Skip to content

Ymgyrchoedd yn y Cyfryngau

Codi ymwybyddiaeth o risgiau a chanlyniadau cymryd rhan mewn trais.

Dim digon o dystiolaeth o'r effaith

?

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

?

Prevention Type

  • Cychwynnol

Lleoliad

  • Gymuned

Sectorau

Beth ydyw?

Nod ymgyrchoedd yn y cyfryngau yw codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau cymryd rhan mewn trais. Maent yn rhannu negeseuon neu wybodaeth am drais gyda nifer fawr o bobl drwy deledu, radio, llwyfannau ar-lein neu drwy brint, fel papurau newydd a phosteri. Mae’r dull hwn yn seiliedig ar ddwy dybiaeth. Yn gyntaf, y gallai mwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am drais, erledigaeth ac ymatebion cyfiawnder troseddol atal pobl ifanc rhag ymwneud â thrais. Yn ail, y gallai codi ymwybyddiaeth a gwybodaeth am drais ymysg pobl ifanc newid canfyddiadau ac ymddygiad, gan arwain at newidiadau mewn normau cymdeithasol ehangach.

Fel arfer, rhedir ymgyrchoedd atal trais yn genedlaethol, neu mewn ardaloedd sirol gyda chefnogaeth yr heddlu, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid. Fodd bynnag, mae ymgyrchoedd ar raddfa fach weithiau’n cael eu cynnal mewn ysgolion a phrifysgolion.

Gall ymgyrchoedd yn y cyfryngau gynnwys:

  • Negeseuon, delweddau a fideos sy’n cael eu rhannu gan ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter, Facebook, Instagram, TikTok, YouTube, Snapchat, Reddit a mwy
  • Radio a theledu, gan gynnwys hysbysebion a rhaglenni dogfen
  • Cyfryngau print, megis papurau newydd, cylchgronau a thaflenni 
  • Hysbysfyrddau a phosteri mewn ardaloedd lle ceir llawer o draffig, gan gynnwys safleoedd bysiau, gorsafoedd trenau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae enghreifftiau o ymgyrchoedd diweddar yn y cyfryngau sy’n ceisio atal trais ymysg pobl ifanc yn cynnwys:

  • #KnifeFree – ymgyrch gan y Swyddfa Gartref sy’n defnyddio straeon go iawn am bobl ifanc, i dynnu sylw at ganlyniadau cario cyllell ac i ysbrydoli pobl ifanc i fynd ar drywydd dewisiadau amgen cadarnhaol.  
  • Trapped Campaign – ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o arwyddion camfanteisio troseddol ar gyfer plant, rhieni ac ymarferwyr.
  • One Punch Campaign – a gynhaliwyd gan sawl heddlu yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o 2013 ymlaen, i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau trais, ac yn benodol y ffaith bod ‘un ergyd yn gallu lladd’. Roedd llawer o ymgyrchoedd ‘One Punch’ yn cynnwys fideos emosiynol a rannwyd ar-lein a hysbysebion ar y radio.  Roedd yr ymgyrch wedi’i chyfeirio’n benodol at droseddu cysylltiedig ag alcohol. 

A yw’n effeithiol?

Ychydig iawn o werthusiadau a wnaed o effaith ymgyrchoedd yn y cyfryngau ar droseddau treisgar. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo amcangyfrif o’r effaith gyffredinol.

Edrychodd un astudiaeth yn y DU ar effeithiau dangos trydariadau am y risgiau cysylltiedig â chario cyllell i ddynion ifanc 18-25 oed. Cafodd cyfranogwyr eu dyrannu ar hap i grwpiau a oedd yn edrych ar drydariadau ar risgiau dioddef trywaniad neu drydariadau am ddiodydd llawn siwgr. Roedd yn mesur yr effaith ar eu parodrwydd i gario cyllell a’r manteision tybiedig o wneud hynny. Canfu’r ymchwil bod y grŵp a gafodd wybodaeth am gyllyll yn fwy ymwybodol o risiau eu marwolaeth eu hunain wrth gario cyllell, ond nid oedd hyn yn effeithio ar eu parodrwydd i gario cyllell.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae’r ymchwil ar effaith yr ymgyrchoedd yn y cyfryngau yn wan iawn. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith.

Cynhaliwyd adolygiad yn 2016 o ymchwil cysylltiedig ag ymgyrchoedd yn y cyfryngau ac atal trais ymysg pobl ifanc, ac ni chanfuwyd ond chwe astudiaeth yn rhyngwladol. Cynhaliwyd pump o’r astudiaethau mewn ysgolion neu golegau yn yr Unol Daleithiau a’r chweched mewn coleg yn yr Iseldiroedd.

Roedd yr astudiaethau hyn yn mesur canlyniadau cysylltiedig â thrais megis empathi, dicter, gwybodaeth, ac agweddau tuag at drais. Fodd bynnag, nid oedd yr un o’r astudiaethau yn mesur yr effaith ar droseddu neu ar drais yn uniongyrchol.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Darparwyd cipolwg ynghylch gweithredu gan dri gwerthusiad.

