Skip to content

Chwaraeon a gweithgarwch corfforol

Annog plant i gymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon a drefnir

Dim digon o dystiolaeth o'r effaith

?

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

?

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd
  • Trydyddol'

Lleoliad

  • Caethiwed
  • Gymuned
  • Ysgolion a cholegau

Themâu

  • Cyfleoedd
  • Dargyfeirio oddi wrth y system cyfiawnder troseddol

Beth ydyw?

Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar raglenni sy’n annog plant i gymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol sydd wedi’i drefnu. Mae’n cynnwys rhaglenni sy’n gweithio gyda phlant agored i niwed yn gyffredinol a rhaglenni ar gyfer plant sydd eisoes wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Gall rhaglenni gael eu darparu gan elusennau, clybiau chwaraeon, gweithwyr ieuenctid neu mewn dalfa ieuenctid. Gallent gynnwys chwaraeon tîm fel pêl-droed a phêl-fasged, neu chwaraeon unigol fel bocsio neu ddawnsio. Bydd rhaglenni’n aml yn defnyddio chwaraeon fel ‘bachyn’ i ennyn diddordeb plant mewn gweithgareddau eraill, fel mentora neu gwnsela.

Mae yna amrywiaeth o ffyrdd y gallai’r rhaglenni hyn amddiffyn plant rhag cymryd rhan mewn troseddu a thrais.

  • Gallai chwaraeon gefnogi datblygiad cadarnhaol. Gallai ddarparu grwpiau cyfoedion a dylanwadau cadarnhaol i blant, eu cefnogi i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, a gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Gallai helpu plant i ddatblygu cymhelliant a sut i hunan-reoleiddio drwy ymrwymo i ymarfer a drwy berthnasoedd gyda modelau rôl cadarnhaol megis hyfforddwyr chwaraeon.
  • Gallai chwaraeon chwarae rhan mewn atal uniongyrchol. Gallai cymryd rhan mewn chwaraeon leihau’r amser y mae plant yn agored i gamfanteisio, a galluogi plant i gymryd risgiau mewn amgylchedd diogel.
  • Gallai chwaraeon fod yn ‘fachyn’ ar gyfer ymyriadau defnyddiol eraill. Mae llawer o raglenni’n defnyddio chwaraeon i ennyn diddordeb plant a’u cymell i gyflawni gweithgareddau ataliol eraill. Yn y rhaglenni hyn, mae chwaraeon yn cael ei ddefnyddio fel ‘bachyn’ i ennyn diddordeb plant, ond credir mai’r gweithgareddau eraill sy’n ysgogi datblygiad cadarnhaol.

A yw’n effeithiol?

Ar hyn o bryd, nid oes adolygiadau systematig o effaith chwaraeon a gweithgarwch corfforol a drefnwyd ar droseddu a thrais. Mae hyn yn golygu nad ydym wedi gallu cyfrifo amcangyfrif o’r effaith gyffredinol.

Roedd map tystiolaeth a bylchau YEF yn nodi astudiaethau sy’n bodoli’n barod sy’n gwerthuso effaith rhaglenni perthnasol. Gwerthusiadau o ansawdd isel yw’r rhan fwyaf o’r rhain. Mae’r adolygiadau systematig presennol yn edrych ar y cysylltiad rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon a chymryd rhan mewn troseddu, ac nid ydynt yn edrych ar effaith ymyriadau.

Mae’r YEF wedi ariannu adolygiad systematig newydd ar effaith chwaraeon a gweithgarwch corfforol a drefnwyd ar droseddu a thrais. Bydd yr adolygiad hwn yn chwilio’n drwyadl am astudiaethau sy’n bodoli eisoes ac yn cyfuno’r canfyddiadau. Rydym yn gobeithio y bydd yr adolygiad newydd hwn yn ein galluogi i ddiweddaru’r crynodeb hwn gyda phrif sgôr effaith.

