Skip to content

Hyfforddiant Sgiliau Cymdeithasol

Y nod yw datblygu gallu plant i reoli eu hymddygiad a chyfathrebu’n effeithiol.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

UCHEL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd

Lleoliad

  • Gymuned
  • Ysgolion a cholegau

Themâu

  • Addysg
  • Therapïau

Deilliannau Eraill

Ansawdd y dystiolaeth

  • Cynnydd UCHEL mewn Hunanreolaeth
    1 2 3 4 5

Beth ydyw?

Mae hyfforddiant sgiliau cymdeithasol yn helpu plant i feddwl cyn iddynt weithredu, i ddeall safbwyntiau pobl eraill, i gyfathrebu’n effeithiol, ac i ddefnyddio strategaethau ar gyfer rheoli byrbwylltra neu ymddygiad ymosodol. Mae ymchwil yn awgrymu fod plant sy’n datblygu sgiliau cymdeithasol a hunanreolaeth yn llai tebygol o ymwneud â throseddu a thrais.

Gellir darparu hyfforddiant sgiliau cymdeithasol drwy raglenni cyffredinol, sy’n gweithio gyda phob plentyn, neu drwy raglenni sy’n gweithio mewn ffordd wedi’i thargedu gyda phlant a allai elwa o fwy o gefnogaeth. Mae rhaglenni’n aml yn cael eu cyflwyno yn yr ysgol drwy wersi strwythuredig ac maent yn amrywio o ran dwyster – gall fod yn un sesiwn byr neu’n 40 o sesiynau neu fwy dros gyfnod o wyth mis neu fwy. Bydd rhaglenni yn yr ysgol yn aml yn cael eu cyflwyno gan athrawon gyda chymorth hyfforddiant gan staff y rhaglen.

Gall y gweithgareddau gynnwys:

  • Chwarae rôl. Er enghraifft, gall y plant chwarae rolau gwahanol mewn sefyllfaoedd lle mae gwrthdaro, ac ymarfer strategaethau ar gyfer datrys y gwrthdaro mewn ffordd heddychlon.
  • Fideos yn dangos ymddygiad cadarnhaol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd y plant yn cael gweld enghreifftiau o blant eraill yn chwarae gyda’i gilydd ac yn dod o hyd i ffyrdd o ddatrys unrhyw wrthdaro.
  • Gweithgareddau penodol i atgyfnerthu boddhad gohiriedig effeithiol.
  • Technegau anadlu dwfn ac ymlacio y gallai plant eu defnyddio i dawelu os byddant yn gwylltio.
  • Athro yn arsylwi’r plant yn chwarae i fonitro eu datblygiad o’r sgiliau hyn.

A yw’n effeithiol?

Mae’r ymchwil yn awgrymu, ar gyfartaledd, bod effaith hyfforddiant sgiliau cymdeithasol ar atal trais yn debygol o fod yn uchel. 

Ar gyfartaledd, mae rhaglenni hyfforddiant sgiliau cymdeithasol wedi lleihau nifer y plant sy’n ymwneud â throseddu 32%.

  • Mae maint yr effaith yn amrywio fesul rhaglen.
  • Mae rhaglenni wedi’u targedu sy’n gweithio gyda phlant a oedd eisoes yn dangos bod angen cymorth mwy dwys arnynt wedi cael mwy o effaith na rhaglenni cyffredinol sy’n canolbwyntio ar atal sylfaenol.
  • Mae rhaglenni wedi tueddu i gael mwy o effaith wrth weithio gyda grwpiau o fechgyn yn hytrach na merched.
  • Roedd y rhaglenni’n cael yr effeithiau mwyaf wrth weithio gyda phlant rhwng 9 a 10 oed. Roedd yr effaith is ar gyfer plant iau ac effaith ychydig yn is ar blant hŷn.

Ar gyfartaledd, mae rhaglenni hyfforddiant sgiliau cymdeithasol wedi lleihau nifer y plant sy’n ymwneud â throseddu 32%.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder uchel yn ein hamcangyfrif o’r effaith ar droseddu treisgar.

Mae’r amcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad o ansawdd uchel o lawer o astudiaethau. Mae llawer o’r astudiaethau gwreiddiol yn hap-dreialon wedi’u rheoli – dyluniad cryf ar gyfer deall effaith ymyriad. Mae’r ymchwil sydd ar gael wedi mesur yr effaith ar droseddu yn uniongyrchol ond nid yw wedi gwahanu’r effaith ar drais oddi mewn i hyn.

Fodd bynnag, rydym wedi gostwng ein sgôr hyder oherwydd bod llawer o amrywiaeth yn yr amcangyfrifon a ddarperir gan yr ymchwil sylfaenol. Er bod y rhan fwyaf o astudiaethau wedi awgrymu gostyngiad mewn troseddu, roedd un rhan o bump o’r astudiaethau yn awgrymu fod yr ymyriad wedi arwain at gynnydd. Edrychir ar resymau posibl ar gyfer yr amrywiad hwn yn yr adran ‘a yw’n effeithiol?’ uchod.

