VPT De Cymru
Nyrsys mewn adrannau achosion brys ysbytai sy’n arwain Timau Atal Trais (VPT), a’u nod yw canfod a chefnogi cleifion sy’n mynd i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais.
Nyrsys mewn adrannau achosion brys ysbytai sy’n arwain Timau Atal Trais (VPT), a’u nod yw canfod a chefnogi cleifion sy’n mynd i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais.
Nyrsys mewn adrannau achosion brys ysbytai sy’n arwain Timau Atal Trais (VPT), a’u nod yw canfod a chefnogi cleifion sy’n mynd i’r ysbyty gydag anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais. Ar ôl canfod cleifion sy’n agored i niwed (yn cynnwys plant a phobl ifanc), mae nyrsys yn darparu cyngor a chymorth ac yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill. Yn wahanol i raglenni Llywiwr Adrannau Achosion Brys a ddarperir mewn mannau eraill (sy’n tueddu i ddefnyddio gweithwyr ieuenctid i gefnogi cleifion), mae’r VPT yn defnyddio nyrsys. Edrychodd y prosiect hwn ar ddarpariaeth timau VPT yn Ne Cymru lle mae’r rhaglen wedi’i sefydlu mewn dau ysbyty (un yng Nghaerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru a’r llall yn Abertawe yn Ysbyty Treforys).
Mae rhaglenni Llywiwr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys fel VPT yn gysylltiedig ag amcangyfrif o effaith fawr ar leihau rhagor o drais. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth sy’n sail i’r amcangyfrif hwn yn gyfyngedig iawn, ac nid oes gennym amcangyfrif cadarn o’r effaith yng nghyd-destun y DU. Mae canllawiau cyfyngedig hefyd sy’n gallu llywio’r broses o’u rhoi ar waith a’u cyflawni ar hyn o bryd.
Felly, ariannodd y Gronfa Waddol Ieuenctid (YEF) a’r Swyddfa Gartref y gwerthusiad hwn o’r gweithredu a’r broses er mwyn archwilio datblygiad a darpariaeth y timau VPT. Nod y gwerthusiad oedd archwilio amrywiaeth o gwestiynau gweithredu, gan gynnwys sut mae’r timau VPT wedi gwreiddio yn y ddau ysbyty, i ba raddau roedd y ddarpariaeth yn cyd-fynd â’r model a ddymunir, i ba raddau yr oedd cleifion yn ymgysylltu â’r ymyriad a pha strategaethau ac arferion a ddefnyddir i gefnogi gweithredu da.
I archwilio’r cwestiynau hyn, cynhaliodd y prosiect adolygiad cwmpasu o’r llenyddiaeth cyn defnyddio dadansoddiad dogfennol, data’r Adran Achosion Brys (gan gynnwys data ar ddemograffeg a chyfraddau ymgysylltu cleifion), a 49 o gyfweliadau: Staff y VPT (n = 5), byrddau iechyd prifysgol (n = 15), sefydliadau trydydd sector sy’n bartneriaid (n = 17), awdurdodau lleol (n = 7), Heddlu De Cymru (n = 2) a sefydliadau cenedlaethol (n = 3). Ni chynhaliwyd unrhyw gyfweliadau gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) wedi ariannu gwerthusiad cost-effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cysylltiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2025.
Wynebodd timau VPT heriau o ran gwreiddio’u hunain mewn Adrannau Achosion Brys. Roedd llwyth gwaith a throsiant uchel staff yr ysbyty a lleoliadau ffisegol newidiol y VPT yn ei gwneud yn anodd sicrhau bod staff yr ysbyty yn ymwybodol ohonynt. Aeth VPT Caerdydd i’r afael â hyn drwy symud i ganolfan ddiogelu barhaol, lleoliad hysbys y gallai staff yr Adran Achosion Brys gyfeirio cleifion ato. |
Roedd staff a rhanddeiliaid yn canfod bod y model wedi cael ei roi ar waith yn unol â’r bwriad i raddau helaeth. Fodd bynnag, roedd lefelau staffio amrywiol, llwyth gwaith adrannau brys, a phatrymau gwaith staff y VPT (lle roedd staff yn gweithio’n bennaf o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 5pm) yn llesteirio’r ddarpariaeth. |
Rhwng mis Tachwedd 2019 a mis Rhagfyr 2022, canfu VPT Caerdydd 2,312 o gleifion a oedd wedi profi trais; roedd 1780 o’r cleifion hyn wedi cymryd rhan yn yr ymyriad. Rhwng mis Ionawr 2022 a mis Medi 2023, nododd VPT Abertawe 602 o gleifion, gyda 304 ohonynt yn ymgysylltu â’r ymyriad. Mae dadansoddiad o ddata cleifion yr Adran Achosion Brys yn awgrymu bod y VPT wedi gwella gallu ysbytai i adnabod cleifion a oedd wedi profi trais. |
Roedd y timau VPT ar draws y ddau safle yn cael eu hystyried gan randdeiliaid yn dderbyniol, yn bwysig ac yn angenrheidiol. Roedd staff VPT yn cael eu gweld fel “hyrwyddwyr atal trais”. Cafodd eu profiad nyrsio, eu sgiliau, eu personoliaethau a’u galluoedd i weithio mewn ffordd ystwyth gydag anghenion cleifion amrywiol a chymhleth eu canmol. |
Roedd ymddiriedaeth yn cael ei rhoi yn staff VPT i wneud addasiadau i’r model i sicrhau darpariaeth effeithiol. Er enghraifft, treialodd VPT Abertawe shifftiau staff gyda’r nos ac ar benwythnosau i wella ymgysylltiad â’r plant oedd yn yr angen mwyaf. |
Bydd YEF yn aros am werthusiad cysylltiedig y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) o gost-effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyn penderfynu a ddylid parhau i werthuso timau VPT ymhellach.