Rhaglenni maeth
Rhaglenni sy’n anelu at wella maeth i gefnogi datblygiad yr ymennydd a rheoleiddio ymddygiad
Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:
Ansawdd y dystiolaeth:
Cost:
Prevention Type
- Eilaidd
- Trydyddol
Lleoliad
- Cartref
- Gymuned
- Y ddalfa
- Ysgolion a cholegau
Sectorau
Beth ydyw?
Mae rhaglenni maeth yn anelu at wella’r maetholion sydd ar gael yn y corff i gefnogi datblygiad iach yr ymennydd a rheoleiddio ymddygiad. Maen nhw’n cynnwys naill ai gwneud newidiadau deietegol neu ddefnyddio bwydydd cyfnerthedig neu atchwanegiadau:
- Mae newidiadau deietegol naill ai’n golygu cynyddu faint o fwydydd y mae plentyn yn eu bwyta sy’n llawn maetholion; cymedroli bwydydd sy’n niweidiol mewn gormodedd, fel gormod o garbohydradau; neu leihau bwydydd niweidiol, fel bwydydd sydd wedi’u prosesu’n helaeth a’r rhai sydd ag ychwanegion gormodol.
- Mae atchwanegiad yn golygu cymryd pils, capsiwlau neu hylifau sy’n darparu naill ai ystod eang o fitaminau a mwynau, neu grwpiau penodol o faetholion.
Yr atchwanegiadau mwyaf cyffredin a ddefnyddir i leihau ymddygiad ymosodol a phroblemau ymddygiad yw asidau brasterog omega-3, fitamin D, ac atchwanegiadau eang eu hystod fel lluosfitaminau. Gan nad yw’r rhain yn feddyginiaethau, nid oes angen iddynt gael eu rhagnodi gan feddyg.
Mae’r rhan fwyaf o raglenni maeth sy’n canolbwyntio ar leihau ymddygiad ymosodol yn cael eu darparu i blant niwrowahanol (e.e. awtistiaeth, ADHD) a phlant ag anghenion cymorth ychwanegol, fel anawsterau dysgu. Mae’r rhaglenni hyn yn amrywio’n fawr ond fel arfer cânt eu comisiynu gan wasanaethau iechyd a gellir eu darparu mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys ysgolion, gwasanaethau gofal iechyd a charchardai. Gall rhaglenni gael eu harwain gan feddygon, seiciatryddion, a/neu faethegwyr, ond gallant hefyd gael eu rhedeg gan staff ysgol, ymarferwyr gofal iechyd neu weithwyr achos cyfiawnder ieuenctid. Gellir eu cyflwyno unrhyw oedran, ond mae plant ifanc a phobl ifanc yn fwy tebygol o elwa tra bod eu hymennydd yn dal i ddatblygu. Mae rhaglenni maeth yn aml yn cael eu cyflwyno am bedwar mis o leiaf, ond dylid eu cynnal am gyhyd ag y bo modd er mwyn sicrhau’r buddion iechyd mwyaf posib i blant a phobl ifanc.
Mae’r rhan fwyaf o raglenni’n cynnwys rhieni a gofalwyr mewn agweddau ar yr ymyriad. Gallai hyn gynnwys:
• Mae pediatregwyr, maethegwyr neu ddeietegwyr yn helpu rhieni a gofalwyr i ddatblygu cynllun prydau bwyd a chanllaw maeth i wneud yn siŵr bod newidiadau i ddeiet eu plentyn yn realistig ac yn gynaliadwy.
• Mae rhieni a gofalwyr yn derbyn yr atchwanegiadau a chyfarwyddiadau manwl ynglŷn â sut i olrhain a monitro ymlyniad.
