Skip to content

Therapi Gwybyddol Ymddygiadol

Therapi siarad sy’n helpu pobl i adnabod a rheoli meddyliau ac ymddygiadau negyddol.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

UCHEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Caethiwed
  • Gymuned

Themâu

  • Therapïau

Deilliannau Eraill

Ansawdd y dystiolaeth

  • Gostyngiad mawr mewn Anawsterau ymddygiad
    1 2 3 4 5

Beth ydyw?

Mae Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yn fath o therapi siarad sydd wedi cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael ag amrywiaeth o anawsterau seicolegol. Pan fydd yn cael ei ddefnyddio i atal trais ieuenctid, mae’n seiliedig ar y syniad y gallai meddyliau ac ymddygiadau negyddol neu fyrbwyll wneud rhywun yn fwy tebygol o wylltio neu ymddwyn yn ymosodol. Bydd y patrymau meddwl hyn yn aml yn gysylltiedig â thrawma sydd wedi cronni drwy brofiad cronig o drais difrifol a digwyddiadau trallodus eraill. Gallent gynnwys tuedd i gamddehongli sylwadau fel rhai amharchus neu bryfoclyd, bod yn or-wyliadwrus a bob amser “ar wyliadwriaeth”, neu’n ceisio dial.

Nod CBT yw helpu plant a phobl ifanc i ddod yn fwy ymwybodol o’r meddyliau negyddol hyn a dysgu i’w newid neu eu rheoli. Gallai’r therapydd weithio gyda phlentyn i archwilio sut mae ei dybiaethau yn berthnasol i realiti, deall ymddygiad a chymhelliant pobl eraill yn well, a defnyddio sgiliau datrys problemau i ymdopi â sefyllfaoedd anodd.

Gellir defnyddio CBT gyda phlant sy’n dangos ymddygiad heriol, plant yn y ddalfa, neu eu teuluoedd. Gellir ei ddarparu mewn amrywiaeth o leoliadau yn y gymuned neu yn y ddalfa, fel arfer gan seicolegwyr hyfforddedig sydd wedi cael hyfforddiant ôl-radd neu ardystiad proffesiynol. Fel arfer, mae’n ymyriad dwys sy’n digwydd dros gyfnod byr o amser. Ar gyfartaledd, mae ymyriadau’n para am 15 wythnos gydag oddeutu 3 awr yr wythnos o gefnogaeth.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae effaith therapi gwybyddol ymddygiadol ar droseddau treisgar yn debygol o fod yn uchel.

Mae CBT yn effeithiol o ran lleihau troseddu’n gyffredinol ac ymddygiad sy’n gysylltiedig â throseddu a thrais. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod CBT, ar gyfartaledd, wedi gostwng lefel troseddu 27% ac wedi lleihau nifer yr achosion o anawsterau ymddygiad. Mae wedi tueddu i gael mwy o effaith wrth weithio gyda phlant a oedd wedi cael mwy o gyswllt â’r system cyfiawnder troseddol yn y gorffennol.

Add outcome

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod CBT, ar gyfartaledd, wedi gostwng lefel troseddu 27% ac wedi lleihau nifer yr achosion o anawsterau ymddygiad.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder uchel yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog.

Mae’r amcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad o ansawdd uchel o lawer o astudiaethau. Nid ydym wedi dyfarnu’r sgôr cadernid uchaf oherwydd bod llawer o amrywiaeth yn yr amcangyfrifon a ddarperir gan yr ymchwil sylfaenol. Mae rhai astudiaethau’n awgrymu y gall CBT gael effaith fwy cadarnhaol tra bo astudiaethau eraill yn awgrymu bod yr effaith yn llai. Edrychir ar esboniadau posibl ar gyfer yr amrywiad hwn yn yr adran weithredu isod.

Mae tystiolaeth addawol o’r DU. Roedd un adolygiad yn cynnwys saith gwerthusiad yn y DU o’r rhaglen Rhesymu ac Ailsefydlu a daeth i’r casgliad ei bod yn effeithiol o ran lleihau aildroseddu ymysg plant ac oedolion.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Darparu cefnogaeth ar gyfer gweithredu

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod cysylltiad cryf rhwng ansawdd y gweithredu a mwy o effeithiau. Yn y rhaglenni lle’r oedd llai o blant wedi rhoi’r gorau iddi, roedd ansawdd y therapi’n cael ei fonitro’n agos, ac roedd hyfforddiant digonol ar gyfer therapyddion yn fwy effeithiol.

