Skip to content

Plismona mannau problemus

Strategaeth yr heddlu sy’n targedu adnoddau a gweithgareddau i leoedd lle mae’r nifer uchaf o achosion troseddol.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

CYMEDROL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

?

Prevention Type

  • Trydyddol

Lleoliad

  • Gymuned

Themâu

  • Cymdogaethau
  • Plismona

Deilliannau Eraill

Ansawdd y dystiolaeth

  • Gostyngiad CYMEDROL mewn Droseddau cyffuriau
    1 2 3 4 5

Beth ydyw?

Gelwir lleoliadau lle mae lefelau uwch o droseddu a thrais yn ‘fannau problemus’. Mae mannau problemus yn tueddu i ffurfio mewn lleoliadau bach fel rhannau o strydoedd neu barciau, ardaloedd o amgylch gorsafoedd trên, siopau, tafarndai neu glybiau. Mae ymchwil yn dangos bod 58% o’r holl droseddau’n digwydd yn y 10% uchaf o leoedd sydd â’r troseddau mwyaf difrifol.

Mae plismona mannau problemus yn nodi lleoliadau lle mae’r nifer uchaf o achosion troseddol ac mae’n targedu adnoddau a gweithgareddau plismona i’r lleoedd hyn. I wneud hyn defnyddir technoleg mapio troseddau i ganfod mannau problemus, a gall hefyd gynnwys defnyddio meddalwedd rhagfynegi i ddarogan ble a phryd y mae troseddau’n debygol o ddigwydd. Bydd rhai dulliau rhagfynegi yn mapio lleoliadau lle mae’r nifer uchaf o achosion troseddol yn cael eu hadrodd i’r heddlu, tra gall eraill ddefnyddio technoleg gymhleth i ddarogan tueddiadau troseddu. Mae rhai heddluoedd, megis Heddlu Thames Valley, yn treialu ap ffôn symudol newydd sy’n darparu mapio lleoliadau mannau problemus mewn amser real er mwyn eu patrolio, gan rannu sesiynau briffio a chofnodi’r amser a dreulir yn yr ardal.

Mae dau brif ddull o blismona mannau problemus:

  • Plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau (POP), sy’n ceisio deall achosion sylfaenol troseddu mewn mannau problemus.  Mae’n cynnwys cynllunio a gweithredu ymyriadau wedi’u teilwra i leihau trosedd.Mwy o bresenoldeb gan yr heddlu, er mwyn ceisio atal troseddwyr rhag troseddu mewn ardaloedd lle ceir problemau drwy naill ai gynyddu nifer yr ymweliadau neu faint o amser y mae swyddogion yr heddlu yn ei dreulio yn y mannau problemus.

Gallai gweithgareddau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ddau ddull gynnwys:

  • patrolau heddlu amlwg, gan gynnwys mwy o bresenoldeb heddlu mewn lifrai a phatrolau
  • mwy o weithgarwch stopio a chwilio
  • teledu cylch cyfyng sy’n cael ei fonitro’n frwd
  • targedu troseddwyr hysbys, sy’n aildroseddu
  • defnyddio cyfryngau i gyfleu y bydd mwy o weithgarwch plismona
  • mwy o ymateb gan yr heddlu i ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae ymyriadau plismona mannau problemus yn cael eu gweithredu am gyfnodau amrywiol, o un wythnos i dair blynedd.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae plismona mannau problemus yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddau treisgar.

Mae adolygiad o astudiaethau rhyngwladol yn amcangyfrif bod plismona mannau problemus, ar gyfartaledd, wedi arwain at ostyngiad o 14% mewn troseddau treisgar a 17% mewn troseddu cyffredinol.

Yn ôl yr adolygiad amcangyfrifir hefyd fod plismona mannau problemus wedi arwain at ostyngiad o 30% mewn troseddau cyffuriau a 16% mewn troseddau eiddo.