Gall maeth effeithio ar swyddogaeth yr ymennydd ac ymddygiad mewn sawl ffordd. Mae datblygiad iach yr ymennydd a gweithrediad iach yn ystod plentyndod a llencyndod yn dibynnu ar gael digon o faetholion i gefnogi twf yr ymennydd. Mae maetholion yn helpu’r ymennydd i gynhyrchu a defnyddio cemegau fel serotonin, dopamin a chortisol, sy’n chwarae rhan bwysig wrth reoleiddio hwyliau ac ymddygiad. Gall maeth gwael hefyd wneud yr ymennydd yn fwy agored i docsinau yn yr amgylchedd, fel llygredd aer a phlaladdwyr, a all effeithio ar y ffordd y mae’r ymennydd yn gweithredu. Yn ogystal, gall maeth effeithio ar iechyd y perfedd, sy’n anfon signalau i’r ymennydd ac yn cyfrannu at reoli ymddygiad.
Mae yna lawer o ffactorau a all gyfrannu at ddiffyg maetholion. Mae deiet gwael yn achos cyffredin, sy’n cael ei effeithio gan ddewisiadau bwyd, cost, diffyg mynediad at fwyd maethlon a gwybodaeth brin am iechyd a maeth. Mae ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â diffygion yn cynnwys defnyddio rhai meddyginiaethau, straen cronig, iechyd gwael yn y perfedd a niwroamrywiaeth. Gyda’i gilydd, gall y ffactorau hyn effeithio’n sylweddol ar iechyd ac ymddygiad cyffredinolviour.
A yw’n effeithiol?
Ar gyfartaledd, mae rhaglenni maeth yn debygol o gael effaith fawr ar droseddau treisgar.
Mae’r ymchwil yn amcangyfrif y gallai ymyriadau maeth leihau troseddu 82%, serch hynny, mae hyn yn seiliedig ar ddwy astudiaeth yn unig.
Canfu’r adolygiad hefyd fod rhaglenni maeth, ar gyfartaledd, yn debygol o gael effaith fawr ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, gydag amcangyfrif o ostyngiad o 52%. Canfu’r ymchwil fod newid deiet eang, atchwanegiadau eang ac atchwanegiadau fitamin D yn debygol o gael effaith fawr, tra bod atchwanegiadau omega-3 yn debygol o gael effaith gymedrol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae newid deiet eang, atchwanegiadau eang ac atchwanegiadau omega-3, ar gyfartaledd, yn debygol o gael effaith fawr ar ymddygiad ymosodol. Mae’r ymchwil yn amcangyfrif y gall rhaglenni maeth leihau ymddygiad ymosodol 38%
Mae’r ymchwil yn amcangyfrif y gallai rhaglenni maeth, ar gyfartaledd, leihau troseddu 82%, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol 52% a lleihau ymosodedd 38%.
Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?
Ychydig iawn o hyder sydd gennym yn ein hamcangyfrif o effaith gyfartalog rhaglenni maeth ar drais.
Fe wnaethom roi ein hamcangyfrif o effaith y sgôr diogelwch tystiolaeth isaf oherwydd ei fod yn seiliedig ar ddwy astudiaeth yn unig, a cheir amrywiaeth yng nghanlyniadau’r astudiaethau hynny.
Serch hynny, mae gennym hyder uchel iawn yn ein hamcangyfrif o effaith atchwanegiadau omega-3 ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, oherwydd ei fod yn seiliedig ar 21 o astudiaethau. Gostyngwyd y sgôr tystiolaeth i uchel ar gyfer newid deiet sbectrwm eang ac atchwanegiadau oherwydd er ei fod yn seiliedig ar 13 astudiaeth, cafwyd llawer o amrywiadau yn y canlyniadau. Mae gennym ni hyder isel yn effaith atchwanegiadau fitamin D oherwydd ei fod yn seiliedig ar bedair astudiaeth yn unig.
Rhoddwyd sgôr diogelwch tystiolaeth gymedrol i’n hamcangyfrif o effaith newid deiet sbectrwm eang ac atchwanegiadau ar ymddygiad ymosodol, oherwydd ei fod yn seiliedig ar saith astudiaeth. Mae gennym hefyd hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o effaith atchwanegiadau omega-3 ar ymddygiad ymosodol, oherwydd ei fod yn seiliedig ar naw astudiaeth, ond dangosodd rywfaint o amrywiadau yn y canlyniadau.
