OEDOLYN DIBYNADWY
Gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn
Datganiad o fwriad
Trwy ein cylch grant Oedolyn dibynadwy rydym eisiau dysgu sut mae helpu i adeiladu perthnasoedd oedolion dibynadwy, y tu allan i amgylchedd y teulu, yn gallu arwain at ganlyniadau gwell i blant a phobl ifanc sydd wedi bod neu sydd mewn perygl uchel o gael eu heffeithio gan drais, troseddu a/neu gamfanteisio (sy’n cael eu galw weithiau’n ymyriadau lefel drydyddol).
Rydym yn gwybod bod perthnasoedd oedolion yn chwarae rôl bwysig mewn gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn. Ac rydym yn gwybod bod gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn yn arferion sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin o fewn y sector gwaith ieuenctid. Ond yr hyn nad ydym yn ei wybod – oherwydd diffyg tystiolaeth gadarn – yw pa mor effeithiol mae’r ddwy ymagwedd hon mewn gwirionedd mewn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag trais.
Un rheswm pam bod diffyg arfarniadau cadarn yw oherwydd ei fod mor anodd i’w wneud. Mae darparu yn aml yn wirioneddol wahanol mewn meysydd gwahanol. Mae’n gymhleth ac yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan anghenion pobl ifanc a beth sy’n digwydd yn eu hardal leol.
Oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn ag effaith gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn, yn ogystal â’r heriau sy’n dod ag arfarnu’r ymagweddau’n effeithiol, fe wnaethom y penderfyniad anodd i beidio â’i gynnwys fel rhan o’n cylch grant Oedolyn dibynadwy diweddaraf (dysgwch fwy am yr hyn sydd o fewn cwmpas yma).
Yn hytrach, rydym am gymryd yr amser i ddeall yn well sut mae gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn yn cael eu darparu ac – yn y pen draw – sut y gallem ymchwilio i ac arfarnu eu heffaith yn effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mwy am y ddwy ymagwedd hon. Dyma sut rydym yn bwriadu ei wneud…
Trwy’n ymgynghoriad â rhanddeiliaid, byddwn yn archwilio’r cwestiynau canlynol: