Skip to content

Ymyriadau i atal gwahardd o’r ysgol

Ymyriadau sy’n ceisio atal plant rhag cael eu gwahardd neu eu hatal o’r ysgol.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

ISEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd

Lleoliad

  • Ysgolion a cholegau

Themâu

  • Addysg

Deilliannau Eraill

Ansawdd y dystiolaeth

  • Gostyngiad MAWR mewn Gwaharddiadau
    1 2 3 4 5
  • Lleihad ISEL mewn Ataliad
    1 2 3 4 5

Beth ydyw?

Mae’r crynodeb hwn yn disgrifio effaith ymyriadau sy’n ceisio atal plant rhag cael eu gwahardd neu eu hatal o’r ysgol. Nid yw’n canolbwyntio ar y berthynas gyffredinol rhwng gwahardd a thrais, nac ar bolisïau’r ysgol ynghylch gwahardd, fel polisïau ‘dim goddefgarwch’ neu ‘dim gwaharddiadau’.
Gallai atal plant rhag cael eu gwahardd o’r ysgol eu hamddiffyn mewn sawl ffordd. Gallai arwain at gyrhaeddiad addysgol uwch a mwy o gyfleoedd yn y dyfodol, a sicrhau bod plant yn aros mewn amgylchedd diogel. Mae gwahardd o’r ysgol hefyd yn berthnasol i bryderon ehangach am anghyfartaledd yn y system cyfiawnder troseddol. Mae disgyblion Du Caribïaidd ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd o’r ysgol am gyfnod penodol a phedair gwaith yn fwy tebygol o gael eu gwahardd yn barhaol. Mae disgyblion ag anghenion addysgol arbennig a phlant o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Gwyddelig hefyd yn fwy tebygol o gael eu gwahardd.
Mae ymchwil wedi ceisio deall a allai amrywiaeth o ymyriadau gwahanol gadw plant yn ddiogel drwy eu cefnogi i aros yn yr ysgol. Mae rhai ymyriadau’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant unigol. Gallai hyn gynnwys:

  • Cwnsela neu therapi arbenigol gan wasanaethau iechyd meddwl cymunedol
  • Gweithgareddau i ddatblygu sgiliau emosiynol-cymdeithasol fel hunan-reoleiddio, sgiliau cyfathrebu a pherthynas, a sgiliau gwneud penderfyniadau.
  • Technegau therapiwtig i helpu myfyrwyr i reoli eu hymddygiad a datblygu strategaethau ymdopi priodol.
  • Mentora sy’n paru myfyrwyr â mentor sy’n gallu darparu cymorth bugeiliol neu academaidd.
  • Tiwtora academaidd.

Mae set arall o ddulliau gweithredu yn gweithio ar draws yr ysgol gyfan. Nod y dulliau hyn yw creu amgylcheddau ysgol cadarnhaol, gyda rheolau clir sy’n hyrwyddo ymddygiad da, dysgu a diogelwch. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o gydrannau a gweithgareddau fel cyfarwyddyd un-i-un, modelu, ymarferion chwarae rôl, adborth ac atgyfnerthu. Efallai y byddant hefyd yn canolbwyntio’n benodol ar arferion adferol y disgwylir iddynt leihau’r gwrthdaro rhwng myfyrwyr, fel cylchoedd ymatebol a chynadleddau adferol,. Er enghraifft, roedd y rhaglen ‘SaferSanerSchools’ yn canolbwyntio ar sgiliau cyfathrebu, gan annog myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a defnyddio egwyddorion adferol ar ôl i unrhyw darfu neu wrthdaro ddigwydd.

A yw’n effeithiol?

Hyd yma, mae’r ymchwil sydd ar gael wedi gwerthuso effaith yr ymyriadau hyn ar waharddiadau ysgol yn bennaf. Mae llai o ymchwil i effaith yr ymyriadau hyn ar droseddu neu drais. Mae’r sylfaen dystiolaeth yn gymhleth ac mae gwahanol adolygiadau wedi rhoi gwahanol ganlyniadau.

Adroddodd un adolygiad ar effaith rhaglenni ar arestio a gwahardd. Nid oedd yn cynnwys astudiaethau a oedd ond yn nodi canlyniad ar gyfer gwaharddiad parhaol. Canfu’r adolygiad hwn, ar gyfartaledd, fod ymyriadau sy’n ceisio lleihau atal o’r ysgol yn lleihau nifer yr arestiadau 2% ac ataliad 6%. Methodd y rhaglenni yn yr adolygiad hwn â chael llawer o effaith ar waharddiadau. Pe bai rhaglenni’n cael mwy o lwyddiant o ran lleihau gwaharddiadau, gallent gael mwy o effaith ar leihau troseddu.

Roedd adolygiad arall yn canolbwyntio ar ystod ehangach o ganlyniadau gan gynnwys gwahardd yn yr ysgol, gwahardd y tu allan i’r ysgol, a diarddel (gwaharddiad parhaol). Nid oedd yr adolygiad hwn yn edrych ar yr effaith ar unrhyw ganlyniadau troseddu neu drais ond canfu ymyriadau a oedd yn llawer mwy llwyddiannus o ran lleihau gwaharddiadau (gweler isod). Amcangyfrifir bod ymyriadau, ar gyfartaledd, wedi lleihau nifer y gwaharddiadau 35%.

Canfu’r adolygiad hwn, ar gyfartaledd, fod ymyriadau sy’n ceisio lleihau atal o’r ysgol yn lleihau nifer yr arestiadau 2% ac ataliad 6%.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar droseddu a thrais. Mae’r amcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad systematig o ansawdd uchel.

Fodd bynnag, rydym wedi israddio ein sgôr cadernid tystiolaeth o uchel i gymedrol oherwydd bod yr amcangyfrif o’r effaith ar arestiadau yn seiliedig ar ddim ond chwe astudiaeth.