Daw’r rhan fwyaf o’r ymchwil o’r UDA. Mae’r map tystiolaeth a bylchau yn cynnwys tair astudiaeth berthnasol o’r DU ar raglenni atal sylfaenol mewn ysgolion: dau werthusiad o’r rhaglen PATHS ac un gwerthusiad o’r rhaglen SEAL. Nid oedd yr un o’r astudiaethau hyn yn mesur yr effaith ar droseddu, ond methodd y tri â chael effaith barhaus ar sgiliau cymdeithasol.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Gwnaethom adolygu canfyddiadau gweithredu’r tri gwerthusiad o’r DU a grybwyllwyd uchod. Roedd y tair astudiaeth yn edrych ar raglenni atal sylfaenol mewn ysgolion.

Roedd y gwerthusiadau’n awgrymu mai’r rhwystr mwyaf cyffredin o ran gweithredu oedd dod o hyd i amser ar gyfer hyfforddiant sgiliau cymdeithasol mewn cwricwlwm sydd eisoes yn brysur. Mewn un gwerthusiad, dim ond hanner y gweithgareddau a gynlluniwyd yr oedd yr athrawon wedi gallu eu cyflawni.

Dywedwyd bod hygyrchedd a’r gallu i addasu’r deunyddiau addysgu yn ffactor pwysig wrth eu rhoi ar waith yn llwyddiannus. Soniodd athrawon bod anawsterau wrth ddefnyddio rhaglen a ddatblygwyd yn yr UDA. Roeddent yn amheus ynghylch sut roedd yn cyd-fynd â’u diwylliant lleol. Nid oedd rhywfaint o’r cynnwys yn berthnasol i fywydau’r plant yn eu dosbarth.

Pa raglenni sydd ar gael?

Isod mae rhestr o raglenni a geir yn Arweinlyfr y Sefydliad Ymyrraeth Gynnar (EIF). Mae’r Arweinlyfr yn crynhoi’r ymchwil ar raglenni sy’n anelu at wella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost hyfforddiant sgiliau cymdeithasol yn debygol o fod yn gymedrol.

Mae rhaglenni atal sylfaenol mewn ysgolion yn debygol o fod â chostau is. Er enghraifft, mae’r EEF yn amcangyfrif bod PATHS yn costio £11.52 y plentyn y flwyddyn. Mae rhaglenni atal eilaidd dwys yn debygol o fod â chostau uwch.

Mae’r costau’n debygol o gynnwys deunyddiau rhaglen fel fideos neu daflenni, a hyfforddiant a thalu staff i gyflwyno’r rhaglen. Os yw’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan athrawon, bydd hyn yn cynnwys cost y ddarpariaeth addysgu tra byddant yn mynychu’r hyfforddiant.

Crynodeb o bwncz

  • Ar gyfartaledd, mae hyfforddiant sgiliau cymdeithasol yn debygol o gael effaith gymharol fawr ar droseddu treisgar. Fodd bynnag, mae effaith y rhaglenni’n amrywio’n sylweddol. Er bod y rhan fwyaf o raglenni wedi cael effeithiau dymunol, mae rhai rhaglenni wedi achosi niwed.
  • Mae rhaglenni wedi’u targedu sy’n gweithio gyda phlant a oedd eisoes yn dangos bod angen cymorth mwy dwys arnynt wedi cael mwy o effaith na rhaglenni cyffredinol sy’n canolbwyntio ar atal sylfaenol.
  • Prin yw’r ymchwil sydd wedi cael ei gynnal yn y DU. Mae’r astudiaethau presennol wedi canolbwyntio ar raglenni atal sylfaenol mewn ysgolion. Dylai ymchwil yn y dyfodol ymchwilio i effaith rhaglenni atal eilaidd sydd wedi cael mwy o lwyddiant yn y llenyddiaeth ryngwladol.

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Ariannodd YEF arfarniadau o bedair rhaglen sgiliau cymdeithasol. Roedd gan y rhaglenni nodau amrywiol, gan gynnwys lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r risg o droseddu, datblygu sgiliau i leihau anawsterau ymddygiadol ac emosiynol, gwella perthnasoedd a chadw pobl ifanc yn ddiogel rhag camfanteisio ac ymddygiad troseddol.

Roedd yr arfarniadau’n cynnwys:

  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot o Branching Out dan arweiniad Gwasanaethau Ieuenctid Wakefiel, yn cynnig sesiynau datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, gwaith ieuenctid anuniongyrchol a rhaglen wedi’i thargedu  
  • Hap-dreial rheoledig o DARE 25 dan arweiniad Elusen Life Skills Education, roedd y sesiynau’n cynnwys chwarae rôl, grwpiau trafod ac ymarferion darllen ac ysgrifennu
  • Arfarniad dichonoldeb o Becoming a Man (BAM), dan arweiniad cwnselydd o’r Sefydliad Iechyd Meddwl. Y brif elfen yw’r BAM Circle, sesiwn grŵp wythnosol a gynhelir dros ddwy flynedd
  • Arfarniad dichonoldeb a pheilot o The Confident Resilient Children Project dan arweiniad Partneriaeth Titan, gan gynnwys 11 o sesiynau wythnosol yn archwilio’r broses o wneud penderfyniadau a mentora grŵp targedig.

Dolenni allanol

Adroddiad cryno ar hyfforddiant sgiliau cymdeithasol ac emosiynol EIF
Adroddiad cryno ar bwysigrwydd hyfforddiant sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a sut i wella’r sgiliau hyn, i blant a phobl ifanc yn y DU.

Dadlwythiadau