Skip to content

Ataliaeth â ffocws pendant

Strategaeth sy’n cyfuno cyfleu canlyniadau trais gyda chefnogaeth i ddatblygu llwybrau cadarnhaol oddi wrtho.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

UCHEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Trydyddol

Lleoliad

  • Gymuned

Beth ydyw?

Mae ataliaeth â ffocws pendant yn ddull o leihau trais a ddatblygwyd yn Boston (yr Unol Daleithiau) ganol yr 1990au. Mae’n cydnabod bod y trais mwyaf difrifol yn gysylltiedig â grŵp bach o bobl sydd eu hunain yn debygol iawn o fod wedi dioddef trais, trawma ac amgylchiadau heriol iawn. Mae eu cysylltiad â thrais yn aml yn cael ei yrru gan ecsbloetio, erledigaeth a hunanamddiffyn. Mae rhai fersiynau o ataliaeth â ffocws pendant, gan gynnwys yr ymyriad gwreiddiol “Boston Ceasefire” yn y 1990au, yn canolbwyntio’n bennaf ar grwpiau yn hytrach nag unigolion. Mae’r dulliau hyn yn cydnabod bod trais yn aml yn cael ei sbarduno gan wrthdaro rhwng grwpiau. Os bydd dau grŵp yn gwrthdaro’n dreisgar, mae canolbwyntio ar yr unigolion sydd wedi cyflawni troseddau treisgar yn annhebygol o atal gwrthdaro rhwng aelodau eraill yn y grwpiau yn y dyfodol.

Mae ataliaeth â ffocws pendant yn canolbwyntio ar ymdrechion i ganfod y bobl sydd fwyaf tebygol o fod yn gysylltiedig â thrais a’u cefnogi i ymatal. Mae oedran y bobl dan sylw yn dibynnu ar y cyd-destun a’r broblem troseddu a ganfuwyd, ond mae prosiectau wedi gweithio gyda phlant mor ifanc â 14 neu 15 oed. Er enghraifft, 16 oedd oedran cyfartalog y cyfranogwyr mewn prosiect ataliaeth â ffocws yn Glasgow.

Mae’n cyfuno nifer o strategaethau craidd.

  • Ataliaeth. Cyfathrebu canlyniadau trais yn glir a gorfodi’n gyflym ac yn benodol os bydd trais yn digwydd.
  • Cefnogaeth. Cymorth i bobl sy’n ymwneud â thrais i gael gafael ar gefnogaeth a gwasanaethau cymdeithasol cadarnhaol.
  • Ymgysylltu â’r gymuned. Ymgysylltu â’r gymuned ehangach i gyfleu bod trais yn annerbyniol, darparu cefnogaeth, ac annog ailintegreiddio yn y gymuned. Bydd prosiectau’n aml yn trefnu ymgysylltu rhwng y bobl y mae’r ymyriad yn canolbwyntio arnynt ac aelodau o deulu’r dioddefwyr, cyn aelodau’r grŵp sydd wedi newid eu ffyrdd, ac arweinwyr ffydd.

Mae ataliaeth â ffocws pendant fel arfer yn cynnwys cyfuniad o’r camau canlynol.

  1. Mae’r dull yn dechrau drwy nodi problem benodol – fel troseddau gyda chyllyll, gwrthdaro treisgar rhwng grwpiau, neu ddelio cyffuriau – fel y targed ar gyfer ymyrryd. Mae tîm prosiect penodol yn cael ei ffurfio sy’n cynnwys yr heddlu a gorfodi’r gyfraith, gwasanaethau cymdeithasol a’r gymuned leol.
  2. Mae’r tîm yn cyfuno eu gwybodaeth am y broblem droseddu a ddewiswyd ac yn nodi’r bobl dan sylw.
  3. Mae’r tîm yn dechrau cyfathrebu’n uniongyrchol ac yn aml gyda’r bobl sy’n ymwneud â’r broblem droseddu. Gallai rhaglenni ddechrau’r cyfathrebu hwn mewn cyfarfod ‘galw i mewn’. Mae’r cyfarfod yn aml yn cynnwys dod â phobl ynghyd o grwpiau sy’n gwrthdaro â’i gilydd, rhieni dioddefwyr trais, yr heddlu ac asiantaethau eraill sy’n gorfodi’r gyfraith, gwasanaethau cymdeithasol, a chynrychiolwyr cymunedol. Bydd y tîm yn pwysleisio bod y gymuned yr effeithir arni am i’r trais ddod i ben ac eisiau i’r rhai sy’n gysylltiedig fod yn ddiogel. Bydd y tîm yn cynnig cymorth a mynediad at gyfleoedd a gwasanaethau cadarnhaol, ac yn egluro’r canlyniadau (sy’n newydd weithiau) a fydd yn dilyn trais.
  4. Mae tîm y prosiect yn parhau i ddatblygu perthnasoedd gyda’r bobl sy’n cael eu targedu gan y dull gweithredu. Gallai hyn olygu bod aelodau o’r gymuned leol yn dod at ei gilydd i weld beth yw’r ffordd orau o ddarparu cefnogaeth. Neu gallai’r tîm helpu cyfranogwyr i gael mynediad at wasanaethau fel addysg, hyfforddiant, tai, gofal iechyd a thriniaeth am gamddefnyddio sylweddau.
  5. Os nad yw targedau’r ymyriad yn ymatal rhag trais, gallai tîm y prosiect orfodi sancsiynau. Gallai hyn gynnwys mwy o bresenoldeb a gwyliadwriaeth gan yr heddlu, arestio neu erlyn yn ddi-oed am droseddau. Mewn nifer o fodelau ataliaeth â ffocws penodol, rhoddir sancsiynau i grŵp cyfan os bydd unrhyw unigolyn yn y grŵp hwnnw’n cyflawni gweithred o drais.

