Skip to content

Ysgolion haf

Rhaglenni addysg a gynhelir yn ystod gwyliau’r haf

Dim digon o dystiolaeth o'r effaith

?

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd

Lleoliad

  • Ysgolion a cholegau

Sectorau

Deilliannau Eraill

Ansawdd y dystiolaeth

  • Effaith gymedrol ar wella CYMEDROL mewn cyrhaeddiad academaidd.
    1 2 3 4 5
  • Effaith gymedrol ar fynychu a chwblhau CYMEDROL mewn addysg uwch
    1 2 3 4 5

Beth yw ysgol haf?

Caiff ysgolion haf eu cynnal yn ystod gwyliau’r haf, rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Yn aml fe’u cynhelir mewn lleoliadau addysg ac fel arfer maen nhw’n amrywio o sawl diwrnod i sawl wythnos. Yn gyffredinol, mae ysgolion haf yn cynnwys cyfuniad o gefnogaeth addysgol, gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon, a gweithgareddau cymdeithasol.

Gall ysgolion haf hefyd gynnwys mentoriaid sy’n darparu cefnogaeth i blant sy’n pontio rhwng ysgolion neu greu lle i gael trafodaeth agored ar bynciau a allai beri pryder, fel bwlio.

Yn fras, gall ysgolion haf gael eu categoreiddio fel:

  • Rhaglenni dal i fyny, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â bylchau cyrhaeddiad ac osgoi colli addysg yn ystod yr haf.
  • Rhaglenni sy’n codi disgwyliadau, gyda’r nod o ysbrydoli ac ysgogi plant i symud ymlaen i gamau nesaf addysg, addysg uwch fel arfer, neu i ystyried gwahanol lwybrau gyrfa.
  • Rhaglenni sy’n rhoi cymorth i bontio, gyda’r nod o hwyluso proses bontio esmwyth i blant o un lefel addysg i’r llall, e.e. o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd neu o’r ysgol uwchradd i addysg uwch.

Yn gyffredinol, mae ysgolion haf yn wirfoddol ac yn cynnig lle diogel gydag oedolion dibynadwy. Mae’r adolygiad hwn o dystiolaeth yn canolbwyntio ar blant a nodwyd fel rhai sydd mewn perygl o droseddu neu wynebu anfantais. Mae hyn yn cynnwys plant yn y system ofal, mewn teuluoedd incwm isel, mewn ysgolion mewn ardaloedd o anfantais economaidd-gymdeithasol, plant du a lleiafrifoedd ethnig, a phlant â chyrhaeddiad academaidd is. Mae ysgolion haf yn cynnwys ystod eang o oedrannau yn dibynnu ar bwrpas yr ysgol haf, gan amrywio rhwng pobl ifanc 10 i 17 oed.

Gallai ysgolion haf ddiogelu plant rhag cymryd rhan mewn trais trwy dynnu sylw plant oddi wrth weithgareddau neu sefyllfaoedd niweidiol sy’n cynyddu’r risg o drais. Gall ysgolion haf wella hunan-barch a hyder, sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, cyfrifoldeb, a rheoli amser, ac annog grwpiau cyfoedion newydd i ffurfio. Gall gwelliannau ar draws y nodweddion hyn arwain at fwy o ymgysylltiad a chynnydd yn yr ysgol, a gwella rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol. Gall y newidiadau hyn leihau achosion o ymddygiad treisgar neu droseddu.

Ydyn nhw’n effeithiol?

Nid oes digon o dystiolaeth i fesur i ba raddau y mae ysgolion haf yn cael effaith o ran lleihau trais.

Mae’r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o 49 o astudiaethau. Nid oedd yr un o’r astudiaethau hyn yn mesur effaith ysgolion haf ar drais.

Dangosodd yr ymchwil effaith gymedrol ar wella cyrhaeddiad academaidd, a’r tebygolrwydd o fynychu a chwblhau addysg uwch.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

O’r 49 astudiaeth yn yr adolygiad hwn, cynhaliwyd 28 o’r rhain yn y DU. Mae’r astudiaethau hyn yn dangos amrywiaeth eang o ran effaith ysgolion haf ar ganlyniadau addysg.

Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar gyrhaeddiad academaidd gan fod hyn yn seiliedig ar wyth astudiaeth, ac mae’r canlyniadau’n dangos rhywfaint o amrywio. Mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod yr effaith yn uwch, ac mae eraill yn awgrymu ei fod yn is.

Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar y tebygolrwydd o fynychu addysg uwch, sy’n seiliedig ar wyth astudiaeth gyda’r canlyniadau’n dangos rhywfaint o amrywio. Mae gennym hefyd hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar y tebygolrwydd o gwblhau addysg uwch, sy’n seiliedig ar bum astudiaeth.

