Cymunedau Sy’n Malio
Dull strwythuredig sy’n hyfforddi ac yn cefnogi grwpiau o bobl leol i ddatblygu a gweithredu cynllun sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer atal trais.
Beth yw hyn?
Mae Cymunedau sy’n Malio (CsM) yn ddull hirdymor o atal trais sy’n seiliedig ar leoedd. Mae’n grymuso trigolion a sefydliadau lleol i nodi’r anghenion a’r cryfderau yn eu hardal a darparu atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Er enghraifft, gallai cymuned nodi lefel isel o ymgysylltu ag ysgolion a sgiliau cymdeithasol gwael fel risgiau allweddol i bobl ifanc. Gyda chefnogaeth gan CsM, efallai y bydd ysgolion a gweithwyr ieuenctid yn cael eu hyfforddi i gyflwyno rhaglen dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn yr ysgol i helpu disgyblion i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a sgiliau rhag-gymdeithasol.
Nid ymyriad annibynnol yw Cymunedau sy’n Malio, ond dull strwythuredig a gyflwynir mewn pum cam:
- Dechrau arni: sicrhau cefnogaeth gan arweinwyr lleol o sectorau allweddol, gan gynnwys ysgolion, plismona, grwpiau ffydd, cyfiawnder ieuenctid, iechyd, y sector gwirfoddol a chymunedol, ac asesu eu gallu i ymrwymo amser ac adnoddau hirdymor.
- Trefnu pethau: ffurfio cynghrair – grŵp amrywiol o aelodau o’r gymuned gyda chynrychiolwyr o sectorau allweddol, cytuno ar nodau cyffredin, a chynllunio ymdrechion ar y cyd.
- Datblygu proffil cymunedol: defnyddio data lleol i ganfod cryfderau a risgiau cymunedol a allai effeithio ar y tebygolrwydd i blant fynd i ymwneud â thrais a throseddu. Gallai’r cryfderau gynnwys perthynas gref rhwng ysgolion a theuluoedd neu grwpiau ieuenctid gweithgar, tra gallai’r risgiau gynnwys lefel isel o ymgysylltu ag ysgolion neu wrthdaro teuluol.
- Creu cynllun gweithredu: dewis rhaglenni seiliedig ar dystiolaeth sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol.
- Gweithredu a monitro: cyflwyno rhaglenni dethol, monitro cynnydd, ac addasu’r cynllun os bydd angen newid ar y gymuned.
Bydd gweithredu, fel arfer, yn cymryd rhwng dwy a phum mlynedd i’w roi ar waith. Fe’i harweinir gan gydlynydd CsM, arweinydd prosiect hyfforddedig a gyflogir gan yr ardal leol. Fe’i cefnogir gan staff arbenigol CsM sy’n cynghori ar sut i asesu anghenion lleol a datblygu ymatebion effeithiol.
Mae’r rhaglenni a ddarperir drwy CsM yn amrywio yn ôl ardal ond yn aml maent yn cynnwys:
- Ymyriadau teuluol, fel rhaglenni magu plant a therapi teulu dwys;
- Ymyriadau yn yr ysgol sy’n datblygu dysgu cymdeithasol ac emosiynol neu sy’n cefnogi ymgysylltiad a chyrhaeddiad addysgol; a
- Rhaglenni datblygu sgiliau, gweithgareddau cadarnhaol, chwaraeon, neu fentora.
Nod Cymunedau sy’n Malio yw lleihau troseddu a thrais drwy gryfhau cydweithio cymunedol, cysoni gwasanaethau o amgylch nodau cyffredin, a gwreiddio dull hirdymor sy’n seiliedig ar dystiolaeth o atal.
A yw’n effeithiol?
Mae’r ymchwil yn awgrymu, ar gyfartaledd, bod effaith Cymunedau sy’n Malio ar atal trais yn debygol o fod yn isel.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gallai Cymunedau sy’n Malio leihau trais 10%.
Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu, ar gyfartaledd, nad yw CsM yn cael unrhyw effaith ar ganlyniadau troseddu, sy’n dangos y gallai fod yn fwy effeithiol wrth dargedu canlyniadau trais yn benodol, ond mae’r dystiolaeth yn wan.
Pa mor gadarn yw’r dystiolaeth?