Daw’r rhan fwyaf o’r ymchwil sydd ar gael o’r Unol Daleithiau. Dim ond pedair astudiaeth a gynhaliwyd yn y DU a nodwyd yn yr adolygiadau.

Yr astudiaeth fwyaf sydd ar gael yn y DU yw gwerthusiad o’r rhaglen Engage in Education, a gyflwynwyd gan Catch22. Yn y rhaglen hon, bu gweithwyr ieuenctid yn gweithio gyda phlant ym mlynyddoedd 9 a 10 ar bynciau megis cyfathrebu effeithiol, rheoli dicter, a dad-ddwysau. Darparwyd cefnogaeth un-i-un gan weithiwr allweddol mewn ardaloedd lle nodwyd bod angen. Ni chanfu’r astudiaeth hon unrhyw dystiolaeth bod ymyriad Engage in Education wedi lleihau nifer y gwaharddiadau. Yn wir, cynyddodd gwaharddiadau cyfnod penodol, fel yr adroddwyd gan ddisgyblion, ychydig ym mlwyddyn yr ymyriad.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae ymchwil wedi archwilio a allai gwahanol fathau o ymyriadau arwain at effeithiau gwahanol ar nifer y gwaharddiadau. Mae’n awgrymu bod y gweithgareddau canlynol yn gysylltiedig ag effeithiau mwy.

  • Gweithgareddau sy’n ceisio atal trais yn yr ysgol drwy gefnogi myfyrwyr i ddatblygu hunan-reoleiddio ac ymatebion heddychlon i wrthdaro.
  • Cefnogaeth i iechyd meddwl myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys cwnsela yn yr ysgol a darpariaeth fwy arbenigol gan wasanaethau iechyd meddwl cymunedol.
  • Ymyriadau sy’n paru myfyrwyr â mentor, a allai fod yn athro neu’n rhywun o’r gymuned leol. Gallai’r mentor weithredu fel model rôl, goruchwylio perfformiad academaidd, darparu cyngor neu gwnsela, a helpu gyda thasgau academaidd.
  • Cymorth academaidd, fel tiwtora.

Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod cymorth wedi’i dargedu ar gyfer myfyrwyr unigol yn gysylltiedig â gostyngiadau mwy mewn gwaharddiadau na dulliau sy’n gweithio ar draws yr ysgol gyfan. Nid yw hyn yn golygu nad yw dulliau ysgol gyfan yn bwysig gan y gallent leihau’r angen am gymorth wedi’i dargedu.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost ymyriadau i atal gwaharddiadau o’r ysgol yn debygol o fod yn gymedrol. Mae rhaglenni cyffredinol yn debygol o fod yn rhatach, tra bod rhaglenni sy’n cynnig cymorth wedi’i dargedu at ddisgyblion sy’n agored i gael eu gwahardd yn debygol o fod yn ddrutach.
Mae ein hamcangyfrif cost yn seiliedig ar dri gwerthusiad o ymyriadau perthnasol. Gallai’r costau gynnwys gweithwyr prosiect, athrawon ychwanegol, cwnselwyr, mentoriaid a staff cefnogi ychwanegol. Gall y costau amrywio yn ol y nifer sy’n ymwneud â darparu’r ymyriad, a pha mor ddwys yw’r gefnogaeth a ddarperir. Roedd gwerthusiad diweddar o’r rhaglen Engage in Education yn y DU (a ddisgrifir uchod) yn amcangyfrif bod y rhaglen yn costio £882 y disgybl.

Crynodeb o bwncz

  • Mae’r ymchwil ar ymyriadau i atal gwahardd o’r ysgol yn gymhleth. Mae tystiolaeth addawol ynghylch dulliau effeithiol o atal gwaharddiadau. Fodd bynnag, pan fo’r ymchwil wedi edrych ar yr effaith ar arestiadau, mae wedi tueddu i ganolbwyntio ar ymyriadau sydd wedi bod yn llai llwyddiannus o ran cadw plant yn yr ysgol.
  • Dylai ymchwil yn y dyfodol nodi’r ymyriadau sydd â’r effeithiau mwyaf ar waharddiadau a gwerthuso eu heffaith ar droseddu a thrais.
  • Mae’r rhaglenni sy’n cael yr effaith fwyaf ar atal gwaharddiadau wedi tueddu i gynnwys gweithgareddau sy’n datblygu hunan-reoleiddio a datrys gwrthdaro, yn darparu cymorth ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr, yn paru myfyrwyr â mentor, ac yn darparu cymorth academaidd.

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Ariannodd YEF astudiaeth beilot o The Respect Project, dan arweiniad Clybiau Bechgyn a Merched Essex. Derbyniodd pobl ifanc ym mlwyddyn 9, yr oedd eu hathrawon wedi nodi eu bod mewn perygl, wyth o sesiynau sgiliau bywyd mewn clwb ieuenctid a chyfnod preswyl o wythnos dros gyfnod o bedwar mis. Nod y rhaglen oedd helpu pobl ifanc i ail-ymgysylltu mewn addysg a’u hamddiffyn rhag cael eu tynnu mewn i drosedd a thrais.

Dolenni allanol

Adolygiad Timpson o waharddiadau ysgol
Adolygiad Edward Timpson yn 2019 o waharddiadau ysgol a gomisiynwyd gan yr Adran Addysg. Nod yr adolygiad oedd canfod sut mae penaethiaid yn defnyddio’u pŵer i wahardd a pham mae rhai disgyblion fel y rhai ag AAA, y rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim, plant sy’n cael eu cefnogi gan ofal cymdeithasol a rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o gael eu gwahardd.

Dadlwythiadau