Rhaglenni gwrth-fwlio
Rhaglenni mewn ysgolion sydd wedi’u cynllunio i leihau bwlio
Rhaglenni mewn ysgolion sydd wedi’u cynllunio i leihau bwlio
Nod rhaglenni gwrth-fwlio yw lleihau bwlio mewn ysgolion. Fel rheol maen nhw’n cynnwys y plant sy’n ymwneud â’r bwlio, a myfyrwyr eraill, staff yr ysgol, rhieni a’r gymuned ehangach. Mae rhaglenni’n tueddu i gynnwys un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol.
Mae plant sydd wedi bwlio plant eraill yn fwy tebygol o ymwneud â throseddu a thrais. Drwy leihau bwlio yn yr ysgol, gallai rhaglenni gwrth-fwlio hefyd atal plant a phobl ifanc rhag ymwneud â throseddau difrifol yn nes ymlaen yn eu bywydau.
Mae diffyg ymchwil sy’n mesur effaith rhaglenni gwrth-fwlio yn uniongyrchol ar droseddu a thrais. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gref y gall rhaglenni gwrth-fwlio lwyddo i leihau bwlio yn yr ysgol a bod bwlio yn yr ysgol yn gysylltiedig â chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd. Ac ystyried yr hyn a wyddom am y berthynas rhwng bwlio a chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd, ein hamcangyfrif gorau yw y gallai rhaglenni gwrth-fwlio arwain at ostyngiad bach yn nifer y plant sy’n ymwneud â throseddau treisgar.
Mae rhaglenni gwrth-fwlio wedi cael mwy o effaith pan gânt eu cyflwyno yn yr un wlad lle cawsant eu cynllunio. Gall mewnforio rhaglen o dramor fod yn llai llwyddiannus na defnyddio rhaglen a ddatblygwyd yng Nghymru a Lloegr.
Mae ein hyder yn yr amcangyfrif o’r effaith ar droseddau treisgar yn isel.
Nid yw’r astudiaethau sydd ar gael wedi mesur yn uniongyrchol effaith rhaglenni ar droseddu neu drais. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar effaith rhaglenni ar fwlio – ffactor risg hysbys ar gyfer cymryd rhan mewn troseddu a thrais yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae ein hamcangyfrif yn dibynnu ar fodelu’r berthynas rhwng bwlio a chymryd rhan mewn troseddu a thrais yn nes ymlaen.
Mae ein hyder yn yr amcangyfrif o’r effaith ar fwlio yn uchel. Mae llawer o dystiolaeth o effaith rhaglenni ar fwlio. Mae llawer o’r astudiaethau gwreiddiol yn hap-dreialon wedi’u rheoli – dyluniad cryf ar gyfer deall effaith ymyriad.
Mae nifer o raglenni gwrth-fwlio wedi cael eu gwerthuso yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfartaledd, mae gwerthusiadau yng Nghymru a Lloegr wedi awgrymu effaith lai ond dymunol ar atal bwlio.
Gall profiadau heriol neu drawmatig i ddisgyblion gartref neu yn y gymuned gael effaith negyddol ar eu gallu i ymdopi â’r ysgol ac arwain at fwlio. Os bydd athrawon yn datblygu perthynas gadarnhaol â’u myfyrwyr ac yn dod i’w hadnabod yn well, byddant yn gallu deall beth sy’n achosi eu hymddygiad yn well. Bydd deall pam mae myfyriwr yn bwlio plant eraill yn arwain at ymateb mwy effeithiol.
Mae’r rhaglenni mwyaf llwyddiannus wedi tueddu i ennyn diddordeb yr ysgol gyfan, gan gynnwys grwpiau dosbarth, athrawon, rhieni, llywodraethwyr, grwpiau cyfoedion a disgyblion unigol. Mae hyn yn aml yn golygu sefydlu polisïau clir a chyson a sicrhau bod pob aelod o’r gymuned yn eu deall.
Mae rhaglenni effeithiol wedi tueddu i gynnwys y gweithgareddau canlynol.
Mae ymchwil ar sut mae ysgolion yn cyflwyno rhaglenni yn awgrymu rhai ystyriaethau.
Isod mae rhestr o raglenni a geir yn Arweinlyfr y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF). Mae’r Arweinlyfr yn crynhoi’r ymchwil ar raglenni sy’n anelu at wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Ar gyfartaledd, mae cost rhaglenni gwrth-fwlio yn debygol o fod yn isel.
Gallai’r costau gynnwys hyfforddiant i athrawon a myfyrwyr, dod ag ymarferwyr gwrth-fwlio allanol i mewn i hyfforddi staff neu i hwyluso trafodaethau grŵp, a phecynnau gwybodaeth ac adnoddau ar-lein i rieni a myfyrwyr. Roedd gwerthusiadau o ddwy raglen gwrth-fwlio yn Lloegr yn awgrymu cost rhwng £166-£411 y disgybl.
Mae diffyg ymchwil sy’n mesur effaith rhaglenni gwrth-fwlio yn uniongyrchol ar droseddu a thrais.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth gref y gall rhaglenni gwrth-fwlio lwyddo i leihau bwlio yn yr ysgol a bod bwlio yn yr ysgol yn gysylltiedig â chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd. Ac ystyried yr hyn a wyddom am y berthynas rhwng bwlio a chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd, ein hamcangyfrif gorau yw y gallai rhaglenni gwrth-fwlio arwain at ostyngiad bach yn nifer y plant sy’n ymwneud â throseddau treisgar. Fodd bynnag, mae ein hyder yn yr amcangyfrif hwn yn isel.
Mae llawer iawn o ymchwil wedi ceisio deall sut mae manteisio i’r eithaf ar effaith rhaglenni gwrth-fwlio. Mae’r ymchwil hwn yn awgrymu bod rhai gweithgareddau allweddol yn gysylltiedig ag effeithiau mwy.
Negeseuon tecawê
Gwella Ymddygiad mewn Ysgolion (EEF)
Adroddiad canllawiau ar sail tystiolaeth i ysgolion sy’n cynnwys cyngor ymarferol ar wella ymddygiad a lleihau bwlio.
Ymyriadau gwrth-fwlio mewn ysgolion – beth sy’n gweithio?
Adolygiad hygyrch a manwl o’r ymchwil gan Lywodraeth New South Wales.
Offer a Gwybodaeth gan y Cynghrair Gwrth-Fwlio
Casgliad o adnoddau a hyfforddiant gwrth-fwlio ymarferol.