Skip to content

Mentora

Paru plant a phobl ifanc â mentoriaid sy’n darparu arweiniad a chefnogaeth.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

CYMEDROL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd

Lleoliad

  • Gymuned

Themâu

  • Oedolion maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw

Beth ydyw?

Mae mentora yn paru plentyn â mentor ac yn eu hannog i gwrdd yn rheolaidd. Ei nod yw helpu’r plentyn i ffurfio perthynas dda gyda model rôl cadarnhaol. Gallai’r berthynas hon helpu’r plentyn i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, ffurfio perthynas adeiladol gydag eraill, a datblygu ymddygiadau a dyheadau cadarnhaol.

Mae mentoriaid yn oedolion yn aml, ond gallant hefyd fod yn blant hŷn neu’n gyfoedion i’r rhai sy’n cael eu mentora. Weithiau gall mentoriaid gael eu talu ond maent yn aml yn wirfoddolwyr, ac fel arfer byddant yn cwrdd â’r rhai sy’n cael eu mentora yn rheolaidd dros gyfnod estynedig. Mewn rhai rhaglenni, mae sesiynau mentora yn dilyn agenda benodol ac yn cynnwys gweithgareddau penodol. Mae rhaglenni eraill yn llai strwythuredig a disgwylir i’r berthynas fentora esblygu’n naturiol. Yn aml, gall mentora ddigwydd yng nghyd-destun gweithgareddau eraill. Er enghraifft, gallai rhaglenni ddefnyddio chwaraeon neu gerddoriaeth fel cyd-destun difyr ar gyfer mentora.

Mae sawl ffordd y gallai’r mentor gefnogi’r sawl sy’n cael ei fentora.

  • Bod yn fodel rôl cadarnhaol a gosod esiampl dda i’r sawl sy’n cael ei fentora.
  • Datblygu perthynas llawn ymddiriedaeth a darparu cefnogaeth emosiynol.
  • Rhoi cyfarwyddyd i helpu’r sawl sy’n cael ei fentora i ddatblygu sgiliau academaidd, sgiliau swydd neu sgiliau cymdeithasol.
  • Gwrando’n ofalus a gofyn cwestiynau i helpu’r sawl sy’n cael ei fentora i gael syniad o’i ffordd ei hun o feddwl.
  • Darparu cymorth ymarferol gyda cheisiadau am swyddi neu fynediad at wasanaethau.
  • Rhannu eu rhwydweithiau a chyflwyno’r rhai sy’n cael eu mentora i bobl a chyfleoedd newydd.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae rhaglenni mentora’n debygol o gael effaith gymedrol ar droseddu treisgar.

Mae mentora yn effeithiol o ran lleihau troseddu a’r ymddygiad sy’n gysylltiedig â throseddu a thrais. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod mentora, ar gyfartaledd, yn lleihau troseddu 26%. Ceir tystiolaeth gref hefyd y gall mentora leihau problemau ymddygiad a sylweddau a gwella hunan-reoleiddio – tri rhagfynegydd pwysig o drais.

Fodd bynnag, mae’r effaith yn amrywio’n fawr gan ddibynnu ar y dull a ddefnyddir. Mae’r ymchwil yn awgrymu y gallai rhaglenni mentora achosi niwed pe na baent yn cael eu gwneud yn dda.

  • Mae rhaglenni gyda chyfran uwch o fentoriaid sy’n ddynion a gwrywod sy’n cael eu mentora wedi bod yn fwy effeithiol. Fodd bynnag, gallai recriwtio mentoriaid o ddynion fod yn heriol – roedd rhaglenni’n tueddu i gynnwys cyfran uwch o ferched sy’n gwirfoddoli.
  • Mae mentora wedi bod yn fwy effeithiol pan fydd yn canolbwyntio ar broblem benodol, fel defnyddio sylweddau. Mae hyn yn awgrymu y dylai rhaglenni ddechrau gydag asesiadau o anghenion a chryfderau’r plentyn, ac ymateb iddynt.
  • Canfu ymchwil effeithiau mwy pan oedd gan fentoriaid brofiad proffesiynol o weithio gyda phobl ifanc ac yn cymryd rhan er mwyn eu datblygiad proffesiynol eu hunain.
  • Mae rhaglenni wedi cael mwy o effaith pan oeddent yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth emosiynol i’r sawl sy’n cael ei fentora neu bod y mentor yn gweithio fel eiriolwr ar ran y sawl sy’n cael ei fentora, gan sicrhau ei fod yn cael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd.