Mae gennym hyder isel iawn yn ein hamcangyfrif o effaith Cymunedau sy’n Malio ar drais.
Rhoesom y sgôr hon oherwydd bod ein hamcangyfrif yn seiliedig ar saith astudiaeth, pedair ohonynt o ansawdd cymedrol a thair a oedd yn cael eu hystyried o ansawdd isel. Mae llawer o amrywiaeth hefyd yng nghanlyniadau’r astudiaethau hynny.
Mae gennym hyder isel yn ein hamcangyfrif o effaith CsM ar droseddu. Er ei fod yn seiliedig ar ddeg astudiaeth, mae ansawdd yr astudiaethau hynny’n amrywio o gymedrol i isel iawn, ac mae llawer o amrywiaeth yn y canlyniadau.
Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r astudiaethau sydd ar gael yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
I bwy mae’n gweithio?
Ni chanfu’r adolygiad unrhyw astudiaethau a oedd yn edrych ar effaith Cymunedau sy’n Malio ar rywedd, ethnigrwydd, anabledd, niwrowahaniaeth, statws economaidd-gymdeithasol na phrofiad o ofal.
Sut mae modd ei weithredu’n dda?
Darparodd pedair-ar-hugain o astudiaethau dystiolaeth ar weithredu, y rhan fwyaf ohonynt o’r Unol Daleithiau, gydag ychydig o Awstralia a’r Iseldiroedd, a dim un o’r DU.
Creu cynghrair gref
Ffurfio cynghrair gydag aelodau llawn cymhelliant o’r gymuned a sectorau allweddol, gan gynnwys addysg, iechyd, plismona, cyfiawnder ieuenctid, gofal cymdeithasol, a’r sector gwirfoddol a chymunedol. Mae clymbleidiau sy’n dod â gwasanaethau lleol at ei gilydd ac sy’n cynnwys aelodau gweithgar o’r gymuned yn fwy tebygol o gadw cymhelliant, rhannu adnoddau, a chynnal ymrwymiad hirdymor.
Cynllunio ac ariannu rhaglen hirdymor
Neilltuo amser ac arian i gael cydgysylltydd CsM llawn amser, cyfarfodydd cynghrair rheolaidd, a hyfforddiant strwythuredig i aelodau. Heb gapasiti penodol na chyllid hirdymor, mae cynghreiriau’n aml yn colli momentwm ac yn diflannu ar ôl i’r cymorth cychwynnol ddod i ben.
Buddsoddi mewn hyfforddiant a chymorth technegol
Darparu hyfforddiant o ansawdd uchel i aelodau ac arweinwyr y gynghrair ar atal trais a’r broses CsM. Yn ogystal, sicrhau cymorth technegol parhaus gan hyfforddwyr achrededig sy’n gallu rhoi cyngor ar ddehongli data lleol, dewis rhaglenni addas sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a datrys heriau gweithredu.
Dewis rhaglenni seiliedig ar dystiolaeth sy’n addas i anghenion lleol
Defnyddio data lleol, fel cofnodion gweinyddol ac ymgynghoriadau cymunedol, gan gynnwys arolygon sy’n cynnwys plant a phobl ifanc, i ddeall anghenion lleol. Yna dewis raglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n cyfateb i’r blaenoriaethau hynny. Dylai cynllun gweithredu CsM cytbwys gynnwys rhaglenni cyffredinol a rhaglenni wedi’u targedu.
Olrhain a rhannu cynnydd
Codi ymwybyddiaeth o bwrpas CsM, rhannu cynnydd gyda’r gymuned ehangach, a nodi hyrwyddwyr ar draws sectorau i feithrin ymrwymiad. Olrhain y ddarpariaeth a’r canlyniadau i ddal partneriaid yn atebol, cynnal cymhelliant, a gwneud addasiadau amserol i gynllun gweithredu ar y cyd y gynghrair.
Beth yw’r gost?
Ar gyfartaledd, mae cost gweithredu Cymunedau sy’n Malio yn debygol o fod yn uchel.
Mae’r costau a adroddwyd yn amrywio yn ôl maint y gymuned, nifer y rhaglenni a ddarperir, a lefel y cymorth technegol a ddarperir.