Bu hanner cant o astudiaethau yn sail i’r adolygiad, 18 astudiaeth o’r Unol Daleithiau, 15 astudiaeth o wahanol wledydd Ewropeaidd, a chynhaliwyd tair yn y DU. Roedd dwy o astudiaethau’r DU yn ymwneud â phlant 8-11 oed ag anghenion niwroamrywiaeth ac anghenion cymorth ychwanegol mewn ysgolion preswyl, ac roedd y drydedd astudiaeth yn cynnwys dynion ifanc yn y carchar.
Roedd dros ddwy ran o dair o’r astudiaethau’n ymwneud â phlant â diagnosis meddygol o ADHD neu awtistiaeth, ac yn dangos gostyngiadau mewn ymddygiad ymosodol a gwrthgymdeithasol, sy’n awgrymu bod rhaglenni maeth yn debygol o fod yn effeithiol ar gyfer y grwpiau hyn.
Roedd rhaglenni maeth yn dueddol o gael effeithiau mwy pan:
- roedd yr astudiaethau’n cynnwys mwy o fechgyn, o’i gymharu ag astudiaethau sy’n cynnwys cymysgedd o ferched a bechgyn. Gallai hyn ddangos gwahaniaethau yn effeithiau ymyriadau maeth ar wrywod a benywod, ond mae’r dystiolaeth hon yn wan.
- ddarparwyd newidiadau deietegol neu atchwanegiadau maeth eang, o’i gymharu ag atchwanegiadau penodol fel Omega-3 neu fitamin D.
Sut gallwch chi ei weithredu’n dda?
Gweithiwch gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gynllunio canllawiau atchwanegiadau
Er nad yw atchwanegiadau yn feddyginiaeth ac nad oes angen iddynt gael eu rhagnodi gan feddyg, nid yw’r dos gorau posib o luosfitaminau eang, asidau brasterog omega-3 neu fitamin D, yn glir eto. Cynhyrchwch ganllawiau atchwanegiadau i lywio eich rhaglen faeth mewn partneriaeth â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n arbenigo mewn maeth ac ymddygiad.
Darparwch gymorth ymarferol i rieni a gofalwyr
Cefnogwch rhieni a gofalwyr i integreiddio rhaglenni maeth i fywyd bob dydd drwy ei gwneud yn hawdd i’w dilyn ac yn gynaliadwy. Cynigiwch adnoddau ymarferol, fel rhestrau gwirio, cynllunwyr prydau bwyd, cwestiynau trafod gweledol a nodiadau atgoffa digidol, i gadw at yr ymyriad. Gall canllawiau clyweledol neu fideos sy’n dangos dulliau paratoi neu arferion hefyd wneud y broses yn fwy apelgar a hygyrch. Dylai deunyddiau rhaglenni bwysleisio pwysigrwydd darparu atchwanegiadau ar adegau cyson, fel yn ystod prydau cartref neu egwyl ysgol, er mwyn sefydlu trefn sy’n hawdd ei mabwysiadu. Monitrwch pa mor dda y mae’r rhaglen yn gweithio drwy gasglu adborth gan rieni a phlant a gwnewch newidiadau bach os oes angen, er enghraifft newid i dabledi cnoi neu newid yr amseriad.
Hyfforddwch staff i esbonio manteision y rhaglen yn glir i rieni mewn termau syml, ysgogol, gan bwysleisio sut gall y newidiadau hyn wella ymddygiad ac iechyd cyffredinol plant.
Optimeiddiwch ddosbarthiad atchwanegiadau
Gall dosbarthu atchwanegiadau i gartrefi’n uniongyrchol wella hwylustod a helpu rhieni a phlant i gadw at y rhaglen. Gall hyn gynnwys trafodaeth fer gyda’r teulu a’r plentyn, a all fod yn gyfle i fonitro ymrwymiad i’r rhaglen. Serch hynny, gall ymweliadau cartref fod yn gostus. Gallai dulliau eraill o ddosbarthu atchwanegiadau fod yn llai costus, fel trwy weithwyr achos presennol neu berthnasoedd mewn ysgolion, canolfannau iechyd cymunedol, neu, lle bo’n berthnasol, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid.
