Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:
Ansawdd y dystiolaeth:
Cost:
Deilliannau Eraill
Ansawdd y dystiolaeth
-
gostyngiad UCHEL mewn Anawsterau ymddygiad
Beth ydyw?
Mae rhaglenni therapi antur a thir gwyllt yn cynnwys gweithgareddau lle mae plant a phobl ifanc yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn her. Maen nhw’n cael eu cynnal yn yr awyr agored fel arfer, er enghraifft mewn parciau neu goedwigoedd. Mae’r rhan fwyaf o raglenni’n golygu aros dros nos oddi cartref, yn amrywio o un noson i sawl wythnos neu fisoedd. Ochr yn ochr â gweithgareddau grŵp, efallai y bydd cyfranogwyr hefyd yn cael sesiynau gyda chwnselwyr a therapyddion.
Mae rhaglenni’n aml yn cynnwys:
- Cerdded, heicio neu feicio
- Gwersylla a gwarbacio
- Cyfeiriannu a dod o hyd i’r ffordd
- Hyfforddiant sgiliau goroesi, datblygu sgiliau ymarferol, cymorth cyntaf, addysg iechyd a maeth
- Archwilio ogofâu, rafftio dŵr gwyn, rhaffau uchel, canŵio ac abseilio
- Chwarae rôl a drama
Mae rhai rhaglenni’n cynnwys teuluoedd mewn agweddau ar yr ymyriad. Gallai hyn gynnwys:
- Cefnogaeth i rieni i ddatblygu dulliau, profiadau a thechnegau magu plant. Gall hyn ddigwydd yn aml pan fydd y plentyn i ffwrdd ar raglen breswyl
- Rhieni’n cymryd rhan yn y gweithgareddau antur ochr yn ochr â’u plant. Gallai hyn olygu plant a phobl ifanc yn dysgu’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu i’w rhieni yn ystod eu profiad tir gwyllt.
- Sesiynau therapi teulu.
Mae sawl esboniad posibl ynghylch pam y gallai’r dull hwn amddiffyn plant rhag cymryd rhan mewn troseddu a thrais. Gallai cael profiadau newydd, dysgu sgiliau newydd a goresgyn heriau mewn sefyllfa grŵp gefnogi gwell hunan-barch, cyfathrebu ac ymddygiad. Gallai rhaglenni preswyl dynnu plant a phobl ifanc oddi wrth amgylchiadau a allai fod wedi cyfrannu at eu troseddu. Yn olaf, gallai treulio amser ym myd natur gael effaith therapiwtig, eu cefnogi i hunanystyried, a chael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl.
A yw’n effeithiol?
Ar gyfartaledd, mae therapi antur a thir gwyllt yn debygol o gael effaith fach ar droseddu treisgar. Mae’n debygol o gael effaith gymedrol ar aildroseddu.
Mae’r ymchwil yn awgrymu bod therapi antur a thir gwyllt, ar gyfartaledd, yn lleihau troseddu treisgar 10%, yr holl droseddu 10% ac aildroseddu 12%.
Mae therapi antur a thir gwyllt yn cael effaith fawr ar anawsterau ymddygiad, ynghyd â gwella iechyd meddwl, ymddygiadau defnyddiol a chydweithredol, hunan-barch, sgiliau cymdeithasol ac agweddau a chredoau.
Mae’r ymchwil yn awgrymu y gall therapi antur a thir gwyllt gael effeithiau mwy cadarnhaol ar grwpiau cymysgedd o’r rhywiau o’i gymharu â grŵp o wrywod yn unig.
Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?
Ychydig o hyder sydd gennym yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar droseddu treisgar.
Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar un adolygiad systematig o ansawdd uchel yn ddiweddar. Mae ein hyder yn isel oherwydd ei fod yn seiliedig ar bum astudiaeth o ansawdd isel yn unig. Mae llawer o amrywiaeth hefyd yn yr amcangyfrifon a ddarparwyd gan yr astudiaethau hyn.
