Skip to content

Hyfforddiant ac ail-ddylunio gwasanaeth sy’n ystyriol o drawma

Hyfforddi staff ac ail-ddylunio gwasanaethau gyda ffocws penodol ar gydnabod trawma ac osgoi trawma’n cael ei achosi am yr eildro.

Dim digon o dystiolaeth o'r effaith

?

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

?

Prevention Type

  • Cychwynnol
  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Gymuned
  • Ysgolion a cholegau

Themâu

  • Addysg
  • Oedolion maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw

Beth ydyw?

Mae trawma yn digwydd pan fydd digwyddiad neu set o amgylchiadau yn achosi niwed corfforol neu emosiynol sy’n arwain at effeithiau andwyol parhaol ar les. Mae ymchwil ar drawma yn aml wedi canolbwyntio ar Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE). Mae ACE yn set o brofiadau negyddol yn ystod plentyndod. Mae ganddynt berthynas hirdymor â datblygiad plant, gan gynnwys eu hymwneud â throsedd a thrais. Gall ACE gynnwys profiad o gam-drin neu esgeulustod, o gael aelod agos o’r teulu yn y carchar neu bod yn dyst i drais yn y cartref.

Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar hyfforddiant a newidiadau eraill i’r gweithlu a’u prif nod yw gwella dealltwriaeth staff ac ymateb i drawma.  Mae yna lawer o ymyriadau sy’n cael eu llywio gan ddealltwriaeth o drawma ond nid yw’r rhain wedi’u cynnwys yng nghwmpas y crynodeb hwn.  Er enghraifft, nid yw’r crynodeb hwn yn cynnwys ymyriadau arbenigol sy’n cefnogi adferiad unigol o drawma, fel therapi ymddygiad gwybyddol sy’n canolbwyntio ar drawma neu ddadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiad llygaid.  Mae ymyriadau eraill sy’n cael eu llywio gan wybodaeth am drawma ond nad ydyn nhw’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu dealltwriaeth o drawma fel eu prif ganolbwynt.  Er enghraifft, mae rhaglenni gwrth-fwlio yn aml yn cefnogi athrawon i ddeall y gallai trawma effeithio’n negyddol ar allu disgyblion i ymdopi yn yr ysgol, ond dyma un o lawer o elfennau pwysig y rhaglenni hyn.

Yn nodweddiadol, mae’r gweithgaredd a gwmpesir gan y crynodeb hwn yn cefnogi sefydliadau a’u staff i:

  • Sylweddoli yr effaith y gall trawma ei gael ar blant;
  • Adnabod arwyddion a symptomau trawma;
  • Ymateb i drawma trwy integreiddio gwybodaeth ac ymchwil ar drawma mewn polisïau, gweithdrefnau ac arferion; ac
  • Atal ail drawma trwy osgoi arferion a allai ysgogi atgofion poenus a thrawmatig yn anfwriadol.

Mae llawer o’r gweithgareddau a archwiliwyd yn y crynodeb hwn wedi canolbwyntio ar ddatblygu gweithlu, gan gynnwys: 

  • Hyfforddi staff ar effaith trawma a sut i adnabod ei arwyddion a’i symptomau
  • Sicrhau bod gan staff y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ymateb yn effeithiol i drawma ac osgoi ail-drawma.
  • Ceisio mynd i’r afael â thrawma a’i leihau ymysg staff
  • Asesu a monitro gwybodaeth ac arferion y staff

Cafwyd sawl ymdrech hefyd i ailgynllunio gwasanaethau, polisïau a gweithdrefnau yn ehangach i fynd i’r afael â thrawma yn benodol ac yn uniongyrchol. Er enghraifft:

  • Ysgrifennu polisïau sefydliadol sy’n darparu cefnogaeth i egwyddorion ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
  • Addasu’r amgylchedd ffisegol i leihau sbardunau trawma posibl fel synau uchel.
  • Cyflwyno offer sgrinio ac asesu i asesu hanes a symptomau trawma plant.
  • Ceisio cynyddu mynediad at wasanaethau arbenigol i blant sydd wedi cael profiad o drawma ac sydd angen cymorth ychwanegol.

A yw’n effeithiol?

Ychydig iawn o ymchwil sydd ar gael ar effaith hyfforddi staff ac ail-ddylunio systemau gyda’r prif nod o gydnabod ac ymateb i drawma. Nid oes tystiolaeth ddigonol i gyfrifo amcangyfrif o effaith y gweithgaredd hwn ar droseddu a thrais.

Mae’n bwysig nodi bod dealltwriaeth o drawma yn debygol o fod yn rhan bwysig o lawer o ddulliau a rhaglenni llwyddiannus. Mae’n ganolog i’r rhesymeg tu ôl i ddulliau eraill yn y Pecyn Cymorth, gan gynnwys llawer o raglenni gwrth-fwlio ac ataliaeth â ffocws. Ond mae’r rhaglenni hyn y tu allan i gwmpas y crynodeb hwn – maent yn cyfuno dealltwriaeth o drawma ac awydd i ymateb yn effeithiol gyda llawer o gydrannau eraill.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae’r ymchwil ar effaith hyfforddiant ar sail trawma ac ail-ddylunio gwasanaethau yn wan iawn. Nid oes tystiolaeth ddigonol i ddisgrifio’r effaith gyfartalog ar droseddu a thrais.

