Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig
Dull gweithredu ar y stryd lle mae gweithwyr ieuenctid yn ymgysylltu â phlant yn eu hamgylchedd eu hunain, fel strydoedd, parciau neu ganolfannau siopa.
Beth yw hyn?
Mae gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn ddull gweithredu yn y gymuned sy’n cefnogi plant a phobl ifanc mewn mannau cyhoeddus lle rydym yn gwybod eu bod yn treulio amser. Mae ymgysylltu â gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig yn wirfoddol, sy’n golygu bod plant a phobl ifanc yn rhydd i ddewis a ydynt am ymgysylltu ai peidio a sut i wneud hynny. Gellir defnyddio’r dull hwn hefyd mewn mannau lle gallai plant a phobl ifanc fod mewn perygl o ddod i gysylltiad â thrais neu drosedd. Mae nodau gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn amrywiol ac yn cynnwys meithrin perthynas rhwng plant a chymunedau, diogelu plant agored i niwed, cefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles, a’u helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol.
Mae gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn cael ei gynnig gan fudiadau ieuenctid o bob math, fel gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol, elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau ffydd.
Mae gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc y tu allan i’r cartref a’r ysgol, lle maent yn cymdeithasu, fel ystadau tai, parciau a chanolfannau siopa. Mae’n ddull hyblyg sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc, gan addasu i anghenion a diddordebau plant a phobl ifanc. Mae gwaith ieuenctid allgymorth yn ddull tebyg, ond mae’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i roi gwybod i blant a phobl ifanc am wasanaethau sy’n bodoli yn eu cymuned ac i’w hannog i’w defnyddio.
Mae’r ddarpariaeth yn tueddu i gael ei strwythuro o amgylch sgyrsiau wyneb yn wyneb rhwng gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig a phlant a phobl ifanc. Gall gwaith ieuenctid datgysylltiedig hefyd fod ar ffurf prosiectau neu weithgareddau ar y stryd, fel celf stryd neu chwaraeon a gemau awyr agored. Mae gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn cael ei wneud am gyfnodau amrywiol o amser ac amlder.
Mae sawl ffordd y gallai gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig gefnogi plant a phobl ifanc:
- Darparu oedolyn y gellir ymddiried ynddo i blant a phobl ifanc ynghyd ag amser a lle i siarad am yr hyn sy’n digwydd yn eu bywydau, a’u helpu i edrych ar faterion o wahanol safbwyntiau.
- Tynnu sylw at sut beth yw perthnasoedd iach a chadarnhaol, gan helpu plant a phobl ifanc i feithrin perthnasoedd â theulu, cyfoedion, yr ysgol ac yn y gymuned.
- Canfod a rheoli risgiau penodol i ddiogelwch corfforol ac emosiynol plant a phobl ifanc. Er enghraifft, adolygu digwyddiadau lleol neu densiynau cymunedol, cydnabod anghenion am gymorth neu arwyddion o gamfanteisio, gwybod y trothwyon ar gyfer atgyfeiriadau drwy weithdrefnau diogelu, dilyn protocolau y cytunwyd arnynt ar gyfer riportio ac ymateb i ddigwyddiadau critigol.
- Cysylltu plant a phobl ifanc â gwasanaethau neu gymorth arall sydd ar gael.
A yw’n effeithiol?
Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith ar gyfer gwaith ieuenctid datgysylltiedig ar leihau trais.
Mae’r adolygiad yn crynhoi tystiolaeth o bum astudiaeth. Nid oedd yr un o’r astudiaethau hyn yn mesur effaith gwaith ieuenctid datgysylltiedig ar drais.
Pa mor gadarn yw’r dystiolaeth?
Mae’r ymchwil ar effaith gwaith ieuenctid datgysylltiedig ar drais yn wan iawn. Nid oes digon o dystiolaeth i ddisgrifio’r effaith gyfartalog ar drais.
Canfu’r adolygiad bum astudiaeth a oedd yn gwerthuso gweithredu gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn Lloegr. Mae canfyddiadau’r astudiaethau hyn yn llywio’r adran ‘sut mae modd ei weithredu’n dda?’ isod.
Sut mae modd ei weithredu’n dda?
Recriwtio gweithwyr ieuenctid gyda gwybodaeth a chysylltiadau lleol
Dylai gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig naill ai ddod o’r ardal lle maent yn gweithio neu dylai fod ganddynt wybodaeth gadarn sy’n deillio o’r ardal drwy ymwneud yn barhaus â hi.
Mae’r canfyddiad bod gan weithwyr ieuenctid ‘hygrededd’ yn hanfodol er mwyn creu’r sylfeini ar gyfer meithrin perthnasoedd â phlant a phobl ifanc. Gall hygrededd fod yn seiliedig ar fod â diwylliannau, ffyrdd o fyw, safbwyntiau bywyd, ieithoedd neu ddiddordebau cyffredin. Mae gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig yn ennill hygrededd drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol, cefnogi ac ymgysylltu â sefydliadau ieuenctid cymunedol credadwy lleol, a bod yn gyfarwydd â’r mannau lleol y mae plant yn eu defnyddio.