Mae modelau ataliaeth â ffocws gwahanol yn amrywio o ran faint y maent yn ei bwysleisio ar wahanol gamau’r broses hon. Gall modelau sy’n pwysleisio gorfodaeth ganolbwyntio ar ddefnyddio cyfarfodydd ‘galw i mewn’ i gyfleu canlyniadau trais a gweithredu’n ddi-oed os nad yw’r bobl dan sylw’n ymatal. Efallai na fydd modelau eraill yn defnyddio cyfarfodydd ‘galw-i-mewn’ o gwbl, bod â fawr o bwyslais ar orfodaeth, ac yn hytrach yn pwysleisio datblygu cysylltiadau, ailsefydlu ac ymyrraeth gynnar.

Mae sawl esboniad posibl pam y gallai ataliaeth â ffocws penodol atal troseddau a thrais difrifol. Gallai’r potensial ar gyfer sancsiynau penodol, cyflym wedi’u targedu fod yn ataliaeth. Efallai nad yw’r bobl y mae’r dull hwn yn canolbwyntio arnynt yn deall canlyniadau cyfreithiol eu gweithredoedd – gallai rhywbeth mor syml â rhoi gwybod iddynt am y gwirioneddau hynny gael effaith. Gallai cynnwys y gymuned a’r gwasanaethau cymdeithasol ddarparu llwybrau cadarnhaol oddi wrth droseddu a thrais. Yn olaf, gallai cydweithio rhwng y gymuned a’r heddlu ddatblygu cysylltiadau a dilysrwydd, gan wella effeithiolrwydd gweithgarwch atal troseddu yn y dyfodol.

A yw’n effeithiol?

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod effaith ataliaeth â ffocws penodol ar gyfartaledd ar droseddau treisgar yn debygol o fod yn uchel.

Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad o 24 o astudiaethau sy’n awgrymu bod strategaethau ataliaeth â ffocws penodol, ar gyfartaledd, wedi lleihau troseddu 43%. Roedd llawer o’r astudiaethau a gynhwyswyd yn yr adolygiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar droseddu treisgar fel canlyniad. Canfuwyd yr effeithiau mwyaf ar leihau troseddu mewn 12 astudiaeth ar raglenni a gynlluniwyd i leihau’r trais difrifol a gynhyrchir gan wrthdaro rhwng grwpiau. Roedd ymyriadau a oedd yn targedu unigolion a marchnadoedd cyffuriau yn cael effeithiau llai ond cadarnhaol o hyd.

Strategaethau ataliaeth â ffocws penodol, ar gyfartaledd, wedi lleihau troseddu 43%.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod effaith ataliaeth â ffocws penodol ar gyfartaledd ar droseddau treisgar yn debygol o fod yn uchel.

Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad o 24 o astudiaethau sy’n awgrymu bod strategaethau ataliaeth â ffocws penodol, ar gyfartaledd, wedi lleihau troseddu 43%. Roedd llawer o’r astudiaethau a gynhwyswyd yn yr adolygiad hwn yn canolbwyntio’n benodol ar droseddu treisgar fel canlyniad. Canfuwyd yr effeithiau mwyaf ar leihau troseddu mewn 12 astudiaeth ar raglenni a gynlluniwyd i leihau’r trais difrifol a gynhyrchir gan wrthdaro rhwng grwpiau. Roedd ymyriadau a oedd yn targedu unigolion a marchnadoedd cyffuriau yn cael effeithiau llai ond cadarnhaol o hyd.

