Dim digon o dystiolaeth o'r effaith
Ansawdd y dystiolaeth:
Cost:
Beth ydyw?
Bwriad rhaglenni addysg troseddau â chyllyll yw lleihau faint o blant a phobl ifanc sy’n cario cyllyll. Mae’r ymyriadau hyn yn pwysleisio’r goblygiadau cyfreithiol, y niwed corfforol a’r effeithiau emosiynol sy’n deillio o drais gyda chyllyll.
Mae dau brif syniad pam gallai rhaglenni addysg troseddau â chyllyll leihau trais. Yn gyntaf, gallai cynyddu ymwybyddiaeth o oblygiadau troseddau â chyllyll rwystro pobl ifanc rhag cario cyllell neu ddefnyddio cyllell fel arf. Gall pobl ifanc siarad â’u ffrindiau a’u teulu am oblygiadau cario cyllyll a throseddau â chyllyll, gan ledaenu ymwybyddiaeth ymhellach. Yn ail, gallai mwy o ymwybyddiaeth newid agweddau o ran pa mor dderbyniol yw hi i gario cyllyll a gallai annog pobl ifanc i herio eu cyfoedion am gario cyllyll neu ymwneud â throseddau â chyllyll.
Ceir risg y gallai codi ymwybyddiaeth o droseddau â chyllyll greu cam-ganfyddiad ynglŷn â pha mor gyffredin yw cario cyllyll. Gall hyn gynyddu pryder o ran trais sy’n gysylltiedig â chyllyll a gallai gynyddu faint sy’n cario cyllyll i amddiffyn eu hunan. Gall delweddau graffig o anafiadau cyllyll hefyd beri gofid i rai plant a phobl ifanc.
Caiff rhaglenni addysg troseddau â chyllyll eu cyflwyno fel arfer mewn ysgolion, ond gellir eu cyflwyno hefyd mewn canolfannau cymunedol, ysbytai neu wasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Mae rhaglenni’n dueddol o fod yn sesiynau byrion unigol, awr neu ddwy o hyd.
Gallant gynnwys:
- Sesiynau addysgol ar oblygiadau cario cyllyll a throseddau â chyllyll.
- Trafodaethau grŵp i archwilio agweddau at gario cyllyll.
- Hwyluswyr yn rhannu profiadau neu wybodaeth am effaith troseddau â chyllyll. Er enghraifft, gallai darparwyr gofal iechyd brys neu bobl â phrofiad o droseddau â chyllyll ddarparu astudiaethau achos.
- Dangos lluniau, fideos neu ffilmiau sy’n darlunio anafiadau neu effeithiau troseddau â chyllyll.
Gellir cyflwyno sesiynau atodol hefyd i rieni, athrawon neu weithwyr proffesiynol lleol eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r sesiynau hyn yn hyfforddi oedolion i gynnig cymorth neu ateb unrhyw gwestiynau a allai godi ymhlith plant a phobl ifanc.
A yw’n effeithiol?
Fe wnaethom ganfod chwe gwerthusiad o ymyriadau addysg troseddau â chyllyll. Cynhaliwyd pedwar o’r astudiaethau hyn yn y DU a dwy yn yr Unol Daleithiau. Ni fesurodd yr un o’r astudiaethau hyn effaith addysg troseddau â chyllyll ar leihau trais.
Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?
Mae’r ymchwil ar raglenni addysg troseddau â chyllyll yn wan iawn. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith ar gyfer rhaglenni addysg troseddau â chyllyll ar leihau trais.
Mae astudiaethau o weithredu rhaglenni addysg troseddau â chyllyll yn Lloegr yn cynnwys:
- Rhaglen Atal Troseddau â Chyllyll y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a gyflwynwyd gan glinigwr nyrsio brys i fyfyrwyr ysgol uwchradd mewn pedair ysgol yn Lerpwl.
- Cafodd ‘Sgil-effeithiau Dinistriol ’, a ddisgrifir fel sesiynau gwrth-droseddu, eu cyflwyno i 13,683 o fyfyrwyr mewn 57 o ysgolion a darparwyr addysg amgen yn Llundain a Luton.
- Darparodd y Dull Holistig sy’n Seiliedig ar Efelychu i Leihau ac Atal trais â chyllyll (SHARP) ymarferion efelychu rhith-realiti, perfformiad artistig a thrafodaethau grŵp.
- Roedd prosiect Cronfa Gymunedol SOS+ Troseddau â Chyllyll Ymddiriedolaeth St Giles, yn cynnig sesiynau addysgol am droseddau â chyllyll, mentora i rai pobl ifanc a chyflwynwyd sesiynau addysg ychwanegol i rieni.
Sut allwch chi ei weithredu’n dda?
Mae adolygiad o’r pedwar gwerthusiad o raglenni addysg troseddau â chyllyll yn Lloegr yn awgrymu gweithredu’r ystyriaethau canlynol:
Defnyddio straeon go iawn am droseddau â chyllyll
Mae plant a phobl ifanc yn gweld sesiynau’n fwy apelgar ac effeithiol pan fyddan nhw’n clywed straeon ynglŷn â sut mae troseddau â chyllyll wedi effeithio ar bobl, yn enwedig pan fyddan nhw’n clywed yn uniongyrchol wrth ddioddefwyr neu eu teuluoedd. Gall fod yn anodd nodi a threfnu sesiynau gyda phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o effaith troseddau â chyllyll, felly mae nifer o raglenni yn defnyddio fideos yn lle hynny.
