Skip to content

Clybiau Ieuenctid

Mannau mynediad agored sy’n darparu amgylchedd diogel, cefnogol lle y gall pobl ifanc gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Cost

Ansawdd tystiolaeth

1 2 3 4 5

Effaith

CYMEDROL

Prevention Type

  • Cychwynnol

Lleoliad

  • Gymuned

Sectorau

Beth yw hyn?

Mae clybiau ieuenctid yn lleoliadau yn y gymuned sy’n darparu amgylcheddau diogel a chynhwysol i blant a phobl ifanc gymdeithasu a dysgu y tu hwnt i’r cartref a’r ysgol. Ceir mynediad agored iddynt, sy’n golygu y gall bawb fynychu’n wirfoddol gyda chost isel neu ddim cost, a heb fod angen atgyfeiriad neu fodloni meini prawf cymhwyster.

Mae clybiau ieuenctid yn cael eu rhedeg fel arfer gan weithwyr ieuenctid hyfforddedig ac fe’u cefnogir gan wirfoddolwyr. Maent yn darparu gweithgareddau difyr wedi’u llywio gan ddiddordebau a dewisiadau pobl ifanc, a chyfleoedd i dreulio amser gyda’u cyfoedion, maent yn cynnig cymorth ac arweiniad anffurfiol, a gallant gysylltu pobl ifanc â gwasanaethau ehangach fel cymorth iechyd meddwl neu addysgiadol.

Mae’r ddarpariaeth yn hyblyg ac yn amrywio fesul safle, o ystafelloedd cymunedol cyffredin gyda chyfarpar sylfaenol i adeiladau mawr wedi’u hadeiladu’n bwrpasol gydag amrywiaeth eang o adnoddau. Mae’r rhan fwyaf yn cyfuno cyfleoedd cymdeithasol, addysgol a diwylliannol. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

Fel arfer, mae clybiau ieuenctid ar agor sawl gwaith yr wythnos, sy’n galluogi pobl ifanc i alw draw’n wirfoddol a chymryd rhan mewn gweithgareddau strwythuredig ac amser distrwythur. Ond eto, mae’n fwy cyffredin i weithwyr ieuenctid gyfeirio pobl ifanc i wasanaethau allanol am gymorth pellach ac i’w cysylltu â’r gwasanaethau hynny.

Gall clybiau ieuenctid leihau trais a throseddu drwy ddarparu mynediad i amgylcheddau diogel a chefnogol, cefnogaeth gan oedolion y gellir ymddiried ynddynt, a chyfleoedd am gysylltiad cymdeithasol, datblygiad personol a dysgu anffurfiol. Mae’r elfennau hyn yn rhyngweithio ac yn atgyfnerthu ei gilydd. Drwy gyfranogiad gwirfoddol rheolaidd, mae pobl ifanc yn meithrin hyder, yn cryfhau sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, ac yn datblygu ymddiriedaeth mewn oedolion cefnogol. Yn y tymor hwy, gall y rhain leihau unigedd, cynyddu’r ymdeimlad o berthyn i gymuned, a helpu i dynnu sylw pobl ifanc oddi wrth amgylcheddau peryglus, gan hefyd agor llwybrau i addysg, cyflogaeth, a gwasanaethau cymorth ehangach.

A yw’n effeithiol?

Mae’r ymchwil yn awgrymu, ar gyfartaledd, bod effaith clybiau ieuenctid ar atal trais yn debygol o fod yn gymedrol.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gallai clybiau ieuenctid leihau troseddu 13%.

Gwnaethom ddefnyddio mesurau o drais a throseddu i amcangyfrif yr effaith ar drais oherwydd dim ond un astudiaeth a ddarparodd ganlyniadau penodol ar drais.

Mae’r ymchwil hefyd yn amcangyfrif y gallai clybiau ieuenctid wella ymgysylltiad mewn ysgolion 6% a chyswllt cymunedol 15%.

Pa mor gadarn yw’r dystiolaeth?

Mae gennym hyder isel iawn yn ein hamcangyfrif o effaith clybiau ieuenctid ar droseddu.

Gwnaethom roi’r sgôr hwn oherwydd bod yr amcangyfrifon yn seiliedig ar ddwy astudiaeth. Cynhaliwyd y naill astudiaeth a’r llall yn y DU, a sgoriwyd un o ansawdd uchel ac un o ansawdd canolig.