Mae gennym hyder isel yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar aildroseddu hefyd. Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar saith astudiaeth o ansawdd isel.
Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar anawsterau ymddygiad. Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar 11 astudiaeth o ansawdd isel.
Mae gennym hyder uchel yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar yr holl droseddu. Mae’n seiliedig ar 17 astudiaeth a dim ond oherwydd maint yr amrywiad yn y canlyniadau ar draws yr astudiaethau y gostyngodd un lefel sgôr.
Roedd yr adolygiad ehangach yn cynnwys 46 o astudiaethau a 23 o werthusiadau proses.
Ni chynhaliwyd yr un o’r astudiaethau a oedd yn sail i’r amcangyfrif o’r effaith ar droseddu treisgar yn y DU. Canfu’r adolygiad dair astudiaeth o’r DU ac un o Iwerddon, ond nid oedd yr astudiaethau hyn yn mesur yr effaith ar droseddu ac nid ydynt wedi’u cynnwys.
Sut allwch chi ei weithredu’n dda?
Roedd gwerthusiadau o 19 rhaglen yn cynnwys gwybodaeth am roi ar waith.
Mae’r prif nodweddion sy’n arwain at gael plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn rhaglenni yn cynnwys:
- Profiadau o waith tîm cadarnhaol, ymddiried mewn pobl eraill a theimlo bod pobl eraill yn ymddiried ynoch chi, teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a’ch cefnogi gan gymheiriaid.
- Therapyddion hyfforddedig fel arweinwyr, yn cefnogi ac yn annog.
- Datblygu rheolau grŵp gyda’i gilydd, rhannu syniadau a chymryd rhan mewn ymarferion meithrin ymddiriedaeth ac ymarferion datrys problemau heb gyfraniad arweinwyr.
- Cynnwys aelodau’r teulu mewn rhannau o’r rhaglen.
- Rheoli deinameg y rhywiau. Roedd rhai merched yn teimlo’n llai cyfforddus mewn grwpiau gyda bechgyn, yn enwedig pan oedd gweithgareddau’n cynnwys rhannu straeon neu safbwyntiau personol.
- Cefnogi plant i drosglwyddo’r dysgu o’r lleoliad tir gwyllt i brofiadau yn y cartref neu yn yr ysgol.
Beth yw’r gost?
Ar gyfartaledd, mae cost therapi antur a thir gwyllt yn debygol o fod yn gymedrol.
Mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar raglenni sy’n cael eu darparu amlaf yn y DU. Yn gyffredinol, mae’r costau’n cynnwys cyfarpar ar gyfer gweithgareddau, amser ar gyfer staff neu athrawon a bwyd. Mae’r costau’n debygol o amrywio llawer yn dibynnu ar hyd y rhaglen.
Crynodeb o bwncz
- Mae rhaglenni therapi antur a thir gwyllt yn cynnwys gweithgareddau lle mae plant a phobl ifanc yn gweithio gyda’i gilydd i oresgyn her. Maen nhw’n cael eu cynnal yn yr awyr agored fel arfer, er enghraifft mewn parciau neu goedwigoedd.
- Mae’r rhan fwyaf o raglenni’n golygu aros dros nos oddi cartref, yn amrywio o un noson i sawl wythnos neu fisoedd.
- Ar gyfartaledd, mae therapi antur a thir gwyllt yn debygol o gael effaith fach ar droseddu treisgar. Mae’n debygol o gael effaith gymedrol ar aildroseddu.
- Mae’r dystiolaeth yn gymharol wan, ac ychydig o hyder sydd gennym yn y canfyddiadau hyn.
- Mae’r ymchwil yn awgrymu y gall therapi antur a thir gwyllt gael effeithiau mwy cadarnhaol ar gyfer grwpiau cymysgedd o’r rhywiau o’i gymharu â grŵp o wrywod yn unig.
Dolenni allanol
Education Endowment Fund: Crynodeb o ddysgu ar sail antur yn yr awyr agored https://educationendowmentfoundation.org.uk/education-evidence/teaching-learning-toolkit/outdoor-adventure-learning