Nid yw’r ymchwil wedi canfod gwahaniaeth ystyrlon rhwng effaith rhaglenni strwythuredig a distrwythur na rhwng rhaglenni a ddisgrifir fel rhai sydd â ffocws cyffredinol, academaidd, ymddygiadol neu seicogymdeithasol.

Sôn am unrhyw beth sy’n sefyll allan?

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder uchel yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar droseddu treisgar.

Mae adolygiadau o ansawdd uchel o lawer o astudiaethau wedi dangos y gall mentora atal troseddu’n gyffredinol a chael effaith ar dri rhagfynegydd pwysig o drais. Nid ydym wedi dyfarnu’r sgôr cadernid uchaf oherwydd bod llawer o amrywiaeth yn yr amcangyfrifon a ddarperir gan yr ymchwil sylfaenol. Mae rhai astudiaethau’n awgrymu y gall mentora gael effaith fwy cadarnhaol tra bo astudiaethau eraill yn awgrymu bod yr effaith yn llai.

Roedd map tystiolaeth a bylchau YEF yn cynnwys dwy astudiaeth o’r DU ac Iwerddon. Roedd un astudiaeth yn hap-dreial wedi’i reoli o raglen fentora Big Brothers Big Sisters gyda phlant 10-14 oed yn Iwerddon. Awgrymodd yr astudiaeth fod y rhaglen wedi methu â chael effaith ar ymddygiad nac ar y defnydd o sylweddau.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Sut fyddwch chi’n cynorthwyo’r rhai sy’n cael eu mentora a’r mentoriaid i gymryd rhan?

Mae gwerthusiadau’n aml yn dangos nad yw llawer o’r berthnasoedd mentora’n cael eu cynnal ymlaen. Canfu un adolygiad o 11 rhaglen nad oedd dros hanner y perthnasoedd mentora a ffurfiwyd ar ddechrau rhaglenni wedi cael eu cynnal ar gyfer y rhaglen gyfan.

Roedd yr adolygiad hwn yn awgrymu’r ystyriaethau canlynol ar gyfer cefnogi’r rheini sy’n cael eu mentora i barhau i gymryd rhan.

  • Beth mae’r plant dan sylw yn ei ddweud fyddai’n eu helpu i gymryd rhan yn y gwasanaeth? Gallai gofyn am eu barn ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol. Er enghraifft, efallai y byddant yn gwerthfawrogi cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol, fel chwaraeon neu gerddoriaeth, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r rhaglen fentora.
  • Ymhle a phryd bydd y sesiwn fentora’n cael ei chynnal? Sut fyddwch chi’n ei gwneud hi’n hawdd bod yn bresennol? Methodd rhai prosiectau ag ymgysylltu â’r rhai a oedd yn cael eu mentora gan eu bod yn dewis lleoliadau anaddas a oedd naill ai’n bell oddi wrth y rhai a oedd yn cael eu mentora neu lle’r oeddent yn teimlo’n anniogel.
  • Sut ddylai mentoriaid gael eu paru? Mae rhai rhaglenni wedi canfod bod galluogi’r rhai sy’n cael eu mentora i ddewis eu mentor wedi arwain at berthynas gryfach.

Mae ymchwil hefyd wedi ystyried dulliau o gynyddu cyfranogiad mentoriaid. Mae mentoriaid yn aml yn wirfoddolwyr ac efallai nad oes ganddynt brofiad blaenorol o gefnogi pobl ifanc. Mae mentoriaid yn adrodd y gall hyfforddiant cychwynnol a chefnogaeth barhaus eu helpu i deimlo’n ddiogel ac wedi’u harfogi’n dda ar gyfer eu rolau. Gallai hyfforddiant ddarparu:

  1. Gwybodaeth am y prosiect, y rhai sy’n cael eu mentora a gwasanaethau lleol i blant
  2. Datblygu sgiliau, yn enwedig sgiliau gwrando a chwnsela anfeirniadol
  3. Trafodaeth a chwarae rôl
  4. Pethau i’w gwneud ac i beidio â’u gwneud wrth fod yn fentor
  5. Gwybodaeth am y broses ddiogelu
  6. Pwyslais ar weld persbectif y sawl sy’n cael ei fentora a’i drin ef neu hi gyda pharch

Mae gwerthusiadau’n awgrymu mai ychydig iawn o oruchwyliaeth sydd ar y mentoriaid yn aml, neu ddim o gwbl, ac mae hyn yn rhwystro gweithredu effeithiol. Gall goruchwyliaeth effeithiol ar fentoriaid gael ei llesteirio gan drosiant staff uchel ac adnoddau annigonol.

