwnaethom ostwng y sgôr diogelwch tystiolaeth o uchel iawn i uchel oherwydd roedd llawer o amrywiaeth yng nghanlyniadau’r astudiaethau.

Canfu’r adolygiad ddwy astudiaeth o’r DU ac Iwerddon. Roedd un astudiaeth yn hap-dreial wedi’i reoli o raglen fentora Big Brothers Big Sisters gyda phlant 10-14 oed yn Iwerddon. Awgrymodd yr astudiaeth fod y rhaglen wedi methu â chael effaith ar ymddygiad nac ar y defnydd o sylweddau. Yr astudiaeth arall oedd gwerthusiad o ‘Mentoring Plus’, sef rhaglen ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hallgau’n gymdeithasol. Canfu’r gwerthusiad effeithiau dymunol ar gyrhaeddiad addysgol a sgiliau cyflogadwyedd ond dim effaith ar droseddu.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae ymchwil yn awgrymu, er bod mentora’n gallu bod yn effeithiol o ran lleihau cyfranogiad mewn trais, gall fod yn anodd recriwtio mentoriaid a rhai sy’n cael eu mentora, a’u cadw’n rhan o’r rhaglen. Nododd un adolygiad o 40 o werthusiadau proses, gan gynnwys dadansoddiad o saith gwerthusiad proses o raglenni mentora yn y DU, ddulliau addawol o gefnogi canlyniadau ac ymgysylltiad cadarnhaol.

Hwyluso ymrwymiad gan fentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora

  • Dylid asesu rhinweddau a chymhellion personol darpar fentoriaid yn ystod y broses recriwtio, er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n cael eu recriwtio yn dangos ymrwymiad i’r rhaglen. Dylai’r broses hon hefyd sicrhau bod mentoriaid yn deall eu rôl.
  • Mae recriwtio mentoriaid wedi’i dargedu yn bwysig er mwyn creu grŵp amrywiol o fentoriaid sy’n adlewyrchu nodweddion gwahanol, fel rhywedd, ethnigrwydd, profiadau bywyd neu anableddau. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu canlyniadau mwy cadarnhaol lle mae’r rhai sy’n cael eu mentora a’r mentoriaid yn rhannu nodweddion fel rhywedd neu ethnigrwydd. Mae’r rhai sy’n cael eu mentora hefyd wedi rhannu adborth cadarnhaol am gael cyfle i ddewis eu mentor eu hunain o’r grŵp sydd ar gael.
  • Gallai darparu hyfforddiant i fentoriaid wella eu hymrwymiad a’u sgiliau mentora. Gallai’r hyfforddiant gynnwys sgiliau gwrando a chwnsela anfeirniadol, gwybodaeth am wasanaethau lleol i blant, a chwarae rôl ar gyfer delio â materion amrywiol.
  • Mae datblygu perthynas fentora gadarnhaol, yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth, yn allweddol i’r mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora ymgysylltu’n gadarnhaol â’r rhaglen. Gall canfod problem benodol i fynd i’r afael â hi helpu i feithrin perthynas gadarnhaol yn gynt.

Hwyluso canlyniadau cadarnhaol i’r rhai sy’n cael eu mentora

  • Mae rhaglenni mentora sy’n darparu goruchwyliaeth i fentoriaid yn tueddu i gael canlyniadau mwy cadarnhaol. Mae goruchwyliaeth yn rhoi cyfleoedd i fentoriaid gael ôl-drafodaeth am eu sesiynau, i fyfyrio ar yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu ac i gael cefnogaeth neu arweiniad.
  • Gall mentoriaid â sgiliau amrywiol sy’n gallu addasu i anghenion y rhai sy’n cael eu mentora hwyluso canlyniadau mwy cadarnhaol. Er enghraifft, gallai mentoriaid gefnogi gwaith academaidd, gwrando ar bryderon, a darparu cefnogaeth emosiynol. Mae perthnasoedd mentora yn fwy llwyddiannus pan maen nhw’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch, yn hytrach nag ar awdurdod.
  • Pan fydd rhieni neu ofalwyr yn ymwybodol o’r rhaglen fentora ac yn annog y rhai sy’n cael eu mentora i fynychu sesiynau, mae’r rhai sy’n cael eu mentora yn ymrwymo i’r rhaglen am gyfnod hirach ac yn cael canlyniadau mwy cadarnhaol.  
  • Mae angen rheoli terfyniad y berthynas fentora yn ofalus, er mwyn osgoi teimladau o adael neu golled. Mae terfyniadau sy’n cael eu rheoli’n dda yn cynnwys dyddiad gorffen clir, yn darparu adnoddau neu gysylltiadau i’r rhai sy’n cael eu mentora gyda sefydliadau eraill a allai fod yn ddefnyddiol, ac yn dathlu’r cynnydd a wnaed.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost mentora yn debygol o fod yn uchel.

