Skip to content

Llywyr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys

Rhaglenni lle mae gweithwyr achos yn cael eu rhoi mewn adrannau damweiniau ac achosion brys i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anaf sy’n gysylltiedig â thrais.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

UCHEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd

Lleoliad

  • Adrannau Achosion Brys

Sectorau

Beth ydyw?

Gyda rhaglenni llywio damweiniau ac achosion brys, mae gweithiwr achos, a elwir yn ‘lywiwr’, yn cael ei roi mewn ystafelloedd brys ysbytai i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anaf sy’n gysylltiedig â thrais. Gall rhaglenni recriwtio llywyr o bob math o gefndiroedd gan gynnwys gwaith ieuenctid, gwaith cymdeithasol, nyrsio, y gwasanaeth prawf a meddygaeth. Mae llywyr yn ceisio datblygu perthynas gyda phlant sydd wedi’u hanafu er mwyn iddyn nhw ymddiried ynddynt, eu mentora’n anffurfiol a’u helpu i gael mynediad at wasanaethau. Mae rhai rhaglenni yn cynnwys ymyriadau byr (hyd at 35 munud) ac fe’i cynhelir yn yr adran achosion brys yn unig. Mae rhaglenni eraill yn cynnwys cyfnod hirach a mwy dwys o reoli achosion ar ôl i’r plentyn gael ei ryddhau.

Mae llywyr yn aml yn ymgysylltu â phlant trwy gyfres o gamau a all gynnwys:

  1. Asesiad cyfannol o anghenion y dioddefwr, gan gynnwys asesiad diogelwch a risg i’w ddiogelu rhag niwed uniongyrchol
  2. Cynnig cefnogaeth
  3. Dylunio cynllun gwasanaeth wedi’i deilwra i gysylltu’r plentyn â gwasanaethau fel cwnsela, cymorth i deuluoedd, mentora, neu help gyda datrys gwrthdaro, cyflogaeth neu gamddefnyddio sylweddau
  4. Parhau i gynnig cefnogaeth i’r plentyn a’i deulu ar ôl i’r plentyn gael ei ryddhau

Mae sawl ffordd y gallai rhaglenni llywio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys atal plant rhag troi at drosedd a thrais. Mae cysylltiad cryf rhwng bod yn ddioddefwr trais ac ymwneud â thrais yn y dyfodol. Gallai darparu cefnogaeth yn dilyn digwyddiad treisgar amddiffyn plant bregus rhag y cylch dieflig hwn. Efallai y bydd plant hefyd yn ymddiried mewn llywyr yn fwy nag asiantaethau eraill felly byddant yn fwy agored i ymgysylltu â gwasanaethau. Gallai gwasanaeth wedi’i deilwra, sy’n aml yn cynnwys mwy nag un gwasanaeth ac yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd, fod yn fwy effeithiol nag ymgysylltu person ifanc mewn un ymyrraeth yn unig.

A yw’n effeithiol?

Dim ond dwy astudiaeth sydd wedi mesur effaith ymyriadau Llywyr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar atal troseddu treisgar pellach. Mae’r astudiaethau sydd ar gael yn awgrymu bod yr effaith y gallai’r ymyriadau hyn ei gael yn uchel.

Ar hyn o bryd nid oes digon o astudiaethau i ymchwilio’n drylwyr a allai rhaglenni sy’n rhoi llywiwr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys gael effaith wahanol ar y plentyn, neu sut mae effaith rhaglen yn amrywio mewn gwahanol gyd-destunau.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder isel iawn yn ein hamcangyfrif effaith gan mai dim ond dwy astudiaeth sydd wedi ymchwilio i’r effaith ar droseddu treisgar. Awgrymodd adolygiad systematig fod un o’r astudiaethau hyn o ansawdd cymedrol a’r astudiaeth arall o ansawdd isel.

Cynhaliwyd y ddwy astudiaeth sy’n llywio ein prif sgôr effaith yn UDA. Ceisiodd un astudiaeth o raglen yn Glasgow edrych ar effaith y rhaglen ar ymweliadau ag ystafelloedd brys yn y dyfodol ond nid oedd yn gallu cynhyrchu amcangyfrif trylwyr. Nid oedd yn cynnwys amcangyfrif o’r effaith ar droseddu.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae dau werthusiad o raglenni lle mae llywyr yn cael eu lleoli mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn Llundain a Glasgow yn darparu tystiolaeth ynghylch gweithredu’n effeithiol.

Ffurfio cysylltiad â’r person ifanc

Pwysleisiodd y gwerthusiadau hyn bwysigrwydd bod llywyr yn datblygu cysylltiadau cryf gyda’r plant dan sylw.

Yn y ddwy astudiaeth, ni wnaeth tua traean o’r plant a gafodd eu cyfeirio gymryd rhan weithredol yn y gwasanaethau. Efallai bod rhai plant yn ddrwgdybus wrth siarad â llywiwr, yn ofni y bydd yn arwain at gysylltu â’r heddlu, ac yn amharod i ddatgelu achos eu hanaf.

