Skip to content

Cyfiawnder Adferol

Proses sy’n cefnogi unigolion sydd wedi cyflawni trosedd i gyfathrebu â’r dioddefwr, deall effaith eu gweithredoedd, a dod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen.

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

CYMEDROL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Trydyddol

Lleoliad

  • Gymuned

Sectorau

Beth ydyw?

Mae cyfiawnder adferol yn broses sy’n cefnogi dioddefwr trosedd yn ogystal â’r unigolyn sy’n gyfrifol am y drosedd honno i gyfathrebu, gwneud iawn am niwed, a dod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen. Mae’n canolbwyntio ar wneud y person sy’n gyfrifol yn ymwybodol o’r niwed y maent wedi’i achosi ac yn eu helpu i wneud iawn.

Mae cyfiawnder adferol wedi cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ysgolion. Fodd bynnag, mae’r crynodeb hwn yn canolbwyntio ar gyd-destun cyfiawnder troseddol. Gall cyfiawnder adferol ddigwydd yn ystod unrhyw gam o’r broses cyfiawnder troseddol gan gynnwys ar ôl euogfarn neu cyn i achos ddod gerbron llys, fel rhan o broses ddargyfeirio (gweler ein crynodeb ar ddargyfeirio cyn llys).

Bu ystod o wahanol weithgareddau yn ymwneud ag ymyriadau cyfiawnder adferol.

  • Cynadleddau adferol. Mae rhain yn cynnwys cyfarfod wyneb yn wyneb rhwng yr unigolyn a gyflawnodd y drosedd a’r dioddefwr, dan arweiniad hwylusydd hyfforddedig. Mae llawer o’r ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar gynadleddau cyfiawnder adferol.
  • Cynadleddau cymunedol. Cynhadledd adferol sy’n cynnwys sawl aelod o’r gymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan y drosedd – gall mwy nag un tramgwyddwr fod yn rhan o’r gynhadledd.
  • Gwneud iawn i’r dioddefwr. Gallai’r person sy’n gyfrifol am y drosedd dalu iawndal ariannol i’r dioddefwr neu atgyweirio eitem a ddifrodwyd mewn gweithred o fandaliaeth.
  • Cyfryngu anuniongyrchol. Nid yw’r cyfranogwyr yn cwrdd yn bersonol, ac mae negeseuon yn cael eu trosglwyddo rhyngddynt, fel arfer gan gyfryngwr hyfforddedig.

Mae sawl theori i egluro pam y gallai cyfiawnder adferol fod yn effeithiol. Gallai helpu’r person sy’n gyfrifol am gyflawni’r drosedd i ddeall y niwed a achoswyd. Gallai hyn annog empathi, ymddygiad mwy cymdeithasol ac ymatal rhag troseddu. Yn olaf, gallai cyfiawnder adferol leihau stigma ac amddiffyn plant rhag niwed posibl o gael eu labelu yn ‘droseddwr’.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, mae cyfiawnder adferol wedi cael effaith gymedrol ar atal trosedd a thrais. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod cyfiawnder adferol, ar gyfartaledd, wedi llwyddo i ostwng aildroseddu 13%.

Mae ymchwilwyr wedi ceisio sefydlu’r amodau lle mae cyfiawnder adferol yn fwy effeithiol. Mae’r dadansoddiad hwn yn cynnwys nifer fach o astudiaethau sy’n cynnwys plant ac oedolion ac yn darparu tystiolaeth wan iawn. Mae’n awgrymu bod cyfiawnder adferol wedi cael effaith mwy positif pan oedd yn ychwanegiad at, yn hytrach nag yn cymryd lle, erlyniad. Mae peth ymchwil wedi awgrymu y gallai cyfiawnder adferol fod yn fwy effeithiol wrth ei gymhwyso i droseddau treisgar yn hytrach na throseddau eiddo, a throseddau mwy difrifol yn hytrach na rhai llai difrifol.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder cymedrol yn ein hamcangyfrif o’r effaith gyfartalog ar droseddu a thrais. Mae’r amcangyfrif yn seiliedig ar adolygiad systematig a meta-ddadansoddiad o ansawdd canolig. Fodd bynnag, mae ein prif amcangyfrif effaith yn seiliedig ar bedair astudiaeth yn unig oedd yn ystyried effaith cyfiawnder adferol ar ymwneud plant â throsedd. Dim ond un o’r astudiaethau hyn oedd yn ystyried trais yn uniongyrchol.

Gwnaethom nodi un astudiaeth a gynhaliwyd yn y DU ac a oedd yn cynnwys plant a phobl ifanc. Roedd yr astudiaeth hon yn dreial rheoli ar hap o gynadledda cyfiawnder adferol gyda 165 o blant a phobl ifanc a oedd wedi derbyn rhybudd terfynol am ddwyn eiddo neu droseddu treisgar. Roedd cyfranogwyr mewn cynhadledd cyfiawnder adferol ychydig yn llai tebygol o aildroseddu o fewn dwy flynedd, o gymharu â phlant na chymerodd ran.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Mae chwe astudiaeth yn darparu gwybodaeth bellach am weithredu cyfiawnder adferol yng nghyd-destun y DU ac yn awgrymu bod yr ystyriaethau canlynol yn debygol o fod yn bwysig.