Ar hyn o bryd, nid oes adolygiadau systematig o effaith chwaraeon a gweithgarwch corfforol a drefnwyd ar droseddu a thrais.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae’r dystiolaeth yn wan iawn. Nid oes digon o dystiolaeth i amcangyfrif effaith gyfartalog rhaglenni chwaraeon a gweithgarwch corfforol a drefnir ar droseddu a thrais.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae astudiaethau o Gymru a Lloegr yn awgrymu’r ystyriaethau canlynol ar gyfer gweithredu.  

Ffurfio perthnasoedd ystyrlon

Mae’r berthynas rhwng staff a chyfranogwyr yn debygol o fod yn agwedd bwysig ar y dull gweithredu. Yn ddelfrydol, gall aelod staff ddod yn fentor, yn fodel rôl, ac yn berson dibynadwy y bydd plant yn troi ato am gyngor. Mae prinder neu ddiffyg parhad staff o’r fath yn cael ei nodi fel rhwystr gan sawl astudiaeth.

Mae rhai mudiadau wedi canfod bod staff sy’n weithwyr ieuenctid neu’n weithwyr cymdeithasol yn ffurfio perthnasoedd gwell â phobl ifanc. Gall yr unigolion hyn addysgu chwaraeon, ond gall fod yn fwy anodd dysgu hyfforddwyr chwaraeon sut i ddatblygu’r sgiliau a geir drwy waith cymdeithasol, fel sut i ymateb i drawma neu anghenion cymhleth. Mae darparu’r adnoddau, yr hyfforddiant a’r oruchwyliaeth gywir i staff yn gallu gwneud meithrin perthynas yn haws.

Gallai dewis staff o’r gymuned leol hefyd effeithio ar ba mor ddeniadol yw’r rhaglen. Gall hyfforddwyr chwaraeon sydd â phrofiad uniongyrchol o droseddu a thrais, neu’r un ffydd, rhyw neu ethnigrwydd â’r bobl ifanc, fod yn fwy agos-atynt ac yn fwy difyr.  

Gweithio gyda rhanddeiliaid ac asiantaethau eraill

Gall chwaraeon a drefnir fod yn ffordd o ennyn diddordeb plant mewn gweithgareddau eraill. Gallai ffurfio perthynas â rhanddeiliaid eraill ei gwneud yn haws cyfeirio plant at weithgareddau fel mentora neu gymorth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol. Gall meithrin perthynas ag asiantaethau eraill hefyd fod yn ddefnyddiol i ddeall y gefnogaeth ychwanegol y mae plentyn yn ei chael, yr hyn y gallai fod yn ei brofi a sut y gall y ddau grŵp weithio gyda’i gilydd i gefnogi’r plentyn.

Darparu cymorth cyson tymor hir

Mae’n bosibl bod plant sy’n agored i niwed yn cael eu hesgeuluso gan oedolion yn aml, felly mae darparu cymorth tymor hir yn hanfodol. Gallai fod o gymorth i ystyried cynllun ar gyfer cefnogaeth barhaus pan fydd y rhaglen yn dod i ben. Gallai hyn gynnwys cymorth i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ogystal â chymorth i ganfod eu ffordd drwy’r system gyfiawnder, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyflogaeth a llety.

Gellid darparu cymorth tymor hir hefyd drwy sicrhau bod y rheini sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen o’r blaen yn teimlo bod croeso iddynt ddychwelyd a gofyn am gymorth.

Dewis lleoliad ac amser hygyrch a diogel.

Rhaid sicrhau bod yr offer a’r cyfleusterau cywir yn y lleoliad a ddewisir, a bydd angen iddo hefyd fod yn rhywle ble mae plant yn teimlo’n ddiogel, ac yn rhywle sy’n hawdd ei gyrraedd. Mae gwaith diweddar wedi nodi bod Mannau Chwarae Amlddefnydd yn lleoliadau lle gellir cynnwys plant yn effeithiol ond a all hefyd ddod yn ‘diriogaeth’ grwpiau penodol. Mae Mannau Chwarae Amlddefnydd hefyd yn tueddu i ddenu bechgyn ifanc sydd eisiau chwarae pêl-droed, sy’n gallu annog rhai prosiectau i wneud pêl-droed yn weithgaredd craidd yn eu sesiynau.

