Skip to content

Rhaglenni gwrth-fwlio

Rhaglenni mewn ysgolion sydd wedi’u cynllunio i leihau bwlio

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

ISEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd

Lleoliad

  • Ysgolion a cholegau

Themâu

  • Addysg

Deilliannau Eraill

Ansawdd y dystiolaeth

  • Gostyngiad CYMEDROL mewn Bwlio
    1 2 3 4 5

Beth ydyw?

Nod rhaglenni gwrth-fwlio yw lleihau bwlio mewn ysgolion. Fel rheol maen nhw’n cynnwys y plant sy’n ymwneud â’r bwlio, a myfyrwyr eraill, staff yr ysgol, rhieni a’r gymuned ehangach. Mae rhaglenni’n tueddu i gynnwys un neu fwy o’r gweithgareddau canlynol.

  • Deall beth sy’n achosi bwlio. Gallai athrawon weithio i ddatblygu perthynas gadarnhaol â’u myfyrwyr, dod i’w hadnabod yn well, a deall beth sy’n achosi eu hymddygiad.
  • Dull ysgol gyfan. Bydd nifer o raglenni’n ceisio datblygu polisïau ysgol gyfan a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gyson.
  • Hyfforddiant i staff. Mae rhaglenni’n aml yn cynnwys hyfforddiant i staff ar adnabod ac ymateb yn briodol i fwlio. Gallai hyn gynnwys technegau ar gyfer rheoli’r ystafell ddosbarth a chefnogi ymddygiadau dysgu cadarnhaol. Er enghraifft, mae rhai rhaglenni’n hyfforddi athrawon i adnabod a chanolbwyntio ‘fannau problemus’ bwlio – ardaloedd yn yr ysgol lle mae bwlio’n fwy tebygol o ddigwydd.
  • Gweithgareddau gyda phlant. Gallai’r rhain gynnwys gweithgareddau sy’n cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol a pherthnasoedd cymdeithasol, annog myfyrwyr i roi gwybod am fwlio, neu ddarparu cymorth wedi’i dargedu i blant sy’n ymwneud â bwlio.

Mae plant sydd wedi bwlio plant eraill yn fwy tebygol o ymwneud â throseddu a thrais. Drwy leihau bwlio yn yr ysgol, gallai rhaglenni gwrth-fwlio hefyd atal plant a phobl ifanc rhag ymwneud â throseddau difrifol yn nes ymlaen yn eu bywydau.

A yw’n effeithiol?

Mae diffyg ymchwil sy’n mesur effaith rhaglenni gwrth-fwlio yn uniongyrchol ar droseddu a thrais. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gref y gall rhaglenni gwrth-fwlio lwyddo i leihau bwlio yn yr ysgol a bod bwlio yn yr ysgol yn gysylltiedig â chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd. Ac ystyried yr hyn a wyddom am y berthynas rhwng bwlio a chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd, ein hamcangyfrif gorau yw y gallai rhaglenni gwrth-fwlio arwain at ostyngiad bach yn nifer y plant sy’n ymwneud â throseddau treisgar.

Mae rhaglenni gwrth-fwlio wedi cael mwy o effaith pan gânt eu cyflwyno yn yr un wlad lle cawsant eu cynllunio. Gall mewnforio rhaglen o dramor fod yn llai llwyddiannus na defnyddio rhaglen a ddatblygwyd yng Nghymru a Lloegr.

Sôn am unrhyw beth sy’n sefyll allan?

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae ein hyder yn yr amcangyfrif o’r effaith ar droseddau treisgar yn isel.

Nid yw’r astudiaethau sydd ar gael wedi mesur yn uniongyrchol effaith rhaglenni ar droseddu neu drais. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar effaith rhaglenni ar fwlio – ffactor risg hysbys ar gyfer cymryd rhan mewn troseddu a thrais yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae ein hamcangyfrif yn dibynnu ar fodelu’r berthynas rhwng bwlio a chymryd rhan mewn troseddu a thrais yn nes ymlaen. 

Mae ein hyder yn yr amcangyfrif o’r effaith ar fwlio yn uchel. Mae llawer o dystiolaeth o effaith rhaglenni ar fwlio. Mae llawer o’r astudiaethau gwreiddiol yn hap-dreialon wedi’u rheoli – dyluniad cryf ar gyfer deall effaith ymyriad.  

Mae nifer o raglenni gwrth-fwlio wedi cael eu gwerthuso yng Nghymru a Lloegr. Ar gyfartaledd, mae gwerthusiadau yng Nghymru a Lloegr wedi awgrymu effaith lai ond dymunol ar atal bwlio. 

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Deall beth sy’n achosi bwlio

Gall profiadau heriol neu drawmatig i ddisgyblion gartref neu yn y gymuned gael effaith negyddol ar eu gallu i ymdopi â’r ysgol ac arwain at fwlio. Os bydd athrawon yn datblygu perthynas gadarnhaol â’u myfyrwyr ac yn dod i’w hadnabod yn well, byddant yn gallu deall beth sy’n achosi eu hymddygiad yn well. Bydd deall pam mae myfyriwr yn bwlio plant eraill yn arwain at ymateb mwy effeithiol.

Cynnwys yr ysgol i gyd

Mae’r rhaglenni mwyaf llwyddiannus wedi tueddu i ennyn diddordeb yr ysgol gyfan, gan gynnwys grwpiau dosbarth, athrawon, rhieni, llywodraethwyr, grwpiau cyfoedion a disgyblion unigol. Mae hyn yn aml yn golygu sefydlu polisïau clir a chyson a sicrhau bod pob aelod o’r gymuned yn eu deall.

