Skip to content

Gwersi a Gweithgareddau am Atal Trais mewn Perthynas

Rhaglenni sy’n ceisio atal trais mewn perthynas agos.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

CYMEDROL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd

Lleoliad

  • Gymuned

Beth ydyw?

Nod gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas yw lleihau trais rhwng plant a phobl ifanc mewn perthynas agos a rhwng partneriaid. Mae trais rhwng cariadon a’r rheini mewn perthynas yn cynnwys pob math o drais a cham-drin, gan gynnwys trais emosiynol, corfforol, a rhywiol, cam-drin seicolegol, stelcian, ac aflonyddu. Mae’n wahanol i gam-drin domestig, sydd â therfyn oedran is o 16 yn y DU a gall gynnwys perthynas mewn teuluoedd a chyda gofalwyr. 

Cyflwynir llawer o wersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas gan athrawon ysgol hyfforddedig yn ystod gwersi cydberthynas a rhywioldeb (RSE) presennol neu wersi personol, cymdeithasol, iechyd ac economaidd (PSHE). Yn aml mae ysgolion yn comisiynu hwyluswyr allanol i ddarparu rhaglenni yn ystod amser ysgol neu fel rhaglen ôl-ysgol ddewisol.

Mae rhaglenni’n wahanol iawn a gallant gynnwys un ymyrraeth neu nifer o ymyriadau a gyflwynir dros gyfnod o wythnosau, misoedd neu mewn rhai achosion hyd at ddwy flynedd. Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni yn cael eu cyflenwi i blant rhwng 11 ac 16 oed.

Gall y rhaglenni gynnwys:

  • Sesiynau addysg ac ymwybyddiaeth, archwilio agweddau ac ymddygiadau sy’n gysylltiedig â thrais rhwng cariadon a’r rheini mewn perthynas
  • Darllen neu wrando ar straeon sy’n cynnwys digwyddiadau o drais rhwng cariadon a’r rheini mewn perthynas, yn aml o safbwyntiau’r drwgweithredwyr a’r dioddefwyr
  • Chwarae rôl a theatr ryngweithiol
  • Gweithgareddau adfyfyrio a thrafod, pan fydd y cyfranogwyr yn rhannu eu meddyliau, eu profiadau, neu eu syniadau, yn aml ar ôl gwylio fideo, gwrando ar stori neu gymryd rhan mewn chwarae rôl
  • Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, gan gynnwys posteri, ffilmiau, gemau fideo, taflenni a chylchlythyrau, mewn ysgolion ac wedi’u hymestyn i rieni a gofalwyr
  • Hyfforddiant i gynyddu adnabod digwyddiadau o drais rhwng cariadon, ac i wella hyder i ymyrryd (a elwir yn aml yn ymyrraeth gan wylwyr)
  • Llyfrynnau addysgol, cyflwyniadau a sesiynau trafod wedi’u hanelu at rieni a gofalwyr, gan archwilio arwyddion perthynas afiach, strategaethau i wella cyfathrebu ac adnoddau rhwng rhieni a phlant er mwyn cael cefnogaeth
  • Cymorth cymunedol, gan gynnwys gwasanaethau sydd â’r nod o annog dioddefwyr neu dystion i roi gwybod am ddigwyddiadau, a gwasanaethau cefnogol megis sesiynau cynghori a grŵp i ddioddefwyr

Gall ymagwedd ‘ysgol gyfan’ tuag at atal trais rhwng cariadon a’r rheini mewn perthynas gynnwys llawer o’r ymyriadau uchod, gan ychwanegu gwelliannau i bolisïau’r ysgol. Er enghraifft, gallai polisïau ymddygiadol roi sylw i iaith ac ymddygiadau penodol sy’n gysylltiedig â thrais rhwng cariadon a’r rheini mewn perthynas. Gall holl staff yr ysgol gael cynnig hyfforddiant a chefnogaeth benodol neu gallai fod yn orfodol. Efallai y bydd gan ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ddeunyddiau sydd wedi’u hanelu at staff, rhieni, gofalwyr, plant, pobl ifanc ac at y gymuned leol. Gall ysgolion gynyddu presenoldeb staff mewn coridorau ac mewn ardaloedd cymdeithasol lle y mae tuedd i drais ddigwydd amlaf.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas yn debygol o gael effaith gymedrol ar gadw plant yn ddiogel rhag ymwneud â thrais.

Mae’r ymchwil yn awgrymu y gall y rhaglenni hyn leihau pob math o drais rhwng cariadon ac mewn perthynas, gan gynnwys trais emosiynol, corfforol a rhywiol, a thrais sy’n digwydd ar-lein.

