Therapi Aml-System (MST)
Rhaglen therapi teulu ar gyfer plant sydd mewn perygl o gael eu lleoli naill ai mewn gofal neu yn y ddalfa
Rhaglen therapi teulu ar gyfer plant sydd mewn perygl o gael eu lleoli naill ai mewn gofal neu yn y ddalfa
Rhaglen therapi teulu yw Therapi Aml-System (MST) sy’n gweithio gyda phlant rhwng 10 a 17 oed a’u teuluoedd pan fydd y plant mewn perygl o gael eu rhoi yn y ddalfa neu mewn gofal. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ‘fyd cyfan’ y plant, gan gynnwys eu cartrefi a’u teuluoedd, ysgolion ac athrawon, a chymdogaethau a ffrindiau. Ei nod yw hyrwyddo perthnasoedd teuluol cadarnhaol, cefnogi’r plentyn i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant, mynd i’r afael â phroblemau fel camddefnyddio sylweddau, a diogelu’r plentyn rhag troseddu a chymryd rhan mewn trais. Mewn rhai gwledydd, bydd llysoedd a sefydliadau cyfiawnder ieuenctid eraill yn aml yn cyfeirio plant a’u teuluoedd at MST fel rhaglen ymyrraeth gorfodol er nad yw’n orfodol yn y DU yn gyffredinol.
Mae’r rhaglen yn paru teuluoedd â therapydd a fydd yn gweithio’n ddwys gyda nhw am rhwng tri a phum mis. Mae’r therapydd ‘ar alwad’ i helpu teuluoedd 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Bydd y therapi yn ystyried sawl agwedd ar fywyd y plant, gan gynnwys eu teulu, eu hysgol, eu hardal leol a’u ffrindiau. Ei nod yw canfod a mynd i’r afael â materion ym mhob un o’r meysydd hyn a allai fod yn rhwystro ymddygiad cadarnhaol.
Gall y therapi fod ar sawl ffurf wahanol a chaiff ei addasu i anghenion a lleoliad y plentyn:
Ar gyfartaledd, yn seiliedig ar adolygiad yn cynnwys wyth astudiaeth o’r UDA, mae’r ymchwil ryngwladol yn awgrymu bod MST yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddau treisgar.
Mae pedair astudiaeth nad ydynt yn yr Unol Daleithiau wedi’u cynnwys yn yr adolygiad, tair o’r DU ac un o Ganada, yn awgrymu bod MST yn debygol o gael effaith isel ar droseddau treisgar.
Yn ôl astudiaeth sylweddol yn y DU a gyhoeddwyd yn 2018 nid oedd MST yn fwy effeithiol o’i gymharu â’r ymarfer arferol. Roedd yr ymarfer arferol yn cynnwys plant yn gweithio gyda gweithiwr achos drwy fodel cefnogi a chwnsela, gyda gwasanaethau i gyd-fynd â’u hanghenion yn cael eu darparu drwy wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) a gofal cymdeithasol. Mae’n bosibl bod yr amodau ymarfer arferol a brofwyd gan y grŵp rheoli yn fwy effeithiol yn y DU nag mewn mannau eraill, a gallai hyn esbonio’r gwahaniaeth rhwng canlyniadau’r DU ac UDA. Gall fod gwahaniaethau hefyd ym mhrofiad y therapyddion a pha mor gyson y cedwir at y dulliau gweithredu.
Mae’r ymchwil rhyngwladol yn awgrymu bod MST yn fwy effeithiol i blant dan 15 oed a gyda phlant sydd wedi cael eu harestio o’r blaen.
Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar drais.
Mae’r sgôr tystiolaeth yn gymedrol am ddau reswm. Fe wnaethom ostwng un lefel sgôr gan mai dim ond ar wyth astudiaeth y mae’r amcangyfrif o drais yn seiliedig ac fe wnaethom ostwng lefel arall oherwydd bod amrywiad sylweddol yn yr amcangyfrifon a ddarparwyd gan yr astudiaethau hyn, yn enwedig rhwng UDA a mannau eraill.
Ni ddaethom o hyd i adolygiad systematig a oedd yn syntheseiddio ymchwil am weithredu MST. Mae map tystiolaeth a bylchau YEF yn cynnwys un astudiaeth yn y DU a oedd yn archwilio trywydd cyfranogwyr drwy’r rhaglen. Nid yw’r astudiaeth hon yn canolbwyntio’n llwyr ar faterion gweithredu ond mae’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol.
Dywedodd y cyfranogwyr fod trywydd newid ymysg unigolion yn wahanol ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen, gyda rhai yn parhau i wella, ac eraill yn ei chael yn anodd cynnal newidiadau positif neu ddim yn gweld unrhyw newid o gwbl. Roedd mwy o lwyddiant pan oedd technegau a sgiliau MST yn parhau ac yn cael eu cyffredinoli i gyd-destunau ehangach, gan gynnwys gwell perthnasoedd teuluol ac ail-ennill cynnydd ar ôl anawsterau.
Dywedodd teuluoedd fod nifer o ffactorau’n gyfrifol am y newidiadau cychwynnol oherwydd MST. Roedd y rhain yn cynnwys cymhellion i newid, y berthynas â’r therapydd, dysgu cyfathrebu gwell a gweld y canlyniadau cychwynnol.
Isod mae rhestr o raglenni a geir yn Arweinlyfr y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF). Mae’r Arweinlyfr yn crynhoi’r ymchwil ar raglenni sy’n ceisio gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Mae cost MST yn debygol o fod yn uchel.
Amcangyfrifodd astudiaeth yn 2013 yng Ngogledd Llundain bod y gost yn £2,285 fesul cyfranogwr. Mae’n ymyrraeth ddwys ac mae’n gofyn am therapydd trwyddedig a hyfforddedig a fydd yn darparu’r rhaglen dros gyfnod hir o amser.
Prosiectau a gwerthusiadau YEF
Ariannodd YEF astudiaeth ddichonoldeb o’r rhaglen RESET. Mae RESET yn fersiwn wedi’i diwygio o’r Therapi Aml-systemig a ddyluniwyd ac a ddarparwyd er mwyn siwtio teuluoedd lle mae plentyn 10 i 17 oed mewn perygl o gamfanteisio’n droseddol ar blant (CCE). Cynhaliwyd y rhaglen dros 4-6 mis gan MST Du ac Iwerddon, gyda sesiynau wyneb yn wyneb gyda’r person ifanc a/neu ei ofalwr deirgwaith yr wythnos.
MST UK ac Iwerddon
Dysgwch fwy am gyflwyno MST yn y DU ac Iwerddon.
Post blog MST UK ac Iwerddon
Post blog a ysgrifennwyd gan therapydd MST ar bwysigrwydd cydnabod profiadau diwylliannol teuluoedd mewn ymarfer.