Gwelsom ddau adolygiad systematig ar y pwnc hwn. Canolbwyntiodd yr adolygiad cyntaf ar weithgaredd mewn ysgolion ond nid oedd yn cynnwys unrhyw werthusiadau. Roedd yr ail adolygiad yn canolbwyntio ar weithgaredd mewn gwasanaethau lles plant a chanfuwyd 17 gwerthusiad. Fodd bynnag, daeth yr adolygiad hwn i’r casgliad na allai’r astudiaethau sydd ar gael gefnogi dyfarniad cyffredinol ynghylch effaith y dull hwn. Roedd yr holl werthusiadau yn yr ail adolygiad wedi’u lleoli yn UDA. Gwelsom hefyd adolygiad naratif o raglenni yn y system cyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, ychydig iawn o werthusiadau effaith a ganfu’r adolygiad hwn hefyd ac ni lwyddwyd i gynnal dadansoddiad systematig.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Sicrhewch eich bod yn diffinio’r dull yn glir

Mae gwaith diweddar wedi codi pryderon nad yw llawer o ddatblygiad proffesiynol sy’n ystyriol o drawma yn ddigon penodol ac nid oes argymhellion clir ar gyfer gwella arferion. Os ydych chi’n comisiynu neu’n dylunio hyfforddiant, a yw’r hyfforddiant yn rhoi arweiniad clir ynglŷn â’r hyn rydych chi’n disgwyl i ymarferwyr ei wneud yn wahanol?

Datblygu dull ataliol sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Gall sefydliadau ddefnyddio eu hymwybyddiaeth ddatblygol o drawma i ysgogi buddsoddiad mewn ymyriadau ar sail tystiolaeth a allai atal trawma rhag digwydd yn y lle cyntaf.  Gall hyn gynnwys ymweliadau dwys i gartrefi rhieni bregus.   Gweler yr adroddiad EIF i gael rhagor o arweiniad ar yr ymyriadau sydd ar gael.

Sicrhewch fod cymorth arbenigol ar gael i blant os oes ei angen arnynt

Mae’r sylfaen dystiolaeth am effaith ymyriadau sy’n cefnogi adferiad unigol o drawma, fel   therapi ymddygiad gwybyddol sy’n canolbwyntio ar drawma  , yn fath o therapi sydd wedi hen ennill ei blwyf.  Dylai sefydliadau sy’n ystyriol o drawma sicrhau bod yr ymyriadau hyn ar gael i blant sydd eu hangen.  Yn anffodus, mae’r amser y mae’n rhaid aros am gefnogaeth CAMHS yn faith iawn a gall fod yn anodd iawn i blant gael mynediad at therapi seicolegol. 

Beth yw’r gost?

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i roi amcangyfri o’r gost. Mae’r costau’n debygol o amrywio’n fawr yn ôl y dull a ddefnyddir.

Crynodeb o bwncz

  • Mae ymchwil i drawma a phrofiadau niweidiol plentyndod (ACE) wedi codi ymwybyddiaeth o effeithiau adfyd ar ganlyniadau diweddarach.  Gallai datblygu ymwybyddiaeth o drawma ymhlith ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant gefnogi ymarfer mwy caredig ac ystyried cyd-destunau a phrofiadau blaenorol plant yn fwy gofalus.
  • Fodd bynnag, nid ydym yn deall yn llawn a yw hyfforddiant neu ail-ddylunio gwasanaeth sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddeall neu ymateb i drawma yn ddigonol ar gyfer gostwng cyfraddau trosedd a thrais.
  • Dylai sefydliadau sy’n ystyriol o  drawma fuddsoddi mewn ymyriadau ar sail tystiolaeth a allai atal trawma a sicrhau bod gan blant fynediad at gymorth arbenigol os oes ei angen arnynt.  Gweler yr adroddiad EIF        i gael mwy o arweiniad ar yr ymyriadau sydd ar gael. 
  • Dylai sefydliadau sy’n cyflwyno hyfforddiant ystyriol o drawma fod yn glir ynghylch yr arferion y maent yn ceisio eu newid ac asesu a yw’r amcanion hyn yn cael eu cyflawni.
  • Dylai ymchwil yn y dyfodol ganolbwyntio ar nodi a gwerthuso yn glir fodelau hyfforddiant ac ail-ddylunio gwasanaeth sy’n ystyriol o drawma.

Dolenni allanol

Profiadau niweidiol plentyndod: Beth rydyn ni’n ei wybod, beth nad ydyn ni’n ei wybod, a beth yw’r cam nesaf
Trosolwg trylwyr a manwl o’r ymchwil sy’n ymwneud â chyffredinrwydd, effaith a thriniaeth ACE.

Canllawiau Substance Abuse and Mental Health Administration (SAMSHA) ar ymarfer ystyriol o drawma
Canllawiau ar sut y gall sefydliadau weithredu mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma

Briff ar ymarfer sy’n ystyriol o drawma
Trosolwg byr a hawdd ei ddefnyddio o’r ystyriaethau ynghylch trawma ac ACE gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.

Dadlwythiadau