Meithrin perthnasoedd cryf ac ymddiriedus gyda phlant a phobl ifanc
Meithrin perthnasoedd cryf ac ymddiriedus yw’r sail i blant a phobl ifanc allu ymddiried mewn gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig a thrafod pynciau a phrofiadau sensitif na fyddent fel arall yn eu rhannu ag eraill.
Ymateb ac addasu i anghenion ac adborth y gymuned
Mae gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn fwy tebygol o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod i gysylltiedig â thrais neu droseddu pan fydd yn ymateb i’w hanghenion ac anghenion y gymuned leol, a phan fydd yn cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o gynllunio gweithgareddau.
Rhoi cynlluniau diogelwch ar waith
Sicrhau bod gan weithwyr ieuenctid datgysylltiedig gynlluniau diogelwch clir ar waith, sy’n amlinellu sut bydd gweithwyr ieuenctid yn nodi ac yn rheoli risgiau, a sut byddant yn sicrhau diogelwch y plant a’r bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw, a diogelwch eu hunain a’u cydweithwyr. Er enghraifft, adolygu digwyddiadau diweddar yn yr ardal, cofnodi llwybrau disgwyliedig ac amseroedd cyrraedd a dychwelyd, gweithio mewn parau bob amser, gwefru ffonau symudol, sicrhau bod cysylltiadau argyfwng ar gael, cael gweithdrefnau clir ar gyfer delio â digwyddiadau neu argyfyngau meddygol.
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid lleol
Mae angen i randdeiliaid lleol, fel yr heddlu ac ysgolion, fod yn ymwybodol o ddulliau neu weithgareddau gwaith ieuenctid datgysylltiedig. Gall yr asiantaethau hyn ddarparu gwybodaeth ynghylch pryd a lle y gallai fod angen gwaith ieuenctid datgysylltiedig, a gall swyddogion rheng flaen a staff gyfeirio plant a phobl ifanc at sesiynau neu weithgareddau lle bo hynny’n berthnasol.
Beth yw’r gost?
Ar gyfartaledd, mae cost gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn debygol o fod yn isel.
Gall costau amrywio yn dibynnu ar faint o blant a phobl ifanc sy’n ymgysylltu â gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig, ond fel arfer mae’n costio llai na £100 y plentyn y flwyddyn.
Mae’r prif gostau’n debygol o gynnwys cyflog gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig, rheoli a gweinyddu rhaglenni. Bydd costau’n amrywio yn dibynnu ar amlder a hyd y rhaglen neu’r gweithgareddau sydd ar gael, ac ar p’un ai y darperir hyfforddiant.
Crynodeb o’r pwnc
- Nod gwaith ieuenctid datgysylltiedig yw cefnogi plant a phobl ifanc yn y lleoliadau lle maent yn treulio amser.
- Ychydig iawn o werthusiadau o waith ieuenctid datgysylltiedig sydd wedi’u cynnal, ac ni ddaethom o hyd i unrhyw astudiaethau sy’n mesur yr effeithiau ar drais.
- Mae plant a phobl ifanc wedi dweud bod hygrededd gweithwyr ieuenctid yn allweddol i feithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth, a bod hygrededd yn cael ei feithrin drwy ddeall y cyd-destun lleol.
- Mae gwaith ieuenctid datgysylltiedig yn debygol o fod yn gost isel.
Negeseuon allweddol
- Ystyriwch waith ieuenctid datgysylltiedig dim ond mewn ardaloedd penodol lle mae plant a phobl ifanc mewn perygl o drais neu eisoes yn ymwneud â thrais, gan ganolbwyntio ar nodi’r rhai sydd ddim yn ymwneud â gwasanaethau cymorth eraill.
- Sefydlu trefniadau cydweithio effeithiol rhwng gwaith ieuenctid datgysylltiedig a phartneriaid lleol i lywio lle dylid darparu’r rhaglenni neu’r gweithgareddau hyn.
- Sefydlu gweithdrefnau cyfeirio ar gyfer gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig i helpu plant a phobl ifanc i gael gafael ar wasanaethau o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, mentora, neu ymyriadau therapiwtig dan arweiniad clinigwyr, er enghraifft Therapi Gwybyddol Ymddygiadol.
Prosiectau a gwerthusiadau YEF
Astudiaeth ddichonoldeb gwaith ieuenctid datgysylltiedig
Ariannodd YEF astudiaeth ddichonoldeb i archwilio natur gwaith ieuenctid datgysylltiedig, pa fodelau o waith ieuenctid datgysylltiedig sy’n bodoli a pha mor eang y maent yn cael eu defnyddio, p’un a yw’n ddigon gwahanol i weithgareddau eraill ar gyfer gwerthuso.
Dolenni Allanol
Llawlyfr Ieuenctid Allgymorth a Datgysylltiedig
Mae’r llawlyfr hwn yn cyflwyno, yn egluro neu’n ymhelaethu ar wybodaeth bresennol am waith ieuenctid allgymorth a datgysylltiedig.