Skip to content

Cynlluniau ildio cyllyll

Cynlluniau i alluogi pobl i roi arfau mewn mannau penodol yn ddiogel.

Dim digon o dystiolaeth o'r effaith

?

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

?

Prevention Type

  • Eilaidd
  • Trydyddol

Lleoliad

  • Gymuned

Sectorau

Beth ydyw?

Mae cynlluniau ildio cyllyll, sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘amnest arfau’ neu’n ‘amnest cyllyll’, yn ceisio cael gwared ag arfau o’r stryd drwy ddarparu biniau arfau neu bwyntiau casglu fel bod pobl yn gallu gadael eu harfau yno. Fel arfer, rhoddir pwyntiau casglu mewn lleoliadau hawdd eu cyrraedd fel archfarchnadoedd, ar y stryd fawr neu mewn gorsafoedd heddlu. Cyllyll yw’r rhan fwyaf o’r arfau sy’n cael eu hildio i gynlluniau ond maent hefyd wedi casglu arfau tanio go iawn/ffug, cleddyfau, bwâu croes, tuniau CS (nwy terfysg), dyrnau haearn ac offer taser. 

Bydd cynlluniau’n aml yn caniatáu i bobl adael eu harfau yn ddienw ac yn gwarantu na fydd unrhyw ôl-effeithiau i’r person adeg trosglwyddo. Fodd bynnag, gall rhai cynlluniau archwilio arfau’n ddiweddarach i ganfod unrhyw gysylltiad â throseddau a mynd ar drywydd ymchwiliad neu erlyniad os oes un yn bodoli. Mae cynlluniau iawndal neu ‘brynu’n ôl’ yn cynnig taliadau am arfau a roddir i mewn. Gall y taliadau amrywio o £3 am ddwrn haearn, £20 am bastwn i dros £5,000 am reiffl.

Gellir cyflwyno cynlluniau ildio cyllyll ochr yn ochr â gweithgareddau eraill fel:

  • Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, gan gynnwys negeseuon atgoffa am y rhestr o arfau sy’n anghyfreithlon i’w meddiannu’n breifat, a risgiau a chanlyniadau cario arfau;
  • Addysg a hyfforddiant yn gysylltiedig â throseddau gyda chyllyll; a
  • Chynlluniau’r heddlu mewn ardaloedd lle ceir cyfraddau uwch o ddefnyddio arfau, fel plismona mannau problemus, mwy o ddefnydd o stopio a chwilio, monitro gweithredol ar deledu cylch cyfyng a goleuadau stryd.

Dyma enghreifftiau diweddar o gynlluniau ildio cyllyll:

  • Gosododd Heddlu Swydd Lincoln finiau ildio cyllyll mewn sawl tref er mwyn gadael arfau yno yn ddienw. Rhoddwyd cyfanswm o 315 o arfau i mewn, gan gynnwys gwahanol gyllyll, machete, dyrnau haearn, arf tanio ffug, bwa croes, dau ddryll a reiffl aer.
  • Cynhaliodd Heddlu Swydd Gaerloyw raglen ddwy wythnos a welodd dros 300 o gyllyll a nifer fechan o ynnau yn cael eu hildio.
  • Word 4 Weapons, mae’r elusen hon sy’n trefnu biniau cyllyll yn gysylltiedig ag eglwysi, wedi gosod biniau ledled Llundain. Maent hefyd yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o droseddau â chyllyll i ymarferwyr a gwirfoddolwyr ifanc.

Defnyddir cynlluniau ildio cyllyll fel mesur atal trais ar sail tybiaethau eu bod yn lleihau nifer yr arfau sydd ar gael i’w defnyddio mewn digwyddiadau treisgar. Maent yn aml yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â chynlluniau atal trais eraill, fel ymgyrchoedd yn y cyfryngau neu raglenni addysg. Ffodd bynnag, mae’r rhai sy’n beirniadu cynlluniau ildio cyllyll yn awgrymu tri rheswm pam y gallent fethu ag atal trais. Yn gyntaf, nid ydynt yn debygol o leihau faint o gyllyll sydd ar gael, ac mae’n hawdd cael rhai newydd yn eu lle. Yn ail, nid yw cynlluniau ildio cyllyll heb ymyriadau ychwanegol fel addysg neu hyfforddiant, yn mynd i’r afael â’r cymhellion dros gario arf. Yn olaf, gallai cynlluniau ildio cyllyll, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag ymgyrchoedd yn y cyfryngau, gynyddu pryder y cyhoedd am drais, gan arwain at fwy o unigolion yn cario arfau i’w hamddiffyn eu hunain.

A yw’n effeithiol?