Mae’r amcangyfrifon hyn o effaith yn seiliedig ar gyfartaledd sy’n seiliedig ar astudiaethau rhyngwladol. Mae rhai astudiaethau diweddar yn y DU wedi dangos gostyngiadau tebyg neu uwch mewn trais a throseddu, er enghraifft:

  • Yn ‘Operation Ark’ yn Southend-on-Sea bu gostyngiad o 74% mewn troseddau treisgar yn yr 20 man troseddu uchaf ar ddiwrnodau pan gynhaliwyd patrolau.
  • Defnyddiodd ‘Operation Style’ yn Peterborough ddull plismona mannau problemus. Canfu ostyngiad o 39% o ran achosion troseddu mewn ardaloedd targed a hefyd roedd gostyngiad o 20% yn nifer y galwadau i’r gwasanaethau brys.
  • Yn ôl Heddlu Swydd Bedford roedd 30% o droseddau treisgar difrifol yn y sir wedi digwydd mewn 30 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Lleol yn unig. Roeddent yn targedu’r ardaloedd hyn drwy batrolio ar droed am o leiaf 15 munud ar y tro. Dangosodd y gwerthusiad ostyngiad o 38% mewn achosion o drais a lladrata.
  • Yn ‘Operation Menas’ yn Llundain roedd tîm patrol dwbl o heddlu mewn lifrai yn patrolio arosfannau bysiau dair gwaith y dydd, am 15 munud. Dangosodd y gwerthusiad ganlyniadau cymysg. Bu gostyngiad o 37% mewn achosion o adrodd ynghylch digwyddiadau gan yrwyr bysiau ond cynnydd o 25% yn nifer y dioddefwyr a adroddodd ynghylch achosion mewn ardaloedd cyfagos.  
  • Cynhaliodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fwy o batrolau oedd yn para rhwng 5 a 15 munud mewn lleoliadau wedi’u targedu yn Birmingham. Yn y mannau problemus lle’r oedd mwy o batrolau gwelwyd gostyngiad o 14% mewn troseddau stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bu gostyngiad mewn troseddu hefyd mewn ardaloedd o amgylch y mannau problemus.

Ar gyfartaledd, mae plismona mannau problemus yn debygol o gael effaith gymedrol ar droseddau treisgar.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn dangos mai prin y dadleolir troseddau, sy’n golygu nad yw troseddu’n debygol o symud i leoliadau eraill. Mae’r astudiaethau’n awgrymu bod plismona mannau problemus yn cael effaith fach, gadarnhaol ar leihau troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd sy’n union wrth ymyl y mannau problemus a dargedir.

Nid oedd yr adolygiad o dystiolaeth ymchwil yn darparu gwybodaeth am ba mor hir y gallai gostyngiadau mewn troseddau bara, ar ôl i ymyriadau plismona mewn mannau problemus ddod i ben.

Mae’r adolygiad yn awgrymu, lle defnyddiwyd plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau (POP), y canfuwyd effaith ychydig yn fwy ar leihau troseddu, o’i gymharu â defnyddio plismona traddodiadol.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Rydym yn gymedrol hyderus yn ein hamcangyfrif o effaith plismona mannau problemus ar droseddau treisgar ar gyfartaledd.

Rydym yn gymedrol hyderus am ddau reswm. Yn gyntaf, aeth y sgôr i lawr un safle oherwydd bod amrywiaeth fawr yn yr astudiaethau yn yr adolygiad. Awgrymodd rhai astudiaethau fod yr effaith yn uwch ac awgrymodd eraill ei bod yn is, ac ni chafodd y gwahaniaethau hyn mewn canlyniadau eu hesbonio gan yr ymchwilwyr.

Yn ail, aeth y sgôr i lawr un safle ychwanegol gan nad oedd yr astudiaethau’n mesur nac yn adrodd yn uniongyrchol am effeithiau plismona mannau problemus ar blant a phobl ifanc yn unig. Dim ond yr effaith ar blant ac oedolion gyda’i gilydd a gofnodwyd. Rydym wedi defnyddio’r canlyniadau hyn i amcangyfrif yr effaith ar blant a phobl ifanc.

Mae ein hamcangyfrif o effeithiolrwydd plismona mannau problemus ar drais yn seiliedig ar 44 o astudiaethau, ac ni chynhaliwyd yr un ohonynt yn y DU.  Mae ein hamcangyfrif o effeithiolrwydd plismona mannau problemus ar droseddu yn seiliedig ar 62 o astudiaethau, gyda pedair ohonynt wedi eu cynnal yn y DU. Cynhaliwyd 51 o astudiaethau yn yr Unol Daleithiau.

Sut gallwch ei roi ar waith yn dda?

Ni welsom adolygiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth drylwyr am weithrediad effeithiol plismona mewn mannau problemus. Fodd bynnag, mae plismona mewn mannau problemus fel arfer yn cynnwys y camau canlynol.

Mapio mannau problemus

Defnyddio meddalwedd i fapio mannau problemus, gan gynnwys lleoliadau, diwrnodau ac amseroedd pan mae mwy o achosion yn cael eu cyflawni.  Fel arfer, dylai mannau problemus fod yn lleoliadau bach iawn, er enghraifft rhan o stryd benodol, neu ran o barc.