Ystyried rhai gweithgareddau allweddol

Mae rhaglenni effeithiol wedi tueddu i gynnwys y gweithgareddau canlynol.

  • Gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl myfyrwyr. Gallai hyn gynnwys technegau gwybyddol-ymddygiadol neu wersi sy’n codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
  • Trafodaethau grŵp, ymarferion chwarae rôl, a gwersi gwrth-fwlio sy’n dilyn cwricwlwm penodol.
  • Cymorth wedi’i dargedu ar gyfer plant sy’n ymwneud â bwlio. Dylai’r cymorth hwn geisio deall beth sy’n achosi bwlio a darparu ymateb sydd wedi’i deilwra i anghenion y plentyn.
  • Adnabod ‘mannau problemus’ bwlio a meddwl am strategaethau i atal bwlio rhag digwydd yno. Er enghraifft, gosod athro mewn man problemus yn y maes chwarae yn ystod amser chwarae.

Cyflwyno’r rhaglen yn dda

Mae ymchwil ar sut mae ysgolion yn cyflwyno rhaglenni yn awgrymu rhai ystyriaethau.

  • Sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei harwain o’r brig. Mae staff ysgol yn dweud ei bod yn haws rhoi rhaglenni ar waith pan fydd yr uwch arweinwyr yn ymwneud â’r rhaglen a’i bod yn glir sut roedd y rhaglen yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac ethos yr ysgol.
  • Adeiladu’r tîm iawn. Mewn un astudiaeth, roedd athrawon o’r farn bod personoliaeth y staff dan sylw yn bwysig. A yw staff yn gallu meithrin perthynas o ymddiriedaeth gyda phlant, peidio â chynhyrfu, a neilltuo amser i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth?
  • Darparu hyfforddiant i athrawon. Er enghraifft, rhoi cynlluniau gwersi iddynt neu eu hyfforddi i adnabod bwlio a rheoli ymddygiad disgyblion.
  • Gwneud addasiadau gofalus. Roedd athrawon yn gwerthfawrogi pan roedd modd addasu rhaglenni ‘oddi ar y silff’ i’w cyd-destun nhw, yn hytrach na chael un dull gweithredu i bawb. Efallai na fydd athrawon yn mabwysiadu rhannau o’r rhaglen maen nhw’n teimlo sy’n amhriodol neu’n anodd eu gweithredu. Fodd bynnag, dylid ystyried unrhyw addasiadau’n ofalus oherwydd mae’n bosibl iddyn nhw leihau effaith y rhaglen.

Pa raglenni sydd ar gael?

Isod mae rhestr o raglenni a geir yn Arweinlyfr y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF). Mae’r Arweinlyfr yn crynhoi’r ymchwil ar raglenni sy’n anelu at wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost rhaglenni gwrth-fwlio yn debygol o fod yn isel.

Gallai’r costau gynnwys hyfforddiant i athrawon a myfyrwyr, dod ag ymarferwyr gwrth-fwlio allanol i mewn i hyfforddi staff neu i hwyluso trafodaethau grŵp, a phecynnau gwybodaeth ac adnoddau ar-lein i rieni a myfyrwyr. Roedd gwerthusiadau o ddwy raglen gwrth-fwlio yn Lloegr yn awgrymu cost rhwng £166-£411 y disgybl.

Crynodeb o bwnc

Mae diffyg ymchwil sy’n mesur effaith rhaglenni gwrth-fwlio yn uniongyrchol ar droseddu a thrais.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth gref y gall rhaglenni gwrth-fwlio lwyddo i leihau bwlio yn yr ysgol a bod bwlio yn yr ysgol yn gysylltiedig â chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd. Ac ystyried yr hyn a wyddom am y berthynas rhwng bwlio a chymryd rhan mewn trais yn nes ymlaen mewn bywyd, ein hamcangyfrif gorau yw y gallai rhaglenni gwrth-fwlio arwain at ostyngiad bach yn nifer y plant sy’n ymwneud â throseddau treisgar. Fodd bynnag, mae ein hyder yn yr amcangyfrif hwn yn isel.

Mae llawer iawn o ymchwil wedi ceisio deall sut mae manteisio i’r eithaf ar effaith rhaglenni gwrth-fwlio. Mae’r ymchwil hwn yn awgrymu bod rhai gweithgareddau allweddol yn gysylltiedig ag effeithiau mwy.

Dolenni allanol

Gwella Ymddygiad mewn Ysgolion (EEF)
Adroddiad canllawiau ar sail tystiolaeth i ysgolion sy’n cynnwys cyngor ymarferol ar wella ymddygiad a lleihau bwlio.

Ymyriadau gwrth-fwlio mewn ysgolion – beth sy’n gweithio?
Adolygiad hygyrch a manwl o’r ymchwil gan Lywodraeth New South Wales.

Offer a Gwybodaeth gan y Cynghrair Gwrth-Fwlio
Casgliad o adnoddau a hyfforddiant gwrth-fwlio ymarferol.

Sut gall ysgolion ddefnyddio data i atal a mynd i’r afael â bwlio?
Canllawiau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gasglu data i ddatblygu polisïau gwrth-fwlio effeithiol

Dadlwythiadau