Canfu un astudiaeth y gall ysgolion haf fod yn effeithiol i leihau’r tebygolrwydd o absenoldeb parhaus, a’r tebygolrwydd o gael eu gwahardd. Gwyddys bod y rhain yn ffactorau risg ar gyfer cymryd rhan yn ddiweddarach mewn troseddau a thrais.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Darparu gweithgareddau cymdeithasol sy’n cefnogi dysgu         

Mae rhaglenni llwyddiannus yn cyfuno amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol, fel chwaraeon, y celfyddydau a gweithgareddau adeiladu tîm, ac yn eu cyflwyno mewn ffordd greadigol a hwyliog. Mae’r rhain yn helpu plant i ymarfer sgiliau cymdeithasol, datblygu perthnasoedd newydd gyda chyfoedion, a gallant wella cymhelliant i gymryd rhan mewn dysgu. 

Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol

Gall gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol a manteisio ar eu harbenigedd mewn gweithgareddau fel chwaraeon a’r celfyddydau, wella ansawdd y rhaglen a’r amrywiaeth o weithgareddau a gyflwynir. Gall hyn hefyd gynyddu nifer y plant sy’n mynychu’r rhaglen a gall eu hannog i’w chwblhau’n llawn.

Llywodraethu da

Dylai ysgolion haf ddarparu cwricwlwm strwythuredig o weithgareddau, sydd â digon o adnoddau. Mae cynnwys llywodraethwyr ysgolion wrth fonitro cynlluniau cyflawni ac effaith yn fodd o ddarparu dull tryloyw o atebolrwydd a helpu i sicrhau cysondeb y rhaglenni. 

Darparu gwasanaeth mentora o ansawdd uchel

Dylid sicrhau cysondeb o ran y mentoriaid sy’n cefnogi’r plant yn ystod yr ysgol haf gan fod hynny’n fodd i sefydlu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol. Dylai mentoriaid addasu i anghenion y plant, sy’n gallu amrywio o ran cefnogaeth addysgol, meithrin hyder, datblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, delio â phryder sy’n gysylltiedig â phontio rhwng amgylcheddau ysgol, bwlio neu bryder am wneud ffrindiau newydd.

Cyfnewid athrawon 

Yn dibynnu ar hyd y rhaglen, gellir trefnu staff ar sail rota yn ystod yr ysgol haf i wneud y mwyaf o’r egni y maent yn ei gynnig i’r rhaglen, ac i leihau blinder a allai effeithio ar eu perfformiad ar ddechrau’r tymor academaidd newydd ym mis Medi. Wrth drefnu’r system gyfnewid hon dylid rhoi cyfle i athrawon newydd gyfarfod eu cydweithwyr, dysgu am y plant, a deall trefn y rhaglen. 

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost ysgolion haf yn debygol o fod yn gymedrol.

Yn gyffredinol, mae costau’n cynnwys cyflogau staff a hyfforddiant, adnoddau ar gyfer gweithgareddau, llogi lleoliadau, bwyd, teithio a chostau gweinyddu. Bydd y costau’n amrywio yn dibynnu ar y math o raglen a gyflwynir, a hyd y rhaglen. Gall staff weithio’n wirfoddol i leihau costau, gall rhaglenni hefyd geisio cymorth gan fusnesau i leihau costau ymhellach.

Yn seiliedig ar werthusiadau o bedair rhaglen yn y DU, y gost gyfartalog i bob plentyn yw £1,106, sy’n amrywio’n fawr yn dibynnu ar hyd yr ysgol haf, a ph’un ai a oedd cyflogau staff neu gostau gliniaduron, adnoddau a llogi lleoliadau wedi’u cynnwys – rhwng £170 a £2,197 y plentyn fesul rhaglen.

Crynodeb o’r pwnc

  • Cynhelir ysgolion haf yn ystod gwyliau’r haf.
  • Yn gyffredinol, mae ysgolion haf yn cynnwys cyfuniad o gefnogaeth addysgol, gweithgareddau celfyddydol a hamdden, gweithgareddau cymdeithasol, a mentora.
  • Er bod sawl astudiaeth sy’n gwerthuso ysgolion haf, nid oes astudiaethau sy’n mesur yr effaith ar drais.
  • Dangosodd yr ymchwil effaith gymedrol ar wella cyrhaeddiad academaidd, a’r tebygolrwydd o fynychu a chwblhau addysg uwch.
  • Mae rhaglenni’n fwy llwyddiannus pan fyddan nhw’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol sydd ag arbenigedd mewn gweithgareddau cymdeithasol a chyfoethogi, pan fydd ganddynt drefn lywodraethu dda a mentoriaid o safon uchel, a phan fyddan nhw’n cynnwys cyfnod gorffwys i athrawon.

Cysylltiadau allanol

Cronfa Waddol Addysg

Crynodeb o dystiolaeth yn edrych ar effaith ysgolion haf ar ganlyniadau addysg.

Adran Addysg

Canllawiau ar gynnal rhaglenni ysgolion haf.

Dadlwythiadau