Sut fyddwch chi’n cefnogi datblygiad y berthynas fentora?

Mae’r berthynas rhwng y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yn ganolog i’r dull gweithredu. Bydd datblygu perthynas gref yn cymryd amser. Fel arfer, bydd angen sawl cyfarfod rheolaidd er mwyn i’r berthynas symud y tu hwnt i fân sgwrsio. Mae’r cyfle i ddatblygu perthynas ddyfnach yn aml yn deillio o gyfle i ddelio â mater penodol sy’n wynebu’r sawl sy’n cael ei fentora, fel problem gartref neu yn yr ysgol.

Sut a phryd fydd y mentora’n dod i ben?

Gall dod â pherthynas rhwng mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora i ben achosi niwed os nad yw’n cael ei reoli’n ofalus. Gall y rhai sy’n cael eu mentora deimlo bod eu mentor yn cefnu arnynt pan fydd yn gadael y rhaglen. Oes gennych chi brotocolau clir ar gyfer rheoli’r broses o ddod â pherthnasoedd i ben a darparu cymorth i’r rhai sy’n cael eu mentora?

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost mentora yn debygol o fod yn uchel.

Mae mentoriaid yn aml (ond nid bob amser) yn wirfoddolwyr di-dâl. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflogau staff y prosiect, rheoli’r prosiect, recriwtio a hyfforddi mentoriaid, a chost adeiladau. Gall y gost fesul cyfranogwr fod yn uchel iawn os bydd nifer fawr o fentoriaid neu rai sy’n cael eu mentora’n methu â chwblhau’r rhaglen. Er enghraifft, ariannodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid gyfres o raglenni mentora rhwng 2001 a 2004 a gostiodd gyfartaledd o £5,042 y plentyn (prisiau 2014). Fodd bynnag, ni wnaeth llawer o fentoriaid na’r rhai a oedd yn cael eu mentora gymryd rhan. Pe byddem ond yn cynnwys rhai a oedd yn cael eu mentora a gyfarfu â mentoriaid am o leiaf ddwy sesiwn, mae’r gost fesul cyfranogwr yn cynyddu i £11,903.

Crynodeb o bwncz

  • Ar gyfartaledd, mae mentora’n debygol o gael effeithiau buddiol. Mae astudiaethau blaenorol wedi canfod llawer o amrywiadau o ran effeithiau ac wedi darparu gwybodaeth am nodweddion y rhaglenni mwy effeithiol. Gallai’r wybodaeth hon helpu i sicrhau’r effaith orau o ganlyniad i fentora.
  • Gall rhaglenni mentora fod yn heriol i’w darparu. Mae rhaglenni’n aml yn wynebu heriau o ran cadw diddordeb mentoriaid a’r rhai sy’n cael eu mentora, ac yn aml mae nifer fawr o fentoriaid a rhai sy’n cael eu mentora yn rhoi’r gorau iddi.
  • Mae mentoriaid yn aml yn wirfoddolwyr di-dâl ac felly, ar y dechrau, gall mentora ymddangos yn ddull rhad o weithredu. Fodd bynnag, mae costau sylweddol yn aml yn gysylltiedig â rheoli prosiectau a recriwtio a chefnogi mentoriaid. Os na fydd nifer fawr o’r rhai sy’n cael eu mentora yn cwblhau’r rhaglen, gall y gost fesul cyfranogwr gynyddu’n ddramatig.

Dolenni allanol

Cyngor ar gyfer comisiynu rhaglenni mentora
Canllawiau EIF i gomisiynwyr ar gomisiynu rhaglenni mentora.

Elfennau Ymarfer Effeithiol ar gyfer Mentora
Canllawiau gan y MENTOR: Y Bartneriaeth Fentora Genedlaethol

Dadlwythiadau

© 2021 The Youth Endowment Fund Charitable Trust. Registered Charity Number: 1185413.
For a better viewing experience we recommend you upgrade your browser.