Skip to content

OEDOLYN DIBYNADWY

Gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn

Datganiad o fwriad

Rhagymadrodd

Trwy ein cylch grant Oedolyn dibynadwy  rydym eisiau dysgu sut mae helpu i adeiladu perthnasoedd oedolion dibynadwy, y tu allan i amgylchedd y teulu, yn gallu arwain at ganlyniadau gwell i blant a phobl ifanc sydd wedi bod neu sydd mewn perygl uchel o gael eu heffeithio gan drais, troseddu a/neu gamfanteisio (sy’n cael eu galw weithiau’n ymyriadau lefel drydyddol).

Rydym yn gwybod bod perthnasoedd oedolion yn chwarae rôl bwysig mewn gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn. Ac rydym yn gwybod bod gwaith ieuenctid ar wahân ac  ymestyn yn arferion sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin o fewn y sector gwaith ieuenctid. Ond yr hyn nad ydym yn ei wybod – oherwydd diffyg tystiolaeth gadarn – yw pa mor effeithiol mae’r ddwy ymagwedd hon mewn gwirionedd mewn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag trais.

Un rheswm pam bod diffyg arfarniadau cadarn yw oherwydd ei fod mor anodd i’w wneud. Mae darparu yn aml yn wirioneddol wahanol mewn meysydd gwahanol. Mae’n gymhleth ac yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan anghenion pobl ifanc a beth sy’n digwydd yn eu hardal leol.

Oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn ag effaith gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn, yn ogystal â’r heriau sy’n dod ag arfarnu’r ymagweddau’n effeithiol, fe wnaethom y penderfyniad anodd i beidio â’i gynnwys fel rhan o’n cylch grant Oedolyn dibynadwy diweddaraf (dysgwch fwy am yr hyn sydd o fewn cwmpas yma).

Yn hytrach, rydym am gymryd yr amser i ddeall yn well sut mae gwaith ieuenctid ar wahân ac ymestyn yn cael eu darparu ac – yn y pen draw – sut y gallem ymchwilio i ac arfarnu eu heffaith yn effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu mwy am y ddwy ymagwedd hon. Dyma sut rydym yn bwriadu ei wneud…

  • Byddwn yn ymgysylltu ag ymarferwyr allweddol, dylanwadwyr, arweinyddion polisi ac ymchwilwyr sydd â phrofiad o waith ieuenctid ar wahân ac ymestyn (o Fedi i Ragfyr 2022).
  • Byddwn yn cynhyrchu adroddiad yn crynhoi’r hyn y gwnaethoch ei ddweud wrthym.
  • Yn seiliedig ar y canfyddiadau hynny, byddwn yn cyhoeddi a fyddwn yn gallu cyllido ac arfarnu rhaglenni gwaith ieuenctid ymestyn ac ar wahân.

Beth rydym am ei ddysgu

Trwy’n ymgynghoriad â rhanddeiliaid, byddwn yn archwilio’r cwestiynau canlynol:

  • Beth ydych chi’n anelu at gyflawni â’ch gwaith ieuenctid ar wahân/ymestyn?
  • Sut ydych chi’n penderfynu lle byddwch chi’n gweithio a phwy allech chi eu cyrraedd?
  • Pa weithgareddau sy’n cael eu darparu? Pwy sy’n eu darparu? Sut ydych chi’n monitro darparu, os o gwbl?
  • Beth ydych chi’n ei ystyried yn llwyddiant? Sut ydych chi’n gwybod eich bod wedi cyflawni’r hyn  y gwnaethoch drefnu i’w gyflawni?
  • Ydych wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau arfarnu erioed, os felly beth a sut aeth hi?
  • Sut ydych chi’n diogelu pobl ifanc?

Pam bod gennym ddiddordeb mewn dysgu mwy am waith ieuenctid ar wahân ac ymestyn:

  • Mae’r ymagweddau’n ffitio o fewn ein thema Oedolyn dibynadwy.
  • Mae’r ymagweddau’n cael eu defnyddio’n gyffredin fel llwybrau atgyfeirio ar gyfer prosiectau rydym yn eu cyllido a’u harfarnu.
  • Mae’r ymagweddau’n gallu cael eu defnyddio i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl uchel o gymryd rhan mewn trais.
  • Mae’r ymagweddau’n gallu cael eu defnyddio i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc “allan o gyrraedd” gwasanaethau statudol.