Mae gennym hyder uchel yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar droseddu treisgar.  

Mae’r amcangyfrif yn seiliedig ar un adolygiad o ansawdd uchel o lawer o astudiaethau. Ni wnaethom roi’r sgôr cadernid uchaf i’r pwnc hwn oherwydd bod llawer o amrywiaeth yn yr astudiaethau yn yr adolygiad. Roedd rhai astudiaethau’n awgrymu bod yr effaith yn uwch ac eraill yn awgrymu ei bod yn is. Canfu 22 o’r 24 astudiaeth yn yr adolygiad effeithiau cadarnhaol. Canfu’r ddwy astudiaeth a oedd yn weddill effeithiau negyddol bychan iawn.

Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r ymchwil yn yr Unol Daleithiau. Dim ond un astudiaeth yn yr adolygiad, sef gwerthusiad o’r Cynllun Cymunedol i Leihau Trais (CIRV) yn Glasgow, sy’n dod o’r DU. Cafodd y prosiect hwn ei fodelu ar brosiect Boston Ceasefire a Menter Cincinnati i Leihau Trais a’i nod oedd mynd i’r afael â lefelau uchel o drais mewn ardal ddifreintiedig yn Glasgow. Roedd yn cynnig mynediad at weithgareddau dargyfeirio, datblygiad personol, a pharodrwydd i weithio yn gyfnewid am addewid “dim trais, dim arf”. Awgrymodd y gwerthusiad fod troseddu treisgar wedi haneru yng nghyswllt pobl ifanc a gymerodd ran yn yr ymyriad am ddwy flynedd.

Nododd YEF ddau werthusiad pellach o ataliaeth â ffocws pendant yng Nghymru a Lloegr:

  • Treialwyd prosiect rhwng 2015 a 2016 mewn tair bwrdeistref yn Llundain. Nododd y prosiect hwn gyfanswm o 19 o grwpiau a 321 o unigolion. Gwahoddodd y prosiect 103 o unigolion i o leiaf un sesiwn galw i mewn a mynychodd 27. Nid oedd yr ymchwil hwn yn dangos yn glir bod y dull gweithredu wedi arwain at leihau troseddu treisgar. Daeth y gwerthuswyr i’r casgliad mai heriau gweithredu oedd yn gyfrifol am y diffyg effaith ac nad oedd yr astudiaeth wedi darparu prawf clir o’r model ataliaeth â ffocws pendant.
  • Mae’r Coleg Plismona wedi ariannu gwerthusiad o brosiect yn Swydd Northampton.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Addasu egwyddorion ataliaeth â ffocws pendant i’ch cyd-destun lleol.

Mae timau sydd wedi defnyddio’r dull yn y DU wedi gweld bod angen iddynt ei addasu i gyd-fynd â’u cyd-destun lleol. Er enghraifft, nododd y prosiect SIRV yn Glasgow fod y grwpiau sy’n ymwneud â gwrthdaro treisgar yn Glasgow yn wahanol iawn i’r rhai yn Cincinnati. Yn Glasgow, nid oes gan y grwpiau hyn hierarchaeth wedi’i threfnu, maent yn defnyddio cyllyll yn hytrach na gynnau, ac maent yn tueddu i fod yn llawer iau. Tra bo prosiect Cincinnati yn gweithio gyda’r boblogaeth o oedolion mewn carchardai, datblygodd tîm Glasgow weithgareddau ar gyfer y grŵp oedran dan 16 oed, gan gynnwys plant a oedd yn nyddiau cynnar eu cysylltiad ond heb gyflawni unrhyw droseddau eto.

Cael cymunedau lleol i gymryd rhan.

Mae cefnogaeth gan y gymuned leol yn nodwedd hanfodol o’r dull gweithredu a dylid ei sicrhau cyn i’r ymyriad ddechrau. Bydd prosiectau ataliaeth â ffocws pendant yn y gymuned leol yn aml yn recriwtio aelodau o’r gymuned leol i dîm y prosiect. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ‘llais moesol’ teuluoedd a ffigurau cymunedol dibynadwy i ddisgrifio effeithiau trais a chyfleu ei fod yn annerbyniol.

Creu deialog rhwng yr heddlu a’r gymuned.

Gall cyfathrebu gwael rhwng yr heddlu a’r gymuned ynghylch strategaethau a gweithredoedd swyddogol gynyddu diffyg ymddiriedaeth yn y gymuned. Mae’n bwysig bod yr heddlu’n cynnal deialog gyda’r gymuned drwy gydol yr ymyriad. Dylai’r heddlu gyfleu’r rhesymau dilys dros weithio gyda chymuned benodol a’r canlyniadau cadarnhaol y maent yn anelu at eu cyflawni.

