Skip to content

Dysgu Cymdeithasol ac Emosiynol – Cyffredinol

Dull gweithredu sy’n datblygu gallu plant i reoli eu hymddygiad a chyfathrebu’n effeithiol.

Cost

Ansawdd tystiolaeth

1 2 3 4 5

Effaith

CYMEDROL

Prevention Type

  • Cychwynnol

Sectorau

Beth ydyw?

Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall eu hunain, rheoli eu teimladau a gwneud dewisiadau cyfrifol a gofalgar. Mae hefyd yn eu helpu i ddeall sut mae pobl eraill yn teimlo, i gyfathrebu’n glir, i feithrin perthnasoedd cadarnhaol, ac i reoli ymddygiad byrbwyll ac ymosodol.

Gellir cyflwyno dysgu cymdeithasol ac emosiynol drwy raglenni cyffredinol neu raglenni wedi’u targedu. Mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar ddulliau gweithredu cyffredinol sy’n cael eu darparu i bob plentyn a pherson ifanc. Mae ein hadolygiad o’r dystiolaeth ar raglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol wedi’u targedu ar gael yma.

Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol wedi’i wreiddio yn y cwricwlwm addysg ar gyfer plant oed ysgol gynradd ac uwchradd.   Mae’n cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb i ddosbarthiadau cyfan neu grwpiau mawr o blant. Mae’n dilyn fformat strwythuredig iawn, gyda chynlluniau gwersi manwl, gweithgareddau, ac mewn rhai achosion sgriptiau i lywio’r ddarpariaeth.

Mae’r rhan fwyaf o raglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu cyflwyno gan athrawon, sy’n cael hyfforddiant a chefnogaeth bwrpasol gan staff y rhaglen. Mewn rhai achosion, gall gweithwyr proffesiynol o feysydd eraill fel ymchwilwyr, seicolegwyr, gweithwyr ieuenctid, cwnselwyr neu weithwyr iechyd proffesiynol gefnogi’r ddarpariaeth.

Mae hyfforddiant i alluogi staff i gyflwyno rhaglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol fel arfer yn cael ei ddarparu mewn un diwrnod, a chaiff ei gefnogi weithiau gan sesiynau procio’r cof yn nes ymlaen. Mae hyfforddiant yn rhoi dealltwriaeth glir i weithwyr proffesiynol o ddysgu cymdeithasol ac emosiynol, strategaethau ymarferol ar gyfer cyflwyno gwersi strwythuredig, gan gryfhau’r berthynas rhwng athrawon a disgyblion ac mae’n helpu staff i wreiddio’r rhaglen yn gyson drwy gydol y diwrnod ysgol.

Mae cyflwyno dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn amrywio o ran dwysedd a hyd, o sesiwn ddyddiol i hyd at bedair gwaith yr wythnos a gall bara am gyfnod o dri mis i flwyddyn, neu fwy.

Gall y gweithgareddau gynnwys:

Gall dysgu cymdeithasol ac emosiynol leihau trais a throseddu drwy ddatblygu hunanreolaeth, rheoli dicter, perthnasoedd cadarnhaol a sgiliau datrys problemau sy’n galluogi plant i feddwl cyn gweithredu, lleihau byrbwylltra, ac osgoi ymddygiad ymosodol, gan arwain at lai o risg o fod yn gysylltiedig â thrais, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau.

A yw’n effeithiol?

Mae’r ymchwil yn awgrymu, ar gyfartaledd, bod effaith dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol ar atal trais yn debygol o fod yn gymedrol.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gallai dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol leihau trais 25%.

Mae’r ymchwil hefyd yn amcangyfrif y gall dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol, ar gyfartaledd, leihau troseddau a throseddu 45%.

Canfuwyd hefyd bod dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol yn cael effeithiau cadarnhaol ar wella iechyd meddwl, lleihau bwlio a lleihau anawsterau ymddygiadol.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder uchel iawn yn ein hamcangyfrif o effaith gyfartalog dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol ar drais.

Daethom i’r casgliad hwn oherwydd bod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar 22 astudiaeth. O’r rhain, roedd 9 astudiaeth o ansawdd uchel, 11 o ansawdd cymedrol a 2 o ansawdd isel.

Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn yr Unol Daleithiau, 2 yn India, ac un astudiaeth yr un yn y DU, Iwerddon, Tsieina, Chile/Colombia, Croatia, Canada a’r Swistir.

Mae gennym hyder isel yn ein hamcangyfrif o effaith gyfartalog dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol ar droseddau a throseddu. Daethom i’r casgliad hwn oherwydd bod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar bedair astudiaeth o ansawdd cymedrol.

Asesodd yr astudiaethau sy’n cynhyrchu’r sgoriau effaith ar drais a throseddau a throseddu effeithiolrwydd y dulliau gweithredu hyn ar gyfer 64,430 o blant a phobl ifanc.

I bwy mae’n gweithio?

Ni chanfu’r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn edrych ar effaith dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol ar anabledd, niwrowahaniaeth, statws economaidd-gymdeithasol na phrofiad o ofal.  

Oedran

Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol yn effeithiol i blant mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Rhywedd

Canfu’r adolygiad fod dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol yn cael mwy o effaith wrth weithio gyda grwpiau o fechgyn a merched.

Ethnigrwydd

Dangosodd dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol fwy o effeithiau pan gyflwynwyd y dysgu i grwpiau gyda phlant o gefndiroedd ethnig amrywiol.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae’r dystiolaeth sy’n ymwneud â gweithredu dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol yn seiliedig ar 16 adolygiad, gan ddefnyddio cannoedd o astudiaethau ledled y byd i nodi themâu allweddol ar gyfer cyflwyno’n llwyddiannus.