Dim ond nifer fach o werthusiadau sydd wedi cael eu cynnal ar effaith cynlluniau ildio cyllyll ar droseddau treisgar. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith.

Mae dwy astudiaeth yn y DU yn awgrymu y gallai cynlluniau ildio cyllyll gyfrannu at ostyngiad bychan mewn troseddau sy’n ymwneud ag arfau yn ystod cyfnod yr amnest, ond nid yw’r gostyngiadau hynny’n cael eu cynnal yn hir.

Yn ôl dadansoddiad o ddata troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn Llundain, gostyngodd troseddau a oedd yn ymwneud â chyllyll am bum wythnos ar ôl y cynllun, ond dychwelodd y gyfradd i lefelau cyn y cynllun ar ôl wyth wythnos. Cyflwynwyd y cynllun ochr yn ochr â nifer o ymyriadau ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth eraill yn y cyfryngau, felly mae’n anodd mesur effaith y cynllun ar wahân i weddill y gweithgareddau hyn.

Yn yr un modd yn Glasgow, dangosodd y dadansoddiad fod nifer yr unigolion a oedd yn mynd i adrannau brys gydag anafiadau trywanu difrifol wedi gostwng hyd at ddeg mis ar ôl y cynllun ond wedi dychwelyd i lefelau cyn y cynllun ar ôl blwyddyn. Cyflwynwyd y cynllun ochr yn ochr â nifer o ymyriadau ac ymgyrchoedd eraill yn y cyfryngau, felly mae’n anodd mesur ei effaith.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith ar gyfer effaith cynlluniau ildio cyllyll ar drais. Dim ond nifer fach iawn o werthusiadau sydd â dyluniadau gwan.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod lleoliad yn debygol o fod yn ystyriaeth bwysig. Dylai cynlluniau ddewis pwyntiau casglu sy’n hawdd eu cyrraedd, mewn ardaloedd lle ceir cyfraddau uwch o ddigwyddiadau’n ymwneud ag arfau, a rhywle fyddai’n sicrhau bod y rheini sy’n ildio arfau yn cael eu cadw’n ddienw, er enghraifft ardal heb deledu cylch cyfyng.

Dylai cynlluniau leihau’r risg o achosi niwed drwy ysgogi ymateb o ofn a’r canfyddiad bod angen cario cyllell ar gyfer hunanamddiffyn. Mae hefyd yn bwysig ystyried a lliniaru’r potensial i finiau arfau stigmateiddio cymunedau lleol.

Beth yw’r gost?

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i ddarparu amcangyfrif sylfaenol o’r gost.

Mae’r costau’n debygol o fod yn isel, ar y sail bod yr ymyriad craidd yn golygu darparu bin diogel a staff i wagio a gwaredu arfau’n ddiogel. Mae rhai cynlluniau ildio cyllyll yn cynnwys gwaith ymchwil i ganfod a ddefnyddiwyd arfau mewn troseddau, a fyddai’n arwain at gostau pellach. Bydd cynlluniau ildio cyllyll sy’n cynnwys ymgyrchoedd mawr yn y cyfryngau yn costio mwy.

Crynodeb o bwncz

  • Mae cynlluniau ildio cyllyll, sy’n cael eu galw’n aml yn ‘amnest arfau’, yn ceisio cael gwared ag arfau o’r stryd drwy ddarparu biniau arfau neu bwyntiau casglu ‘dim cwestiynau’.
  • Ychydig iawn o werthusiadau a wnaed o effaith cynlluniau ildio cyllyll neu amnestau arfau ar droseddau treisgar. Nid oes digon o dystiolaeth i gyfrifo sgôr effaith.  
  • Mae dwy astudiaeth yn awgrymu y gallai cynlluniau ildio cyllyll leihau digwyddiadau sy’n ymwneud ag arfau yn ystod cyfnod y cynllun ac am wythnosau neu fisoedd ar ôl hynny, ond nad yw’r effeithiau’n cael eu cynnal.
  • Gall cynlluniau ildio cyllell fod yn fwy llwyddiannus pan gânt eu darparu ochr yn ochr ag ymyriadau eraill sy’n mynd i’r afael â’r cymhellion dros gario arfau neu sy’n cael effaith ataliol.

Dolenni allanol

Evidence briefing on knife crime
Briff y Coleg Plismona ar droseddau gyda chyllyll, gan gynnwys cyfeiriad at amnestau

A problem solving guide to knife crime
Briff y Coleg Plismona ar fynd i’r fael â throseddau gyda chyllyll, gan gynnwys cyfeiriad at amnestau.

Metropolitan Police 2006 Knife Amnesty Evaluation
Adroddiad yr Heddlu Metropolitan ar Operation Blunt: Knife Amnesty Impact on Knife-Enabled Offences.

Dadlwythiadau