  • Ystyriwch sut y byddwch chi’n cefnogi plant i gymryd rhan. Gallai cymryd rhan mewn cyfiawnder adferol fod yn brofiad heriol. Efallai y bydd plant yn teimlo’n bryderus am siarad yn gyhoeddus neu’n ei chael hi’n anodd i fynegi eu barn. Efallai y bydd rhai plant yn amharod i gymryd rhan os nad ydyn nhw’n deall pam eu bod yn cael eu dal yn atebol neu’n mynnu eu bod yn ddieuog. Egwyddor cyfiawnder adferol yw na ddylid gorfodi pobl i gymryd rhan nac i ymddiheuro – dim ond os yw’r holl bartïon yn cytuno ac yn barod i gymryd rhan y mae’r broses yn effeithiol.
  • Defnyddio hwyluswyr i annog cymryd rhan. Mae’n ymddangos bod y berthynas rhwng y plant dan sylw a’r hwylusydd cyfiawnder adferol yn ganolog i oresgyn rhwystrau i gymryd rhan. Mae astudiaethau yn pwysleisio pwysigrwydd fod hwyluswyr yn trin plant â pharch a darparu arweiniad a chefnogaeth glir trwy gydol y broses. Awgrymodd rhai astudiaethau fod pobl yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y broses pan fydd hwylusydd nad yw’n gysylltiedig â’r heddlu yn cysylltu â nhw.
  • Cynllunio sut y bydd gwahanol asiantaethau’n cydweithredu. Nododd llawer o astudiaethau fod yr her o gyfathrebu rhwng asiantaethau yn golygu nad oedd yr ystod lawn o opsiynau cyfiawnder adferol bob amser yn cael eu harchwilio, ac roedd pryderon diogelu data yn golygu bod Timau Troseddu Ieuenctid yn ei chael hi’n anodd i gyfathrebu yn uniongyrchol â phlant. Gall cynllunio’n benodol sut mae’r asiantaethau dan sylw yn gweithio gyda’i gilydd ac yn rhannu gwybodaeth atal rhai o’r anawsterau hyn.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost cyfiawnder adferol yn debygol o fod yn isel.

Mae’r costau’n debygol o gynnwys hwylusydd hyfforddedig a lleoliad addas ar gyfer y cyfarfod. Mae gwerthusiad o’r Ymyrraeth Adferol Ieuenctid (YRI) yn Surrey yn dangos bod yr heddlu a’r gwasanaeth ieuenctid wedi talu £360 yr achos i ddarparu cyfiawnder adferol. Mae costau’n debygol o amrywio yn ôl cymhlethdod yr achos a chyfranogiad gwirfoddolwyr.

Crynodeb o bwncz

  • Mae cyfiawnder adferol yn broses sy’n cefnogi unigolion sydd wedi cyflawni trosedd i gyfathrebu â’r dioddefwr, deall effaith eu gweithredoedd, a dod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen.
  • Mae’r ymchwil yn awgrymu bod cyfiawnder adferol ar gyfartaledd wedi cael effaith gymedrol ar atal aildroseddu.
  • Mae ymchwilwyr wedi ceisio ymchwilio i’r amodau lle gallai cyfiawnder adferol fod yn arbennig o effeithiol. Mae’r dadansoddiad hwn yn seiliedig ar nifer fach o astudiaethau ac mae angen cynnal rhagor o ymchwil.

Dolenni YEF

Yn ddiweddar, lansiodd yr YEF (Cronfa Waddol Ieuenctid) gylch ariannu i ganolbwyntio ar ddargyfeirio o’r system cyfiawnder troseddol (gweler Another chance – Diversion from the criminal justice system). Bydd y rownd ariannu hon yn gwerthuso nifer o brosiectau sy’n cynnwys cyfiawnder adferol.

Dolenni allanol

Cyfiawnder Adferol a’r Farnwriaeth
Pecyn gwybodaeth a gynhyrchwyd gan y Cyngor Cyfiawnder Adferol (RJC) ar sut mae’r broses cyfiawnder adferol yn gweithredu yng Nghymru a Lloegr, buddion cyfiawnder adferol, ac astudiaethau achos.

Cyngor Cyfiawnder Adferol, Arweinlyfr i Ymarferwyr
Arweinlyfr i ymarferwyr ar sut i gyflawni cyfiawnder adferol a’r egwyddorion sy’n gysylltiedig ag ef.

Beth mae’r Ymchwil Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei ddweud wrthym?
Crynodeb o ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfiawnder adferol, a baratowyd gan y Cyngor Cyfiawnder Adferol.

Dadlwythiadau