Cynllunio digon o amser i gyflwyno dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn llawn

Cynllunio digon o amser ac amser realistig er mwyn gallu gweithredu’r rhaglen lawn yn ôl y bwriad, gan sicrhau bod yr holl gynnwys hanfodol yn cael sylw. Mae hyn yn helpu i atal dysgu cymdeithasol ac emosiynol neu gynnwys allweddol rhag cael ei wthio o’r neilltu pan fydd amserlenni ysgolion yn prysuro.

Monitro’r gwaith o gyflwyno’r rhaglen

Dylai cynlluniau gynnwys strategaethau penodol i gefnogi, monitro a chynnal cywirdeb y gwaith o gyflwyno rhaglenni, fel hyfforddiant, canllawiau gweithredu clir, rhestrau gwirio, arsylwadau a phrosesau monitro parhaus.

Cyflwyno dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn unol ag egwyddorion SAFE

Cyflwyno dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn unol â phedair egwyddor allweddol a gynrychiolir gan yr acronym SAFE:

S = Symleiddio, trefnu’r dysgu mewn ffordd gydlynol a chysylltiedig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau, gan rannu sgiliau mwy cymhleth yn gamau llai

A = Actif, galluogi plant i ymarfer sgiliau newydd

F = Ffocws, gyda sesiynau penodol wedi’u neilltuo ar gyfer dysgu cymdeithasol ac emosiynol ac,

E = Eglur, diffinio a thargedu sgiliau penodol yn glir, ac addysgu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn benodol i blant.

Sicrhau bod gweithgareddau dysgu sy’n ceisio cryfhau sgiliau hunanreolaeth fel rheoli emosiynau yn cael eu darparu yn gyntaf. Gall hyn gefnogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu mwy â dysgu dilynol fel cyfathrebu a meithrin perthnasoedd.

Buddsoddi mewn hyfforddiant a chefnogi darparwyr 

Darparu hyfforddiant wyneb yn wyneb i athrawon mewn sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol drwy weithdai a hyfforddiant a darparu llawlyfrau i gefnogi’r dysgu ac ymarfer.

Gwneud dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn deg ac yn hygyrch

Dylai cynllunio a chyflwyno rhaglenni wreiddio cynhwysiant o’r cychwyn cyntaf drwy ddewis amseroedd cyflwyno a fformatau sy’n sicrhau bod pob plentyn yn gallu ymgysylltu â dysgu. Darparu hyfforddiant ar arferion cynhwysol, fel addasu iaith ac ymgorffori gwerthoedd diwylliannol. Cofnodi cyfranogiad myfyrwyr ag AAAA yn glir ac addasu’r broses o gyflwyno rhaglenni lle bo angen er mwyn sicrhau eu bod mor hygyrch â phosibl.

Defnyddio dulliau rhyngweithiol, strwythuredig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau

Ymgorffori dulliau dysgu sgiliau’n weithredol drwy ddefnyddio cyfuniad o fideo, cynnwys gweledol, ac adnoddau digidol neu ryngweithiol i gefnogi plant i ymgysylltu.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost hyfforddiant dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol yn debygol o fod yn isel.

Mae amcangyfrifon cost o raglenni cyfredol y DU yn awgrymu cost gyfartalog o £120 y plentyn, y flwyddyn.

Mae’r costau fel arfer yn cynnwys deunyddiau rhaglen fel llyfrau neu daflenni, hyfforddiant a staff i gyflwyno’r rhaglen. Os yw’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan athrawon, bydd hyn yn cynnwys cost y ddarpariaeth addysgu tra byddant ar gyrsiau hyfforddiant.

Bydd costau’n amrywio yn dibynnu ar amlder a hyd y rhaglen neu’r gweithgareddau sydd ar gael.

Crynodeb o’r Pwnc

Negeseuon allweddol

Pob cyd-destun:

Cyd-destun cynradd:

Cyd-destun uwchradd:  

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

DARE25

Nod DARE25 yw annog plant i wneud dewisiadau mwy diogel, iachach a mwy gwybodus a’u cadw’n ddiogel rhag bod yn gysylltiedig â throseddau a thrais.

Dolenni allanol

EIF social and emotional skills training summary report
Adroddiad cryno ar bwysigrwydd hyfforddiant sgiliau cymdeithasol ac emosiynol a sut i wella’r sgiliau hyn, i blant a phobl ifanc yn y DU.

EEF Social and Emotional Learning Guidance

Mae’r adroddiad cyfarwyddyd hwn yn adolygu’r ymchwil orau sydd ar gael i gynnig argymhellion i arweinwyr ysgolion i gefnogi dysgu cymdeithasol ac emosiynol da i bob plentyn mewn ysgolion cynradd.

Foundations Guidebook: PATHS Elementary

Mae’r Cwricwlwm PATHS Elementary yn ymyriad sy’n rhan o gwricwlwm ysgolion ar gyfer plant rhwng 6 a 12 oed, sydd wedi’i gynllunio i hyrwyddo cymwyseddau emosiynol a chymdeithasol a lleihau ymddygiad ymosodol a phroblemau ymddygiad mewn plant oedran ysgol gynradd, gan wella’r broses addysgol yn yr ystafell ddosbarth ar yr un pryd.

Beth yw’r Fframwaith CASEL

Mae CASEL 5 yn mynd i’r afael â phum maes cymhwysedd eang a chysylltiedig ac yn tynnu sylw at enghreifftiau ar gyfer pob un: hunanymwybyddiaeth, hunanreolaeth, ymwybyddiaeth gymdeithasol, sgiliau perthnasoedd a gwneud penderfyniadau cyfrifol.

Dadlwythiadau

Strand metadata

Prevention Type

  • Cychwynnol

Sectorau