Gallai recriwtio llywyr trosglwyddadwy sy’n gallu meithrin perthynas lle mae’r person ifanc yn ymddiried ynddynt oresgyn y rhwystr hwn. Er enghraifft, roedd rhaglen Glasgow yn recriwtio llywyr oedd â phrofiad o fywyd oedd yn berthnasol i’r plentyn.

Gallai adeiladu perthnasoedd lle mae’r plant yn ymddiried yn y llywyr fod yn haws mewn ymyriadau tymor hwy. Canfu un astudiaeth fod y berthynas rhwng llywyr a phlant yn gwella gyda phob cyfarfod.

Cyfuno ymyrraeth ar unwaith gyda chefnogaeth barhaus ar ôl rhyddhau

Mae’n debygol y byddai’n fuddiol cychwyn yr ymyrraeth tra bod y person ifanc yn dal yn yr ysbyty, yn hytrach nag aros nes ei fod wedi’i ryddhau. Dadleua rhai ymchwilwyr y gallai anaf treisgar greu ‘cyfle dysgu digymell’ -pan fydd plentyn neu berson ifanc yn arbennig o barod i dderbyn cynigion o gefnogaeth. Gall y ‘cyfle dysgu digymell’ hwn basio os na fydd yr ymyrraeth yn cychwyn nes bod y plentyn wedi gadael yr ysbyty. Mae ymchwilwyr hefyd wedi nodi y gall plant fod yn anodd eu cyrraedd unwaith iddynt gael eu rhyddhau.

Pwysleisiodd gwerthusiadau hefyd bwysigrwydd darparu cefnogaeth ôl-ofal a chadw cysylltiad â phobl ifanc ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Gall y llywiwr barhau i ddarparu cefnogaeth uniongyrchol, helpu’r person ifanc i gael mynediad at wasanaethau, a cheisio atal unrhyw ddial am y digwyddiad treisgar gwreiddiol.

Lleoli llywyr mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Awgrymodd yr astudiaethau hyn y gallai lleoliad swyddfeydd y llywyr fod yn ystyriaeth bwysig. Pan oedd swyddfeydd y llywyr y tu allan i’r adran damweiniau ac achosion brys, nid oedd staff meddygol bob amser yn ymwybodol o fodolaeth y rhaglen. Gallai lleoli llywyr yn yr adran damweiniau ac achosion brys gynyddu ymwybyddiaeth o’r rhaglen a gwella cyfathrebu rhwng llywyr a staff eraill.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost llywyr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn debygol o fod yn gymedrol. Mae’r costau’n debygol o gynnwys cyflog llywyr llawnamser sydd wedi’u lleoli mewn ysbytai yn ogystal ag amser ac adnoddau ychwanegol a dreulir yn cydlynu gwasanaethau.

Crynodeb o bwncz

  • Mae rhaglenni llywyr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn golygu lleoli gweithiwr achos, neu ‘lywiwr’, mewn ystafelloedd brys ysbytai i gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anaf sy’n gysylltiedig â thrais. 
  • Ar gyfartaledd, mae rhaglenni wedi arwain at ostyngiadau mawr mewn trais.  Fodd bynnag, mae gennym hyder isel iawn yn ein hamcangyfrif gan mai dim ond ar ddwy astudiaeth y mae wedi’i seilio. 
  • Mae ymchwil ar roi rhaglenni lleoli llywyr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn pwysleisio pwysigrwydd y berthynas rhwng y llywiwr a’r dioddefwyr, ac hefyd gyfuno ymyrraeth ar unwaith gyda gwaith dilynol hirdymor. 
  • Mae angen cynnal mwy o werthusiadau yn y DU i gynyddu ansawdd y dystiolaeth.  Mae’r Gronfa Waddol Ieuenctid (YEF) yn y broses o sefydlu sawl gwerthusiad o leoli llywiwr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Treial aml-safle YEF o raglenni llywio damweiniau ac achosion brys
Mae’r YEF wedi ariannu Uned Lleihau Trais Thames Valley, The Behavioural Incidents Team a Phrifysgol Hull i gynnal treial o raglenni A&E Navigator ar draws pum ysbyty.

Negeseuon tecawê

  • Ni ddylech ond lleoli llyw-wyr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys sy’n gweld nifer fawr o blant sydd ag anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais.  
  • Adolygwch y niferoedd sy’n cael eu recriwtio a’r cyfraddau gadael yn rheolaidd drwy gydol y rhaglen gymorth lawn, ac addasu’r rhaglen er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser ymarferwyr.  
  • Defnyddiwch strategaethau i sicrhau bod y nifer fwyaf bosibl o blant yn rhoi eu caniatâd i gymryd rhan yn y rhaglen.  
  • Cyfeiriwch at wasanaethau cefnogaeth cyn gynted â phosibl, a sicrhewch fod y plant yn cael cefnogaeth am o leiaf chwe mis ar ôl ymgysylltu’n gyntaf â’r llywiwr.  

Dolenni allanol

Adroddiad gwerthuso rhaglen llywiwr Glasgow
Adroddiad yn crynhoi canfyddiadau’r rhaglen llywyr yn yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Glasgow.

Dadlwythiadau