Skip to content

Rhaglenni ymwybyddiaeth carchardai

Rhaglenni sy’n atal plant a phobl ifanc rhag troseddu trwy ddangos realiti bywyd yn y carchar

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

NIWEIDIOL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd

Lleoliad

  • Y ddalfa
  • Ysgolion a cholegau

Sectorau

Beth ydyw?

Nod rhaglenni ymwybyddiaeth carchardai yw atal plant a phobl ifanc rhag troseddu trwy ddangos realiti bywyd yn y carchar. Mae carcharorion presennol neu gyn-garcharorion yn cwrdd â phlant ac yn dangos iddyn nhw sut brofiad yw bod yn y carchar. Gall rhaglenni gynnwys plant yn ymweld â charchar neu garcharorion yn ymweld â phlant mewn ysgol neu gymuned.

Mae rhaglenni’n amrywio o ran y dull gweithredu a ddefnyddir er mwyn ataliaeth. Mae rhai rhaglenni, fel Scared Straight, yn llym iawn gyda’r plant sy’n cymryd rhan, ac yn canolbwyntio ar ddychryn a chodi ofn. Gallai hyn gynnwys carcharorion yn gwawdio ac yn bychanu plant, neu’n rhannu straeon graffig, ffotograffau a fideos yn darlunio trais a diflastod bywyd carchar. Mae rhaglenni eraill yn cymryd agwedd addysgol. Efallai y bydd carcharorion presennol neu gyn-garcharorion yn rhannu straeon eu bywyd, yn disgrifio’r dewisiadau a wnaethant a arweiniodd at gael eu carcharu, ac yn siarad yn fwy cyffredinol am y gost o ymwneud â throseddu.

Mae rhaglenni ymwybyddiaeth carchardai fel arfer yn ymyriadau wedi’u targedu sy’n gweithio gyda phlant y mae perygl y gallan nhw droi at drosedd a thrais. Ymyriadau byr ydyn nhw fel rheol, sy’n cynnwys dim mwy nag un ymweliad â charchar neu un sesiwn addysgol.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, nid yw’n ymddangos bod rhaglenni ymwybyddiaeth o garchardai yn cael yr effaith a ddymunir ar ymgysylltiad plant â throsedd a thrais. Mewn gwirionedd, mae’r ymchwil yn awgrymu y gallent gynyddu’r tebygolrwydd y bydd plant yn troi at droseddu. Mae’n bwysig nodi bod gwerthusiadau o raglenni lle mae plant yn ymweld â charchardai yn dominyddu’r ymchwil. Ni ddaeth yr adolygiad systematig gorau sydd ar gael o hyd i unrhyw werthusiadau o raglenni lle’r oedd carcharorion yn ymweld ag ysgolion.

Mae tystiolaeth y gall y dull hwn gael effaith gadarnhaol ar agweddau plant tuag at droseddu a chosbi. Ond nid oedd yn ymddangos bod hyn yn arwain at ostyngiadau gwirioneddol mewn troseddu.

Mae peth tystiolaeth wan iawn i awgrymu bod gwerthusiadau a fesurodd ganlyniadau fwy na 6 mis ar ôl diwedd y rhaglen wedi canfod effeithiau mwy cadarnhaol. Fodd bynnag, byddai angen i ni weld tystiolaeth gryfach o effaith hirdymor cyn iddo ddylanwadu ar ein barn gyffredinol am effaith y rhaglenni hyn.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder uchel yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar droseddu a thrais.

Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar ddadansoddiad diweddar o ansawdd uchel o 12 astudiaeth a fesurodd yr effaith uniongyrchol ar droseddu. Nid ydym wedi dewis y sgôr diogelwch uchaf oherwydd mae llawer o amrywiad yn yr amcangyfrifon effaith a ddarperir gan yr astudiaethau sydd wedi’u cynnwys.

Cyfyngiad pwysig ar y dadansoddiad hwn yw na ddaeth o hyd i unrhyw werthusiadau o raglenni lle’r oedd carcharorion yn ymweld ag ysgolion yn hytrach na phlant yn ymweld â charchardai.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Ar hyn o bryd, nid yw’r ymchwil yn rhoi darlun clir o effeithiolrwydd gwahanol fathau o raglenni ymwybyddiaeth o garchardai, megis rhaglenni gyda gwahanol lefelau o wrthdaro.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost rhaglenni ymwybyddiaeth o garchardai yn debygol o fod yn isel.

Mae’r costau’n debygol o gynnwys cludo plant yn ôl ac ymlaen i’r carchar, neu gludo cyn-garcharorion yn ôl ac ymlaen i ysgol, ynghyd â chostau goruchwylio. Canfu dadansoddiad o ddeg rhaglen yn UDA gost gyfartalog o $50 y cyfranogwr.

Crynodeb o bwncz

  • Nodwedd ddiffiniol rhaglenni ymwybyddiaeth o garchardai yw bod carcharorion presennol neu gyn-garcharorion yn ceisio atal plant rhag troseddu trwy ddisgrifio realiti bywyd mewn carchar.
  • Nid yw’r crynodeb hwn yn berthnasol i bob rhaglen sy’n cynnwys carcharorion presennol neu gyn-garcharorion. Er enghraifft, nid yw’n cynnwys rhaglenni lle roedd pobl a oedd gynt, ond nad oeddent bellach, yn ymwneud â throseddu yn datblygu yn fentoriaid i blant neu’n ffurfio rhan o gyfiawnder adferol.
  • Ar gyfartaledd, nid yw rhaglenni ymwybyddiaeth carchardai wedi cael yr effaith a ddymunir ar ymwneud plant â throsedd a thrais.
  • Gall y rhaglenni hyn gael effaith gadarnhaol ar rai canlyniadau canolradd, megis agweddau tuag at droseddu. Fodd bynnag, ymddengys nad yw’r rhain yn arwain at ostyngiad mewn lefelau troseddu.
  • Cyfyngiad pwysig ar yr ymchwil yw bod diffyg gwerthusiadau o raglenni lle roedd carcharorion yn ymweld ag ysgolion yn hytrach na lle roedd plant yn ymweld â charchardai. Gallai ymchwil yn y dyfodol ymchwilio i’r effaith y mae rhaglenni mewn ysgolion yn cael.

Dolenni allanol

College of Policing
Crynodeb o’r ymchwil ar raglenni ‘Scared straight’ gan Becyn Cymorth Lleihau Trosedd College of Policing

Dadlwythiadau