Ar gyfartaledd, mae gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas yn lleihau trais 17%. 

Pam mae’n gweithio?

Mae tri phrif esboniad posib pam y gallai gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas amddiffyn plant rhag ymwneud â thrais.

Yn gyntaf, mae rhaglenni’n herio normau a chanfyddiadau afiach, yn rhoi arweiniad ynghylch yr hyn sy’n ymddygiad priodol mewn perthynas, ac yn chwalu mythau. Er enghraifft, rôl dewisiadau dillad neu ymddygiad dioddefwr o ymosodiad rhywiol. Gall newid normau cymdeithasol a diwylliannol gynyddu’r tebygolrwydd y bydd pobl yn adrodd, ac yn ymyrryd mewn digwyddiadau o drais mewn perthynas.

Yn ail, gall rhaglenni geisio lleihau achosion o drais rhwng cariadon a’r rheini mewn perthynas drwy wella sgiliau hunan-reoleiddio, sgiliau cyfathrebu a datrys gwrthdaro.

Yn drydydd, gall rhaglenni helpu pobl ifanc i’w hamddiffyn eu hunain rhag trais drwy wella arwyddion rhybudd cynnar y gallai perthynas arwain at drais, mwy o adrodd am bryderon a digwyddiadau, a chynyddu ymyriadau gan wylwyr. Mae rhai rhaglenni’n canolbwyntio ar greu ffiniau iach mewn perthynas, gwrthsefyll arwyddion rhybudd posibl, a hunanamddiffyn corfforol. 

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder mawr yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar droseddau treisgar.

Mae ein hyder yn uchel oherwydd ei fod yn seiliedig ar adolygiad o ansawdd uchel o 16 astudiaeth sy’n mesur cyflawni trais mewn perthynas. Ni wnaethom roi’r sgôr diogelwch uchaf i’r pwnc hwn gan fod llawer o amrywiaeth yn yr astudiaethau yn yr adolygiad. Roedd rhai astudiaethau’n awgrymu bod yr effaith yn uwch ac roedd rhai eraill yn awgrymu ei fod yn is. Ni chafodd yr un o’r astudiaethau hyn eu cynnal yng Nghymru nac yn Lloegr.

Y tu hwnt i’r astudiaethau sy’n llywio’r sgôr effaith gyffredinol, roedd yr adolygiad ehangach yn cynnwys dros 200 o werthusiadau o wersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas, gan ddarparu mewnwelediadau am y ffordd orau o weithredu rhaglenni.   

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Taclo canfyddiadau nad yw ‘trais yn broblem yma’

Mae ymchwil yn awgrymu bod rhai ysgolion wedi bod yn amharod i gefnogi darparu rhaglenni atal trais oherwydd ofn y gallai effeithio’n negyddol ar enw da’r ysgol. At hyn, mae’n bosibl y bydd rhai staff yr ysgol yn credu bod y mathau hyn o raglen yn ddiangen, oherwydd eu barn neu eu rhagfarn eu hunain ynghylch trais rhwng cariadon ac mewn perthynas. Rhowch gynllun ymgysylltu ar waith i ddatgelu a mynd i’r afael â’r canfyddiadau, y credoau a’r ofnau hyn ac adeiladu cefnogaeth dros ddarparu rhaglenni.

Dod o hyd i’r hwyluswyr cywir

Mae hwyluswyr ac athrawon sydd â gwybodaeth dda am drais rhwng cariadon a’r rheini mewn perthynas, a hyder wrth gyflwyno deunyddiau a sesiynau, yn llwyddo i gyflawni mwy o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Mae hyn yn tueddu i fod yn hwyluswyr allanol neu athrawon sy’n teimlo’n gyfforddus yn trafod materion cymhleth sy’n gysylltiedig â pherthynas, rhyw a mathau gwahanol o drais.  

Sesiynau rhyngweithiol

Mae ymyriadau sy’n cynnwys gemau, chwarae rôl a thrafodaeth yn fwy tebygol o ennyn diddordeb plant a phobl ifanc, yn enwedig pan fyddant yn rhyngweithio â’r hwyluswyr a chymheiriaid. Mae datblygu perthynas dda rhwng yr hwyluswyr a’r cyfranogwyr yn bwysig er mwyn galluogi trafodaethau agored, cwestiynau a rhannu barn neu brofiadau personol.

