Skip to content

Bŵt-camps

Bŵt-camps o fath milwrol ar gyfer pobl ifanc sydd wedi’u cael yn euog o drosedd

Amcangyfrif o'r effaith ar droseddu treisgar:

NIWEIDIOL

Ansawdd y dystiolaeth:

1 2 3 4 5

Cost:

1 2 3

Prevention Type

  • Trydyddol

Lleoliad

  • Barics milwrol
  • Caethiwed

Sectorau

Beth ydyw?

Mae bŵt-camps yn wersylloedd preswyl ag arddull filwrol iddynt ar gyfer plant sydd wedi troseddu ac y credir eu bod â risg uchel o aildroseddu. Maent fel arfer yn cynnwys plant a phobl ifanc dros 13 oed. Maent yn cynnwys disgyblaeth lem, caethiwed tymor byr a thasgau corfforol anodd sy’n anelu at ddarparu hunanddisgyblaeth i blant a fydd yn cael ei chynnal pan fyddant yn dychwelyd i’r gymuned. Mae rhai gwersylloedd yn cyfuno’r drefn filwrol gyda phwyslais ar feithrin perthynas gadarnhaol â staff neu weithgareddau i ddatblygu ymddygiad ac agweddau cadarnhaol.

Mae arhosiad mewn bŵt-camp fel arfer yn fyrrach na dedfryd o garchar, gan bara rhwng 90 ac 180 diwrnod. Maent fel arfer yn cael eu rhedeg gan y lluoedd arfog neu gan staff cywiro sydd wedi’u hyfforddi i ddefnyddio disgyblaeth o fath milwrol. Gall bŵt-camps gynnwys amrywiaeth o weithgareddau sy’n cael eu cynnal fel arfer o dan ddisgyblaeth a goruchwyliaeth filwrol lem:

  • Ymarfer corfforol dwys.
  • Driliau a seremonïau o fath milwrol.
  • Cosb gorfforol ddi-oed am gamymddwyn.
  • Bydd bŵt-camps i bobl ifanc fel arfer yn cynnwys addysg, dosbarthiadau hyfforddiant galwedigaethol, neu ymyriadau therapiwtig fel cwnsela neu driniaeth cyffuriau ac alcohol
  • Seremonïau graddio ar gyfer pobl ifanc sy’n cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus y gallai aelodau o’r teulu gael gwahoddiad iddynt.
  • Bydd rhai bŵt-camps yn cynnwys cymorth ôl-ofal fel help i lunio cynllun rhyddhau hirdymor, gan greu cysylltiadau â gwasanaethau ac adnoddau sy’n helpu i atal aildroseddu.

A yw’n effeithiol?

Ar gyfartaledd, nid yw bŵt-camps yn debygol o leihau trais a gallant achosi niwed.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn bŵt-camp wedi bod 6% yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â throseddau treisgar a throseddau di-drais yn y dyfodol. Mae effaith gwahanol raglenni’n amrywio. Canfu rhai astudiaethau fod bŵt-camps yn cael effaith gadarnhaol a chanfu eraill fod bŵt-camps yn cael effaith negyddol gryfach. Fodd bynnag, mae’r effaith gyfartalog yn awgrymu nad yw hwn yn ddull gweithredu addawol.

Mae ymchwilwyr wedi ceisio deall pam fod gwahanol fathau o bŵt-camps yn cael effeithiau gwahanol. Mae’r dadansoddiad hwn yn awgrymu bod bŵt-camps yn fwy tebygol o gael effaith ddymunol pe baent yn cynnwys cwnsela neu ymyriadau therapiwtig. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos bod cynnwys gweithgareddau eraill megis cymorth ôl-ofal, addysg, hyfforddiant galwedigaethol neu driniaeth am gyffuriau yn gwella’r effaith.

Mae’r ymchwil yn awgrymu bod pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn bŵt-camp wedi bod 6% yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â throseddau treisgar a throseddau di-drais yn y dyfodol.

Pa mor ddiogel yw’r dystiolaeth?

Mae ein hyder yn y prif amcangyfrif yn uchel.

Mae’r prif amcangyfrif yn seiliedig ar un adolygiad systematig o ansawdd uchel a oedd yn cynnwys 17 astudiaeth ar effaith bŵt-camps.

Mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil wedi’i gynnal yn yr Unol Daleithiau. Mae’r sylfaen dystiolaeth yn cynnwys un gwerthusiad o ddau bŵt-camp yn y DU. Cyfunodd dau bŵt-camp yn y DU drefn filwrol gyda sgiliau bywyd, addysg a hyfforddiant cyflogaeth. Roedd yn ymddangos bod un bŵt-camp wedi lleihau aildroseddu flwyddyn ar ôl iddo ddod i ben. Fodd bynnag, ar ôl dwy flynedd, roedd yn ymddangos nad oedd y naill bŵt-camp na’r llall wedi newid y gyfradd aildroseddu.

Sut allwch chi ei weithredu’n dda?

Buom yn adolygu pedair astudiaeth a oedd yn darparu gwybodaeth am weithredu: gwerthusiad o bŵt-camps yn y DU yn yr 1990au a gwerthusiadau o ddau bŵt-camp mwy diweddar yn Awstralia.

Roedd y gwerthusiadau hyn yn awgrymu bod y rhaglenni’n wynebu rhai heriau cyffredin ac yn darparu ystyriaethau ar gyfer gweithredu bŵt-camps neu raglenni preswyl tebyg.

Dylid cynnwys gweithgareddau sy’n cefnogi plant gyda’r anawsterau a gyfrannodd at eu troseddu

Mae rhaglenni gyda gweithgareddau cwnsela neu therapiwtig yn gysylltiedig ag effeithiau mwy cadarnhaol.

Dylid osgoi anfon pobl ifanc i leoliadau anghysbell, ymhell o’u teuluoedd a’u cymunedau.

Ym mhob un o’r pedair rhaglen, anfonwyd plant i bŵt-camps ymhell o’u cartref. Roedd hyn yn cyfyngu ar fynediad plant at eu teuluoedd a chyfleoedd addysg a chyflogaeth a allai fod wedi cefnogi ailintegreiddio yn y gymuned. 

Dylid cynllunio ar gyfer ôl-ofal o safon uchel a’i ddarparu.

Thema gyffredin yn y gwerthusiadau oedd y niwed a achoswyd gan ddarpariaeth wael pan fyddai plant yn gadael y bŵt-camps. Methodd rhaglenni â chysylltu plant â gwasanaethau a allai eu helpu neu ddarparu cefnogaeth ar gyfer ailintegreiddio yn y gymuned. Gallai gwell cynllunio ar gyfer ôl-ofal gefnogi plant i ddychwelyd yn gadarnhaol i fywyd normal.

Dylid ymgynghori â’r gymuned leol ynghylch cynllun y rhaglen.

Wynebodd rhaglenni Awstralia wrthwynebiad gan gymuned y Cyn-frodorion nad oedd yn teimlo yr ymgynghorwyd â hwy ynghylch sut roedd eu plant yn cael eu trin. Gwrthwynebwyd bŵt-camps yn Lloegr gan drigolion y trefi lle cawsant eu lleoli.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae cost bŵt-camps yn debygol o fod yn uchel (dros £1,500 y cyfranogwr).

Mae’r costau’n debygol o gynnwys sicrhau safle addas ar gyfer y bŵt-camp, cynnal a chadw’r safle, offer ymarfer, adnoddau ar gyfer addysg a chyrsiau galwedigaethol, a chostau sy’n gysylltiedig â darparu gofal preswyl 24 awr i bobl ifanc fel prydau rheolaidd a mynediad at gyfleusterau ymolchi. Mae cyflogau staff milwrol hyfforddedig, swyddogion carchardai, athrawon a therapyddion yn gostau allweddol i’w hystyried hefyd.

Fodd bynnag, gall bŵt-camps amrywio o ran cost yn dibynnu ar ffactorau fel nifer y plant a’r bobl ifanc, nifer y staff, cyfran yr ymyriadau addysgol a therapiwtig a chostau’r safle.

Crynodeb o bwncz

  • Mae gan bŵt-camps y potensial i achosi niwed. Mae dulliau eraill yn debygol o fod yn well ar gyfer gweithgarwch ac ymchwil yn y dyfodol.
  • Roedd bŵt-camps yn fwy tebygol o gael effeithiau buddiol os oeddent yn cynnwys gweithgareddau therapiwtig neu gwnsela.

Dolenni allanol

Boot camps and shock incarceration – cofnod yn Llyfryddiaeth Rhydychen
Llyfryddiaeth gyda dolenni i erthyglau perthnasol.

Dadlwythiadau