Mae cyflwyno CsM yn gofyn am fuddsoddiad parhaus mewn cydlynydd amser llawn, hyfforddiant cynghrair, cymorth technegol a monitro parhaus, a darparu nifer o raglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth dros ddwy i bum mlynedd. Mae hyn yn gwneud CsM yn opsiwn cost uwch o’i gymharu ag ymyriadau unigol.
Mae astudiaethau rhyngwladol yn awgrymu y gall CsM ddefnyddio mwy o adnoddau yn ystod y camau cynnar, pan fydd angen hyfforddiant a chymorth technegol, ond mae costau parhaus yn gostwng ar ôl sefydlu cynghreiriau a phan fydd rhaglenni wedi cael eu gwreiddio mewn systemau lleol.
Crynodeb o’r Pwnc
- Mae Cymunedau sy’n Malio yn system atal yn y gymuned sy’n cefnogi ardaloedd lleol i greu cynghreiriau, defnyddio data i ganfod risgiau, a gweithredu rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Amcangyfrifir bod CsM yn cael effaith isel ar leihau trais, ond ychydig iawn o hyder sydd gennym yn yr amcangyfrif hwn.
- Mae gweithredu effeithiol yn dibynnu ar gynghreiriau cryf, darpariaeth hirdymor, hyfforddiant, cymorth technegol parhaus, a dewis rhaglenni’n ofalus.
- Mae’r costau’n bennaf yn cynnwys cydgysylltydd arweiniol, hyfforddiant cynghreiriau, cymorth technegol parhaus, a chyflwyno rhaglenni a ddewisir yn lleol. Mae’r costau’n uwch yn y camau cynnar ond yn debygol o ostwng wrth i raglenni ymsefydlu.
Negeseuon allweddol
- Peidio â chomisiynu na graddio rhaglenni CsM newydd nes bod ymchwil pellach yn dangos bod modd cyflwyno’r dull yn effeithiol yng nghyd-destun y DU.
- Os yw CsM yn cael ei weithredu, cynllunio ar gyfer ymrwymiad hirdymor. Mae’r dull gweithredu’n gofyn am sawl blwyddyn o gydlynu, hyfforddi a chymorth technegol; nid yw prosiectau tymor byr yn debygol o arwain at newid ystyrlon.
- Defnyddio data ac ymgynghori lleol i nodi risgiau a blaenoriaethau, a dewis rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n addas i anghenion y gymuned. Cydbwyso dulliau cyffredinol, fel atal yn yr ysgol, gyda chymorth wedi’i dargedu ar gyfer plant sydd mewn perygl neu sydd eisoes yn ymwneud â thrais.
Canllawiau, prosiectau a gwerthusiadau YEF
Nid yw’r Gronfa Cymdogaethau na’r Rhaglen Arweinwyr Ardal yn fodelau CsM, ond mae’r ddau’n dilyn nifer o’r un egwyddorion: grymuso cymunedol, cynllunio gweithredu lleol, a gweithio mewn partneriaeth wedi’i chydlynu, sy’n eu gwneud yn berthnasol i ddeall dulliau gweithredu fel CsM.
Y Gronfa Gymdogaeth – Adroddiad ar greu cymunedau mwy diogel
Mae’r adroddiad yn amlinellu dull YEF o werthuso’r Gronfa Gymdogaeth a’r hyn a ddysgwyd o bum partneriaeth leol yng Nghymru a Lloegr.
Blwyddyn 1 a 2 y Gronfa Gymdogaeth – Adroddiadau Gwerthuso Prosesau a Gweithredu
Mae’r adroddiadau’n disgrifio sut mae partneriaethau lleol wedi datblygu a chyflwyno cynlluniau gweithredu i atal trais ieuenctid.
Nod y canllaw mewnwelediadau ymarfer yw cefnogi’r gwaith o gyflwyno Rhaglen Arweinwyr Ardal YEF.
Dolenni Allanol
Working in partnership with people and communities: Statutory guidance
Canllawiau a ddatblygwyd gan GIG Lloegr gyda’r bwriad o gefnogi systemau iechyd a gofal i feithrin partneriaethau cadarnhaol a pharhaus gyda chymunedau lleol er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i bawb.
Ending Gang and Youth Violence Community Involvement
Canllawiau a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Gartref ar feithrin clymbleidiau