Defnyddio dull datrys problemau

Gall plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau gael mwy o effaith ar leihau troseddu. Mae’r dull hwn yn debyg i fodel datrys problemau SARA (Sganio, Dadansoddi, Ymateb, Asesu) a ddefnyddir yn eang mewn plismona. Mae plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau fel arfer yn cynnwys:

  • nodi problem benodol
  • dadansoddi a deall y broblem yn drylwyr
  • datblygu ymateb wedi’i deilwra
  • asesu effeithiau’r ymateb.

Casglu a defnyddio data

Cynllunio a darparu adnoddau ar gyfer yr ymateb wedi’i deilwra dan sylw, gan sicrhau bod data’n cael eu casglu am amseroedd a lleoliadau’r patrolau sy’n cael eu cynnal.  Gellid casglu hyn trwy dracio Wifi/GPS neu ddefnyddio ap plismona mannau problemus.

Gwarchod patrolau wedi’u cynllunio

Mae swyddogion heddlu yn wynebu llawer o alwadau sy’n cystadlu am eu hamser a gall fod yn anodd sicrhau bod patrolau mewn mannau problemus yn cael eu cynnal fel y cynlluniwyd.  Dangosodd gwerthusiad o ‘Operation Ark’ yn Southend-on-Sea, Essex, y gall cadw swyddogion rhag cael eu hadleoli i ddyletswyddau eraill yn ystod ymyriadau plismona mannau problemus sicrhau bod dros 98% o’r patrolau arfaethedig yn cael eu cwblhau ar yr adeg iawn. Nododd yr astudiaeth hon ostyngiad o 74% mewn trais ar ddiwrnodau patrôl o gymharu â diwrnodau eraill.

Beth yw’r gost?

Prin yw’r dystiolaeth sy’n gysylltiedig â chostau ymyriadau plismona mewn mannau problemus. Ar gyfartaledd, mae cost plismona mannau problemus yn debygol o fod yn isel.

Gall costau amrywio yn dibynnu ar amlder dyletswyddau, a dosbarthiad gwaith ar draws swyddogion yr heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSOs) a Chwnstabliaid Arbennig.

Yn ôl un astudiaeth ymchwil ceir enillion uchel a chadarnhaol ar fuddsoddiad, gan ddangos arbedion ariannol sylweddol oherwydd costau carcharu is o ganlyniad i lai o droseddu.

Crynodeb o’r pwnc

  • Mae troseddu a thrais yn tueddu i glystyru mewn lleoliadau bach a elwir yn ‘fannau problemus’.
  • Mae plismona mannau problemus yn cynnwys nodi’r lleoliadau hyn a thargedu gweithgarwch ac adnoddau’r heddlu i’r lleoedd hyn.
  • Mae’r ymchwil yn awgrymu y gall plismona mannau problemus leihau trais. Gall hefyd leihau troseddu cyffredinol, gan gynnwys troseddau cyffuriau a throseddau eiddo.
  • Gall defnyddio plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau (POP) o fewn y dull plismona mannau problemus gynyddu’r effaith ar droseddu o’i gymharu â dim ond gwneud plismona’n fwy amlwg.
  • Mae ymyriadau plismona mewn mannau problemus yn cael eu gweithredu am gyfnodau amrywiol, o un wythnos i dair blynedd. Gallai gwaith pellach roi mwy o ddealltwriaeth am sut i weithredu plismona mannau problemus a’r hyd gorau posibl.

‘Operation Rowan’: Fifteen Minutes per Day Keeps the Violence Away: a Crossover Randomised Controlled Trial on the Impact of Foot Patrols on Serious Violence in Large Hot Spot Areas

‘Operation Ark’: Effects of One-a-Day Foot Patrols on Hot Spots of Serious Violence and Crime Harm: a Randomised Crossover Trial

Crynodeb plismona mannau problemus ym Mhecyn Cymorth Lleihau Troseddu’r Coleg Plismona

Crynodeb plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau ym Mhecyn Cymorth Lleihau Troseddu’r Coleg Plismona

Sleidiau seminar ar blismona mannau problemus yn Llundain, gan Barak Ariel, Lawrence Sherman a Mark Newton

Pa mor ddwys yw troseddu mewn mannau? Adolygiad systematig rhwng 1970 a 2015.

Dadlwythiadau