I bwy y mae’n gweithio?

Ceir tystiolaeth gyfyngedig ynghylch pwy sy’n cael y budd mwyaf o glybiau ieuenctid. Archwiliodd chwe astudiaeth, y daeth eu hanner o’r DU, ynghyd â data arolygon cenedlaethol o Gymru a Lloegr, ganlyniadau ar sail rhyw, ethnigrwydd, a statws economaidd-gymdeithasol.

Rhyw
Mae astudiaethau o’r DU yn dangos y gallai bechgyn brofi gwelliannau o ran mwynhad yn yr ysgol a gostyngiadau mewn triwantiaeth wrth fynychu clybiau ieuenctid. Mae data arolygon cenedlaethol o Gymru a Lloegr yn dangos bod bechgyn yn fwy tebygol na merched o fynychu clybiau ieuenctid, yn enwedig mewn lleoliadau chwaraeon neu gymunedol.

Ethnigrwydd
Mae data arolygon o Gymru a Lloegr yn dangos bod plant Du yn fwy tebygol o fynychu clybiau ieuenctid, tra bod plant Gwyn yn lleiaf tebygol o fynychu. Mae presenoldeb ymysg plant Du yn arbennig o uchel mewn clybiau ieuenctid ysgolion—a ffydd—a allai awgrymu bod y rhain yn lleoliadau effeithiol ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc o’r cymunedau hynny.
Statws economaidd-gymdeithasol
Canfu astudiaeth o’r DU fod cau clybiau ieuenctid wedi cael effaith negyddol fwy ar blant sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim, gan gynnwys cyfraddau uwch o absenoldeb o’r ysgol a chyrhaeddiad addysgol is, sy’n awgrymu y gallai clybiau ieuenctid fod yn fwy gwerthfawr lle bo’r anfantais yn uwch.

Sut mae modd ei weithredu’n dda?

Darparodd 17 o astudiaethau dystiolaeth sy’n ymwneud â gweithredu clybiau ieuenctid, gyda chwech o’r DU.

Gwneud clybiau’n fforddiadwy a hygyrch

Dylid cynnig clybiau ieuenctid am ddim neu â chost isel, fel y gall pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo’u cefndir, gymryd rhan. Dylid sicrhau bod y mannau hyn yn ddiogel yn gorfforol ac emosiynol, gan ddarparu mannau croesawgar sy’n gyfeillgar i bobl ifanc lle y maent yn teimlo wedi’u parchu.

Dylid defnyddio partneriaethau allgymorth a lleol rhagweithiol i ehangu’r mynediad. Mae staff yn adrodd bod allgymorth cyhoeddus yn hanfodol ar gyfer codi ymwybyddiaeth a chyrraedd teuluoedd a fyddai’n cael eu hallgáu fel arall. Dylid gweithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, a gwasanaethau lleol, a chynnig gweithgareddau sy’n adlewyrchu diwylliannau a diddordebau lleol i gefnogi ymgysylltiad parhaus.

Darparu gweithgareddau strwythuredig ac amser distrwythur

Dylid cydbwyso gweithgareddau strwythuredig fel chwaraeon, celf, neu hyfforddiant sgiliau ag amser distrwythur sy’n annog rhyngweithio rhwng cyfoedion. Mae caniatáu pobl ifanc i ddewis sut y maent yn treulio eu hamser yn helpu i feithrin ymreolaeth. Dylid sicrhau bod gweithwyr ieuenctid yn bresennol yn ystod amser distrwythur i fentora a chefnogi pobl ifanc pan fydd angen.

Buddsoddi mewn gweithwyr ieuenctid medrus y gellir ymddiried ynddynt

Mae clybiau ieuenctid yn gweithio orau pan fyddant wedi’u staffio gan weithwyr ieuenctid profiadol, cymwys sy’n gallu meithrin perthnasoedd cefnogol, gweithredu fel modelau rôl, a chysylltu plant a phobl ifanc â gwasanaethau ehangach pan fydd angen. Dylid darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth barhaus ar ddiogelu, ymgysylltu â phobl ifanc, ymarfer sy’n ystyriol o drawma, ymwybyddiaeth o anghenion cymorth ychwanegol, ac egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chyfartaledd.