Gallai amseriad y sesiynau fod yn bwysig hefyd. Pe gallai cymryd rhan mewn chwaraeon leihau’r amser y mae plant yn agored i ddylanwadau negyddol, sut allech chi drefnu’r sesiwn chwaraeon ar yr adeg sy’n sicrhau’r effaith ddargyfeiriol fwyaf posibl?

Denu pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon

Gall dewis cyfleusterau sy’n fforddiadwy i’r rheini yn y gymuned leol neu sy’n gallu cael cymhorthdal, a darparu offer arbenigol pan fo angen, helpu i ddenu pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Bydd prosiectau’n aml yn defnyddio chwaraeon i sicrhau bod cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn hwyl ac yn ddifyr. Adroddodd y prosiectau am wahanol strategaethau i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i gymryd rhan, gan gynnwys cydnabod perfformiadau chwaraeon da, gwneud rhaglenni’n heriol, yn hwyl ac yn egnïol, sicrhau bod sesiynau’r rhaglen yn digwydd yn ddibynadwy, a chreu cymhellion megis darparu cyfleoedd ar gyfer cael cymwysterau hyfforddi.

Pa raglenni sydd ar gael?

Isod mae rhestr o raglenni a geir yn Arweinlyfr y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF). Mae’r Arweinlyfr yn crynhoi’r ymchwil ar raglenni sy’n anelu at wella canlyniadau i blant a phobl ifanc

Beth yw’r gost?

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i ddarparu amcangyfrif o’r gost. Mae’r costau’n debygol o gynnwys cyfleusterau, cyflogi staff y prosiect a hyfforddwyr hyfforddedig i gynnal sesiynau chwaraeon, hyfforddiant i wirfoddolwyr, offer chwaraeon ac yswiriant. Gall y gost amrywio yn dibynnu ar hyd ac amlder y rhaglen, y math o weithgareddau, faint o gefnogaeth sydd ar gael gan staff gwirfoddol a’r defnydd o leoliadau sydd am ddim neu am bris gostyngol, fel parciau.

Crynodeb o bwnc

  • Mae diffyg ymchwil ar effaith y dull hwn ar droseddu a thrais. Nid yw diffyg ymchwil yn golygu nad yw’r dull yn cael effaith. Mae’n golygu nad oes gennym dystiolaeth dda o’r effaith honno.
  • Mae’r YEF wedi comisiynu adolygiad systematig newydd sy’n edrych ar effaith cymryd rhan mewn chwaraeon ar droseddu a thrais. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru’r pecyn cymorth hwn.
  • Dylai gwaith yn y dyfodol werthuso effaith rhaglenni ar gadw plant yn ddiogel rhag cymryd rhan mewn troseddu a thrais yng Nghymru a Lloegr. Dylai hyn gynnwys gwerthusiadau sy’n cymharu cymryd rhan mewn chwaraeon ag ymyriadau sy’n defnyddio chwaraeon fel cyd-destun ar gyfer gweithgaredd arall, fel mentora.

Dolenni allanol

Sports Cages: Places of safety, places of harm, places of potential
Adroddiad gyda fframwaith a syniadau am gamau gweithredu ar gyfer asesu a gwella diogelwch cewyll chwaraeon.

Llyfrgell Adnoddau – The Alliance of Sport in Criminal Justice
Llyfrgell adnoddau sy’n cynnwys gwerthusiadau o gymryd rhan mewn chwaraeon a throseddu sydd wedi cael eu cynnal ar draws y byd.

Theori newid Street Games
Mae Street Games yn rhwydwaith o sefydliadau sy’n darparu rhaglenni chwaraeon ledled y DU. Cafodd theori newid Street Games ei chomisiynu gan YEF, ac mae’n egluro pam y gallai cymryd rhan mewn chwaraeon arwain at ganlyniadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc.

Dadlwythiadau

© 2021 The Youth Endowment Fund Charitable Trust. Registered Charity Number: 1185413.
For a better viewing experience we recommend you upgrade your browser.