Skip to content

Rhaglenni ar ôl ysgol

Rhaglenni sy’n cael eu cynnal ar ôl ysgol ac sy’n gallu cynnwys cefnogaeth academaidd, gweithgareddau cyfoethogi neu ddatblygu sgiliau cymdeithasol.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

ISEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd

Lleoliad

  • Gymuned
  • Ysgolion a cholegau

Sectorau

  • Education
  • Neighbourhood

Beth ydyw?

Mae rhaglenni ar ôl ysgol yn rhaglenni wedi’u trefnu sy’n cael eu cynnal ar ôl ysgol ar gyfer plant na fyddent fel arall yn cael eu goruchwylio. Mae dwy ffordd y gallai’r rhaglenni hyn amddiffyn plant rhag cael eu hecsbloetio a’u cynnwys mewn troseddu a thrais. Mae’r adeg yn syth ar ôl i’r ysgol orffen yn gallu bod yn gyfnod pan fydd cyfran fawr o drais rhwng plant yn digwydd. Gallai rhaglenni ar ôl ysgol atal trais drwy oruchwylio plant yn ystod y cyfnod hwn. Gallai’r gweithgareddau mewn rhaglenni ar ôl ysgol hefyd arwain at ddatblygu sgiliau, ymgysylltu â’r ysgol ac ymddygiad pro-gymdeithasol.

Fel rheol bydd rhaglenni ar ôl ysgol yn cael eu cynnal yn adeiladau’r ysgol ond mae staff yr ysgol neu staff allanol yn gallu eu darparu. Mae rhaglenni’n aml yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol wythnos yr ysgol ac maen nhw’n cynnwys gweithgareddau megis:

  • Cefnogaeth academaidd, tiwtora neu help gyda gwaith cartref
  • Gweithgareddau cyfoethogi gan gynnwys chwaraeon neu gelf
  • Gweithgareddau i ddatblygu sgiliau datrys gwrthdaro a chymdeithasol
  • Mentora, fel arfer fel un elfen mewn rhaglen sydd ag iddi nifer o gydrannau

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae’r ymchwil yn awgrymu bod effaith rhaglenni ar ôl ysgol ar droseddau treisgar yn debygol o fod yn isel.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod rhaglenni ar ôl ysgol, ar gyfartaledd, yn gallu lleihau troseddu’n gyffredinol 8% ac ymddygiad allanoli 14%. Er bod y canfyddiad cyfartalog yn awgrymu effaith gadarnhaol fach, mae’r astudiaethau gwaelodol yn gymysg. Mae rhai rhaglenni wedi arwain at gynnydd mewn troseddu ac mae eraill wedi arwain at ostyngiad. Mae ymchwil wedi archwilio nifer o esboniadau posibl am yr amrywiad mewn canfyddiadau. Mae’r dystiolaeth hon yn cael ei disgrifio dan ‘Sut gallwch ei roi ar waith yn dda?’ isod.

Ar gyfartaledd, mae’r ymchwil yn awgrymu bod effaith rhaglenni ar ôl ysgol ar droseddau treisgar yn debygol o fod yn isel.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder cymedrol yn y prif amcangyfrif o’r effaith. Mae’r amcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad o ansawdd uchel. Mae’r ymchwil sydd ar gael wedi mesur yr effaith ar droseddu yn uniongyrchol ond nid yw wedi gwahanu’r effaith ar drais oddi mewn i hyn. Rydym wedi israddio’r sgôr diogelwch o uchel i gymedrol oherwydd bod llawer o amrywiaeth yn yr amcangyfrifon a ddarperir gan yr ymchwil sylfaenol.

Roeddem wedi defnyddio’r canfyddiadau o ddau adolygiad systematig gennym i ysgrifennu’r crynodeb hwn ac roedd yr adolygiadau’n cynnwys un astudiaeth o’r DU.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Defnyddio gweithgareddau i ddatblygu sgiliau defnyddiol

Mae ymchwilwyr wedi ceisio deall sut mae’r effeithiau’n amrywio yn ôl a oedd y rhaglen yn canolbwyntio ar weithgareddau academaidd, hamdden, hyfforddiant sgiliau neu fentora. Mae’r ymchwil hwn yn seiliedig ar nifer fach o astudiaethau ac yn darparu tystiolaeth gymharol wan. Fodd bynnag, mae’n awgrymu bod rhaglenni ar ôl ysgol sydd ond yn cynnwys gweithgareddau hamdden neu anacademaidd wedi bod yn llai effeithiol na rhaglenni sy’n ceisio datblygu sgiliau academaidd neu sgiliau cyflogaeth.

Ystyried canolbwyntio gweithgareddau ar bobl ifanc yn eu harddegau

Mae rhaglenni sy’n gweithio gyda phlant 11-14 oed wedi tueddu i gael mwy o effaith ar atal ymddygiad allanoli na rhaglenni sy’n gweithio gyda phlant iau. Fodd bynnag, mae’r canfyddiad hwn yn seiliedig ar nifer fach o astudiaethau. Er bod llawer o astudiaethau wedi edrych ar yr effaith ar blant 11-14 oed, dim ond tair astudiaeth sydd wedi canolbwyntio ar blant iau.

Darparu gweithgareddau difyr a hwyliog

Mae map tystiolaeth a bylchau’r YEF yn cynnwys dau werthusiad a oedd yn edrych ar weithredu rhaglenni yng Nghymru a Lloegr. Roedd y naill astudiaeth a’r llall yn pwysleisio gwerth amgylchedd llai ffurfiol na’r ysgol ac ymgysylltu â phlant drwy ddarparu gweithgareddau hwyliog a difyr, ar yr un pryd â darparu goruchwyliaeth a strwythur.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost rhaglenni ar ôl ysgol yn debygol o fod yn isel.

Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysgol yn amcangyfrif bod clybiau ar ôl ysgol yn costio £7 y sesiwn fesul disgybl ar gyfartaledd. Felly byddai sesiwn wythnosol yn costio £273 y disgybl yn ystod blwyddyn ysgol 39 wythnos. Byddai defnyddio gweithgareddau mwy dwys y mae angen staff hyfforddedig ar eu cyfer yn cynyddu’r amcangyfrifon cost hyn.

Crynodeb o bwnc

  • Ar gyfartaledd, mae effaith rhaglenni ar ôl ysgol ar droseddau treisgar yn debygol o fod yn isel.
  • Fodd bynnag, mae’r effaith yn amrywio’n sylweddol. Mae rhai rhaglenni wedi arwain at gynnydd yn nifer y plant sy’n troseddu.
  • Gallai ystyried yr ymchwil a gyflwynir ym mhynciau eraill y Pecyn Cymorth (megis hyfforddiant sgiliau cymdeithasol a mentora) gefnogi’r gwaith o ddylunio rhaglenni ar ôl ysgol effeithiol. Allech chi ddefnyddio rhaglenni ar ôl ysgol fel cyfle i gyflwyno’r gweithgareddau hynod effeithiol hyn?
  • Mae prinder ymchwil o Gymru a Lloegr. Dylai ymchwil yn y dyfodol flaenoriaethu astudiaethau yn y cyd-destun hwn sy’n mesur yn uniongyrchol yr effaith ar droseddu treisgar.

Dolenni allanol

Amser ysgol estynedig ym Mhecyn Cymorth y Sefydliad Gwaddol Addysgol  
Crynodeb o’r ymchwil ar effaith rhaglenni ar ôl ysgol ar gyrhaeddiad academaidd.

Dadlwythiadau