Gwneud cynhwysiant yn weledol a phenodol

Dylid cynnig gweithgareddau a mannau diogel cynhwysol sy’n ateb anghenion gwahanol grwpiau, fel gweithgareddau sy’n seiliedig ar ryw neu sesiynau pwrpasol ar gyfer pobl ifanc LHDTC+. Dylid gweithio gyda sefydliadau cymunedol lleol sy’n darparu arweiniad arbenigol, gweithgareddau wedi’u teilwra, ac adnodau priodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion niwrowahanol ac ychwanegol.

Dyrannu buddsoddiad hirdymor

Dylai cyllidwyr a chomisiynwyr ddarparu cyllid hirdymor fel y gall clybiau ieuenctid gynnal darpariaeth gyson a chadw staff medrus. Mae cyllid tymor byr neu ansicr yn amharu ar y ddarpariaeth a’r perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt sy’n cymryd amser i’w meithrin. Mae angen mwy o amser ar blant a phobl ifanc y mae’r perygl mwyaf iddynt gymryd rhan mewn trais i ddatblygu ymddiriedaeth a pherthynas ag oedolion.

Cyd-greu’r gofod â phlant a phobl ifanc

Mae cyd-ddylunio’r gofod – ei gynllun, gweithgareddau, ac arferion — yn darparu pobl ifanc ag ymdeimlad o berchnogaeth ac o berthyn. Mae cyfarfodydd rheolaidd ac adborth anffurfiol yn caniatáu i weithwyr ieuenctid addasu’r ddarpariaeth, fel bod y gofod yn adlewyrchu anghenion a phrofiadau pobl ifanc mewn gwirionedd.

Beth yw’r gost?

Ar gyfartaledd, mae’n debygol bod cost clybiau ieuenctid yn isel.

Mae’r amcangyfrifon o gost presennol clybiau ieuenctid y DU yn awgrymu cost gyfartalog o £473 fesul plentyn y flwyddyn. Mae costau i wasanaethau ieuenctid fel arfer yn cynnwys darparu gwasanaethau, hyfforddi staff, cyfleusterau, ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau fel chwaraeon, celf, a rhaglenni addysgol. Mae clybiau ieuenctid sy’n darparu cymorth dwys neu arbenigol, fel cwnsela neu hyfforddiant sgiliau, yn peri costau uwch.

Crynodeb o’r pwnc

Negeseuon allweddol

Prosiectau a gwerthusiadau YEF

Canllaw’r sector ieuenctid

Gweithredu adnoddau ar gyfer sefydliadau darparu a’r rheini sy’n gyfrifol am gomisiynu.

Dolenni Allanol

Ymchwil yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar y rhwystrau a’r galluogwyr o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau ieuenctid

Anelodd yr ymchwil at ddarparu dealltwriaeth well o’r ysgogiadau a’r patrymau cyfranogi ymysg gwahanol grwpiau o bobl ifanc, gan hysbysu dyluniad ymyriadau polisi yn y dyfodol i ymgysylltu â mwy o bobl ifanc i gyfranogi yn y ffyrdd a ddymunant.

Safonau diogelu ac ymarfer yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid

Adnoddau i gefnogi arferion diogelu ac arferion gorau mewn darparu gwaith ieuenctid yn gyfreithlon, diogel, ac effeithiol.

Adnoddau’r Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid i gefnogi awdurdodau lleol

Amrywiaeth o adnoddau, canllawiau a mynediad i gyfleoedd dysgu i gefnogi Awdurdodau Lleol i ddarparu’r gwaith ieuenctid gorau posibl a chyflawni’r ddyletswydd statudol.   

Rhwydwaith o Unedau Gwaith Ieuenctid Rhanbarthol

Canolfan sy’n dwyn ynghyd sefydliadau annibynnol sy’n gweithio ar draws y sector gwaith ieuenctid i hyrwyddo arferion da a lleisiau pobl ifanc.

Adroddiad ‘Must know for youth services’ y Gymdeithas Llywodraeth Leol

Canllaw ar gyfer cynghorwyr sy’n egluro beth yw gwasanaethau ieuenctid, beth sy’n ofynnol i gynghorau ei ddarparu’n gyfreithiol, sut y mae’r canllawiau a’r cyllid presennol yn gweithio, a lle i ganfod dulliau ymarferol i wella gwaith ieuenctid lleol.

Lawrlwythiadau

Strand metadata

Prevention Type

  • Cychwynnol

Lleoliad

  • Gymuned

Sectorau