Ystyried cynyddu nifer y sesiynau bob wythnos

Er bod llawer o ymyriadau CBT yn defnyddio llai na thair sesiwn therapi yr wythnos, mae rhai sydd ag un neu ddwy sesiwn bob dydd. Mae ymchwil yn awgrymu bod cynnal mwy o sesiynau bob wythnos yn gysylltiedig ag effeithiau mwy sylweddol.

Pa raglenni sydd ar gael?

Isod mae rhestr o raglenni a geir yn Arweinlyfr y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF). Mae’r Arweinlyfr yn crynhoi’r ymchwil ar raglenni sy’n anelu at wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Rhaglenni eraill

Ceir nifer o wahanol raglenni CBT gyda phwyslais a thechnegau ychydig yn wahanol. Mae rhai enghreifftiau o raglenni’n cynnwys:

  • Nod Rhesymu ac Ailsefydlu yw helpu cyfranogwyr i aros a meddwl cyn gweithredu, ystyried canlyniadau eu hymddygiad, a meddwl am ffyrdd eraill o ymateb i wrthdaro.
  • Mae Therapi Rhesymu Moesol (Moral Reconation Therapy) yn canolbwyntio ar resymu moesol. Mae’n defnyddio cyfres o ymarferion grŵp a llyfr gwaith i ddylanwadu ar sut mae pobl yn meddwl am faterion moesol ac yn gwneud penderfyniadau moesol.

Mae tair elfen i Therapi Disodli Ymddygiad Ymosodol:

  • Mae ffrydio sgiliau yn dysgu ymddygiad pro-gymdeithasol drwy fodelu a chwarae rôl 
  • Mae Hyfforddiant Rheoli Dicter yn datblygu hunanreolaeth drwy sicrhau bod cyfranogwyr yn cofnodi profiadau sy’n ysgogi dicter, yn nodi meddyliau “sbardun” ac yn defnyddio technegau rheoli dicter 
  • Mae Addysg Foesol yn cynnal trafodaethau am gyfyng-gyngor moesol er mwyn datblygu rhesymu moesol 

Mae Meddwl am Newid yn cynnwys 22 sesiwn o ymarferion grŵp a gwaith cartref. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu’r ddealltwriaeth bod meddwl yn rheoli ymddygiad, deall ac ymateb i deimladau’r hunan ac eraill, a sgiliau datrys problemau. 

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae effaith therapi gwybyddol ymddygiadol yn debygol o fod yn uchel.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod y gost fesul cyfranogwr yn debygol o fod yn filoedd o bunnoedd. Mae CBT yn ymyriad dwys ac mae therapydd hyfforddedig yn ofynnol. Bydd y gost fesul cyfranogwr yn amrywio yn dibynnu ar a fydd y therapydd yn gweithio gydag unigolion neu grŵp.

Crynodeb o bwncz

  • Mae corff mawr o dystiolaeth o’r DU a thramor yn awgrymu y gall CBT gael effaith ddymunol gymharol fawr.
  • Mae ansawdd y gweithredu’n gysylltiedig â mwy o effeithiau. Yn y rhaglenni lle’r oedd llai o blant wedi rhoi’r gorau iddi, roedd ansawdd y therapi’n cael ei fonitro’n agos, ac roedd hyfforddiant digonol ar gyfer therapyddion yn fwy effeithiol. Ydych chi’n gallu buddsoddi i sicrhau darpariaeth o safon uchel?
  • Mae rhestrau aros hir yn aml i gael gafael ar therapi seicolegol. Sut allwch chi sicrhau mynediad cyflym at therapi i blant sydd ei angen?

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Ariannodd YEF arfarniadau wedi’u llywio gan Therapi Ymddygiadol Gwybyddol. Defnyddiodd therapyddion y dull therapiwtig i gefnogi plant mewn perygl o ddod ynghlwm wrth droseddau a thrais.

Roedd yr arfarniadau’n cynnwys:

  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot o raglen Triniaeth Integreiddiol Systemig Brandon Centre (SIT), a oedd yn darparu ymyrraeth bwrpasol am 12 mis i deuluoedd.
  • Arfarniad dichonoldeb o Pause 4 Thought, dan arweiniad Cyngor Blackburn a Darwen, a ddarparodd 11 o sesiynau grŵp ac un sesiwn unigol.
  • Astudiaeth beilot o Your Choice, a oedd yn darparu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid ym maes technegau Therapi Ymddygiadol Gwybyddol (CBT), oedd yna’n ceisio cynal tri o gyfarfodydd yr wythnos am 12 wythnos.

Dadlwythiadau