Gwerthusiad o ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol yn Essex, y DU, a oedd yn anelu at atal pobl ifanc rhag ymwneud â llinellau cyffuriau (‘county lines’). Canfu’r astudiaeth, er bod yr ymgyrch wedi cyrraedd nifer fawr o’r gynulleidfa darged, nad oedd llawer o ymgysylltu â’r cynnwys. Roedd y rhesymau dros ymgysylltu isel yn cynnwys:

  • Bod y negeseuon yn tynnu eu sylw wrth edrych ar y cyfryngau cymdeithasol ac nid oeddynt eisiau hynny
  • Doedd ganddynt ddim diddordeb mewn dysgu mwy am linellau cyffuriau
  • Nid oeddent yn adnabod y brand y tu ôl i’r neges ac felly nid oeddent yn rhoi llawer o sylw iddi.

Mewn astudiaeth yn Glasgow, cafwyd adborth gan bobl ifanc am ymgyrch ‘No Knives Better Lives’, a oedd yn cynnwys pobl ifanc o ardaloedd lle yr oedd trais yn uchel ac yn isel, fel ei gilydd. Nododd y gwerthusiad dair prif thema:

  • Gall delweddau o gyllyll annog cario cyllyll, gan eu hatgoffa o’r bygythiad tybiedig o drais sy’n gysylltiedig â chyllyll a’r angen i amddiffyn eu hunain
  • Roedd plant a phobl ifanc mewn ardaloedd lle ceir lefelau uwch o drais yn tueddu i weld cyllyll fel rhan o’r ffordd o fyw yn eu cymunedau.
  • Roedd yr ymgyrch yn rhannu delweddau a allai atgyfnerthu stereoteipiau sy’n ymwneud â phobl ifanc a throseddau gyda chyllyll, ac roedd rhai pobl ifanc yn credu eu bod yn gwasanaethu’r heddlu a gwleidyddiaeth, yn hytrach na helpu pobl ifanc.

Canfu gwerthusiad o ymgyrch yn y cyfryngau a oedd yn canolbwyntio ar dramgwyddwyr mewn ysgolion uwchradd yn yr Iseldiroedd fod yr ymgyrch mewn gwirionedd yn atgyfnerthu stereoteipiau ‘macho’ a chredoau ffug ynghylch beth yw ymosod yn rhywiol a threisio. Mae credoau ffug yn cynnwys credoau sy’n esgusodi ymddygiad ymosodol rhywiol ac yn gallu creu gelyniaeth tuag at ddioddefwyr neu eu beio. Mae’r gwerthusiad yn argymell:

  • Profi negeseuon allweddol, delweddau ac iaith gyda phobl ifanc, er mwyn casglu adborth am argraffiadau cyn lansio’r ymgyrch
  • Ymgymryd â gwaith cwmpasu i ddylunio a rheoli negeseuon ar gyfer grwpiau risg uchel

Beth yw’r gost?

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i ddarparu amcangyfrif sylfaenol o’r gost. Mae’r costau’n debygol o amrywio’n fawr yn dibynnu ar natur, graddfa a hyd ymgyrch y cyfryngau. Er enghraifft, roedd ymgyrch genedlaethol y Swyddfa Gartref yn 2018 ‘Knife Free’ yn costio £1.3m. 

Crynodeb o bwncz

  • Mae ymgyrchoedd yn y cyfryngau yn anelu at rannu gwybodaeth neu negeseuon gyda nifer fawr o bobl drwy deledu, radio, llwyfannau ar-lein a thrwy brint, fel papurau newydd a phosteri.
  • Ychydig iawn o werthusiadau a wnaed o effaith ymgyrchoedd yn y cyfryngau ar droseddau treisgar. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith.
  • Mae rhai astudiaethau o ansawdd isel yn awgrymu y gallai ymgyrchoedd yn y cyfryngau fod yn niweidiol, lle mae’r neges yn ysgogi canfyddiadau o fygythiad neu ofn ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o gario arfau.
  • Yn ogystal, mae angen cynllunio ymgyrchoedd yn y cyfryngau heb barhau stereoteipiau sy’n ymwneud â phobl ifanc a throseddau treisgar.
  • Mae ymgyrchoedd yn y cyfryngau wedi dangos effeithiolrwydd ar gyfer rhai materion iechyd cyhoeddus, gan gynnwys defnyddio tybaco, gweithgarwch corfforol ac iechyd rhywiol. Gallai dysgu gan y sector iechyd fod yn sail i ddefnyddio ymgyrchoedd yn y cyfryngau i atal trais yn effeithiol.

Dolenni allanol


Defnyddiwyd ymgynghori ag arbenigwyr a phobl ifanc fel rhan o adolygiad cwmpasu yn y DU i ganfod y syniadau a’r arferion cyfredol ar ddefnyddio ymgyrchoedd yn y cyfryngau i fynd i’r afael â thrais a cham-drin rhyngbersonol ymysg pobl ifanc.

Ymgyrch newydd a lansiwyd ym mis Chwefror 2022 gan Faer Llundain, sydd wedi’i hanelu at ddynion a bechgyn i fynd i’r afael ag agweddau ac ymddygiad rhywiaethol sy’n gysylltiedig â chasineb at wragedd a thrais yn erbyn menywod a merched.   

Ymgyrch gan y Swyddfa Gartref i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.

Dadlwythiadau