Mae mentoriaid yn aml (ond nid bob amser) yn wirfoddolwyr di-dâl. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflogau staff y prosiect, rheoli’r prosiect, recriwtio a hyfforddi mentoriaid, a chost adeiladau. Gall y gost fesul cyfranogwr fod yn uchel iawn os bydd nifer fawr o fentoriaid neu rai sy’n cael eu mentora’n gadael y rhaglen.

Canfu’r adolygiad wyth astudiaeth a gofnododd wybodaeth am gostau fesul unigolyn sy’n cael ei fentora fesul rhaglen, yn cynnwys saith o’r Unol Daleithiau ac un o Awstralia. Roedd y gost fesul unigolyn a oedd yn cael ei fentora yn amrywio o £845 i £3,500 ar gyfer rhaglenni a oedd yn amrywio o chwe mis i ddwy flynedd. Nid oes unrhyw werthusiadau yn y DU yn darparu cost fesul unigolyn sy’n cael ei fentora.

Canfu cynllun y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid o 80 rhaglen fentora a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr rhwng 2001 a 2004 fod pob unigolyn a oedd yn cael ei fentora a gafodd ddwy sesiwn neu fwy yn costio £11,903 ar gyfartaledd. Roedd y rhaglenni’n amrywio o ran hyd o 3 mis i 12 mis, ac roedd y cyfranogiad yn amrywio o 3 unigolyn a oedd yn cael ei fentora i 217. Roedd y gost fesul cyfranogwr yn amrywio’n fawr ar sail hyd y rhaglen fentora a faint o fentoriaid a’r rhai a oedd yn cael eu mentora oedd yn rhan o’r rhaglen.

Crynodeb o bwncz

  • Ar gyfartaledd, mae mentora yn debygol o gael effaith gymedrol ar leihau trais a lleihau aildroseddu.
  • Mae astudiaethau wedi canfod llawer o amrywiadau o ran effeithiau ar draws rhaglenni ac wedi darparu gwybodaeth am nodweddion y rhaglenni mwy effeithiol. Gallai’r wybodaeth hon helpu i sicrhau’r effaith orau o ganlyniad i fentora.
  • Gall rhaglenni mentora fod yn heriol i’w darparu. Mae rhaglenni’n aml yn wynebu heriau o ran cadw diddordeb mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora, ac yn aml mae nifer fawr o fentoriaid a rhai sy’n cael eu mentora yn rhoi’r gorau iddi.
  • Mae mentoriaid yn aml yn wirfoddolwyr di-dâl ac felly gall mentora ymddangos i ddechrau fel dull rhad o gefnogi plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae costau sylweddol yn aml yn gysylltiedig â rheoli prosiectau a recriwtio a chefnogi mentoriaid.

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Ariannodd YEF arfarniadau dros chwech o raglenni mentora. Roedd darpariaeth y rhaglenni’n amrywio, o 10 wythnos i 12 mis. Roedd gan y rhaglenni ystod o nodau gan gynnwys cefnogaeth i ddirywio ymddygiad, gwyro ac atal troseddau, gwella hunan-barch, a chynyddu’r tebygolrwydd o aros yn yr ysgol.

Roedd yr arfarniadau’n cynnwys:

  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot o Ofal Trawma ASSIST, cefnogaeth therapiwtig mentora dwys ag ymwybyddiaeth o drawma
  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot Divert, dan arweiniad Cyngor Lambeth mewn partneriaeth ag elusen leol, Juvenis, yn darparu mentora am 12 wythnos achos o arestio
  • Arfarniad dichonoldeb o’r rhaglen mentora brodyr a chwiorydd amddiffynnol a ddarperir gan Gymdeithas Sant Christopher, a oedd yn cynnwys mentora pobl ifanc gyda brawd neu chwaer mewn perygl
  • Arfarniad dichonoldeb o’r rhaglen Switch Lives a ddarperir gan LifeLine Community, a oedd yn darparu gweithdai cyffredinol a chymorth wedi’i dargedu.
  • Arfarniad dichonoldeb o’r Project Reach a oedd yn cynnig mentora dros 6 mis
  • Astudiaeth dichonoldeb i bennu a allem gynnal treial mentora aml-safle.

Negeseuon tecawê

  • Sefydlwch raglenni mentora o ansawdd uchel ar gyfer plant sy’n ymwneud â thrais neu sydd mewn perygl o wneud hynny.  
  • Darparwch sesiynau mentora un i un gan oedolion hyfforddedig  
  • Cynhaliwch o leiaf chwe mis o fentora un-i-un wythnosol. 

Dolenni allanol

Cyngor ar gyfer comisiynu rhaglenni mentora
Canllawiau EIF i gomisiynwyr ar gomisiynu rhaglenni mentora.

Elfennau Ymarfer Effeithiol ar gyfer Mentora
Canllawiau gan y MENTOR: Y Bartneriaeth Fentora Genedlaethol

Dadlwythiadau