Paru’r rhaglen i’r cyd-destun

Mae’n bwysig sicrhau bod cynnwys y rhaglen a’r gweithgareddau’n briodol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Mae hyn yn golygu ystyried lefel y wybodaeth gefndirol ddisgwyliedig ar y pynciau dan sylw, ac oedrannau, hunaniaethau rhywiol ac anableddau cyfranogwyr. Efallai y bydd angen addasu rhaglenni hefyd pan fo gwybodaeth am brofiadau blaenorol o drawma ymhlith cyfranogwyr. Hefyd, gall ysgolion ei chael hi’n haws gwneud ymyriadau unigol, neu raglenni hawdd eu haddasu. Er enghraifft, rhaglenni sy’n cynnig addasiadau ar gyfer newidiadau munud olaf i hyd y sesiynau neu i niferoedd neu i ryw’r staff sydd eu hangen. 

Bod â pholisi ymddygiad penodol ar waith ar gyfer y rhaglen

Mae llawer o werthusiadau yn adrodd problemau gydag ymddygiad aflonyddgar, ac weithiau ymatebion rhywiaethol a rhagfarnllyd gan gyfranogwyr ar raglenni. Mae’r rhaglenni hyn yn gofyn i athrawon a hwyluswyr allu ymaddasu yn y foment, gan ddefnyddio cyfleoedd i addysgu. Darparu canllawiau clir i arfogi hwyluswyr i wneud y mwyaf o gyfleoedd dysgu wrth reoli ymddygiad a diogelu cyfranogwyr y rhaglen. 

Amser, offer a gofod

Ar gyfer ymyriadau sy’n cael eu darparu mewn ysgolion, mae diffyg argaeledd staff neu gyfyngiadau ar amser staff yn aml yn amharu ar ddarparu rhaglenni neu’n lleihau’r broses o ddarparu rhaglenni. Ymgysylltu ag uwch arweinwyr i ddiogelu amser staff a ddyrennir i raglenni neu i ystyried rhaglenni sy’n darparu hwyluswyr allanol. Efallai y bydd angen argaeledd ystafelloedd dosbarth neu fannau mawr hefyd ar gyfer grwpiau trafod ymneilltuo, gweithgareddau corfforol, neu chwarae rôl a theatr ryngweithiol. Mae cael offer sydd ar gael ac sy’n gweithio i chwarae fideos, straeon sain a gemau digidol yn aml yn elfen bwysig mewn sesiynau.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas yn debygol o fod yn isel.

Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar raglenni sy’n ymestyn o un ymyrraeth i raglen sy’n darparu hyd at 12 sesiwn, gan ymgysylltu â naill ai hwyluswyr allanol neu ddarparu hyfforddiant i athrawon. Mae’r costau fel arfer yn cynnwys amser hwylusydd neu staff ysgol, costau teithio, deunyddiau sesiwn a chyfryngau cysylltiedig fel posteri a thaflenni. Byddai’r gost fesul cyfranogwr yn debygol o fod tua £250 – £500, gan dybio o leiaf 20 o gyfranogwyr.

Crynodeb o bwncz

  • Nod gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas yw lleihau trais rhwng plant a phobl ifanc mewn perthynas agos.Here
  • Mae llawer o raglenni’n cael eu darparu gan athro ysgol hyfforddedig neu gan hwyluswyr allanol yn ystod amser ysgol. Yn aml maen nhw’n cynnwys trafodaethau rhyngweithiol, chwarae rôl a fideos neu gemau. 
  • Ar gyfartaledd, mae gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddau treisgar.
  • Mae pobl ifanc yn gweld bod sesiynau’n fwy atyniadol pan fydd llawer o ryngweithio, a phan fydd gan hwyluswyr wybodaeth dda, pan fo ganddo hyder wrth ddarparu a meithrin perthynas dda gyda’r grŵp.
  • Mae rhaglenni llwyddiannus mewn ysgolion yn gofyn am gymorth gan staff ysgol, a sesiynau hyblyg er mwyn ymateb i newid yn yr amser a’r gofod corfforol sydd ar gael. 

Dolenni allanol

Project Respect yn Llundain a Bryste: Crynodeb o’r Gwerthusiad
Gweld y crynodeb Saesneg plaen o’r gwerthusiad o Project Respect, a gyflwynwyd mewn pedair ysgol yn Llundain a Bryste.

Perthynas gamdriniol ymysg pobl ifanc yn eu harddegau
Mae Cymdeithas y Plant yn rhoi cyflwyniad hygyrch i bobl ifanc, gan esbonio beth yw perthynas gamdriniol yn eu harddegau a sut i gael help.

Adolygiad Uned Lleihau Trais Cymru o beth sy’n gweithio i atal Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae’r adolygiad hwn yn nodi arfer effeithiol ar gyfer atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Fforwm Addysg Rhyw
Mae’r Fforwm Addysg Rhyw yn rhoi crynodeb o ymchwil sy’n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb (RSE) a chyfraniad RSE i newid ymddygiad.

Dadlwythiadau