Skip to content

OEDOLYN DIBYNADWY

Modelau torri ar draws trais

Galwad am wybodaeth

Ydych chi’n darparu prosiect neu raglen sy’n defnyddio model ‘torri ar draws trais’ i gynorthwyo plant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan drais?

Trwy ein cylch ymchwil ar thema, Oedolyn dibynadwy, rydym am ddysgu sut mae helpu i adeiladu perthnasoedd ymddiriedol yn gallu arwain at wella canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd wedi bod neu sydd mewn perygl uchel o gael eu heffeithio gan drais, troseddu a/neu gamfanteisio.

Un ymagwedd sy’n defnyddio oedolion dibynadwy yw’r model torri ar draws trais. Rydym yn diffinio hyn fel ymagwedd sy’n:

  • Recriwtio torwyr ar draws trais oherwydd eu safleoedd yn y gorffennol yn y gymuned, profiadau o fyw a / neu hanes â gang. Maen nhw’n cadw’r gallu i gyrraedd a siarad ag aelodau gang gweithredol allweddol. 
  • Defnyddio perthnasoedd personol i fynd i’r afael ag anghydfodau parhaol, sy’n gallu eu hatal rhag dwysáu i drais difrifol. 
  • Mae’n cynnwys gweithgareddau fel siarad ag unigolion a grwpiau i atal  digwyddiadau treisgar sy wedi’u cynllunio, a siarad gyda  neu ddod ag unigolion allweddol ynghyd sy’n cymryd rhan i ‘leddfu’r’ gwrthdrawiadau hyn. Gallai ymagweddau cyfryngu hefyd gael eu hystyried fel rhan o fodelau torri ar draws trais.
  • Gallai redeg am gyfnodau gwahanol o amser, yn dibynnu ar yr ymagwedd sy’n cael ei darparu, er y dylai diogelu cyd-destunol fod yn elfen graidd o ddarparu beth bynnag y bo’r model.*

Pam fod gennym ni ddiddordeb

Mae gennym ddiddordeb mewn dysgu mwy am botensial modelau torri ar draws trais oherwydd bod cyn lleied o astudiaethau cadarn ar gael am yr ymagwedd. Yn benodol, rydym yn awyddus i ddeall yn well sut mae wedi cael ei fabwysiadu yng Nghymru a Lloegr, ac os gallwn ni brofi ac arfarnu’r model yn ymarferol i ddysgu os yw’n gweithio a sut mae’n gweithio.

Felly, os ydych chi’n darparu prosiect torri ar draws trais sy’n cyd-fynd â’n diffiniad ac y byddech yn hapus i gael sgwrs, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd i ddysgu mwy am:

  • Eich model torri ar draws trais: Sut mae’n gweithio? Ble mae’n cael ei ddarparu? Ers faint ydych chi wedi darparu’r model?
  • Pwy sy’n darparu’r rhaglen a’u rolau yn y gymuned (naill ai wedi’u talu neu heb eu talu).
  • Y buddion a’r heriau o ddarparu’r model.
  • Sut ydych chi’n monitro’r prosiect ac yn mesur ei effaith.
  • A fyddai gennych ddiddordeb mewn gweithio neu gydweithredu â sefydliadau eraill sy’n  darparu rhaglenni tebyg, i’n helpu i arfarnu a gwella’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer modelau torri ar draws trais

Os ydym yn teimlo ar ôl ein sgwrs y gallai’ch model torri ar draws trais gael ei arfarnu’n effeithiol, gallwn eich gwahodd i gyflwyno cais trwy ein cylch cyllido Oedolyn dibynadwy neu archwilio opsiynau arfarnu eraill gyda chi.

Cysylltwch

Anfonwch baragraff byr atom yn esbonio’ch prosiect torri ar draws trais a bydd un o’n tîm yn cysylltu â chi.


Mae’n diffiniad o dorwyr ar draws trais wedi cael ei addasu o waith Cure Violence. Wrth i ni ddysgu mwy am yr ymagwedd, gallwn newid a/neu ehangu’r meini prawf yn briodol. Am ragor o wybodaeth am Cure Violence, ymwelwch â: https://cvg.org/