Dysgu Cymdeithasol ac Emosiynol – Wedi’i Dargedu
Dull gweithredu sy’n datblygu gallu plant i reoli eu hymddygiad a chyfathrebu’n effeithiol.
Beth ydyw?
Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunain, rheoli eu teimladau, meddwl cyn gweithredu a gwneud dewisiadau cyfrifol a gofalgar. Mae hefyd yn eu helpu i ddeall sut mae pobl eraill yn teimlo, i gyfathrebu’n glir, i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, ac i reoli ymddygiad byrbwyll ac ymosodol.
Gellir cyflwyno dysgu cymdeithasol ac emosiynol drwy raglenni cyffredinol neu raglenni wedi’u targedu. Mae rhaglenni wedi’u targedu yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sydd mewn mwy o berygl o wynebu anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, neu sydd eisoes yn wynebu anawsterau o’r fath, neu sy’n gysylltiedig â throseddau, trais neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae ein hadolygiad o’r dystiolaeth ar raglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol hefyd ar gael yma.
Mae rhaglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’u targedu yn aml yn cael eu darparu yn yr ysgol ac maent yn strwythuredig iawn, gyda chynlluniau sesiwn manwl, ac mewn rhai achosion, sgriptiau i lywio’r ddarpariaeth. Fe’u cyflwynir wyneb yn wyneb, naill ai i blant unigol, i grwpiau bach, neu drwy gyfuniad o’r ddau ddull. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio o ran dwyster o sesiynau dyddiol i sesiynau bob yn ail wythnos dros chwe mis neu fwy, ond anaml y bydd yn rhedeg am dros flwyddyn.
Mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn ymwneud â chyflwyno rhaglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys athrawon, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a gweithwyr cymdeithasol. Mae’r hyfforddiant yn amrywio o sesiynau byr i waith paratoi dwys dros sawl wythnos, a gefnogir yn aml gan oruchwyliaeth barhaus, adborth a chyfleoedd i ymarfer neu arsylwi’r rhaglen cyn ei chyflwyno. Mae hyfforddiant yn rhoi dealltwriaeth glir i weithwyr proffesiynol o ddysgu cymdeithasol ac emosiynol, strategaethau ymarferol ar gyfer cyflwyno gwersi strwythuredig, gan gryfhau’r berthynas rhwng athrawon a disgyblion ac mae’n helpu staff i wreiddio’r rhaglen yn gyson.
Gall y gweithgareddau gynnwys:
- Chwarae rôl neu arsylwi i fodelu ac ymarfer ymddygiad cadarnhaol. Gallai hyn gynnwys nodi a mynegi emosiynau, delio â gwrthdaro, myfyrio ar ymddygiad unigol ac ystyried ymatebion amgen i sefyllfaoedd heriol.
- Trafodaethau grŵp i gefnogi datrys problemau drwy nodi sefyllfaoedd anodd, cynllunio a gwerthuso atebion posibl a’u canlyniadau, a rhoi adborth.
- Mae gemau, gwobrau a chanmoliaeth yn elfennau canolog i nifer o ymyriadau. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys gemau unigol neu gemau grŵp lle gall plant ennill gwobrau am ymddygiad cadarnhaol a cholli tocynnau am ymddygiad negyddol.
- Gwaith cartref neu gadw dyddlyfr, sy’n cynnwys tasgau fel ymarferion myfyriol i annog archwilio teimladau neu ddysgu sgiliau newydd.
- Technegau tawelu neu ymlacio fel ymarferion anadlu i gefnogi plant a phobl ifanc i symud drwy deimladau negyddol.
Gall dysgu cymdeithasol ac emosiynol leihau trais a throseddu drwy ddatblygu hunanreolaeth, rheoli dicter, perthnasoedd cadarnhaol a sgiliau datrys problemau. Mae’r sgiliau hyn yn galluogi plant i feddwl cyn gweithredu, lleihau byrbwylltra, ac osgoi ymddygiad ymosodol, gan arwain at lai o risg o fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau a thrais.
A yw’n effeithiol?
Mae’r ymchwil yn awgrymu, ar gyfartaledd, bod effaith dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu ar atal trais yn debygol o fod yn uchel.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gallai dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu leihau trais 43%.
Mae’r ymchwil hefyd yn amcangyfrif bod dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn lleihau troseddau a throseddu 31%.
Canfu’r adolygiad effeithiau cadarnhaol ar wella ymgysylltiad yn yr ysgol, lleihau anawsterau ymddygiadol, a meithrin a chynnal perthnasoedd.
Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?
Mae gennym hyder isel yn ein hamcangyfrif o effaith gyfartalog dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu ar drais.
Daethom i’r casgliad hwn oherwydd bod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar 9 astudiaeth. O’r rhain, roedd 5 astudiaeth o ansawdd cymedrol a 4 o ansawdd isel.
Mae gennym hyder isel iawn yn ein hamcangyfrif o effaith gyfartalog dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu ar droseddau a throseddu.
Daethom i’r casgliad hwn oherwydd bod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar 3 astudiaeth yn unig. O’r rhain, mae 2 astudiaeth o ansawdd uchel ac un astudiaeth o ansawdd isel.
Cynhaliwyd pob astudiaeth a oedd yn sail i’n hamcangyfrifon o’r effaith ar drais a throseddu yn yr Unol Daleithiau.
Asesodd yr astudiaethau sy’n cynhyrchu’r sgoriau effaith ar drais a throseddau a throseddu effeithiolrwydd y dulliau gweithredu hyn ar gyfer 2,679 o blant a phobl ifanc.
I bwy mae’n gweithio?
Ni chanfu’r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn edrych ar effaith dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol ar anabledd, niwrowahaniaeth, statws economaidd-gymdeithasol na phrofiad o ofal.
Oedran
Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn effeithiol i blant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Rhywedd
Canfu’r adolygiad fod dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn cael mwy o effaith pan fydd mwy o fechgyn yn y grwpiau na merched.
Sut mae modd ei weithredu’n dda?
Caiff yr adran hon ei llywio gan 101 o astudiaethau sy’n darparu tystiolaeth sy’n ymwneud â gweithredu dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn yr Unol Daleithiau.
Darparu dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn unol ag egwyddorion SAFE
Darparu dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn unol â phedair egwyddor allweddol a gynrychiolir gan yr acronym SAFE:
S = Symleiddio, trefnu’r dysgu mewn ffordd gydlynol a chysylltiedig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau, gan rannu sgiliau mwy cymhleth yn gamau llai
A = Actif, galluogi plant i ymarfer sgiliau newydd
F = Ffocws, gyda sesiynau penodol wedi’u neilltuo ar gyfer dysgu cymdeithasol ac emosiynol ac,
E = Eglur, diffinio a thargedu sgiliau penodol yn glir, ac addysgu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn benodol i blant.
Mae’r egwyddorion SAFE hyn wedi’u gwreiddio yn y pwyntiau allweddol isod.
Darparu hyfforddiant a chefnogaeth strwythuredig i’r holl ddarparwyr dan sylw
Buddsoddi mewn hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i athrawon neu ddarparwyr rhaglenni er mwyn gallu darparu dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu, mewn modd cyson ac o ansawdd uchel.
Teilwra sesiynau i ddiwallu anghenion y plant
Teilwra’r rhaglen i anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol penodol y plant a’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Dylai dysgu mewn grwpiau bach gefnogi rhyngweithio â chyfoedion, chwarae rôl a dysgu cydweithredol, gan barhau i alluogi darparwyr ymyriadau i ddarparu cymorth unigol.
Cyfuno dulliau sy’n cryfhau rhyngweithio rhwng yr athro a’r plentyn gyda chyfarwyddyd sgiliau strwythuredig
Darparu rhaglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’u targedu sy’n cyfuno dulliau gweithredu i helpu athrawon neu ddarparwyr rhaglenni i feithrin perthnasoedd cryf a chadarnhaol â phlant, fel dysgu am sgiliau penodol, defnyddio chwarae rôl, ymarfer dan arweiniad, ac adborth cadarnhaol.
Ar gyfer plant iau, dylai’r ymyriadau hefyd adlewyrchu eu cam datblygiad. Mae hyn yn golygu defnyddio gweithgareddau rhyngweithiol sy’n seiliedig ar chwarae ac sy’n ddiddorol ac yn ddifyr.
Beth yw’r gost?
Ar gyfartaledd, mae cost hyfforddiant dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn debygol o fod yn gymedrol.
Mae amcangyfrifon cost o raglenni cyfredol y DU yn awgrymu bod costau’n amrywio rhwng £500 a £1,500 y plentyn, y flwyddyn.
Mae’r costau fel arfer yn cynnwys deunyddiau’r rhaglenni fel llyfrau neu daflenni, hyfforddiant a thalu staff i gyflwyno’r rhaglen. Os yw’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan athrawon, bydd hyn yn cynnwys cost y ddarpariaeth addysgu tra byddant ar gyrsiau hyfforddiant.
