Skip to content

Goleuadau stryd

Defnyddio goleuadau stryd i atal trais.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

NO EFFECT

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Eilaidd

Lleoliad

  • Gymuned

Sectorau

Beth ydyw?

Mae’r dudalen hon yn rhoi crynodeb o’r ymchwil ar wella goleuadau stryd, mewn lonydd cul neu mewn mannau cyhoeddus eraill.  Gan fod goleuadau stryd eisoes wedi’u gwasgaru dros ardal eang, mae gwella goleuadau fel arfer yn canolbwyntio ar wneud goleuadau yn fwy llachar yn hytrach na gosod goleuadau newydd.

Gall goleuo gwell leihau trosedd a thrais mewn sawl ffordd bosib:

  1. Gall cynyddu gwelededd fod yn ddull ataliol oherwydd gallai unigolyn gredu bod mwy o risg y bydd yn cael ei ddal am droseddu. Gall hefyd annog mwy o bobl i ddefnyddio’r ardal a gallai hyn gynyddu’r effaith ataliol, yn ogystal â nifer y bobl sy’n adrodd troseddau i’r heddlu.
  2. Gall goleuadau stryd gwell hefyd fod yn arwydd hefyd o fuddsoddiad yn yr ardal, gan gynyddu’r ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth gymunedol.  Gall hyn newid ymddygiad yn y gymuned leol ac arwain at welliannau a mentrau lleol eraill a allai leihau troseddu.  Mae’r ddamcaniaeth hon yn awgrymu y gallai goleuadau stryd gwell leihau trosedd yn ystod y dydd ac yn y nos.
  3. Gall mentrau atal troseddau eraill, megis teledu cylch cyfyng, hefyd elwa os oes goleuadau stryd gwell.

Mae pryderon ynghylch yr effeithiau niweidiol y gall goleuadau stryd gwell eu cael. Mae’r rhain yn cynnwys y posibilrwydd y bydd mwy o ddelio cyffuriau mewn mannau cyhoeddus sydd wedi’u goleuo’n well, effeithiau niweidiol llygredd golau ar fywyd gwyllt nosol, a defnyddio mwy o ynni.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, nid yw goleuadau stryd yn cael unrhyw effaith ar droseddau treisgar.

Mae’r ymchwil ryngwladol yn awgrymu bod goleuadau stryd, ar gyfartaledd, yn cael effaith isel ar droseddau yn gyffredinol, gan leihau troseddu 11%.

Mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar droseddu yn y DU yn awgrymu y gallai goleuadau stryd gael effaith ganolig ar droseddu yn gyffredinol, gan leihau troseddu 15%. 

Mae’r ymchwil hon yn dangos bod troseddu yn lleihau yn ystod golau dydd a gyda’r nos, sy’n awgrymu y gall goleuadau stryd gwell newid ymddygiad mewn cymunedau yn ystod y dydd a gall fod yn ddull ataliol effeithiol ar ôl iddi nosi.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Nid ydym yn hyderus iawn yn ein hamcangyfrif o’r effaith y byddai goleuadau stryd gwell yn ei chael ar droseddu treisgar ar gyfartaledd.  Mae ein hamcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad a oedd yn cynnwys 13 astudiaeth.

Mae tri rheswm pam nad ydym yn hyderus iawn yn ein hamcangyfrif.  Yn gyntaf, mae amrywiad eang yng nghanfyddiadau’r astudiaethau yn yr adolygiad. Yn ail, nid oedd yr astudiaethau yn mesur effeithiau uniongyrchol goleuadau stryd ar blant a phobl ifanc yn unig. Roeddent yn adrodd ar yr effaith ar blant ac oedolion ar y cyd, ac rydym wedi defnyddio’r canlyniadau hyn i amcangyfrif yr effaith ar blant a phobl ifanc.

Darganfuom 6 astudiaeth a oedd yn archwilio effaith goleuadau stryd ar droseddu yn gyffredinol yn y DU.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae lefel y goleuo sydd ei hangen er mwyn sicrhau bod rhywle wedi’i oleuo’n dda yn amrywio yn dibynnu ar y lleoliad.  Gall defnyddio meini prawf penodol ynghylch gofynion goleuo sicrhau bod y lefel fwyaf priodol o oleuo yn cael ei ddarparu. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ystyried ongl a lleoliad y goleuadau, ac ystyried arwynebedd yr ardal sy’n gallu dylanwadu ar ddosbarthiad y golau.

Beth yw’r gost?

Mae’n debyg na fydd gwella goleuadau stryd yn costio llawer.

Fel arfer, nid yw defnyddio goleuadau stryd i atal trosedd yn golygu gosod goleuadau stryd newydd, ond yn hytrach mae’n golygu gwneud y goleuadau yn fwy llachar. Tua £80 mae’n ei gostio i redeg golau stryd cyffredin yn ystod y nos dros gyfnod o flwyddyn.

Crynodeb o bwncz

  • Nod gwella goleuadau stryd yw cynyddu gwelededd, atal troseddu a chynyddu’r ymdeimlad o ddiogelwch.
  • Ar gyfartaledd, nid yw goleuadau stryd yn lleihau trais. Fodd bynnag, nid ydym yn hyderus iawn yn ein hamcangyfrif o’r effaith.
  • Mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar droseddu yn y DU yn awgrymu y gallai goleuadau stryd leihau troseddu15%. 
  • Bydd y lefelau o oleuo sydd eu hangen er mwyn gwella gwelededd yn amrywio o le i le, a dylid asesu’r lefelau hyn yn briodol er mwyn sicrhau eu bod yn addas ac effeithlon.

Dadlwythiadau