Cydlynu gwahanol wasanaethau.

Efallai y bydd rhai darparwyr gwasanaeth yn amharod i weithio a rhannu gwybodaeth gyda’r heddlu a gallai hyn fod yn rhwystr o ran gweithredu. Efallai y bydd angen cydlynu rhwng asiantaethau pan fydd grwpiau’n gweithio ar draws ardaloedd yr heddlu.

Hyfforddi staff ar y rhaglen.

Mae rhoi eglurder ynghylch nodau’r rhaglen, sut i’w gweithredu a beth yw’r cydbwysedd cywir rhwng ataliaeth ac amddiffyn, yn gallu helpu i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei gweithredu yn ôl y bwriad. Er enghraifft, cafodd tîm Glasgow hyfforddiant cychwynnol gan ddatblygwyr gwreiddiol CIRV yn yr Unol Daleithiau.

Cynllunio sut i reoli deinameg unrhyw gyfarfodydd galw i mewn.

Dylai’r cyfarfod galw i mewn fod ar dir niwtral, neu mae’n llai tebygol o gyflawni’r diben a fwriadwyd. Gallai cynllunio pa negeseuon y mae’r heddlu’n eu cyfleu helpu i gael y cydbwysedd iawn rhwng ataliaeth ac amddiffyn a’i gwneud yn llai tebygol y bydd yr heddlu’n digio cynrychiolwyr cymunedol.

Darparu tystiolaeth ynghylch pam mai grwpiau yw’r ffocws.

Rhaid nodi’n glir bod ataliaeth â ffocws pendant yn rhoi sylw i grwpiau oherwydd eu cysylltiad â thrais a rhaid mynd i’r afael â’r trais hwn er mwyn eu hamddiffyn hwy ac eraill. Dylai fod yn glir mai atal trais yw’r rheswm dros ddewis grwpiau, yn hytrach nag ethnigrwydd neu hunaniaeth.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost ataliaeth â ffocws pendant yn debygol o fod yn uchel.

Mae gwybodaeth ar gael am gost dau brosiect ataliaeth â ffocws pendant yn y DU.

  • Cafodd prosiect diweddar yn Swydd Northampton ei ariannu drwy grant o £627,000 gan y Swyddfa Gartref o’r Gronfa Ymyrraeth Gynnar ar gyfer Trais Difrifol ymhlith Pobl Ifanc. Mae hyn oddeutu £1,200 i bob cyfranogwr.
  • Roedd cyfanswm cyllideb prosiect CIRV Glasgow yn £1.4 miliwn. Mae hyn oddeutu £2,500 i bob cyfranogwr.

Mae’r costau’n cynnwys talu darparwyr gwasanaethau, amser ac adnoddau ychwanegol a ddefnyddir i dargedu grwpiau troseddu a chydlynu rhwng gwahanol wasanaethau, unrhyw staff ychwanegol i gyflawni’r ymyriad, a dod o hyd i leoliad niwtral ar gyfer cyfarfodydd galw i mewn.

Crynodeb o bwncz

  • Ar gyfartaledd, mae prosiectau ataliaeth â ffocws pendant wedi arwain at ostyngiadau mawr mewn trais.
  • Daeth y dull hwn i fodolaeth yn yr Unol Daleithiau ond cafwyd sawl ymgais yn ddiweddar i’w roi ar waith yn y DU. Daw’r gwerthusiad gorau o effaith yn y DU o Glasgow ac mae’n awgrymu effaith fanteisiol.
  • Mae ataliaeth â ffocws pendant yn ddull cymhleth sy’n gofyn am gydweithio agos a chynllunio gofalus rhwng llawer o randdeiliaid. Sut fyddwch chi’n sicrhau eich bod yn cael ymrwymiad pawb y mae angen iddynt gymryd rhan?
  • Mae ataliaeth â ffocws pendant yn canolbwyntio ar y bobl sydd â’r cysylltiad agosaf â thrais. Gallai hyn gynnwys pobl o unrhyw oed – nid yw’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc yn benodol. Sut fyddwch chi’n sicrhau bod gweithgareddau’n briodol i blant? Mae gwerthusiadau prosiectau Glasgow a Swydd Northampton yn disgrifio sut y datblygwyd gweithgareddau penodol ar gyfer y plant dan sylw.

Dolenni allanol

Evaluation of Glasgow CIRV
Gwerthusiad o’r prosiect CIRV yn Glasgow

Group Violence Intervention London: An Evaluation of the Shield Pilot
Gwerthusiad o’r Cynllun Peilot Gwarchod yn Llundain

Dadlwythiadau