Bydd costau’n amrywio yn dibynnu ar ba mor aml a pha mor hir y bydd y rhaglen yn rhedeg, yn ogystal â pha mor eang y caiff ei darparu.
Crynodeb o’r Pwnc
- Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn ddull gweithredu sy’n helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunain, rheoli eu teimladau a gwneud dewisiadau cyfrifol a gofalgar. Mae hefyd yn eu helpu i ddeall sut mae pobl eraill yn teimlo, i gyfathrebu’n glir, i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, ac i reoli ymddygiad byrbwyll ac ymosodol.
- Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc sydd mewn mwy o berygl o wynebu anawsterau cymdeithasol ac emosiynol, neu sydd eisoes yn wynebu anawsterau o’r fath, neu sy’n gysylltiedig â throseddau, trais neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Amcangyfrifir bod dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn cael effaith fawr ar leihau trais. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gallai’r ymyriadau hyn leihau trais 43%. Fodd bynnag, nid oes gennym lawer o hyder yn yr amcangyfrif hwn.
- Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu hefyd yn amcangyfrif effaith fawr ar leihau troseddau a throseddu, gan arwain at ostyngiad o 31% ar gyfartaledd. Fodd bynnag, nid oes gennym lawer o hyder o gwbl yn yr amcangyfrif hwn.
- Ar gyfartaledd, mae cost dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i dargedu yn gymedrol, ond mae’r costau hyn yn amrywio yn dibynnu ar yr ymyriadau a ddarperir.
Negeseuon allweddol
Pob cyd-destun:
- Sefydlwch raglenni wedi’u targedu ar gyfer plant sydd angen cefnogaeth benodol gyda sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.
- Dewiswch aelodau staff mewnol neu sefydliadau allanol i gyflwyno sesiynau (sy’n gallu bod yn un-i-un neu mewn grŵp bach) ar gyfer y plant hyn.
- Cyflwynwch y sesiynau hyn yn wythnosol, am o leiaf un tymor llawn.
Cyd-destun cynradd:
- Darllenwch a gweithredwch ar Social and Emotional Learning Guidance yr EEF.
- Ystyriwch ddefnyddio rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel Incredible Years Child Training, PATHS Preschool/Kindergarten .
Cyd-destun uwchradd:
Ystyriwch gopïo neu defnyddio rhaglenni addawol fel Becoming a Man, neu ddarparu eich rhaglenni mewnol eich hun sy’n defnyddio egwyddorion tebyg.
Prosiectau a gwerthusiadau YEF
Rhaglen Datblygu Bechgyn ‘Future Men‘
Rhaglen dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’i thargedu sy’n ceisio datblygu gallu a sgiliau cymdeithasol ac emosiynol bechgyn ym Mlynyddoedd 7-11 sydd mewn perygl o gael eu hallgáu a’u hymddieithrio.
Sefydliad Iechyd Meddwl: Becoming a Man (BAM)
Nod Becoming a Man (BAM) yw cefnogi bechgyn 12 i 16 oed i wella eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, eu hunanymwybyddiaeth, eu perthynas â chyfoedion ac oedolion, a’u hymgysylltiad yn yr ysgol.
Dolenni allanol
EIF Guidebook Entry: Incredible Years Child Training (Dinosaur School)
Mae Incredible Years Child Training (Dinosaur School), yn ymyriad wedi’i dargedu i’w gyflwyno mewn ysgolion ar gyfer plant sydd ag anawsterau ymddygiad rhwng 4 ac 8 oed.
EEF Social and Emotional Learning Guidance
Mae’r adroddiad cyfarwyddyd hwn yn adolygu’r ymchwil orau sydd ar gael i gynnig argymhellion i arweinwyr ysgolion i gefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol da i bob plentyn mewn ysgolion cynradd.
PATHS Preschool/Kindergarten Curriculum
Mae PATHS Preschool/Kindergarten yn ymyriad yn y lleoliad blynyddoedd cynnar sy’n targedu plant rhwng 3 a 6 oed. Mae’r ymyriad yn hyrwyddo cymwyseddau emosiynol a chymdeithasol ac yn lleihau ymddygiad ymosodol a phroblemau ymddygiad mewn plant cyn oed ysgol, gan wella’r broses addysgol yn yr ystafell ddosbarth ar yr un pryd. Gellir ei ddarparu fel cynnig Cyffredinol ond ar y cyfan fel dull wedi’i dargedu ar gyfer plant sy’n byw mewn teuluoedd sy’n wynebu anfantais.