Defnyddio hwyluswyr medrus
Mae sesiynau’n cael adborth gwell gan gyfranwyr os yw’r hwyluswyr yn hyderus yn eu gwybodaeth ynglŷn â throseddau â chyllyll ac yn gallu cymryd rhan mewn trafodaeth fywiog gyda chyfranogwyr. Mae rhai rhaglenni’n cael eu cynnal gan hwyluswyr sydd â phrofiad bywyd o droseddau â chyllyll, , a gallai hyn annog pobl ifanc i gymryd rhan weithredol yn y sesiwn. Efallai y bydd yn anodd dod o hyd i hwyluswyr sydd â sgiliau neu brofiad penodol o droseddau â chyllyll, ac efallai y bydd angen blaengynllunio sylweddol neu gyllideb uwch i dalu hwyluswyr i deithio.
Rheoli trafodaethau grŵp yn ofalus
Gall trafodaethau grŵp helpu i atgyfnerthu negeseuon am oblygiadau troseddau â chyllyll. Mae angen rheoli’r sesiynau hyn yn ofalus, er mwyn nodi unrhyw sefyllfaoedd y gall pobl ifanc ddangos cefnogaeth i gario cyllyll neu fygwth eraill yn y sesiwn. Efallai y bydd angen cymorth pellach ar rai pobl ifanc.
Addasu i’r cyd-destun lleol
Mae angen i’r cynnwys a’r enghreifftiau sy’n cael eu rhannu mewn sesiynau deimlo’n berthnasol i bobl ifanc, o ran daearyddiaeth, sefyllfa neu fath o drosedd. Er enghraifft, gallai rhannu straeon am droseddau â chyllyll yn Llundain neu Birmingham deimlo’n amherthnasol i gymunedau mewn trefi llai.
Neilltuo amser i athrawon
Gall dod o hyd i amser i gynnal rhaglen addysg troseddau â chyllyll mewn ysgol fod yn heriol i athrawon. Mae angen i ysgolion neilltuo amser i gefnogi athrawon i reoli’r elfen weinyddol sy’n gysylltiedig â threfnu’r sesiynau hyn yn ystod gwasanaethau, neu i gynnal y sesiynau yn ystod gwersi ABCh.
Darparu deunyddiau a chymorth ategol
Efallai y bydd trafod effaith troseddau â chyllyll neu weld delweddau o anafiadau a achoswyd gan gyllyll yn peri gofod i rai plant a phobl ifanc. Rhowch gyfleoedd i blant a phobl ifanc drafod gydag oedolion y mae ganddyn nhw ffydd ynddyn nhw yn ystod y dyddiau neu’r wythnosau sy’n dilyn sesiwn. Rhowch ddeunyddiau y gall athrawon neu weithwyr ieuenctid eu rhannu ar ôl y sesiwn, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaethau cymorth a sut i riportio digwyddiadau neu achosion o gario cyllyll.
Beth yw’r gost?
Mae cost rhaglenni addysg troseddau â chyllyll yn debygol o fod yn isel.
Mae sesiynau unigol a gyflwynir mewn ysgolion fel arfer yn rhad oherwydd eu bod yn cynnwys nifer fawr o bobl ifanc ac yn cael eu harwain gan un hwylusydd. Gallai rhaglenni a drefnir yn unswydd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd eisoes yn ymwneud â throseddu, neu mewn perygl o wneud hynny, gostio mwy. Mae hyn oherwydd eu bod fel arfer yn cynnwys niferoedd bach o blant a phobl ifanc a gallant gynnwys sawl sesiwn.
Crynodeb o bwncz
- Bwriad rhaglenni addysg troseddau â chyllyll yw codi ymwybyddiaeth o oblygiadau troseddau â chyllyll a chario cyllyll, ac i atal plant a phobl ifanc rhag cario neu ddefnyddio cyllyll.
- Serch hynny, mae rhai pobl o’r farn bod rhaglenni addysg troseddau â chyllyll yn creu cam-ganfyddiad o ran pa mor gyffredin yw cario cyllyll, a gallai gael effaith andwyol o ran cynyddu faint sy’n cario cyllyll ymhlith pobl ifanc sy’n poeni am amddiffyn eu hunain.
- Mae’r ymyriadau hyn yn aml yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion, ond gellir eu cyflwyno mewn canolfannau cymunedol, ysbytai neu leoliadau diogel.Ychydig iawn o werthusiadau sydd o effaith rhaglenni addysg troseddau â chyllyllar droseddau treisgar. Nid oes digon o dystiolaeth i gynhyrchu sgôr effaith gyffredinol.Darllenwch yr astudiaeth a gyllidwyd gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid Lives Not Knives fan hyn.
- Edrychwch ar grynodeb y Gronfa Gwaddol Ieuenctid o wybodaeth ac adnoddau sy’n ymwneud â throseddau â chyllyll fan hyn.
- Edrychwch ar werthusiad y Gronfa Gwaddol Ieuenctid o Ddull Holistig sy’n Seiliedig ar Efelychu i leihau ac atal trais â chyllyll (SHARP).