Darparu addasiadau ar gyfer anghenion penodol
Dylai rhaglenni maeth ddarparu ymyriadau pwrpasol sy’n seiliedig ar anghenion y plentyn, a rhaid iddynt ystyried unrhyw gyflyrau iechyd, meddyginiaethau neu sgil-effeithiau meddyginiaeth a allai gael eu heffeithio gan newid deiet neu atchwanegiadau.
Er enghraifft, efallai y bydd gan blant anghenion maethol uwch na’r cyfartaledd oherwydd y defnydd o feddyginiaethau penodol, ethnigrwydd, profiad o straen cronig, iechyd gwael yn y perfedd neu gyflyrau etifeddol. Mae’n bosib na fydd plant Du a De Asiaidd, er enghraifft, yn cynhyrchu digon o fitamin D o olau’r haul yn unig, ac efallai y cânt eu cynghori eisoes i gymryd atchwanegiadau dyddiol y tu hwnt i’r rhaglen faeth hon. Gall plant sy’n cymryd meddyginiaeth i reoli cyflyrau niwroddatblygiadol, fel ADHD, brofi diffygion maethol neu adweithiau niweidiol i rai bwydydd ac ychwanegion.
Faint mae’n ei gostio?
Ar gyfartaledd, mae cost rhaglenni maeth yn debygol o fod yn isel.
Mae amcangyfrif o gost y rhaglenni maeth yn cynnwys costau atchwanegiadau, cwestiynau trafod digidol neu ar bapur a deunyddiau canllaw wedi’u strwythuro. Mae cost gyfartalog rhaglen atchwanegiadau, a gyflwynwyd i 50 o blant gartref dros gyfnod o bedwar mis, tua £440 y plentyn. Mae cyflenwi mewn ysgolion neu garchardai fel arfer yn ddrytach oherwydd costau sy’n ymwneud â phersonél, storio, hyfforddi a chyflenwi.
Mae rhaglenni newid deiet yn fwy costus nag atchwanegiadau ar ei ben ei hun oherwydd y costau bwyd a chynhwysion, hyfforddi staff, addysg a hyfforddiant rhieni a gofalwyr, storio bwyd a chyflawni.
Crynodeb o’r pwnc
- Bwriad rhaglenni maeth yw gwella maeth i gefnogi datblygiad yr ymennydd a rheoleiddio ymddygiad. Gallant gael eu cyflwyno gartref, yn yr ysgol ac mewn carchardai.
- Mae ymyriadau maeth sy’n darparu ystod eang o fitaminau a mwynau, ar gyfartaledd, yn cael effaith fawr ar leihau troseddu. Er bod y dystiolaeth hon ar droseddu yn wan, ceir tystiolaeth gref sy’n dangos gostyngiadau mewn ymddygiad ymosodol a gwrthgymdeithasol.
- Mae ymyriadau sy’n targedu atchwanegiadau fitamin D yn effeithiol wrth leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae ymyriadau sy’n darparu asidau brasterog omega-3 yn effeithiol wrth leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad ymosodol.
- Fel arfer, mae rhaglenni atchwanegiadau maeth yn isel o ran cost, gan gynnwys gweinyddu rhaglenni, darparu atchwanegiadau a chymorth i rieni a gofalwyr. Mae rhaglenni newid deiet yn fwy costus oherwydd costau bwyd, logisteg a rhaglenni addysg a hyfforddiant.
Negeseuon i’w cofio
- Ystyriwch fuddsoddi mewn rhaglenni maeth ar gyfer plant sydd mewn perygl neu sydd eisoes yn gysylltiedig â thrais. Cynlluniwch raglen mewn cydweithrediad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i lywio penderfyniadau ynglŷn â deiet a dos atchwanegiadau. Sicrhewch fod rhaglenni’n cael eu cyflwyno am bedwar mis o leiaf.
- Gwnewch yn siŵr bod gan blant a phobl ifanc sydd yn y ddalfa fynediad at ddewis iach o fwyd ac yn cael atchwanegiadau ychwanegol, gan gynnwys fitamin D i fynd i’r afael â diffygion o ran bod mewn cysylltiad â’r haul.
Dadlwythiadau